Tuesday, 28 February 2006

Dathlu


Bitter &Twisted
Originally uploaded by ChrisCope.
Dyma (ar y dde) yr cwrw fy mod i'n mwynhau heno. Mae'n dod o'r Alban a mae'n llawer well 'na'r cachiad 'na y ges i ddoe.

Fe ddylwn i ddysgu i gadw fy ngheg fawr yn gau. Roeddwn i'n siarad heno am y ffaith bod Rachel a fi'n bwriadu mynd i ginio Cymdeithas Sant Dewi a gofynnodd fy nhad am fynd hefyd.

Na.

Dw i'n ei weld fy nhad gormod yn barod -- yn y tŷ, yn y swyddfa, yn y car ar y ffordd i'r swyddfa; bob dydd, trwy’r dydd, dw i'n ei weld e. Dw i ddim eisiau gwario fy nydd Sadwrn yn gwario mwy o hamser gyda fe. Efallai dw i ddim eisiau mynd i'r ginio ma, ond dw i eisiau hyd yn oed llai ar gyfer fy nhad i dod hefyd.

Dw i'n teimlo fel dw i'n 16 oed -- yn wastad geisio ffeindio ffyrdd i osgoi fy rhieni. Fe fydd pethau'n gwaethygu yn yr haf, dw i'n siŵr. Mae fy ngwraig a fi'n bwriadu gwerthu ein picyp tryc ni ym mis Mehefin. Felly, tan fydd Rachel a fi'n mynd i Gaerdydd, fe fyddem ni'n gorfod gofyn i gael benthyg y car ar gyfer nos allan.

Oes unrhyw plannau mawr gyda ti ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi? Oes unrhyw traddodiadau hwyl yn cysylltu'r dydd? Mae fy ngwraig a fi'n bwriadu barbiciw cig oen ar y gril. Ac wedyn, ar y ddydd nesaf, rydyn ni am dathlu Dydd Annibyniaeth Texas.

Fe datganodd Texas ei annibyniaeth o Mecsico ar 2 Mawrth, 1836. Ac roedd hi gwlad sofran cyn ymuno'r Unol Daleithiau. Felly, efallai ddylwn i mynnu bod pobl yn fy ngalw fi Texan, a dim Americanwr. Pawb yn dweud fy mod i'n dod o Minnesota, ond fe ges i fy ngeni ac hanner fy magu yn Texas -- Mae fy nheulu i gyd yn dod o Texas, a fe gafodd fy nhad, y dau fy nhad-cu, a fy hen dad-cu eu geni ac eu magu yn Texas.

Beth bynnag, ar bob 2 Mawrth, dw i'n dathlu. Eleni, rydyn ni'n bwriadu rhoi steciau sbeislyd ar y gril ac eu mwynhau nhw gyda bara-indrawn, gwyrddion colard, a cwrw Lone Star. Dw i'n edrych ymlaen at hyn cymaint.

Sunday, 26 February 2006

26 Chwefror


26 Chwefror
Originally uploaded by ChrisCope.
Dw i wedi cyfarfod â phroblem diddorol heddiw. Dw i'n geisio gwneud cais ar gyfer Dysgwr y Flwyddyn a sylwais i y bydd talu'r ffi cystadlu'n broblem i fi. Does dim cyfrif banc Prydeinig gyda fi eto, felly dw i ddim yn gallu talu gyda siec.

Ysgrifennais i'w Swyddfa'r Eisteddfod heddiw i ofyn am sut allaf i talu. Hefyd, dw i wedi eu gofyn nhw am y gystadleuaeth ar gyfer pobl sydd wedi dysgu Cymraeg tu allan i Gymru (rhif 129 ar tudalen 56). Dwi'n meddwl y gallwn i gwneud hyn, ond dw i ddim yn deall beth ydyn nhw'n golygu gyda'r brawddeg 'ffurf dyddiadur.' Beth wyt ti'n meddwl eu bod nhw'n disgwyl o fi?

Dw i'n gobeithio y fedraf i trefnu popeth mewn digon o hamser. Fe ddylwn i wedi ddechrau ar hyn yn gynharach.

Dy gyfle di i harchebu fi o gywilydd cyhoeddus


Old Growler
Originally uploaded by ChrisCope.
Mae'r cwrw yn wych, gyda llaw. Dydy'r cwrw y brynais i heddiw ddim yn rhad (bron o $5 -- £2.86 -- pob un), ac roeddwn i'n teimlo tipyn o euogrwydd am gwario cymaint o arian. Ond dw i'n teimlo'n well rŵan fy mod i'n gwybod bod y cwrw'n dda -- mai'r cwrw gwych ydy hyn.

Wel y botel hyn, o leiaf.

Dw i'n defnyddio fy dydd Sadwrn heddiw i ganolbwyntio ar pethau Caerdydd. Y bore ma, fe wariais i llawer o hamser yn geisio ffeindio cwmni i symud fy mhethau i Gaerdydd o Minnesota. Fe fydd hyn yn bod y tarddle o llawer o ddicter dros y misoedd nesaf, dw i'n siŵr.

Does dim rheoliad go iawn ar cwmnïau symud yn yr Unol Daleithiau, felly mae'n haws iawn i ffeindio y hun fel dioddefwr o scam. A dydy'r rhyngrwyd ddim yn gynorthwyol iawn yn y mater hyn. Ar ôl nifer oriau o ymchwilio, fe anfonais i cais i chwe chwmni, yn gofyn ar ôl amcangyfrif o'r gost i symud ein stwff ni. Rwan, mae rhaid i fi aros i clywed yn ôl ganddyn nhw.

Dw i'n blogio fy mhrofiadau symud yma.

