Friday, 31 March 2006

I fyny ac i lawr

I ddweud y gwir, dw i wedi bod yn teimlo digalon ers dod yn ôl o Ddulyn.

Roeddwn i'n digon hapus gyda Dulyn (er, mae rhaid i fi ddweud fy mod i ddim yn hoffi y ddinas 'na cymaint â Chaerdydd), ond fuodd y gynhadledd fy ngwraig ddim cyn cynhyrchiol â roeddwn i'n gobeithio, dw i ddim yn meddwl. S'dim ots am beth ydw i'n meddwl, efallai -- mae fy ngwraig yn dweud ei bod hi'n teimlo fel fu'r taith gwerth yr ymdrech. Felly ddylwn i ddim yn cwyno, efallai, ond o hyd dw i'n poeni dros ei ffeindio swydd.

Hefyd, dw i ddim yn hapus i bod yn ôl yn yr UDA. Wrth dweud hynny, dw i'n golygu bod bywyd yma'n teimlo fel "holding pattern;" dw i'n aros i adael. Mae tri mis i fynd cyn Rachel a fi'n symud i Gymru, a dw i eisiau symud ymlaen gyda phethau.

Ond efallai dydw i ddim yn barod eto. O hyd dw i'n geisio ffeindio digon o arian ar gyfer prifysgol. Mae'n edrych fel allaf i ffeindio benthyciadau, ond fe fydda i rhoi fy enaid i'r banc mewn cyfnewidfa. Ac hefyd, dw i ddim yn siŵr y bydd y benthyciadau yn digon o arian, felly efallai fydd rhaid i fi ffeindio banc arall ag eu gofyn nhw am mwy o arian.

Felly, ar y diwedd o'r taith Prifysgol Caerdydd 'ma, fe fydda i mewn dyled enfawr (o leiaf £30,000 byddwn i ddweud). Mewn pob cyfweliad am fy mhrofiad o ddysgu Cymraeg dw i'n dweud fe hoffwn i ysgrifennu nofelau yn y Gymraeg -- rydw i'n gobeithio y fyddech chi eu prynu nhw, oherwydd fydd yr angen yr arian arna i!

Ac yfory, mae rhaid i fi gofio i brynu tocyn loteri.

Thursday, 30 March 2006

Ac yfory ac yfory...

Ydy hi ddydd Gwener eto? Mae'r wythnos 'ma -- hyd yn oed ches i ddim gorfod mynd i 'r swyddfa ar ddydd Llun -- wedi bod yn symud mor araf. Dw i wedi blino lan a dw i'n teimlo fel does dim digon o amser gyda fi.

Fe wariais i fy more heddiw yn geisio gweithio allan y manylion am sicrhau benthyciadau ar gyfer prifysgol. Dw i'n teimlo tipyn llai o banig na neithiwr, ond nid wrth lawer. O hyd mae nifer o bethau i wneud arna i, ond dw i'n teimlo fel y fydden nhw'n digwydd mewn digon o amser.

Ond, unwaith eto, does dim digon o amser gyda fi i wneud post. Efallai yfory.

Wednesday, 29 March 2006

Difaterwch


26 Mawrth
Originally uploaded by ChrisCope.
Diawl, dw i'n teimlo difaterwch tua bron o bopeth yn fy mywyd ar hyn o bryd. Mae jet lag arna i o hyd, a dw i jyst eisiau peidio gwneud unrhywbeth -- ond mae 'na llawer o bethau i wneud.

Dw i'n dechrau i deimlo panig dros y broses o sicrhau benthyciadau ar gyfer prifysgol. Dw i wedi treulio y gwbl nos heno yn geisio deall y broses ddryslyd, ac yfory fydd rhaid i fi ffonio'r prifysgol i ofyn rhai cwestiynau.

Dw i ddim eisiau gwneud hyn. Dw i eisiau cysgu. Dw i eisiau darllen ac ysgrifennu, a ddim gorfod talu sylw am y broses o'n ffeindio ac yn ennill arian.

Rydw i wedi bod yn esgeuluso’r blog 'ma, dw i'n gwybod, ond mae rhaid i fi wneud post bach arall heno. dw i'n addo i geisio yn galetach yfory.

Monday, 27 March 2006

Yn ôl ac yn flinedig

Dw i'n yn ôl o Ddulyn, ond does dim egni gyda fi ar hyn o bryd i flogio. Fe wnaf i flogio yfory.

Tuesday, 21 March 2006

I Ddulyn

OK, ysgrifennais i ddim post ar ddydd Sul. Neu ar ddydd Llun. A nawr, does dim digon o amser gyda fi i ysgrifennu post da oherwydd mae fy ngwraig a fi'n geisio trefnu ar gyfer taith i Ddulyn.

