
Does dim ots sut ydych chi'n cyfieithu'r gair "trychineb" --
calamity, catastrophe, disaster, fatality -- maen nhw i gyd yn addas; roedd lansiad
Golwg360 yn drychineb. Rydw i'n bod yn garedig trwy ddefnyddio'r gorffennol yno, oherwydd hyd yma dwi ddim wedi cael cyfle go iawn eto i bori'r gwefan. Llwyddais edrych ar ddwy dudalen dydd Sadwrn cyn cyrraedd
neges wall.
Ar hyn o bryd (prynhawn Sul) gofynnir imi wacáu fy storfa borwr o'i
cookies er mwyn defnyddio'r gwefan. Gwnes i hyn unwaith, dydd Sadwrn, a dyna bryd gwelais y ddwy dudalen hynny. Ond dwi ddim am wneud y fath ffycin beth pob tro; ar ôl dileu
cookies rhaid ail-logio (a) i mewn i bob un o'r gwefannau fy mod yn defnyddio bob dydd. Sori, Golwg360, ond dwi ddim mor ffyddlon ichi â hynny.
O'r hyn rydw i wedi ei weld, dwi ddim yn gallu dweud fy mod wedi cael fy llorio. OK, chwarae teg, rydw i'n gwneud MA yn y Gymraeg y flwyddyn nesaf, ond, yn fy marn i, ni ddylai hi fod mor hawdd nodi gwallau iaith. A dwi ddim yn sôn am gachu llenyddol neu beth bynnag, ond pethau syml megis defnyddio geiriau nad yw'n bodoli. Ynghyd â hyn, dyw'r straeon ddim yn arbennig o gyflawn -- elfen y gwefan sy'n siom i, wel, unrhywun sydd eisiau newyddion trwy gyfrwng y Gymraeg. Ac mae diffyg RSS yn fwy o sioc nag unrhywbeth arall. Pa flwyddyn yw hi yn Llambed?
Fe'm gofynnwyd ysgrifennu am lansiad Golwg360 ar gyfer rhifyn mis Mehefin
Barn (b) ac yn y golofn honno ceisiaf fod yn deg gyda'r gwefan. Roeddwn yn arfer gweithio tros gwmni rhyngrwyd yn yr Unol Daleithiau (c), a gwn nad yw unrhyw lansiad yn hawdd.
Unexpected shit happens when you press all the buttons at once. Felly mae cryn lawer o bethau yma y gallwn ni eu maddau. Tybir y gweithia'r gwefan ryw ddydd. Gellir trwsio'r problemau côd yn y gwefan, a gwella'r dyluniad. Gellir cyflogi rhywun i brawfddarllen y straeon.
Mae Golwg360 wedi creu ar ei gyfer ei hunan uffach-lanast o her yn nhermau ennill yn ôl yr ewyllys da y'i collwyd o ganlyniad y methiant hwn. Ond dyw'r sefyllfa ddim yn anobeithiol. Er dyw hi ddim yn bicnic chwaith. Sut y bydd Golwg360 yn ymateb i'r her yn hollbwysig.

Dyma ddetholiad o sylwadau eraill ynglŷn â'r gwefan newydd:
* "
Roedd gyda fi rhai ofnau am safon y newyddiaduraeth ac hefyd safon y wefan, ac yn anffodus dw i'n meddwl fe wireddwyd y ddau ofn."
* "
Rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi siomi ychydig"
* "
Big bag of shit"
* "
Mae'n eitha amlwg nad oes yna llawer o feddwl wedi mynd mewn i'r dylunio"
* "
Gwir iawn, fuo na 'rioed fath lanast!!!"
* "
To say it's a bit underwhelming is an understatement"
* "
Disgwyl gwell i fod yn onest"
* "
Eitha tebyg i'r hen Geocities!"
* "
(Mae'n) edrych fel ei fod wedi cael ei adeiladu gan blant"
* "
Mae braidd yn anghredadwy nad oes gan wefan newyddion newydd RSS"
* "
Gwarthus ac amaturaidd"
* "
Embarasing"
-----
(a) "Ail-logio" -- dyna gair Cymraeg da, onid yw?(b) Wrth sôn am wefan Golw360, efallai ei bod yn deg i droi llygad beirniadol tuag at wefan Barn. Ond rhaid cofio nad oes gan Barn unrhyw arian ar gyfer ei wefan, na pherson gyda'r swydd penodol o reoli'r peth. Felly wrth gymharu'r ddau, yr ydych yn cymharu criw o bobl gyda miloedd o bunnoedd a hyfforddiant technegol (tybir), yn erbyn dyn gyda chyfrifiadur ac ychydig o amser sbâr. Roedd dyddiau cynnar Barn 2.0 yn broblemus dros ben, ond (yn araf) mae pethau'n gwella erbyn hyn.(c) A ydych chi'n gweld hynny, Golwg360? Yr Unol Daleithiau. Neu, Unol Daleithiau America. Neu, yr UDA. Neu, (yn anaml) Unol Daleithiau'r Amerig. Ond nid Unol Daleithiau'r America.