Un peth fe ddysgais i heddiw am symud -- fe fydd hi'n cymryd chwe wythnos, o leiaf, ar gyfer ein pethau ni i teithio o'r Unol Daleithiau i Gymru. Felly, dw i ddim yn gorfod pryderu cymaint am llety. Pryderus iawn roeddwn i taw faswn i ddim yn ffeindio lle i byw cyn y symud ac y fuasem ni'n gorfod ffeindio lle i storio ein pethau ni tra'n geisio ffeindio llety. Ond os fe fydd y broses yn cymryd chwe wythnos, does dim poeni am ffeindio storfa -- fe fydd fy ngwraig a fi'n ffeindio lle i byw hir cynt fe fydd ein stwff ni'n cyrraedd ym Mhrydain.

Dw i'n gobeithio.

Chwilio am llety ydy rhywbeth arall dw i am gwneud heddiw (ti'n hoffi hynny? Dw i'n geisio dysgu fy hun i defnyddio 'am' yn lle na 'bwriadu'). Fe fydda i'n ysgrifennu eto i rhai estate agents yn Nghaerdydd heddiw.

Ac hefyd, dw i am ffeindio allan sut i gwneud cais ar gyfer Dysgwr y Flwyddyn. A mae'n edrych fel mae rhaid i fi ddechrau ar y broses ar unwaith os dw i eisiau cymryd rhan -- mae ceisiadau'n daladwy erbyn 31 mis Mawrth. Mae'n cymryd dwy wythnos ar gyfer y post i fynd i Gymru o yma, felly, does dim llawer o hamser i wastraffu.

Ond mae dau cwestiynau 'da fi am hyn -- efallai allet ti'n helpu fi yma.

1 -- Yn ôl y ffurflen gwybodaeth, 'Gall cystadleuwyr ddod gerbron drwy ddwy ffordd – hunanwebiad neu drwy enwebiad gan diwtor neu unrhyw berson arall.'
Cyn bell a dw i'n gwybod, does dim unryhwun pwy wedi enwebu fi ar gyfer y gwobr. Ydy hi bad form i hunanwebu? Efallai ddylwn i ddim yn gwneud cais. Dw i ddim eisiau bod rhyw fath o Americanwr myfiol.

2 -- Rwy ti'n darllen y flog 'ma. Dweud wrtha i: fydda i'n gwneud ffŵl o fy hun yn gwneud hyn? Efallai dydy fy Nghymraeg ddim yn digon da i cystadlu ar gyfer Tlws Dysgwr y Flwyddyn. Fe allet ti'n achub fi o llawer o chwithigrwydd yma -- wyt ti'n meddwl bod fy Nghymraeg yn digon da?

Thursday, 23 February 2006

Tin barbiciw

Hyd yn oed ges i ddim tagio gan Chwadan, dw i'n dewis i gwneud hyn. I'm a sucker for memes.

Pedwar swydd dw i wedi'u cael
1) Golygydd
2) Cyflwynydd radio
3) Gyrru fforklifft yn warws
4) Yn trwsio ffensiau ar ransh yn Nevada

Pedwar ffilm gallaf eu gwylio drosodd a throsodd
1) The Blues Bothers
2) A Christmas Story
3) Tao of Steve
4) Three Amigos
Beth ydy hi'n dweud amdanaf i bod pob ffilm dw i'n hoffi go iawn wedi cael ei chynhyrchu yn 2000 neu'n gynt?

Pedwar lle dw i wedi byw ynddyn nhw
1) Austin, Texas
2) Portsmouth, Lloegr
3) San Diego, California
4) St. Paul, Minnesota

Pedwar rhaglen teledu dw i'n eu caru
1) 'The Office'
2) 'My Name is Earl'
3) 'WWE Raw' (Ie, dw i'n hoffi gwylio ymgodymu* proffesiynol. Pa mor drist ydw i?)
4) 'Frontline'

Pedwar lle dw i wedi bod ar wyliau
1) Barcelona, Sbaen
2) Custer State Park, South Dakota
3) Nantes, Ffrainc
4) Cape Cod, Massachusetts

Pedwar o'm hoff brydau bwayd
1) Barbecue ribs (dw i'n gwybod bod 'asennau' ydy 'ribs,' yn Gymraeg ond, yn ôl fy ngeiriadur, 'asennau' ydy 'asses,' hefyd. Dw i ddim dy eisiau di i feddwl fy mod i'n hoffi tin barbiciw!**)
2) Balti menyn gyda cyw iâr
3) Cawl caws cwrw
4) Bron o unrhywbeth gyda cig oen

Pedwar gwefan dw i'n ymweld â nhw bob dydd
1) BBC geiriadur arlein
2) Lampeter geiriadur arlein
3) BBC newyddion
4) BBC radio

Pedwar lle hoffwn i bod yn y munud hwn
1) Yn The Liffey, gyda peint o Guinness yn fy llaw
2) Yn Gaerdydd, gyda peint o Brains yn fy llaw
3) Yn sgïo
4) O'i flaen y lle tân gyda fy ngwraig

Fydda i ddim yn tagio unrhywun arall -- gwneud y peth os wyt ti eisiau.

*Sut fuaset ti'n ysgrifennu 'wrestling?' Ymgodymion?

** Hyd yn oed, dw i'n siŵr bod 'asen' yn 'asyn.'

Pedwar mis

Dim ond pedwar mis i fynd.


MP3 File

Wednesday, 22 February 2006

Post 400

Yn ôl Blogger, hyn ydy fy mhost 400fed ar y blog 'ma. Os rwyt ti'n gwneud y mathemateg, dyna gyfartaledd o 1.23 bostiau bob dydd. Dw i'n meddwl y gallwn i gwneud yn well, ond o hyd mae'n anodd i blogio yn y Gymraeg i fi. Dydy fy Nghymraeg ddim yn dod cyn gynted â fy meddyliau -- dw i'n anghofio pethau yn gyflymach nag allaf i eu ysgrifennu nhw lawr.