Rydyn ni'n mynd yno ar gyfer cynhadledd dietegydd rhyngwladol. Dw i'n gobeithio y fydd hyn yn helpu fy ngwraig yn ffeindio gwaith yn Gymru. Dw i'n mynd dim ond i fynd -- gŵyl ydy hyn i fi, a dw i'n edrych ymlaen ati.

Fe fyddem ni yno tan ddydd Mawrth nesaf, felly fe fydda i'n dychwelyd i flogio wedyn.

Sunday, 19 March 2006

Croeso

Efallai wyt ti wedi clywed am fy mlog heddiw ar y rhaglen "Mousemat." Diolch yn fawr am dod i'r flog. Dw i'n bwriadu gwneud post llwyr yn hwyrach heddiw.

Friday, 17 March 2006

Dydd Padrig Sant

Mae'r ffurflen Dysgwr y Flwyddyn wedi cyrraedd yn y post ddoe -- diolch yn fawr iawn i Rhys. Mae'n edrych fel fydd hi ddim yn ormod o drafferth. Nawr, mae rhaid i fi feddwl am sut i gwneud fy hun yn swnio fel dw i'n ffycin gwych.

Rydw i'n bwriadu gweithio ar y cais ar ddydd Sadwrn a ddydd Sul hyn.

Mae Dydd Padrig Sant yn heddiw, wrth gwrs (neu ddoe, yn dibynnu ar bryd wyt ti'n darllen hyn). Efallai dydy hyn ddim yn gŵyl fawr yn Gymru, ond dichon wyt ti'n gwybod ein bod ni'n dathlu yn fawr yma.

Mae o leiaf 2.5 miliwn pobl yn mynd i'r parêd yn Ddinas Efrog Newydd bob blwyddyn, ac dros yr wlad i gyd, mae paredau yn mynd ymlaen mewn bron o bob dinas. Fe fydd barêd yn St. Paul a pharêd ym Minneapolis. Pan roeddwn i'n ifanc, dw i'n cofio'r dinas San Antonio, Texas, yn lliwio'r afon Guadalupe yn wrydd.

Mae fy mhen-blwydd yn dod tri dyddiau yn hwyrach, ar 20 Mawrth, felly mae Dydd Padrig Sant erioed wedi cael soft spot yn fy nghalon i. Pan roeddwn i'n plentyn, doedd dim llawer o arian gyda fy nheulu, felly roedd fy mhen-blwyddi yn dipyn pathetig. Wel, ddylwn i ddim yn dweud hynny. Doedden nhw ddim yn bathetig i fi wrth gwrs, roeddwn i'n hapus iawn iawn.

Dw i'n cofio'n ddathlu sawl pen-blwyddi ar y fferi. Mae 'na fferi sydd yn teithio o Galveston i Port Bolivar, yn Texas. Dydy'r fferi hyn ddim yn fel y math sy'n teithio i Ffrainc. Dim ond rhywbeth syml i gario ceir o le i le, gyda observation deck bach. Ond mae hi'n digon o hwyl i blentyn. Mae'r fferi yn di-dâl, felly roedd fy rhieni yn hoff iawn o fynd gyda fi a fy mrawd i dreulio'r dydd ar y môr (mewn ffordd o siarad).

Dw i'n cofio un pen-blwydd yn arbennig, pan fu fy mhen-blwydd ar dydd Mawrth, felly, fe ddathlodd fy nheulu ar y ddydd Sadwrn cynt -- Dydd Padrig Sant. Roedd grŵp o hogiau pwy wedi penderfynu i dreulio eu diwrnod nhw yn yr un modd â ni. Ond roedden nhw wedi dod gyda barilan o gwrw gwyrdd. Roedden nhw'n llawen iawn wrth gwrs, ac wedyn penderfynon nhw i ganu "Happy Birthday" i fi. A fe ffeindion nhw grŵp o bron 40 pobl ar y fferi i ganu "Happy Birthday" i fi. Fi! Y bachgen gwirion gyda'r dillad dwl a'r gwallt gwyllt!

Felly achos o hyn -- a'r ffaith bod darn o fy nheulu'n Gwyddelod, a'r ffaith y gafodd Dewi Sant ei eni yn Gymru, a'r ffaith fy mod i'n hoff iawn o gwrw -- dw i'n dathlu Dydd Padrig Sant bob blwyddyn. Dw i'n bwriadu cael pryd bwyd a nifer o beintiau o Murphy's eleni, ond dw i ddim yn hapus gyda phethau.

Fel rheol byddwn i'n gipio'r dydd i ffordd o'r swyddfa. Ond eleni, fy nghyflogwyr bastard yn gofyn fi i gweithio'n hwyr. Rydw i'n mor grac gyda nhw dros hyn. Fe fydd fy nathliadau'n digwydd yn y cartref, ar ôl diwrnod hir o gwaith.

Felly, os wyt ti'n dathlu Dydd Padrig Sant heddiw, fe gofynnwn di i yfed peint ychwanegol i fi.

