Friday, 30 September 2005

Clogynnau a Chymraeg

Wyt ti erioed yn defnyddio eBay? Am dro i dro dw i'n edrych ar y gwefan na ac yn gweld rhywbeth y hoffwn i, ond dw i ddim yn siŵr y galla i ymddiried y peth.

Fel hwn. Dim ond $26 ydy'r peth! Fe allwn i cymryd y clogyn i'r gwniadyddes lawr y stryd yma yn St. Paul a fe allai hi trwsio'r peth. Mae e'n denu fi.

Dw i wedi bod cael diddordeb mewn clogynnau yn diweddar, ar ôl mynd i'r Renaissance Festival cymaint o troeon. Ar dydd Sadwrn fe aeth fy ngwraig a fi yno eto, a fe byrnon ni clogynnau gwlân neis iawn. Fe fydd rhain bod ein gotiau gaeaf.

Fe brynais i clogyn sy'n edrych fel hwn. Ar y cyntaf pan roeddwn i'n prynu'r clogyn, meddyliais i am y ffaith y fydda i ddim yn ffitio mewn yn y bywyd myfyriwr prifysgol (petaswn i cael fy derbyn mewn y cwrs Ysgol y Gymraeg). Ond wedyn, sylweddolais i taw does dim ots. Fe fydda i'n bod Americanwr, 30 oed -- eisoes fydda i ddim yn ffitio mewn. Fydd yn gwisgo clogyn yn brifo fy 'street cred; does dim 'street cred' gyda fi yn y gyntaf.

Dim ond 6 diwrnod i fynd nawr. Dw i'n gadael am Prydain ar nos Mercher. Y penwythnos yma y gwna i trefnu pethau ar gyfer y taith. Dw i'n edrych ymlaen ati.

Fy ngwraig wedi bod yn ddangos diddordeb fach mewn y Gymraeg heddiw. Oedd hi eisiau dysgu sut i dweud 'Dw i ddim yn gwybod. Peth fach ydy hyn, ond doedd fy ngwraig erioed o'r blaen yn ddangos cymaint o diddordeb yn yr iaith. Efallai mae hyn yn golygu ei bod hi'n ddechrau meddwl am y posibilrwydd y fydden ni'n symud i Cymru am go wir.

Oedd hi'n ciwt iawn iawn -- yn geisio dysgu sut i dweud y geiriau: 'Dwww-iim go-bahd.

Thursday, 29 September 2005

Yr oerni

Mae'r haf wedi fynd.


MP3 File

Mwy am UDA dwyieithog

Ddoe, mae Rhys wedi dweud:

"Roeddwn yn ymwybodol bod yna gynydd yn y defnydd o'r Sbaeneg yn nhaleithiau deheol a gollewinol yr UDA, ond deallaf bod yna wrthwynebiad i hyn gan rai."


Ac ydy -- mae rhai pobl Unol daleithiau ddim yn hapus gyda'r cyffredinrwydd o Sbaeneg mewn bywyd dyddiol Americanaidd. A dw i'n meddwl taw -- yn anffodus, efallai -- mae digon o pobl UDA'n cytuno gyda'r syniad y ddylai pawb yn siarad yr un iaith. Petasai'r etholaeth 'the only force at play*' dw i'n credu y fydd y gwasanaethau llywodraeth ddim yn cael eu cynnig mewn ieithoedd eraill.

Ond, mae'r byd masnach yn rhy awyddus i cymryd arian oddi pobl -- allai'r byd masnach ddim yn aros tan y pobl sy'n dod o Mecsico yn dysgu Saesneg. Felly, mae nhw'n cynnig eu gwasanaethau mewn Sbaeneg. Ac yn ei dro, y ffaith bod pobl yn gallu byw eu bywydau mewn Sbaeneg ydy'n sbarduno'r llywodraeth i cynnig eu gwasanaethau mewn Sbaeneg, oherwydd mae rhaid yr llywodraeth yn gwasanaethu ei pobl.

Felly, dyma pam dw i wedi gofyn am boicot. Dw i'n meddwl y petasai'r Cymry Cymraeg yn geisio mynychu'r masnachau sy'n cynnig eu gwasanaethau yn y Gymraeg, ar ôl amser, y bydd y byd masnachu'n sylweddoli'r budd o bod yn dwyieithog. Ac wedyn y bydd y llywodraeth yn dilyn (ond, wrth gwrs faset ti eisiau cadw'r pwysau ar y llywodraeth ar yr un amser).

Oes rhyw fath o rhestr sy'n dweud pa masnachau yn cynnig gwasanaethau dwyieithog?