Wrth gwrs, dw i'n gwneud yr un fath o pethau yn Saesneg. Pan roeddwn i'n blentyn, fuodd y meddyg eisiau rhoi fi ar ffisig ar gyfer attention deficit disorder. Fe gwrthais i gymryd y ffisig oherwydd roeddwn i'n pryderus y fydd y ffisig yn stunt my growth. Roedd yn fwy bwysig i fi i bod yn dal yn lle na deallus.

Ar y galon o pam rydw am fynd i brifysgol pan dw i'n 30 oed ydy'r ffaith 'ma, efallai.

Fy ngwraig yn mwynhau cael hwyl am fy mhen i am y ffaith roeddwn i'n mor bryderus am fy nhaldra fel plentyn, ond dwi'n ffafrio'n meddwl am fy hun fel rhywun pwy deallodd y tao o'r Unol Daleithiau. Plentyn pwy deallodd y Ffordd y Byd Mawr roeddwn i -- prodigy.

OK, dw i'n gwthio hyn yn rhy bell.

Beth bynnag, efallai fe fydda i dathlu fy mhost 400fed gyda phrynu CD newydd. Bron o bob dydd dw i'n fy ngofyn fy hun pam dw i ddim yn piau CD Jack Johnson eto...

Y gêmau wrthdynnol

Mae'n peth da bod yr Gemau Olympaidd ddim yn hirach. Dw i ddim yn gallu talu sylw ar unrhywbeth heb yr gemau. Pa mor drist ydw i?

Ond, os wyt ti'n meddwl ar y peth, mae'r Gemau Olympaidd yn fel yr F.A. Cup bob dydd dros dwy wythnos. Ar gyfer yr athletwyr Olympaidd, does unrhywbeth ddim yn mwy.

Y peth fy mod i'n mwynhau ydy'r athletwyr o gwledydd arall. Yma yn yr Unol Daleithiau, dw i'n meddwl ein bod ni'n canolbwyntio gormod ar y medalau aur. Pan rwyt ti'n darllen straeon yn y papur newydd yma am athletwyr Americanaidd, mae siom yno. Mae pob stori yma'n cwyno am y ffaith ein bod ni (yr Unol Daleithiau falch) ddim ar y pen o'r cyfrif medalau.

Mae'n well gyda fi i gweld y straeon am yr athletwyr pwy wedi gwthio mor galed dim ond i cyrraedd wrth y gemau, hyd yn oed does dim siawns o ennill gyda nhw. A hefyd, dw i'n hoffi clywed y straeon o athletwyr da o gwledydd arall.

Efallai dw i'n talu mwy o sylw ar hyn eleni oherwydd dw i'n bwriadu symud dros y mor, ond mae'n teimlo fel ni yn yr Unol Daleithiau fu anghofio'r pwynt o'r gemau.

OK. Dw i'n dechrau pregethu -- dw i'n anghofio'r pwynt hefyd. Y pwynt o'r bost 'ma ydy hyn -- dw i'n ymddiheuro (eto) am ddim yn blogio cymaint y dyddiau 'ma. Ond mae cymaint o diddordeb yn yr Gemau Olympaidd gyda fi, does dim cyfle i gwneud llawer arall.

Sunday, 19 February 2006

Fy nghar i

19 Chwefror


19 Chwefror
Originally uploaded by ChrisCope.
Fe syrthiodd y tymheredd i -26.1C neithiwr. Lle oer iawn ydy Minnesota, does dim cwestiwn. Yn y gogledd, roedd hi'n hyd yn oed oerach. Fu -38.3C yn Duluth, Minnesota, dros nos Gwener.

Mewn tymheredd fel hyn, fe allet ti'n mynd tu fas a bwrw cwpan o de i fyny yn yr awyr a fe fydd y hylif yn diflannu cyn cyrraedd wrth y lawr (mae'r hylif yn dyfod mwrllwch).

Ond, i dweud y gwir, dw i'n hoffi'r tywydd oer. Efallai dw i'n gwallgof. Y gaeaf nesaf, fe fydda i eisiau ymweld a'r Norwy, efallai. Fe all fy ngwraig a fi'n gwneud tipyn o sgïo.

Gyda'r tywydd oer, rydyn ni'n gwario ein dirnod tu blaen y lle tân, ac yn gwneud pethau tŷ mewn. O'r diwedd, dw i wedi trefnu hen flwch o fy nyddlyfrau. Mae nhw'n mynd yn ôl i 1991, pan roeddwn i'n 14 oed ac mewn caru gyda pob ferch yn fy ysgol i. Fe ddechreuais i fy nyddlyfr i recordio pob tro y welais i un ferch, Jessica Asche. Doedd hi ddim erioed datblygu diddordeb yn fi, yn anffodus.

Ond, i mewn un dyddlyfr, fe ffeindiais i lawer o tudalen o'r adeg pryd fues i'n geisio defnyddio gwyddor newydd. Fe gres i'r gwyddor o sgwiglau a dotiau ar gyfer cadw fy meddyliau yn gyfrinach. Doedd y peth ddim yn gweithio, neu, efallai gweithiodd hi'n rhy dda, oherwydd roedd yn rhy anodd i fi i darllen.

Dyma lun o brawddeg yn yr gwyddor 'na.

Hefyd, fe ffeindiais i'r dyddlyfr o mis Chwefror 1996 -- 10 blynedd yn ôl. Ar y dydd hyn ym 1996, roeddwn i'n pryderu am y ffaith bod fy mhrifysgol (Moorhead State University) wedi gwrthod fy nghais i mynd i Portsmouth ar student exchange. Yn ffodus, fe enillais i fy apêl y mis nesaf a fe es i i Portsmouth y hydref 'na.

Rŵan, 10 blynedd ym mhellach, dw i'n gwybod fy mod i'n mynd i Caerdydd, ond mae'n diddorol i meddwl am y cyd-ddigwyddiadau, ac ar y pethau y gallai wedi digwydd, neu ddim wedi digwydd.