Thursday, 16 March 2006

Y ffordd o Gymraeg

Mae'r cyfweliad gyda Radio Wales wedi mynd yn da, dw i'n meddwl. Ond roedd fy arfer arferol o ddweud pethau od yn sgleinio. Fe gymharais i'r hanes Cymraeg i Taoism.

Fe fydd y cyfweliad cael ei ddarlledu ar ddydd Sul.

Dim mor wych â hynny

Roeddwn i'n nerfus y byddai hyn yn digwydd -- dw i ddim yn gwybod Cymraeg. Efallai wyt ti wedi gweld y sgwrs sydd yn mynd ymlaen yn y post 'ma, am y ffaith fy mod i wedi bod yn defnyddio y geiriau anghywir. Dw i'n teimlo mor dwp nawr.

Dw i'n addo i harchebu llyfr gramadeg y penwythnos 'ma.

A cofia fy mod i ddim yn cwyno. Dw i'n gwerthfawrogi'r help. Sut allwn i fod Dysgwr y Flwyddyn, neu siaradwr rhugl, os dw i ddim yn dysgu?

Gyd llaw, fe fydda i'n fod yn siarad am fy mhrofiad dysgu eto ar ddydd Sul ar Radio Wales. Mae rhaid i fi godi yn gynnar iawn y bore fory i fod yn barod am y cyfweliad. Yn Saesneg fydd yr cyfweliad hyn, felly does dim esgus pan dw i'n gwneud ffŵl o fy hunain.

I ychwanegu i'r hwyl o fy mywyd, mae Minnesota'n disgwyl storm eira trwm arall heno, felly fe fydd y gyriad i'r swyddfa hwyl iawn iawn. Mae nhw'n dweud bod y mwyafrif o'r pobl sydd yn symud i Minnesota yn dod o California. Mae hyn yn dangos pan mae'n bwrw eira.

Fe faset ti'n disgwyl (neu ddylwn i ddweud 'byddet ti'n disgwyl' ar gyfer 'you would think??) y fasai pobl California ddim yn gwybod sut i yrru yn yr eira, a fe faset ti'n bod yn gywir. Mae pawb yn gyrru fel doedden nhw erioed bod ar y ffordd o'r blaen yn eu bywydau.

Felly, mae rhaid fi osod o'r neilltu awr lawn am gyrru i'r swyddfa bore fory. Yn arfer byddai'r taith yn cymryd 20 munud.

Wednesday, 15 March 2006

Post bychan

Fe dderbyniais i e-bost o'r Eisteddfod heddiw, o'r diwedd. Mae nhw'n dweud ei bod hi'n posib i dalu y ffioedd Eisteddfod gyda cherdyn credit. Felly, dyna'r broblem 'na wedi trwsio. Nawr, mae rhaid i fi obeithio y fydd y ffurflenni yn cyrraedd ataf mewn digon o amser.

A dw i ddim eisiau sôn am ffeindio'r amser i wneud popeth. Dw i'n dysgu allan o'r brofiad 'ma taw os dw i eisiau bod rhan o'r Eisteddfod, mae rhaid i fi get my shit together yn gynharach.

Tuesday, 14 March 2006

12/13 Mawrth


12 Mawrth
Originally uploaded by ChrisCope.
Yn arferol fe faswn i wedi rhoi'r llun 'ma (ar y dde) ar fy mlog ar brynhawn Sul. Pob bore Sul, dw i'n tynnu llun o'r goeden tu fas y tŷ fy rhieni. Fe wnes i'r un peth y ddydd Sul hyn, ond ches i ddim gyfle i rhoi'r llun ar fy mlog, oherwydd roeddwn i'n gweithio ar fy nghyfansoddiad ar gyfer Eisteddfod.

Fe wariais i nos Sadwrn a bore Sul yn gweithio ar y peth, ond er gwaethaf y gwaith, dw i ddim yn hapus gyda fe. Mae rhywbeth yn fy mola i'n dweud wrtha i y fydda i ddim yn ennill y gwobr. A, yr teimlad 'na yn gwneud fi ansicr am gwneud cais ar gyfer Dysgwr y Flwyddyn.

Big girl's blouse ydw i, on'd ydw, gyda hyder mor wan.

Cyn fuan â'r ffurflen Dysgwr y Flwyddyn yn cyrraedd yn y post, fe wnaf i ddechrau ar y cais. Dw i'n disgwyl y ffurflen i gyrraedd erbyn y penwythnos 'ma -- dw i'n gobeithio i ei chwblhau hi erbyn ddydd Llun. Ac wedyn, dw i'n bwriadu bostio popeth o Iwerddon yr wythnos nesaf. Fe faswn i'n tybio y fuasai bost o Iwerddon yn cyrraedd i Gymru yn gyflymach na phost o'r Unol Daleithiau.