Oes os dim peth fel hyn, efallai y gallen ni'n dechrau rhestr fel hyn? Hmm, sut i gwneud hyn? Dw i ddim yn credu y buasai fformat blog yn gweithio oherwydd wyt ti eisiau cael rhestr fawr sy'n hawdd i chwilio. A beth yn y byd mawr allaf i gwneud o 'ma 'dros y pwll?'

*Dw i wedi astudio politics yn Portsmouth ond mae hi'n anodd i fi i geisio cyfieithu fy syniadau Saesneg gwleidyddol mewn syniadau Cymraeg.

Wednesday, 28 September 2005

Rali deddf iaith

Mae Hedd Gwynfor wedi anfon e-bost wrtha i heddiw ac yn fy ngofyn fi i dweud wrthot ti y ddylet ti fynd i'r rali deddf iaith ar dydd Sadwrn yn Cathays. Ond i bod yn honest, allaf i ddim yn dweud y ddylet ti gwneud hynny.

Dw i ddim yn gwybod digon am y fater i siarad am y peth. Oherwydd fy mod i'n byw yn yr Unol Daleithiau, mae hi'n anodd i fi ddweud go iawn sut y ddylai Cymru yn rheoli. A bod yn onest -- wyt ti wir eisiau rhyw Americanwr yn dweud wrthot ti sut i gwneud pethau?

Felly, dw i ddim yn teimlo cysurus gyda hyrwyddo'r rali. Ond dw i wedi rhoi linc i'r gwefan Cymdeithas yr Iaith, felly allet ti'n gwneud beth byth wyt ti eisiau.

Ond, wrth gwrs, fel Americanwr gwir, fe fydda i'n cynnig fy marn i.

Dw i'n meddwl y ddylai Cymru bod dwyieithog. Dw i ddim yn deall pam dydy hi ddim (os dydy hi ddim -- dw i ddim yn gwybod os mae'r haeriad yr Cymdeithas yn gwir). Yma yn yr Unol Daleithiau, rydyn ni'n dwyieithog o leiaf. Mae popeth yn ar gael yn Saesneg a Sbaeneg. Yma ym Minnesota, gerllaw Sbaeneg, y mwyafrif o'r gwasanaethau ar gael yn Somali a Hmong.

Dyma ydy'r gwefan snow emergency information St. Paul, Minnesota. Os wyt ti'n edrych lawr ar y gwaelod o'r tudalen, fe allet ti'n gweld bod y gwybodaeth yn ar gael mewn 10 ieithoedd.

Ond mewn bwyd dyddiol, mae hi'n edrych mwy a mwy fel y bydd yr UDA yn siarad Saesneg a Sbaeneg yn y dyfodol. Mae hyn yn eisoes yn dechrau digwydd yn Texas a California ac dros yr De Gorllewin UDA.

Ydy'r Cymdeithas yn defnyddio'r boicot? Dw i'n meddwl petasai'r private sector yn gwneud rhywbeth, fe fasai'r llywodraeth yn cymryd.

Wyt ti'n gweld am beth roeddwn i'n siarad? The fucking American who thinks he has all the answers. Dyma pam ddylwn i ddim yn dweud wrthot ti beth y ddylet ti'n gwneud. Dw i'n siŵr rhywun, rhywbryd wedi defnyddio'r boicot yn Gymru. Dw i ddim yn gwybod yr hanes o'r sefyllfa, felly ddylwn i ddim yn siarad am y peth.

Tuesday, 27 September 2005

Monday, 26 September 2005

Y meddyg pwy

O diawl, dw i ddim yn credu hyn.

Y dydd arall, roedd un o'r blogwyr Saesneg fy mod i'n darllen yn rheolaidd yn ysgrifennu am edrych fel enwogrwydd 'C-list.'
Pa sawl gwaith oedd rhywun yn dweud wrthot ti dy fod ti'n edrych fel rhyw fath o celeb twp? Pan ro'n i'n arfer bod tenach, oedd pobl yn dweud mai fel Lyle Lovett edrychais i. Nawr, dw i ddim yn edrych fel unrhywun enwog...

Wel, dyma beth meddyliais i. Ond heddiw fe ffeindiais i het hen mewn y wardrob* a dw i wedi dechrau chwarae 'dress-up' ac yn anffodus, dw i wedi sylweddoli fel pwy ydw i'n edrych.

Dw i'n edrych fel... Wel, fe allet ti'n weld pwy.

Annymunol iawn ydy hynny, on'd yw ef?

*Dim wardrob go iawn -- problem Saesneg Americanaidd gyda fi ar hyn. Yn yr Unol Daleithiau, wyt ti'n rhoi dy gotiau a pethau fel hyn mewn y 'closet.' Ond dw i'n meddwl bod pobl Prydeinig yn defnyddio 'closet' i golygu tŷ bach, neu toiled. Felly dw i ddim yn gwybod pa gair i defnyddio.