Yr eira

Dw i'n gyrru i'r swyddfa yn yr eira.


MP3 File

Thursday, 16 February 2006

Mae Radio Cymru yn ennill eto

Felly, ar ôl siarad gyda Garry Owen neithiwr (roedd hi'n 11:30 nos Mecher i fi, 5:30 bore Iau i Garry), roeddwn i'n mor grac ar fy hun. Roeddwn i'n anhapus iawn gyda'r ansawdd o fy nheleffon, ac roeddwn i'n pryderus y fues i ddim yn bod sylwebydd digon da.

Roeddwn i wedi paratoi am dwy oriau cyn y sgwrs, yn llenwi fy mhen gyda ffeithiau diddorol (er enghraifft: Mae Cheney yn yr is-lywydd gyntaf i saethu rhywun ers Aaron Burr wedi lladd Alexander Hamilton ym 1804), a dw i wedi ysgrifennu lawr nifer o geiriau i helpu fi yn y sgwrs (er enghraifft: 'gweinyddiaeth,' a 'gwleidyddiaeth,'). Roeddwn i'n barod i siarad am y fy mhrofiadau fy hun o helfa hwyaden, ac yn dweud y stori am y tro fy ffrind wedi cael ei saethu tra roedd e'n helfa (doedd e ddim wedi anafu fel Harry Whittington), ac yn y blaen ac yn y blaen ac yn y blaen.

Ond cyn gynted â'r sgwrs wedi dechrau, popeth wedi llithro allan fy mhen; roedd y sŵn ar fy ffôn yn drwg; ac roeddwn i'n siŵr y doeddwn i ddim yn ymateb y cwestiynau yn digon da.

Ar ôl y sgwrs, fe teimlais i fel cymaint o hurtyn, dw i wedi penderfynu i anfon neges i'r criw Post Cyntaf i eu diolchi nhw am siarad â fi ac i ymddiheuro'n cynnil am bod mor ddrwg. Ac wedyn, fe es i'r gwely'n grac.

"Hush," dwedodd fy ngwraig. "We're still moving to Cardiff, so be quiet."

Yn y bore, welais ymateb i'r e-bost o'r gwbl criw y rhaglen, yn dweud wrtha i fy mod i wedi gwneud yn OK. Fe wnaeth fy wythnos i, hynny.

Ac wrth gwrs, roeddwn i'n hapus i clywed bod y golygyddion Radio Cymru wedi gweithio eu dewiniaeth eto ar y sgwrs (ar 18:48) -- dw i ddim yn swnio cyn hanner twp ag arfer.

Aros

Hmmm, roeddwn i'n cwyno ddoe i fy hun taw does dim digon o amser gyda fi i blogio y ddyddiau 'ma. Mae fy ngwraig a fi'n gwylio'r Gemau Olympaidd bob nos, felly popeth arall ydy'n cymryd y sedd cefn. Ond nawr, dw i'n eistedd 'ma wrth fy nesg ac yn aros am Radio Cymru i ffonio fi, a dw i ddim yn gallu meddwl am bethau i blogio.

Dw i wedi cyrraedd ar bwynt o 'stasis' yn fy mywyd ar hyn o bryd. Dw i'n mynd i'r swyddfa bob dydd, ond dim llawer mwy arall. Dw i'n gwneud llawer o aros y dyddiau 'ma -- dw i'n aros am y misoedd i mynd heibio.

Yn y llun mawr, mae'r dyddiau'n llithro i ffordd yn gyflym iawn -- mae mis Chwefror yn hanner gorffen o hyd -- ond yn yr ystyr diwrnod-i-diwrnod, mae'n teimlo fel amser ydy'n llusgo. Dim ond dydd Iau ydy heddiw, a dw i'n mor blinedig, mor barod i gweld y penwythnos.

Ond mae pethau i gwneud. O hyd mae rhaid i fi ffeindio cwmni symud rhyngwladol, ac mae rhaid i fi ffeindio fflat yn Gaerdydd. Hefyd, fe fydd rhaid fi gwneud mwy o gwaith ar gyfer ennill benthyciadau myfyrwyr. Os wyt ti'n edrych ar y broses o ennill benthyciadau ar y gwefan Prifysgol Caerdydd, dw i wedi gorffen camu 1 a 2. Dw i'n gorfod aros i clywed yn ôl o FAFSA cyn symud ymlaen.

Dw i'n siŵr mai cyn gynted â mae mis Mehefin yn cyrraedd, fe fydda i'n bod mewn panig enfawr.

...OK, dw i wedi gorffen siarad ar Post Cyntaf. Dw i'n gobeithio fy mod i ddim yn swnio fel gormod o hurtyn. Roedd yn anodd iawn i clywed Garry Owen. Y tro nesaf (petasent nhw eisiau siarad gyda fi eto) fe fydd rhaid i fi defnyddio teleffon gwella.

Ond rŵan, dw i eisiau cysgu.

Brit Hume y hurtyn

Dw i'n gwneud tipyn o ymchwilio ar gyfer siarad a Radio Cymru mewn cwpl o munudau, ac dw i'n darllen yr adysgrif o'r cyfweliad Dick Cheney gyda Brit Hume o Fox News:

HUME: "And you — and I take it, you missed the bird."

O, da iawn, Brit -- cwestiwn galluog.

Diawl. Does dim gobaith ar gyfer newyddiaduriaeth yn yr UDA.

Wednesday, 15 February 2006

Yr is-lywydd peryglus

Mae'n edrych fel fe fydda i'n siarad tipyn bach ar y fiasco Is-Lywydd Dick Cheney yfory (bore Iau) ar Post Cyntaf. Fe ddylwn i bod ar yr awyr o gwmpas 07:50.

Wff

Wffta, fel mae'r Swediaid yn dweud, mae pen mawr arna i heddiw. Noson Sant Folant neis roedd neithiwr -- noson syml gyda fy ngwraig y tu blaen i'r lle tân. Fe gawson ni picnic bach, gyda bara a caws cain a siocled a gwin.