Dw i'n meddwl y fydda i'n caniatáu y broses y ffurflen yn penderfynu pryd dw i'n symud i Gymru yn yr haf. Os dw i'n cael fy newis ar gyfer y rowndiau cynderfynol yn y gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn, fe fydd fy ngwraig a fi'n symud i Gymru yn gynnar mis Gorffennaf. Fe faswn i'n gwneud hyn i rhoi mwy o hamser yn Gymru i fi, i helpu fi gyda fy Nghymraeg cyn Eisteddfod.

Ond, petasai dim siawns, fe faswn i aros tan ar ôl 22 Gorffennaf i adael yr Unol Daleithiau. Pen-blwydd fy ffrind gorau fydd cael ei ddathlu ar y ddydd 'na.

A dw i'n siŵr bod y cwbl o hyn yn diddorol iawn i ti. Sori...

Llai na 24 oriau ar ôl fe dynnais i'r llun 'na ar y dde, fu* bwrw eira mawr yma ym Minnesota. Roedd yn digon hyfryd i gweld blanced o eira yn gorchuddio y byd yn y bore, ond mae hi wedi gwneud y cymudo i mewn i'r swyddfa'n amhosibl.

Roedd rhaid i fi aros adref dros rhai oriau, ac yn gweithio o'r gartref. Erbyn hanner dydd, roedd fy nhad yn barod i fudo i'r swyddfa. Ond hyd yn oed yn y hanner dydd, roedd y ffyrdd yn ddrwg ac yn rhewllyd.

Roedd y swyddfa yn lled wag, wrth gwrs, oherwydd fu'r mwyafrif o'r bobl wedi penderfynu i aros adref. Ar ôl ychydig oriau ddiflas iawn, roeddwn i'n ôl tu blaen y lle tân. Nawr, mae rhaid i fi fynd i'r gwely, ar gyfer bod yn gallu gwneud yr un peth y bore fory.

*Dw i ddim yn gwybod pryd i ddefnyddio 'fu' a phryd i ddefnyddio 'roedd' -- fedret ti'n helpu fi gyda hyn?

Gwallt

Ydy hi amser i dorri fy ngwallt?

Friday, 10 March 2006

Dulyn

Wel, fedrwn i ddim yn claddu fy wyneb rhwng unrhyw bronnau heno. Dw i'n sâl -- dw i wedi gwthio fy hun yn gormod neithiwr, dw i'n meddwl.

Dydy hyn ddim yn gwneud fi'n hapus o gwbl. Dw i'n gobeithio y fydda i'n wella'n fuan. Yn gyntaf, dw i o hyd yn geisio ymarfer ar gyfer y ras y penwythnos nesaf. Dw i'n bwriadu mynd am rhedeg galed ar ddydd Sadwrn 'ma i helpu fi bod yn barod. Ac hefyd, ar 21 Mawrth, fe fydd fy ngwraig a fi'n mynd i Dulyn.

Mae fy ngwraig yn mynd yno ar gyfer cynhadledd dietegwyr, a rydw i dim ond yn mynd gyda hi oherwydd dydy hi ddim yn hoffi mynd i dinasoedd newydd ar ei phen ei hun. Felly, tra bydd hi'n siarad lol gyda dietegwyr gan o gwmpas y byd, fe fydda i'n bod twrist llwyr. Fe fydda i'n dysgu os mae gwir i'r gredo 'na bod y blas Guinness yn wahanol yn Iwerddon.

Dw i'n deall y doedd Geraint ddim yn mwynhau ei daith diweddar yno, ond es i ddim erioed i Ddulyn o'r blaen. Felly dw i'n edrych ymlaen at y daith. Fe brynodd fy nhad llyfr 'Dublin's 25 Best' i fi. Llyfr gyda awgrymiadau ar lleoedd i weld. Er enghraifft, y National Museum. Dydy'r bracty Guinness ddim yn yr llyfr 'ma, ond dw i'n bwriadu mynd yno hefyd.

Cyn hynny i gyd, fe fydd rhaid i fi orffen fy nghais ar gyfer Dysgwr y Flwyddyn, felly mae wythnos hir ymlaen.

Thursday, 9 March 2006

Yn pryderu am ddehongliad

Dw i'n pryderu y fydd pobl ddim yn gwybod fy mod i'n geisio bod yn ddoniol.


MP3 File

Yn rhedeg

Dw i'n lluddedig iawn heno. Dw i'n bwriadu ymuno ras ar y penwythnos nesaf a dw i'n geisio gwneud cymaint o ymarfer corff â phosib cyn ddydd Mercher. Ar ôl hynny, fe fydda i ymlacio tan yr ras ar ddydd Sul.

Fe fydd y ras yn dod un ddydd cyn fe fydda i'n troi 30 oed. Felly, mae rhyw fath o feddwl gwrywaidd twp yn gwneud fi eisiau i guro fy amseriad o'r llynedd. Dw i'n meddwl y gallaf i gwneud hyn -- ras dim ond 8k ydy hyn, a dw i'n rhedeg mor bell âg hynny bron o bob dydd.