Friday, 23 September 2005

Pengliniau a posibilrwydd

Rydw i'n mor blinedig heno. Dw i'n teimlo fel dw i'n heneiddio yn rhy gyflym. Dim ond 29 oed ydw i ond dw i'n teimlo fel ydw i'n 80. Dydy fy mhengliniau ddim yn hoffi fi cymaint ag roedden nhw arfer. Ar ôl mynd am rhedeg heddiw mae nhw'n fy mhoeni i.

Dw i'n meddwl bod bywyd Americanaidd yn gallu gwneud chi teimlo henach nag wyt ti'n go iawn rhywsut. Dw i wedi sylweddoli bod pobl Cymru, Prydain, Ewrop ddim yn ymddangos i teimlo cyn hen a fi a fy ffrindiau. Rydyn ni i gyd yn mynd yn agos i 30 oed nawr, ac yn wastad siarad am plant a prynu tai ac ein pengliniau ddrwg. Dw i ddim yn clywed hyn o pobl allan o'r Unol Daleithiau. Dim cymaint, o leiaf. Efallai mae'r Americanwyr yn cwyno gormod.

Dw i'n siŵr bod rhywun, neu nifer o pobl, wedi darllen hynny (Efallai mae'r Americanwyr yn cwyno gormod) and yn gweiddi wrth eu sgrin cyfrifiadur: 'Efallai?! Efallai?! Wrth gwrs wyt ti'n cwyno gormod!

Rhan o'r cymeriad cenedlaethol ydy cwyno.

Ond does dim lawr gyda fi am cwyno heno. Mae'r tywydd yn braf, ac mae' ffenestri yn agor. Mae hi'n noson dawel.

Bron o mis Hydref nawr, a fydda i'n mynd i Cymru mewn llai na dwy wythnos (dw i'n wastad yn anghofio y gair 'pythefnos' oherwydd dydyn ni ddim yn defnyddio 'fortnight' yn yr UDA). Felly, ar hyn o bryd dw i'n teimlo fel mewn 'holding pattern' ydw i. Dw i'n geisio fy ngorau glas i gwneud lawer o ymarfer Gymraeg, ond os dw i'n bod yn onest, fydda i ddim yn dysgu gormod rhwng nawr a fy nghyfweliad gyda Prifysgol Caerdydd. Mae rhaid i fi gobeithio y bydd y Gymraeg gyda fi nawr yn digon da.

Dw i ddim yn siŵr. Dw i'n mynd yn ôl ac ymlaen gyda fy teimladau ar y pwnc. Dw i'n gobeithio y byddaf i'n gwybod ar ôl y cyfweliad, ond mae hi'n hollol posib y fydden nhw ddim dweud wrtha i am eu penderfyniad dderbyniad dros amser hir. Ugh -- fe fuasai hynny'n annioddefol. Fe ddylwn i ddim yn meddwl am y peth nawr.

Thursday, 22 September 2005

Noson cyffrous

Mae dau stormydd ac awyren yn gwneud fy nos yn cyffrous iawn.


MP3 File

Mae bost clywedol yn dod

Mae'n rhyw fath o'i le gyda'r gwasanaeth fy mod i'n defnyddio dros fy mostiau clywedol, ond dw i'n gweithio ar y peth...

Wednesday, 21 September 2005

Ddieithr ac yn wirion

Wrth gwrs, hyd yn oed dw i'n cyffrous i weld bod rhywun o Minnesota yn darllen y blog yma, dw i'n mwy na hapus dy fod ti'n darllen -- lle-byth wyt ti'n byw.

Fe clywais i heddiw o John, sy'n byw yn yr Iseldiroedd. y peth y hoffais i am ei e-bost oedd ei sylw: 'mae bywyd yn ddieithr ac yn wirion.

Ydy, iawn. Ddoe, fe anfonais i fy nghais i Prifysgol Caerdydd ac ar yr un dydd, fe dysgais i bod hi'n posib y bydd fy hen ffrind da iawn Shiona yn symud i Caerdydd!

Mae Shiona a fi'n nabod ei gilydd ers 1997, pan roedd hi a fi'n astudio yn Prifysgol Portsmouth, yn Lloegr. Dyn ni'n mor agos dw i'n hoff o dweud ei bod hi'n fel fy ngwraig heb y rhyw (efallai dydy hyn ddim yn gyfieithu yn dda -- paid meddwl yn budr*).