Y gwin ydy'r achos o'r pen mawr wrth gwrs. Yfais i potel o gwin goch, a rŵan dw i jyst eisiau cysgu. Pan wyt ti'n meddwl ar y peth, dydy potel o gwin ddim eithaf llawer o booze -- ond digon i rhoi cur pen i fi. Dw i'n hen.

Ar y gwbl, dw i'n meddwl fy mod i wedi gwneud OK y Dydd Sant Folant 'ma. Mae'n eithaf galed i bod yn rhamantus pan mae'r priodferch ifanc a fi'n byw mewn tŷ fy rhieni, ond fe gawson ni cyfle i gwario amser gyda ein gilydd. A dyma'r pwynt, on'd yw e?

Tuesday, 14 February 2006

Dydd Sant Folant

Chaf i ddim cyfle i blogio heno, dw i ddim yn meddwl. Valentine's Day ydy hi.

Dw i'n gwybod y ddylwn i wedi dathlu Dydd Santes Dwynwen, ond hyd yn oed fuasai fy ngwraig wedi eisiau dathlu heddiw.

I efelychu Emyr, o 'Caerdydd', Marriage Rule No. 1: Cadwch eich gwraig yn hapus.

Y gemau

Pam fydda i ddim bod yn blogio lawer am sbel.


MP3 File

Sunday, 12 February 2006

12 Chwefror


12 Chwefror
Originally uploaded by ChrisCope.
Mae hi wedi oeri yma dros yr wythnos ddiwethaf. Mae tymheredd yn -8C ar hyn o bryd -- tymheredd arferol yn y gaeaf ym Minnesota. Efallai dyma pam mae 34 o'r athletwyr UDA yn y Gemau Olympaidd y Gaeaf yn dod o Minnesota. I cymharu, yr gwbl o Brydain wedi anfon 40 athletwyr.

Fy ngwraig a fi (fy ngwraig yn enwedig) ydy'n hoff iawn o gwylio'r Gemau Olympaidd. Rydyn ni wedi meddiannu’r teledu ar gyfer gwylio popeth. Dw i ddim yn gwybod pam rydyn ni'n hoffi'r Olympaidd cymaint, ond eithaf hwyl ydyn nhw.

Mae rhaid i chi deimlo cydymdeimlad at fy rhieni. Dydyn nhw ddim yn hoffi chwaraeon o gwbl. Mae'r diffyg o dealltwriaeth nhw o chwaraeon yn rhedeg dwfn iawn, dw i'n meddwl. Felly, dyma fi a fy ngwraig yn gwylio'r Olympaidd, a fy nhad a fy mam yn geisio hamgyffred beth rydyn nhw'n gwylio.

Mae hi wedi bod wythnos diddorol. Fe gollais i allan o siawns i bod ar Radio Five Live y bore 'ma i siarad am fy nysg Cymraeg. Ymatebais i ddim fy e-bost yn ddigon fuan i bod ar y rhaglen. Ond mae'n OK -- dw i eisoes cael fy 15 munud o enwogrwydd. Fe glywais i gan gymaint o pobl yr wythnos 'ma, llawer ohonyn nhw'n dweud eu bod nhw'n bwriadu dysgu Cymraeg nawr. Fe fydd pobl yn dweud pethau eu bod nhw ddim yn golygu go iawn, wrth gwrs, ond petasai un person yn dechrau dysgu, fe faswn bod yn hapus.

Ac, wrth gwrs, mae ffwrdd hir i fi mynd gyda fy Nghymraeg o hyd. Ar hyn o bryd, dw i'n geisio dysgu'r treigladau i fy hun. Os wyt ti'n weld camgymeriadau yn y bost 'ma, dweda wrtha i plîs.

Friday, 10 February 2006

Thursday, 9 February 2006

Rhyw

Pwy ydy'r person sy'n gwneud yr penderfyniad ar y rhyw o gair?


MP3 File

Dydd cyffrous

Mae hi wedi bod dydd diddorol heddiw, gyda lawer o pethau'n digwydd.

Wrth gwrs, fe ges i tipyn o sylw gan yr BBC. Eisoes fe rhois i dolen i'r stori yn fy mhroffil ar y dde.

Oherwydd y stori, fe ges i nifer e-bostion cefnogol gan pobl o gwbl y byd. Fel arfer, pan unrhywbeth yn tynnu sylw i fi, roeddwn i'n teimlo ego enfawr heddiw. Fel mae Ron Burgundy yn dweud yn y ffilm 'Anchorman:' 'I'm kind of a big deal.'

(Jocian ydw i wrth gwrs. Mae fy ngwraig yn pryderu y fydd pobl ddim yn deall fy mod i'n meddwl mai doniol ydy hi i cogio bod yn myfiol.)

Fe gafodd y stori ei darlledu ar y tudalennau Saesneg hefyd, ac roedd yn gwych bod rhai pobl yn teimlo ysbrydoledig gan fi i dechrau neu dal at dysgu Cymraeg.

Gyda llaw, oes unrhywun yn nabod am grŵp Cymraeg yn Llundain, neu sut allwn i ffeindio un? Mae rhywun wedi fy ngofyn fi heddiw amdanyn nhw.

Hefyd, fe glywais i heddiw gan fy asiant llyfr. Wyt ti'n cofio hi? Mae arfer gyda hi o diflannu o tro i tro. Mae hi wedi anfon pitch at Crown Publishing, a mae nhw'n dangos tipyn o diddordeb mewn cyhoeddi fy nofel. Mae broses hir o flaen, wrth gwrs, felly dw i ddim eisiau jinx pethau gyda gobeithio'n gormod. Dw i'n geisio dal at fy mywyd arferol heb yn meddwl am y posibilrwydd o pethau newydd yn digwydd gyda fy llyfr.