Ac wedyn, ym mis Ebrill, dw i'n bwriadu rhedeg mewn ras 10k. O hyd dw i ddim wedi penderfynu am ymuno'r hanner marathon Caerdydd. Y broblem gyda rhedeg mewn ras hir fel 'na ydy hyn: allet ti ddim yn yfed cwrw dros o leiaf un wythnos cyn rhedeg. Ac mae'n well i ymwrthod dros hyd yn oed hirach.

Dim cwrw a phoen yn fy nghoesau; dw i ddim yn siŵr fy mod i eisiau hynny. Mae ers 15 Medi i benderfynu gyda fi.

Naill neu'r llall, dw i'n gobeithio y fydd y trefnwyr y ras yn gwneud swydd well o gadw y parc yn daclus ar ôl y ras. Fe fues i yn Gaerdydd ym mis Hydref, newydd ar ôl y marathon, a dw i'n cofio gweld pecynnau Lucozade ym mhobman.

Dw i ddim yn gwybod pam dw i'n hoffi rhedeg. Esgus da i yfed cwrw ydy e. Dw i'n gallu yfed cwrw heb bryderu gormod am godi pwysau.

A dw i'n gallu dal ar y breuddwyd 'na (s'dim ots am ba mor afrealistig ydy e) o gael benyw ifanc hardd yn fflyrtan gyda fi. Dw i'n meddwl am bethau fel hyn nawr fy mod i'n heneiddio: 'Dw i ddim eisiau helynt neu unrhywbeth -- dw i'n hapus iawn yn fy mywyd -- ond fe fuasai hi'n neis, peth da ar gyfer yr ego, petasai fenyw ifanc hardd yn siarad gyda fi; petasai hi'n chwerthin ar fy jôcs twp ac yn gwneud fi teimlo fel, wel, fel fy mod i ddim yn rhy hen.

'Ond sut allwn i wneud hyn? Sut allwn i ddarbwyllo Sarra Elgan i gwthio fy wyneb yn ei bronnau?* Bod yn gefnog, wrth gwrs. Ond, oherwydd dydw i ddim yn gefnog, o leiaf dw i'n gallu cadw yn iach.'

Yn iach ac yn dlawd -- dyma fi! OK, efallai fydd fenyw arall fyth yn fflyrtan gyda fi eto. Mae hynny'n OK gyda fi. Mae fy ngwraig yn fenyw hardd iawn; dw i'n gallu cadw'n iach drosti hi.

*Dw i'n mynd yn rhy bell, o'nd yw i? Allaf i ddim yn stopio fy hun!

Wednesday, 8 March 2006

Ti -- dos i fy sied!

I barhau thema, mae rhywun -- pwy bydd aros yn dienw -- wedi anfon dolen i wefan Lowri Evans i fi heddiw.

Yn ôl ei gwefan hi: "Lowri Evans's distinctive and confident vocals are the first thing that strike you"

Na. Mae rhywbeth arall yn taro fi yn gyntaf, i dweud y gwir.

Yn y llun 'na, mae golwg fel mae hi'n eistedd ar y llawr. Efallai mae hi wedi cwympo o dan y pwysau.

Fe allet ti'n ei gweld hi nos Gwener yn Llanwrytd Wells*. Does dim gair os fydd hi'n gwisgo iwnifform volleyball.

*Folk 'n' Ale Festival? Dw i'n hoffi'r syniad 'na -- rydw i'n enwedig hoff o'r peth diwethaf.

Cenawon!*

Roeddwn i'n gwylio 'Cân i Gymru' diolch i tudalen band llydan S4C jyst nawr. Pwy ydy'r ferch 'na gyda'r fron fawr -- Sarra? O ble ffeindion nhw hi?

Dw i eisiau ei chadw hi mewn sied, ar gyfer 'personal use.'

*Cyfeiriad i reslo WWE ydy hyn

Hapus i adael

Roeddwn i'n meddwl heddiw am y ffaith y hoffwn i chwarae rygbi eto pan dw i'n symud i Gaerdydd, petaswn i ffeindio grŵp o hen bois, ac wedyn, fe llwyddais i troi fy ngwddf tra roeddwn i'n ymarfer corff. Rhy frau ydw i, efallai.

Beth bynnag, o leiaf fe allaf i siarad Cymraeg o hyd. Efallai wyt ti'n cofio wythnos yn ôl, pan roeddwn i'n pryderu am sut i gwneud cais ar gyfer Dysgwr y Flwyddyn. Wel, diolch i Rhys, fe fydd yr ffurflen gais yn fy nwylo yn fuan ac wedyn fe gallaf i ddechrau ar y broses o gwneud cais.