Wel, nawr, mae hi'n bwriadu clyweled am cwrs opera yn y Royal Welsh College of Music and Drama. Petasai hi cael ei dderbyniad yn y cwrs, fe fuasai hi'n ddechrau yn y hydref 2006 -- ar yr un pryd y baswn i dechrau yn y prifysgol. Pa mor rhyfedd ydy hyn?!

Fe gaf i cyfle i ymweld a Shiona pan dw i'n mynd i Cymru yn y pythefnos (ie, dim ond dwy wythnos nawr). Fe fydd hi'n perfformio yn Ludlow ar dydd Sadwrn, 8 Hydref, ac mae'n edrych fel y fydd y dau ohonom ni cael dydd Sul i gwario amser gyda ei gilydd, hefyd. Fe fydd hyn yn gwych!

Mae'r taith yma'n edrych mor da.

Fe fydd fy nghyfweliad gyda Prifysgol Caerdydd ar dydd Mawrth 11 Hydref. Mae nhw'n dweud y bydd y cyfweliad yn anffurfiol, ond dw i'n pryderus o hyd. Peth da mai bydd tipyn o amser cyn yr cyfweliad (ar dydd Llun, er enghraifft) i cwrdd a pobl ac ymarfer fy Nghymraeg.

Un ffordd i ymarfer ydy trwy cyfweliad gyda'r BBC. Fe fydd Radio Cymru yn siarad a fi eto pan dw i'n mewn Caerdydd. Fe fydden nhw anfon tacsi i casglu fi ar dydd Llun. Tacsi! Pa mor cŵl ydy hyn? Fe fydda i'n teimlo fel rock star. Efallai ddylwn i gweithio ar fy 'royal wave -- cofia: elbow, elbow, wrist, wrist.

Ar nos Llun, dw i'n gobeithio y bydd rhai ohonoch chi eisiau dod allan am cwpl o peintiau. Efallai ddylen ni gosod y lle? Beth ydy agos i Cathedral Road?

*Dw i'n meddwl yn digon budr am y dau ohonyn ni.

Tuesday, 20 September 2005

Rhywun o Minnesota?!

Sylweddolais i heddiw taw oedd rhywun o Minnesota yn darllen y blog hyn. Fe meddyliais i mai fi oedd yr un person ym Minnesota sy'n siarad Cymraeg. Os wyt ti'n byw yn y Twin Cities, ysgrifenna ata i!

Sunday, 18 September 2005

Friday, 16 September 2005

Thursday, 15 September 2005

Wednesday, 14 September 2005

Rachel Cope RD

Fe enillodd fy ngwraig ei tystysgrif dietegydd cofrestredig heddiw. Peth fawr ydy hyn -- mae hi'n tipyn fel meddyg rŵan -- yn cofrestredig i dweud wrthot ti sut i bwyta. Dw i'n balch iawn oddi hi, ar ol ei gwaith galed.

Ond mae rhaid i fi cyfaddef fy mod i'n tipyn eiddigus hefyd. Wel, dim hynny, efallai -- mae'n mwy o teimlad fy mod i ddim yn digon da i hi. Mae hi wedi ennill ei master's degree ac rŵan ei RD (registered dietitian), ond rydw i'n yr un hen dyn heb lawer i dangos am fy hun. Dw i'n aml yn synnu ei bod hi wedi bod yn priod a fi ers mwy na chwech blynedd.

Fe aethon ni mas i bwyty neis heno i dathlu. Fe fuon ni bod yno o'r blaen, ar fy mhen blwydd. Ar y bwydlen, mae'n 'jalapeno poppers' -- pupurau jalapeno wedi stwffio gyda caws ac yn amlapio gyda bacwn. Mae nhw'n swnio'n gwych, on'd 'dyn nhw? Ond y peth fe anghofiais i oedd pa mor sbeislyd ydyn nhw!

"Those are pretty spicy, remember?" dwedodd fy ngwraig wrth roeddwn i'n gofyn y gweinydd amddyn nhw.

"Yes, of course I remember," dwedais i -- yn dweud celwydd drwy fy dannedd.

Dw i'n dod o Texas. Dw i'n gallu dioddef pupurau a bwyd sbeislyd, ond rhain -- diawl! Ffycin diawl. Dw i ddim yn gwybod digon o geiriau rhegi Gymraeg i dweud pa mor poeth oedd y pupurau rhain! Fe roedd fy lygaid yn dyfrio, ac yfais y gwydr llawn o dwr.

Jyst yn eistedd yno ac yn chwerthin oedd fy ngwraig.

Efallai does dim lawer gyda fi i dangos am fy hun, ond o hyd dw i'n gallu gwneud fy ngwraig yn chwerthin.