A mae digon o pethau i gwneud o hyd ar gyfer mynd i Cymru. Neithiwr, fe anfonais i fy nghais ar gyfer benthyciadau myfyriwr. Rŵan, mae rhaid i fi aros cymaint a pedwar wythnos i clywed yn ôl ganddyn nhw, ac wedyn -- os dw i'n ennill benthyciadau -- fe fydd rhaid i fi mynd trwy broses hollol biwrocratig i anfon y gwybodaeth i Prifysgol Caerdydd. Hwyl, hwyl, hwyl. Ond o leiaf dw i'n symud ymlaen.

Wednesday, 8 February 2006

Hyfryd?!

Fel dwedais i'n gynharach, fe dderbynodd y blog 'ma tipyn o sylw gan yr wasg heddiw oherwydd y BBC wedi anfon datganiad amdanaf i'r wasg. Fe ges i cyfle i siarad a lawer o pobl am y ffaith fy mod i wedi dysgu Cymraeg i fy hunain gyda'r help y gwefan Learn Welsh (Ding! Fe ddylwn i derbyn siec pob tro dw i'n rhoi dolen atyn nhw), a mae rhaid i fi cyfaddef y ges i tipyn o hwyl.

Efallai'r cyfweliad mwyaf diddorol fu'r un gyda Gareth Glyn, o'r rhaglen Post Prynhawn.

Dw i'n geisio gwrando a'r rhaglen 'na yn aml, a dw i'n ei hoffi hi oherwydd mae Gareth n siarad mor gyflym. Pan ef ydy'n siarad, mae e'n swnio fel pawb a popeth ydy'n wastraffu ei hamser e. Dw i erioed yn meddwl y faswn i ddim eisiau bod ar yr ochr anghywir o Gareth.

Oeddet ti erioed yn ei glywed e'n siarad a rhywun sy' ddim yn rhoi ymatebion digon da? Fe fydd Gareth yn siarad mor gyflym ac yn mor galed gyda nhw. Dw i'n dychmygu bod rhai gwestion yn mynd i crio ar ôl rydyn nhw'n rhoi'r ffôn i lawr.

Felly, dyma fi, ar y ffôn, yn siarad a Gareth heddiw, ac roeddwn i'n lawn o ofn. Roedd ei lais e cyn gyflymed ag arfer ac roeddwn i'n meddwl wrth fy hun: 'O, shit, paid yn gythruddo fe!'

Fe allet ti'n clywed yr cyfweliad ar y chwaraeydd radio (mae'r cyfweliad yn dod ar 18:52) ac allet ti'n clywed fi'n siarad ag atal dweud, ac yn ailadrodd pethau, ac yn defnyddio'r geiriau anghywir -- dw i'n swnio mor twp. Ac wedyn dw i'n gwneud gwbl ffŵl o fy hun gyda Gareth. Dw i'n dweud wrtho fe fy mod i'n gwrando ar ei raglen ef yn aml a dw i'n dweud, 'Mae'n hyfryd i siarad a chi.'

Hyfryd? Hyfryd?!?! Pa mor hoyw ydy hynny?

Dw i ddim yn gwybod beth roeddwn i geisio dweud. Doeddwn i ddim eisiau defnyddio gair Saesneg, a roedd 'hyfryd' y gair cyntaf i neidio i mewn fy mhen.

Wffta, fel mae'r Swediad yn dweud, dw i'n teimlo hurt.

Tuesday, 7 February 2006

Croeso

Dw i'n teimlo fel mae ego enfawr arna i ar hyn o bryd -- dw i wedi gwario fy dydd yn siarad a nifer o pobl yn y wasg. Os wyt ti wedi ffeindio dy hun yma oherwydd fy nghyfweliad gyda Radio Cymru, neu fy nghyfweliad gyda Radio Wales, neu'r stori amdanaf i ar y gwefan BBC News, dw i eisiau ymestyn croeso i ti.

Diolch i ti am dod at fy mlog. Dw i'n ymddiheuro fy mod i ddim yn mwy diddorol.

Y gemau

Mae fy ngwraig a fi'n edrych ymlaen at dydd Gwener.


MP3 File

FAFSA uffernol

Dw i'n teimlo tipyn o rhwystredigaeth ar hyn o bryd oherwydd roeddwn i'n geisio gwneud cais ar gyfer benthyciadau myfyriwr heno, ond dydy'r ffurflen gwe FAFSA eisiau gweithio. Free Application for Federal Student Aid ydy FAFSA, yr corff llywodraeth y byddaf i'n gorfod anfon at fy nghais.

Fel popeth llywodraethol yn yr Unol Daleithiau (a pob gwlad arall, dw i'n sicr), dydy hi ddim yn haws i gwneud y pethau dy fod to eisiau gwneud. Fedraf i ddim jyst yn gofyn am arian o'r llywodraeth. Naaaaaaa. Yn gyntaf, mae rhaid i fi gwneud cais am PIN. Wedyn, mae rhaid i fi geisio defnyddio'r PIN ar y cais gwe. Ond nawr, mae'r peth yn dweud, 'We are unable to apply your electronic signature because we are currently missing a match from the Social Security Administration... Please try again in 1-2 business days.'

BETH? Dydy'r SSA ddim yn gwybod fy mod i'n bodoli? Pam ydw i'n talu fy nhrethi incwm?!

Felly, dyma fi, yn dyrnu fy mhen erbyn y desg. Os wyt ti'n gwybod o rhywun sydd eisiau rhoi arian i Americanwr, ysgrifennu wrtha i, plîs.

Rydw i eisiau rhegi am hyn, ond ddylwn i ddim -- mae'n posib y bydd y wasg yn edrych ar y blog 'ma rhywbryd dros y dyddiau nesaf. Mae'r BBC yn anfon datganiad bach amdanaf i'r wasg Cymru, yn dweud am fy hanes yn dysgu Gymraeg yn defnyddio'r gwefan Learn Welsh bron yn gyfan gwbl.