Does dim syniad gyda fi os cyfle o gwbl gyda fi i lwyddo, ond fe ddylai'r broses gwerth yr ymdrech, dw i'n siŵr (dyma fi yn barod geisio swnio fel 'gracious loser'). Fe fydd y profiad yn gwerthfawr iawn i rhywun fel fi, sy'n bwriadu gwthio ymlaen gyda ei Gymraeg. Mwy a mwy dw i'n hoffi'r syniad o geisio am Ph.D yn y dyfodol, ond mae hyn yn haerllug iawn pan mae Cymraeg wan gyda fi, a dw i ddim hyd yn oed wedi dechrau ar fy nghwrs eto.

Ac, os enillaf i ddim, s'dim ots i fi -- fe fydda i fod yn byw yn Gaerdydd ac i ffordd o Unol Daleithiau cadwrol. Fe allaf i fod yn hapus ar y ffaith 'na.

Mae'r gwlad 'ma'n troi i mewn i rhywbeth fy mod i ddim yn deall ym mhellach. Pan roeddwn i'n ifancach, meddyliais i mai ceidwadwr oeddwn i. Ac o hyd, dw i'n meddwl am fy hun (tipyn bach) fel bod yn cadwrol, ond yn ôl yr UDA sydd yn bodloni ar hyn o bryd, dyed-in-the-wool sosialydd ydw i; bradwr; casauwr rhyddfraint. Dw i ddim yn ffitio mewn yn yr wlad o fy ngeni.

Ddoe, mae'r dalaith South Dakota wedi gwahardd y mwyafrif o erthyliad. Does dim ots i fi yn fy mywyd personol, wrth gwrs. Priod ers saith blynedd ydw i a phetasai fy ngwraig yn cael ei beichiog, fe fuasem ni eisiau'r plant. Ond dw i ddim yn hoffi byw mewn gwlad sydd yn mor barod i gipio i ffwrdd hawliau. Dydy hyn ddim yn teimlo fel yr Unol Daleithiau go wir.

Sori, dw i'n siarad gwleidyddiaeth. Fy bwynt ydy hyn: fe fydda i'n hapus i symud.

Tuesday, 7 March 2006

Blogwyr Americanaidd

Dw i eisiau ffeindio ffordd i amlygu blogwyr Americanaidd.


MP3 File

Ffarwel 34

Mae Kirby Puckett wedi marw heddiw. Chwaraewr basbel oedd e, ac un o fy hoff sêr chwaraeon. Fe gafodd e strôc ar ddydd Sul a daeth e ddim yn ôl.

Pan symudodd fy nheulu i Minnesota, roedd Puckett yn chwarae dros y Minnesota Twins -- y tîm dros e chwaraeodd dros ei yrfa gwbl. Os wyt ti'n gwybod unrhywbeth am basbel, wyt ti'n gwybod mae'n anghyffredin iawn iawn i ffeindio chwaraewr sydd yn chwarae dros yr un tîm trwy ei yrfa.

Dw i o hyd yn cofio gwylio Kirby ym 1991, yn gêm 6 o'r World Series, yn taro y bêl i centerfield i ennill y gêm. Na, fe wnaeth e mwy na dim ond taro y bêl, diffeithiodd e'r bêl. Dw i'n cofio yn neidio allan y soffa ac yn pwyntio i'r teledu: 'Holy shit. Holy shit! HOLY SHIT! We won!'

Roeddwn i gyda grwp o ffrindiau, ac prin o hyd dw i'n gallu teimlo'r poen ar fy lais, oherwydd roeddem ni'n gweiddi cymaint ar ôl hynny.

Rydw i'n cofio hyn mor glir oherwydd roedd hynny, yn gwylio'r gêm 'na gyda ffrindiau, efallai y tro gyntaf y teimlais i, go iawn, fel roeddwn i'n ffitio mewn ym Minnesota. Felly, mae Kirby yn golygu Minnesota i fi, a'r hwyl o gwmni ffrindiau da.

Dim ond 44, oedd Kirby. Mae'n drist iawn. Doedd e ddim yn berffaith; tipyn o ladies man oedd e, i dweud y lleiaf. Ond mae'n anodd i gweld darn o... darn o fy hanes, darn o Minnesota, darn o fasbel yn llithro i ffordd.

Sunday, 5 March 2006

5 Mawrth


5 Mawrth
Originally uploaded by ChrisCope.
Dydd diflas iawn ydy'r ddydd Sul 'ma. Pan codais i'r bore 'ma, roedd hi'n bwrw cymysg o eirlaw ac eira. Dydd da i gwario tu mewn, yn darllen tu blaen y lle tân. A dyma'n union beth fy ngwraig yn gwneud ar hyn o bryd. Rydyn ni'n gwneud y mwyaf o'r lle tân 'na.