S'mae Seven Valleys

Mae rhywun o Seven Valleys, Pennsylvania, yn darllen y blog 'ma bob dydd. Dw i ddim yn gwybod pwy wyt ti, ond diolch yn fawr iawn am dy gefnogaeth.

East Enders a Rhydeglwys

Sylweddolais i rhywbeth tipyn doniol neithiwr: Dw i'n cael hwyl am ben fy ngwraig am y ffaith ei bod hi'n gwylio East Enders ar gyfer helpu hi gyda'r acen Prydeinig, ond dw i'n gwneud yr un peth gyda'r rhaglen Rhydeglwys.

Dw i'n gwrando ar y rhaglen yna yn ffyddlon bob dydd. Dw i'n mwynhau y rhaglen oherwydd mae'r pobl yn siarad 'normal' -- heb llais radio. Ond does dim syniad gyda fi os mae nhw'n siarad normal go iawn.

O wel. Fe fydda i'n ffeindio allan mewn tair wythnos.

Tuesday, 13 September 2005

Ffycin spam!

Fe dderbyniais i fy sylw spam cyntaf heddiw, felly, dw i wedi rhoi 'word verification' ymlaen. Doeddwn i ddim eisiau gwneud hyn oherwydd dw i'n pryderu y fydd y peth yn rhwystro pobl o gadael sylw ar fy mlog.

Ond, hyd yn oed mwy rhwystredig na dim sylwadau ydy sylwadau spam. Felly, dw i'n ymddiheuro am yr anhwylustod.

Yn meddwl am rygbi

Jyst yn crwydro gyda'r bost hyn. Dw i'n siarad am rygbi rhywle mewn hyn...

Fe ddylwn i dy rhybuddio di fy mod i'n rhegi yn y bost hyn -- allan o rhwystredig gyda fy Nghymraeg.


MP3 File
powered by Audioblog.com


MP3 File

Saturday, 10 September 2005

Fy nhad-cu

Mae fy nhad-cu'n sâl. Mae e'n 80 oed ac yn ysmygu ac yfed wisgi yr gwbl amser, felly fe fyddet ti'n ei disgwyl ef i bod yn sâl am tro i tro, ond, o hyd...

Papa ydy ei enw. Wel, Jim ydy ei enw go iawn (fe ges fy enw cyntaf oddi wrth fe), ond dw i'n ei galw fe 'Papa. Ac dw i'n wastad yn geisio bod fel fe -- yn dweud yr un pethau, yn gwneud yr un pethau.

Mae yna llun o fy nhad-cu rhywle yn ei tŷ, wedi claddu o dan pentyrrau a pentyrrau o papur, o fy nhad-cu pan oedd e'n arfer gweithio dros papur newydd San Antonio (yn Texas). Fe gafodd y ffoto ei cymryd yn yr 70au, pan oedd fy nhad-cu yn ei pennaf e. Yn y ffoto, mae ei gwallt gwyllt wedi beiddio ei crib, ei tei wedi cael ei llacio. Mae e'n eistedd ar ei ddesg, gyda pentyrrau papur o amgylch ef, yn ysmygu sigarét ac yn gafael ar cwpan papur o coffi drwg oddi'r peiriant coffi.

Mae e'n edrych mor ffycin cŵl. Fel newyddiadurwr go iawn, caled.

Dw i'n cofio yn syllu ar y ffoto hyn pan roeddwn i'n ifanc, ac ers hynny, pob tro dw i'n mynd lawr i Texas i ymweld a fy nheulu. Pob tro dw i'n edrych ar y ffoto hynny, dw i'n meddwl: 'Dyma beth rydw i eisiau bod.

Dros amser hir, meddyliais i taw bod newyddiadurwr oedd y ffordd i bod fel fy nhad-cu. Ond dydy'r byd newyddiaduriaeth ddim fel hyn -- fel y teimlad sy'n dod allan o'r ffoto -- ym mhellach. Dim yn yr Unol Daleithiau, beth bynnag; dim yn y byd teledu newyddiaduriaeth.

Ar ôl rhai amser, dw i wedi sylweddoli bod y peth dw i'n hoffi am y ffoto dim y ffaith ei bod e'n newyddiadurwr. Dw i'n hoffi'r ffaith ei bod yn edrych mor onest, mor go wir. Mae e'n edrych fel rhywun gyda pwrpas a canolbwynt.

Dros fy mywyd, mae fy nhad-cu yn fy annog i bod ysgrifennwr. Pan roeddwn i'n ifanc, dw i'n cofio taw roedd e'n arfer rhoi anrheg ychwanegol i fi ar gyfer Nadolig. Fe fuasai'r gwbl wyrion yn derbyn yr un anrhegion ar bore Nadolig, ond pan fe fuasai fy 'nheulu cnewyllol' yn fynd, fe fuasai fy nhad-cu yn dod allan ei tŷ gyda ni i'r gar ac yn rhoi anrheg arall i fi. Ac oedd yr anrheg yn wastad cael rhywbeth i gwneud gyda ysgrifennu -- ysgrifbin neis, papur arbennig, ac unwaith ei hen teipiadur.