Fe ddylwn i bod ar y rhestr gyflogau BBC, y ffordd rydw i'n siarad amdanyn nhw. Ond wrth gwrs, fe all y BBC yn tynnu sylw ar y ffaith fy mod i wedi bod yn defnyddio eu gwefan nhw yn rhad ac am ddim ers mis Hydref 2000. Fel Americanwr, dw i ddim yn talu trwydded teledu -- dyna £759 doeddwn i ddim yn talu, hyd yn oed fy mod i'n defnyddio Learn Welsh pob dydd, a dw i'n gwrando a Radio Cymru, a dw i'n gwylio'r newyddion, a dw i'n darllen Cymru'r Byd ac yn y blaen. Dw i'n cael y cyhoedd Prydeinig i diolchi am fy Nghymraeg. Diolch pawb.

But, hey, we saved your ass in the war.

Dyma beth mae'r ceidwadwyr Americanaidd yn hoff o dweud. Pob tro wyt ti'n beirniadu'r UDA ac yn awgrymu bod Ewrop yn symud mewn cyferiad gwellaf, fe fydden nhw'n dweud, 'We saved their ass in the war.

Faint amser allem ni defnyddio hynny, ti'n meddwl? Rydyn ni wedi anghofio bod Ffrainc wedi rhoi ein gwlad atyn ni (doedd y byddin trefedigaethol ddim yn trechu'r Prydeinwyr -- roedd y byddin Ffrengig yn gwneud hynny ar y rhan fwyaf), felly ar rhyw pwynt, fe wnawn i'n gorfod stopio'r lol 'na. Ond fyddem ni ddim yn stopio'n fuan, dw i ddim yn credu.

Meh, s'dim ots. Rydw i'n gadael yn fuan. Ddylwn i ddim yn gwastraffu fy amser yn cwyno am pethau Americanaidd. Cyn gynted â gallaf i defnyddio'r cais gwe FAFSA, fe fydda i'n hapus. Wel... am y tro. Ar ôl gwneud cais ar gyfer benthyciadau, dw i'n gorfod anfon gwybodaeth at Prifysgol Caerdydd, hefyd dw i'n gorfod ffeindio cwmni symudyddion, ac hefyd, wrth gwrs, mae rhaid i fi ffeindio fflat yn Caerdydd. Lawer o hwyl.

Monday, 6 February 2006

Cymraeg yn y Super Bowl

Roedd cyfle ar gyfer yr gwbl Unol Daleithiau i clywed Gymraeg neithiwr mewn hysbyseb Super Bowl.

Yn aml, mae'r hysbysebion Super Bowl yn tynnu mwy o sylw na'r gêm, ac roedd o leiaf hanner yr wlad yn gwylio.

Roedd y Gymraeg mewn hysbyseb ar gyfer HeresToBeer.com, a fe galli di'n clywed tîm rygbi yn dweud 'iechyd da.'

Mae Sarah wedi sylweddoli hyn hefyd. Pan gwelais i'r hysbyseb 'ma, fe es i'n gwallgof. Roeddwn i mewn grwp fawr o ffrindiau.

'Welsh! Welsh! Did you hear that? They spoke Welsh!' fe gweiddais i.

Fy ffrindiau jyst roedd yn syllu arna i.

'Uhm, when do you leave?' fe gofynnodd fy ffrind.

Sunday, 5 February 2006

5 Chwefror


5 Chwefror
Originally uploaded by ChrisCope.
Super Bowl Sunday ydy heddiw. Mewn munudau, fe fydd fy ngwraig a fi'n mynd a tŷ ffrindiau i gwylio'r gêm fawr.

Peth enfawr ydy'r Super Bowl, wrth gwrs. Mae'n bron o gŵyl swyddogol, ac yn adlewyrchu bywyd Americanaidd mwy nag unrhywbeth arall -- fawr, swnllyd, drud, dros ben llestri. Mae'r papur newydd wedi dweud heddiw y gwyliodd 134 miliwn pobl y Super Bowl yn 2005; tri misoedd o'r blaen, yn mis Tachwedd 2004, pleidleisiodd dim ond 117 miliwn yn yr etholiad arlywyddol.

Friday, 3 February 2006

TiVo uffernol

Oes TiVo ym Mhrydain? Peiriant i recordio dy hoff rhaglenni ar y teledu ydy hwn, yn defnyddio rhyw fath o cyfrifiadur yn lle na tâp neu CD.

Eithaf defnyddiol ydy'r peth oherwydd fe allet ti'n aros teledu byw, a does dim angen i gwneud gormod o gwaith i recordio rhaglen. Pan dw i'n gwylio rygbi (dw i'n gallu gweld ychydig o gemau o tro i tro ar Setanta), dw i'n gallu aros i mynd am mwy gwrw, neu 'ailddirwyn' i gweld pethau diddorol -- fel yn y gêm rhwng Munster a'r Dreigiau, pan fe dderbyniodd un o'r chwaraeon cic ddrwg yn ei werddyr.

Ond y peth mileinig am TiVo ydy'r synau bod yr peth yn gwneud -- 'bw-dîp. Pob tro wyt ti'n gwneud rhywbeth, bw-dîp. Petasit ti eisiau newid yr sianel, bw-dîp. Petasit ti eisiau gweld yr amserlen rhaglenni, bw-dîp. Bron o popeth wyt ti'n geisio gwneud gyda'r ffycyn Tivo 'na yn gwneud yr bw-dîp uffernol 'na.

A, mae'n digon i gyrru ti dros y ben pan fy nhad yn gwylio teledu. Mae rhaid iddo fe bod yn byddar, oherwydd mae'n gwrando ar y teledu'n mor swnllyd. Fe allet ti'n clywed y teledu yn yr ystafell gwely islawr hyd yn oed tra mae'r drws yn cau! AAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAA!

