Dw i'n bwriadu defnyddio'r amser i ffonio yr British Consulate yn Chicago i eu gofyn nhw cwestiynau am y broses teitheb. Yn ôl eu gwefan nhw, ddylwn i ddim yn dechrau'r broses tan tri mis cyn y 'start date' o fy nghwrs yn Prifysgol Caerdydd, a mae'n edrych fel y fydd y broses yn gymhleth ac yn ddiflas. Ond mae posibilrwydd bach yn bodoli y fydd fy ngwraig a fi'n symud i Gaerdydd yn gynharach na mis Gorffennaf (tri mis cyn fy nghwrs yn dechrau). Felly, dw i eisiau gwybod os fyddai'n posibl i fy ngwraig a fi i gwneud cais am ein teithebau pan rydyn ni yng Nghymru (does dim angen teitheb ar dinesydd UDA dros 6 mis -- dim ond angen teitheb arnon ni oherwydd rydyn ni'n bwriadu i aros yn hirach).
Mae teimlad gyda fi y fyddan nhw'n dweud y allaf i ddim yn gwneud hyn, oherwydd fe fyddai hynny yn rhy hawdd. Mae teimlo fel pob darn o'r profiad ma'n gorfod bod yn anodd.
Ond, mae'r darnau yn dod ynghyd, yn araf. Er enghraifft, rydyn ni wedi dechrau i lawr y ffordd hir o ffeindio rhywle i fyw. Mae Rhys wedi cytuno i edrych ar y lle 'ma i fi. Fy fydd fy ngwraig a fi mewn ei ddyled ef am byth ar gyfer hyn. Pan dwedais i wrth fy ngwraig fy mod i wedi ei ofyn e am helpu, dwedodd hi: "We'll probably have to name our first child after him."
Rydw i'n gwybod ei bod hi'n tipyn o daith i ganol y ddinas o Danescourt, ond mae fy ngwraig yn hoff iawn o'r lle. A, hyd yn oed dydyn ni ddim yn bwriadu prynu car os nid rhaid i ni, mae posibilrwydd y fydd hi'n gyrru i waith mewn ardal arall (Casnewydd efallai), felly fe fydd hyn yn agos i'r M4 ac yn digon agos i'r brifysgol. Dw i'n siŵr y fydda i'n bod yn gyfarwydd iawn gyda'r bysau a thrêns Gaerdydd yn fuan.
A, sut allech chi ddim eisiau byw yn agos i'r tafarn Radyr Court? Mae'r golwg y gwefan 'na yn dod allan o 1996!

4 comments:
Est ti i Brit's ddoe?
Bydd y broses hir a diflas werth o yn y pen draw...
A bydd rhaid i fi ddod draw am baned, os bydd Rhys yn hoffi'r ty yn Radyr Way.
Oes gen ti unrhyw syniad o ba mor aml mae'r "dyn" yn ein cloi ni allan o'i dy?! ;o)
(Roedd rhaid i fi roi mewn i'r ciwtrwydd o ddefnyddio'r gwenoglun, rhag i ti wrthod rhentu'r ty ar y sail dy fod ofn cael mypet fel fi yn cnocio ar dy ddrws ffrynt isho paned!)
Dwi wastad wedi byw yn Lloegr ond ges i ddim clem am ddydiad dydd san sior felly diolch am fy atgoffa ;) Wedi meddwl amdani, sylwais i ambell car dros y penwythnos yn hedfan baner san sior, ond meddyliais dim ond cefnogwyr frwd tim peldroed Lloegr oedden nhw yn barod am gwpan y byd..
Dwi'n mynd i fusnesan rownd y tŷ am 9:00 bore Iau Blogel os ti'n cael cic owt rownd pryd hynny, popia draw!
Post a Comment