Pan roeddwn i'n ysgrifennu 'Drinking Stories' (fy nofel), roeddwn i'n meddwl am fy nhad-cu yn aml, a sut mor cyffrousedig (excited?) ydw i i rhoi y nofel yn ei dwylo. Mae fy asiant yn gweithio nawr ar ffeindio cyhoeddwr ar gyfer y nofel.

Yn yr ysbyty ydy fy nhad-cu ar hyn o bryd. Oedd e'n mor sâl, oedd rhaid iddyn nhw ei cymryd ef i'r ysbyty mewn ambiwlans. Dw i'n gobeithio y fydd e'n gwella. Dw i'n gobeithio y gaf i'r cyfle i rhoi'r nofel yn ei dwylo.

Friday, 9 September 2005

Pêl droed Americanaidd

Dw i'n hapus i gweld y dychwelyd o pêl droed Americanaidd, ond mae rhaid i fi geisio'n galetach i cadw fy ngwraig yn hapus.


MP3 File

Thursday, 8 September 2005

Fy ngwraig a fi

Dyma llun o fy ngwraig a fi cyn fynd i'r Renaissance Festival ar dydd Llun. Mae ychydig mwy lluniau gyda fi, felly, fe allet ti'n disgwyl amddyn nhw yn y dyddiau dŵad.


Rachel a fi

Pêl droed

Dw i wedi bod yn meddwl am pêl droed heddiw.

Mae hi'n diddorol pa mor pwysig y gêm ydy i'r diwylliant Prydain. Fe allit ti'n dod yma i'r UDA a dim erioed talu sylw at American football, a dw i ddim yn meddwl y baset ti'n colli yn rhywbeth. Ond ym Mhrydain, mae pêl droed yn rhan o'r hanes Prydain -- rhan o'r bywyd beunyddiol.

Tîm Prydeinig?
Dw i wedi bod mynd yn ôl ac ymlaen (mewn ffordd cyfeillgar) gyda Rhys dros yr syniad o tîm pêl droed Prydeinig ar gyfer yr Olympaidd. Dw i'n meddwl syniad da ydy hyn. Dydy Rhys ddim yn cytuno. Efallai fy meddyliaeth yn dod allan o'r ffaith fy mod i'n Americanwr, a dw i'n gallu teimlo cysurus cymharol gyda'r syniad o rhywbeth mor fawr ac 'homogonized' fel tîm cenedlaethol Prydain.

Beth wyt ti'n meddwl am yr syniad?

Dw i ddim eisiau gweld y diwedd o timau Cymru, Gogledd Iwerddon, Lloegr a'r Alban. Dw i jyst yn meddwl y bydd tîm Prydain yn da hefyd. Fel y Lions yn rygbi.

Gogledd Iwerddon
Fel enghraifft da iawn o pam fe ddylai timau cenhedloedd wahanol yn bodoli, oedd y gêm rhwng Lloegr a Gogledd Iwerddon ar dydd Mercher yn gwych. Dw i'n meddwl y buasai wedi bod yn anghredadwy i bod yno pan sgoriodd Healy. Yn anffodus, dw i ddim yn disgwyl am yr awyrgylch hyn pan dw i'n mynd i weld chwarae Cymru erbyn Azerbaijan ym mis Hydref.

S'dim ots. Dw i'n edrych ymlaen ati beth bynnag. Dw i'n siŵr y bydd y gêm yn hwyl hyd yn oed petasai hi ddim yn golygu unrhywbeth.

Pêl droed Americanaidd
Mae tîm pêl droed UDA yn edrych da iawn ar y foment. Dw i'n hoff o dweud bod rhyw dydd fe fydd yr UDA yn chwarae pêl droed yn da iawn -- ennill Cwpan y Byd, efallai -- y fe fydd y byd yn casáu’r ffaith hyn. Pob amser ydyn ni'n gwneud yn da, mae pobl eisiau dweud taw lwc oedd y peth. Ond fel Landon Donovan wedi dweud wrth Mecsico: 'Why don't you look at the results? It's pretty clear.

Sut baset ti'n teimlo petasai'r tîm pêl droed UDA yn ennill y Cwpan y Byd?