Ond beth medraf i gwneud? Y tŷ fy rhieni ydy hyn -- dim fy dy i. Felly, dw i'n gwestai yma, a does dim lle i cwyno.

Fe fydda i'n ychwanegu hyn -- yn byw gyda fy rhieni -- ar y rhestr o heriau bod rhaid i fi trechu cyn symud i Caerdydd.

Y lle tân

Dw i'n mynd yn gwbl gordeimladwy dros y lle tân.

Thursday, 2 February 2006

Mustn't grumble

Mae'n noson arferol. Fy ngwraig a fi'n ydy'n geisio bod yn dawel ar ôl dydd hir, a mae fy nhad yn gwylio'r teledu ar 2,456 desibel. Wiiiiii! Y hwyl o'n byw gyda eich rhieni!

Beth bynnag, mae'n nos heddychol. Fe wnes i tân yn y lle tân, a mae fy ngwraig yn eistedd yn cadair cysurus yn y ffrynt o fe, yn darllen. A dyma fi yn geisio meddwl am pethau i blogio. Mae'n bywyd OK. Mae'n hawdd iawn i teimlo rhwystredig gyda pethau, ond dydyn nhw ddim mor ddrwg a hynny.

Pryderiwr ydw i wrth natur. Dw i'n pryderu am gormod o pethau, a dw i'n caniatáu’r pethau 'na i llusgo fi lawr o tro i tro. Dydy hyn ddim yn tymer da ar gyfer iechyd da, dw i'n gwybod. Ac un o'r rhesymau fy mod i'n mor hoff o pobl Brydain ydy'r ffaith eu bod nhw ddim yn gwario cymaint o amser gyda eu pennau i fyny eu tinau, fel Americanwyr.

Dw i'n cofio bod yn digalon oherwydd yr ast ddwyn-anaid anfad o gyn-gariad, yn ôl ym Mhortsmouth, a doedd fy ffrindiau Sais ddim yn caniatáu fi i cadw ymlaen mewn yr tymer hyn dros amser hir: 'You're still upset over her? Weren't you whinging about this same girl last week!'

Tipyn o stereoteip ydy gwbl yr stwff 'na am y stiff upper-lip ac yn y blaen, dw i'n gwybod, ond mae'n tipyn o gwirionedd iddo fe, hefyd. Ac mae'n agwedd da i rhywun fel fi.

Dw i'n geisio cofio fy ffrind Katy o Portsmouth, pwy fuasai byth yn caniatáu fi i bod yn digalon. Hi ydy rhywbeth arall am fy mod i'n meddwl ar hyn o bryd tra dw i'n edrych yn ôl dros y 10 blynedd diwethaf (roeddwn i'n siarad am hyn yn fy mhost clywedol heddiw). Mae'n cymaint o pethau i gwneud cyn mynd i Caerdydd, ond does dim rheswm i bod yn anhapus amdanyn nhw. Felly, dw i'n ymddiheuro am rhai o'r bostiau cwynfanllyd diweddar. Fe fydda i'n geisio bod yn mwy difyr.

10 blynedd yn ôl

Dw i'n edrych yn ôl at 1996.


MP3 File

Wednesday, 1 February 2006

Diolch yn fawr, Zoe

Mae rhaid i fi ddweud diolch yn fawr iawn wrth Zoe, oherwydd doeddwn i ddim yn gwybod fy mod i'n gallu gwylio'r rhaglenni 'Caerdydd' a 'Wedi 7' ar y gwe.

Pa mor wych! Mae'r ansawdd y livestream yn gwych, fel gwylio teledu. Mae hyn wedi gwneud fy mis, i dweud y leiaf!

Fe gwyliais i'r pennod gyntaf 'Caerdydd' heno. Dw i ddim yn hoffi'r isdeitlau Saesneg, ond roeddwn i'n gallu rhoi stribed papur dros y sgrin i hosgoi'r broblem. Roedd yn hwyl iawn i gweld rhaglen go iawn yn Gymraeg (fel Zoe, dw i'n blino o gwylio'r 'Newyddion' bob amser), ac yn dinas fy mod i'n nabod ychydig. Roeddwn i'n gwylio'r rhaglen ac yn dweud, 'Hey, I've been there! I know where that is!'

Cyn yn ddysgu am y rhaglenni ar y gwe, roeddwn i mewn tymer drwg heddiw. O hyd dw i'n pryderu am ffeindio llety yn Gaerdydd (peth doniol i fi am y rhaglen 'Caerdydd' -- pawb ohonyn nhw'n byw ar lan y bae. Pan fues i yn Caerdydd y tro diwethaf, roeddwn i'n fy ngofyn fy hun, 'Pwy yn y byd mawr sydd yn byw yma?' Rŵan, dw i'n gwybod -- y pobl ar rhaglenni teledu). Dw i o hyd yn aros i clywed yn ôl gan yr asiantau ystâd.

Fe gwariais i eithaf bach o hamser yn edrych ar y gwefannau asiantau heddiw. Dw i'n fodlon dros y ffaith bod rhai lleoedd y gallwn i'n fforddio (prin), ond dw i'n pryderu beth bynnag. Sut fydda i sicrhau'r fflat heb bod yn Gaerdydd? Ond dw i ddim eisiau byw mewn B&B dros amser hir tra dw i'n chwilio, neu hedfan allan i ffeindio llety ac hedfan yn ôl.

Ond amser hir ydy hi cyn fe fydd Rachel a fi'n symud, a cyn hynny mae pethau arall i gwneud. Y penwythnos 'ma dw i'n bwriadu gwneud fy nhrethi incwm. Ac ar ôl hynny, dw i'n gorfod gwneud cais am benthyciadau myfyriwr (gorfod gwybod gwybodaeth o'r ffurflenni trethi ar gyfer gwneud cais am y benthyciadau). Lawer o hwyl yn llenwi ffurflenni, felly.