Ddoe, fe aeth Rachel a fi i ginio Cymdeithas Dewi Sant o Minnesota, ac roedd Tom yn dweud y gwir bod y mwyafrif ohonyn nhw'n lled hen. A dim ond dwy ohonyn nhw'n siarad tipyn o Gymraeg (ond dim digon i siarad gyda fi, dw i'n meddwl, oherwydd ffafrion nhw i siarad gyda fi yn y Saesneg).

Ond roedd pawb yn gyfeillgar iawn. Roedd llawer ohonyn nhw eisiau cynnig llongyfarchiadau i fi a fy ngwraig am y symud i Gymru, petasem ni rhywfath o arwyr. Ac roedd yn ddoniol i eu clywed nhw'n dweud wrtha i'n gyffrous i ble ddylwn i fynd pan dw i'n byw yno (a mae rhaid i ti ddweud 'yno' fel yno/Cymru ydy Falhala -- Yno).

'You'll have to go to Rhosshag-something-long-I-can't-pronounce, but it's absolutely beautiful, dwedodd un fenyw wrtha i.

Am Rhosllannerchrugog roedd hi'n siarad, dw i'n meddwl. Ond roedd yn diddorol i gweld taw roedd rhai ohonyn nhw heb dim diddordeb o gwbl mewn siarad un gair o Gymraeg. Ac roedd rhai ohonyn nhw (yn weddol hen, cofia) pwy nid erioed teithio i Gymru yn eu bywydau. Eu Cymru nhw'n dod o lluniau du a gwyn, a storion.

Fe gafodd y ginio siaradwr, Dr. Gareth John o St. Cloud State University, i dweud ei stori e am magu yn Gaerdydd. Roedd pawb yn 'ooh' ac yn 'ahh' ar y lluniau o Canolfan Mileniwm Cymru a'r Senedd newydd.

Nid arbenigwr ydw i, wrth gwrs. O hyd mae llawer gyda fi i ddysgu am Gymru, ond dw i'n gwybod bod y Canolfan wedi cael ei adeiladu erbyn hyn. Does dim cysylltiad neu ddealltwriaeth gryf gyda nhw am y Cymru sydd yn bodloni ar hyn o bryd.

Dw i ddim yn geisio swnio'n feirniadol. Dw i jyst yn ei ffeindio'n ddiddorol i gwrdd â phobl sydd yn deimlo hiraeth dros lle welon nhw ddim erioed.

A, fel Tom wedi dweud, mae nhw'n mwynhau emynau. Efallai daeth y foment fwyaf swrrealaidd pan dechreuodd y ginio gyda phawb yn canu 'America the Beautiful.' Fe edrychais i ar Dr. John pan roedd pawb yn canu -- roedd golwg bemused iawn ar ei wyneb.

Ond mae e'n grasol iawn. Mae e'n byw yn yr Unol Daleithiau ers 10 mlynedd, felly, mae e'n deall pa mor an-eironig fe all Americanwyr yn bod (yn siarad am eironig, dydy e ddim yn siarad Cymraeg chwaith, ac roedd rhaid iddo fe gofyn fi sut i dweud 'Prynhawn da' i bawb -- Cymro yn gofyn Americanwr sut i siarad Gymraeg).

Fe ges i gyfle i siarad gyda fe am sbel a chyfarfod eu deulu. Mae gwraig a dwy ferched addoladwy gyda fe. Roedd e'n dweud wrtha i ei fod e'n jyst yn ffeindio ei hun yn byw yn yr Unol Daleithiau.

'I came here on an exchange program and 10 years later I have a family and I live in Minnesota,' dwedodd e. 'It's all very odd.'

Od iawn. Efallai allwn i ffeindio fy hun mewn sefyllfa cyffelyb yn Gymru. Fe allaf i gobeithio, o leiaf.

Thursday, 2 March 2006

The Mexican food sucks north of here, anyway


Emma shows some pride
Originally uploaded by ChrisCope.
Mae fy ngwraig yn dymer da heno. Efallai mae ein dathliad Dewi Sant bach ni wedi ei bodloni.

Wnawn ni ddim gormod heno -- dim ond pryd gyda chig oen o'r gril a tatws pwtsh a llysiau. Fues i ddim hyd yn oed dathlu cymaint a Emma, pwy wedi hedfan y ddraig goch tu fas ei thŷ hi (ar y dde), lawr yn Oklahoma.

Yfory dw i'n bwriadu dathlu'r Ddydd Annibyniaeth Texas. Mae rhaid i fi ddweud fy mod i'n edrych ymlaen at hyn. Dw i'n mor od -- yn wastad eisiau bod rhywle fy mod i ddim. Heddiw, roeddwn i'n meddwl am Texas ac yn teimlo tipyn o hiraeth.