(Fe ddylwn i cyfaddef fy mod i ddim yn meddwl y bydd y tîm UDA yn digon da ar gyfer hyn yn 2006 -- ond rhyw dydd, efallai)

Wednesday, 7 September 2005

Yn geisio gwneud y blog wella

Dw i eisiau gwneud fy mlog yn gwella, ond mae hyn yn tipyn anodd i fi.


MP3 File

Tuesday, 6 September 2005

Y brodyr twpsyn


Fy mrawd a fi

Dyma fi a fy mrawd Jon cyn fe aethon ni i Rennaissance Festival. Mae hi'n anodd i egluro ydy'r 'Ren Fest' -- tipyn fel eisteddfod ar gyfer geeks Americanaidd. Does dim pwynt, go iawn.

Ie, dw i'n gwybod ein bod ni'n gwisgo ciltiau. Albanaidd ydy fy nheulu (mwy neu llai), a dw i'n teimlo mae ciltiau'n cŵl.

Rheswm arall i byw yn Gymru

Mae'r cyffuriau'n rhatach.

Monday, 5 September 2005

You say Dingle, I say An Daingean

Ffeindiais i stori hyn yn diddorol -- am newid enw tref Gwyddelig i ei enw Gwyddeleg. Ac hefyd, mae'r stori yn siarad am yr problemau ar gyfer y Gwyddelod mewn cadw eu iaith yn byw.

Sunday, 4 September 2005

Taran

Mae hi'n anodd i canolbwyntio pan mae taranau yn ffrwydro o amgylch di.


MP3 File

Saturday, 3 September 2005

Y datganiad newydd

Wel, dw i'n geisio eto. Heddiw, roeddwn i'n gweithio ar fy nghais UCAS i geisio ennill derbyniad mewn Ysgol y Gymraeg ar gyfer 2006. Wrth gwrs, un rhan fawr o'r broses gwneud cais (i fi, o leiaf) ydy ysgrifennu'r datganiad. Wyt ti (chi) wedi helpu fi y llynedd, felly, efallai allet ti'n helpu fi eleni?

Dyma ydy fy datganiad newydd. Beth wyt ti'n meddwl:

Dw i'n cofio'r dydd y ddechreuais i dysgu Cymraeg. Oedd mis Hydref 2000, ac roeddwn i'n chwarae ar y cyfrifiadur. Ffeindiais i'r gwefan BBC Catchphrase (rŵan Learn Welsh). Ers hynny, dw i wedi bod yn dysgu Gymraeg bob dydd. Ac ers hynny, mae pobl eraill wedi bod yn fy ngofyn i pam ydw i'n dysgu Gymraeg.

Fe ges i fy ngeni a fy magu a dw i'n byw yn yr Unol Daleithiau. Does dim hanes teulu Cymreig gyda fi. A pan ddechreuais i, doeddwn i ddim hyd yn oed nabod unrhywun arall pwy oedd yn siarad Cymraeg.

Pam gwario cymaint o amser a dioddef cymaint o rhwystredigaeth ar rhywbeth heb linc amlwg i fy mywyd?

Mae Cymru a Cymraeg yn rhan o fy nghalon i. Ymateb rhyfedd ydy hyn, efallai. Dw i'n siŵr fy ngwraig a fy ffrindiau buasai'n dweud fy mod i'n tipyn gwallgof. Ond dwi'n teimlo'n gryf iawn mai yn Gymru ydy fy dyfodol.

Dw i'n teimlo hefyd y gallaf i gwneud rhan o'r dyfodol iaith Gymraeg. Eisoes dw i'n rhan o'r cymuned sy'n rhoi'r iaith ar y rhyngrwyd. Blogger ydw i -- dw i'n cadw rhyw fath o dyddiadur ar y rhyngrwyd. A trwy hyn, dw i wedi ennill tipyn o sylw yn Nghymru.

Ym mis Mehefin 2005, fe gafodd fy mlog ei sylw yn y cylchgrawn 'Golwg.' Ym mis Gorffennaf 2005, fe ges i fy cyfweliad gan Beti George ar gyfer y rhaglen 'Y Celfyddydau' ar Radio Cymru. Ac yn y hydref 2005, fe fydd fy mlog cael ei sylw eto yn y cylchgrawn Radio Cymru 'Clywch Clywch.'

Dw i'n hapus gyda'r pethau dw i wedi cyflawni'n barod, ond dw i eisiau gwneud mwy. Rydw i eisiau datblygu ac gwella fy Nghymraeg. Rydw i eisiau bod rhan go iawn o'r cymuned Cymraeg a'r cymuned Cymru, a dw i'n meddwl y ffordd gorau i llwyddo mewn hyn ydy trwy Prifysgol Caerdydd a'r Ysgol y Gymraeg.

Tan hyn, dw i wedi bod yn dysgu Gymraeg ar fy mhen fy hun, yn hollol trwy'r rhyngrwyd a llyfrau. Mewn cyrsiau go iawn, gyda siaradwyr arall o amgylch fi, a trwy'r cyfarwyddyd Ysgol y Gymraeg, does dim cwestiwn gyda fi am y ffaith y baswn i'n rhagori.

Dw i'n gobeithio i symud ymlaen at ennill gradd uwch yn y Gymraeg, ac wedyn defnyddio fy addysg gan y prifysgol a fy profiad cyfryngau (dw i'n gweithio yn y byd teledu a radio ers 1996) i hybu'r Gymraeg -- yn enwedig yn Gymru ac yn yr Unol Daleithiau.

Yn fy amser rhydd, dw i'n mwynhau chwarae ac yn gwylio rygbi (roeddwn i'n arfer chwarae fel 'flanker'), yn rhedeg, yn heicio, yn beicio, yn sgïo, ac yn gwario amser gyda fy ngwraig o bron o saith blynedd. Wrth gwrs, dw i'n mwynhau ysgrifennu, hefyd. Dw i'n cadw dwy blogs (un Saesneg ac un Cymraeg) ac ysgrifennu erthygl bob pythefnos bod cael ei cyhoeddi ar mwy na 70 gwefannau yn yr Unol Daleithiau. Hefyd, dw i wedi ysgrifennu nofel (yn Saesneg).


Diolch yn fawr iawn am dy help di.

Y dyn hyll

Dw i wedi gorffen darllen 'Dim Heddwch' ddoe -- o'r diwedd. Oedd y llyfr hyn y llyfr cyntaf prynais i erioed, yn ôl ym 2001. Doedd fy Nghymraeg ddim yn digon da ar y tro i deall y peth, felly prynais i llyfrau arall -- i dysgwyr -- a wedi cadw 'Dim Heddwch' ar y silff.

Dw i'n teimlo synnwr o tipyn cyflawniad, ond mae hi'n tipyn o 'let down' i ffeindio, ar ôl pedwar blwyddyn, bod 'Dim Heddwch' dim yn llyfr eithaf gwych. Roeddwn i'n eistedd yna, yn darllen y llyfr, ac yn meddwl: 'Ydw i'n colli rhywbeth? Beth ydy'r pwynt o'r llyfr yma? Dw i'n casáu’r prif cymeriad.

O wel.

Rŵan, dw i'n meddwl y gwnaf i symud ymlaen i darllen 'Y Dyn Dŵad: Chwarter Call. Ond ar ôl tudalennu trwy'r peth, dw i ddim yn siŵr y bydda i'n mwynhau hyn chwaith. Yn peth eithaf annymunol i fi ydy'r ffaith fy mod i'n golwg tipyn bach fel Llion Williams (yr un ar y dde yn y llun). Dydy hyn ddim yn gwneud fi'n hapus o gwbl.

Oes awgrymiadau ar gyfer llyfr da gyda ti.

O wel

Allaf i ddim yn dweud fy mod i'n synnu. Y peth mwyaf diddorol dw i'n meddwl ydy pa mor ddrwg bu Lloegr yn chwarae. Dim arwydd da o'r siawnsiau Lloegr yn y Cwpan y Byd yr haf nesaf ydy hyn, dw i'n meddwl.

Dw i o hyd yn edrych ymlaen at wylio'r gêm Cymru-Azerbaijan (pwy wedi colli hefyd heddiw -- erbyn Gogledd Iwerddon) ym mis Hydref.

O, dw i'n bril.

Efallai'r un peth da am fy swydd ydy'r ffaith dw i'n deall HTML. Felly, ar ôl tipyn o meddwl ar y peth, dw i wedi gweithio allan sut i gwrando ar Radio Cymru (a'r gêm pêl droed) yn byw. Dw i wedi rhoi linc i'r livestream Radio Cymru ar fy mlog -- yno ar y dde, o dan y rhestr blogiau fy mod i'n darllen.

Wrth gwrs, dw i ddim yn siŵr fy mod i eisiau gwrando nawr -- mae Lloegr newid sgorio.

Yn y Saesneg

Rydw i'n gwrando a'r gêm Cymru-Lloegr ar y foment. Dw i'n rhwystredig oherwydd rhaid i fi wrando a'r gem mewn Saesneg. Dydy'r chwaraeydd Radio Cymru ddim yn gweithio. Diawl.

Friday, 2 September 2005

Yn ôl o'r coed

Wel, dw i wedi goroesi'r coed.

Dw i wedi blino lan, felly, dw i ddim yn teimlo fel ysgrifennu lawer ar y foment. Dw i eisiau cael cawod a fynd i'r gwely.