Mae hiraeth am fy nheulu, wrth gwrs. Mae'n hollol posib* y fydd fy nhad-cu a fy hen- modryb yn marw cyn gaf i gyfle i eu gweld nhw eto -- fydd dim lawer o gyfleoedd i deithio allan i Orllewin Texas pan rydw i'n byw mewn gwlad arall, mor bell i ffordd.

Ond hefyd, mae'n tipyn o hiraeth am y fywyd fues i eisiau pan roeddwn i'n blentyn. Pan symudodd fy nheulu i Minnesota, fe addawes i wrth fy hun y faswn i ddychwelyd i Texas pan roeddwn digon hen. Yn high school, roeddwn i'n wastad yn dweud wrth bobl y byddaf i fynd i Brifysgol Texas. Roeddwn i am fyw yn Austin ac yn nofio mewn Barton Springs bob dydd.

Es i ddim, wrth gwrs. A mae fy mywyd wedi troi allan yn wych -- mae gwraig brydferth (mewn pob ffordd, dw i'ngolygu hynny) gyda fi, a dw i'n byw tipyn o freuddwyd (wel, fe fyddaf i pan symudon ni i Gymru). Ond allaf i ddim yn helpu teimlo'n lleddf bach bach.

'Yesterday is yesterday,' dwedodd Bill Clinton unwaith 'If we try to recapture it, we will only lose tomorrow.'

Felly, ddylwn i ddim fod yn drist am y ffaith y ches i ddim y fywyd Texan fues i eisiau fel plentyn. Yn ei le, fe ges i fywyd cyffrous ac yn annisgwyl.

Allaf i ddim yn cwyno, dw i'n ceisio dweud.

(Gyda llaw, mae'r teitl y post 'ma yn dod o'r cân 'Come Back To Texas,' gan Bowling For Soup. Cân dwp ydy hi, ond dw i'n ei hoffi hi.)

*Neu, ddylwn i dreigladu hynny i 'hollol bosib?'

Wednesday, 1 March 2006

Yn ceisio dal yn gall

Mae'n mor anodd i byw gyda dy rhieni..


MP3 File

Pedwar mis araf hir

Fe ges i fy nhalu heddiw, felly, dw i'n gallu gosod o'r neilltu ychydig arian mwy ar gyfer Cymru. Mae £1,367.86 gyda ni ar hyn o bryd -- dim llawer o arian pan wyt ti'n bwriadu symud dros y môr. Fe fuasai’r tocynnau awyren yn cipio i gyd yr arian 'na. Dw i'n disgwyl ychwanegu o leiaf £2,278 erbyn y pryd y fydd Rachel a fi'n symud. O hyd, dydy hynny ddim llawer o arian.

Dw i'n pryderu bob dydd am arian. Mae'n rhywbeth sydd yn cnewian arna i o'r tu mewn. Dw i'n meddwl y fydd Rachel a fi'n symud i Gymru yn gynnar mis Gorffennaf, felly mae rhaid i fi geisio cynilo cymaint â phosib cyn hynny.

Ar hyn o bryd, o leiaf, dw i'n gallu bod yn hapus fy mod i wedi gosod rhywfaint bach o'r neilltu. Yn barod dw i'n gwneud yn wella na pan symudais i i Brydain y tro diwethaf (yn ôl ym 1996).

Ac hefyd, dw i'n gallu bod yn hapus gyda'r fywyd gyda fi. Ar hyn o bryd, mae fy ngwraig yn eistedd ar gadair gyfforddus wrth y lle tân, yn darllen. Mae'r sŵn y tân -- yn tanio ac yn popio -- yn mor heddychol. Os rhaid i chi fod yn trapped yn y tŷ eich rhieni, mae'r lle tân yn gwneud pethau yn dipyn wella.

Fe fydda i droi 30 oed yn y tŷ 'ma -- mae fy mhen blwydd yn 20 Mawrth. Ac wedyn, fe fydd fy ngwraig a fi'n mynd i Iwerddon y dydd nesaf ar gŵyl fach*. Dw i'n bwriadu cael popeth ar gyfer yr eisteddfod yn gorffen ac yn y post erbyn hyn. Ond dw i'n pryderu am hynny hefyd.

Fe anfonais i e-bost at y Swyddfa'r Eisteddfod ar ddydd Sul, ond ches i ddim ymateb yn ôl eto. Dw i ddim yn siŵr beth i gwneud os dw i ddim yn clywed yn ôl ganddyn nhw. Fe allaf i ceisio gwneud cais heb y ffurflen Dysgwr y Flwyddyn a heb yn gwybod y cyfyngiad gair ar y cyfansoddiad, ond dw i ddim yn yn siŵr sut i talu heb gael cyfrif banc Prydeinig. Fe fydda i croesi'r bont 'na pan dw i'n cyrraedd ati -- neu, ddim ond 'popeth yn ei dro,' yn ôl fy ngeiriadur arlein.

*Gŵyl i fi, o leiaf. Mae fy ngwraig am fynychu cynhadledd