Friday, 28 April 2006

Yr ail gyfle

Wel, mae'r asiant gosod 'ma yn chwarae gyda Rhys, felly gafodd e ddim gyfle i weld y tŷ heddiw. Ond, oherwydd mae Rhys yn gweithio tua fod yn sant, mae e wedi trefnu i weld y lle yfory (bore Gwener). Felly, mae cyfle arall i chi i weld y lle hefyd. Popiwch draw!

Dw i wedi treulio fy dydd heddiw yn rhythu ar fap o Gaerdydd a satellite view o'r ardal o ble fy ngwraig a fi eisiau byw. Dw i'n fel hogyn awtistig pan dw i'n edrych ar fapiau. Dw i ddim yn siŵr pam, ond dw i'n gallu rhythu ar fap am oriau.

Dw i'n hoff iawn o'r golwg lloeren bod Google yn cynnig. Fues i'n edrych ar y fap 'na trwy'r dydd heddiw, yn meddwl: "And then I'll walk here. And, ooh, what's that? I'll go over there!"

Fel plentyn ydw i.

---

Dw i'n 'gollwng y bêl' (i ddefnyddio ymadrodd Americanaidd) y dyddiau 'ma gyda fy Nghymraeg. Dw i ddim yn siŵr pryd y gwnes i fy mhost clywedol diwethaf. Gyda'r cyfweliad Dysgwr y Flwyddyn yn dod yn fuan, fe fydd rhaid i fi geisio ail-ddysgu popeth dros yr wythnos nesaf. Dw i ddim yn teimlo rhy dda am y cyfweliad 'ma.

Thursday, 27 April 2006

Ewch i weld tŷ gyda Rhys

Yfory (dydd Iau) fe fydd Rhys yn gwylio ar y lle 'ma dros fi a fy ngwraig. Y dydd arall, mae e wedi ymestyn gwahoddiad i Blogel i ddod draw am gwpan oherwydd ei chariad hi'n byw yn agos iawn i'r tŷ.

Dw i'n gobeithio y fydd hi'n gwneud hyn. Dw i'n hoffi'r syniad 'ma -- y fyddai pobl yn troi y broses o chwilio ar dŷ i mewn rhyw fath o ddigwyddiad cymdeithasol. Dw i'n meddwl y ddylai grŵp enfawr o siaradwyr Cymraeg yn ymddangos at y tŷ ar 9 bore Iau: "Hi, we're all here to look at the property for Chris Cope -- Welsh speakers stick together, you know."

Dw i ddim yn siŵr pa fath o argraff byddai hyn yn rhoi i'r asiant gosod.

Ond, os dw i'n caffael y lle, Blogel, wyt ti'n mwy na chroeso i bopio draw am gwpan unrhywbryd dy fod to eisiau. Dw i'n siŵr y byddwn i eisiau cael pobl draw yn aml iawn. Mae Rachel a fi eisiau prynu gril barbiciw os rydyn ni'n symud i mewn y tŷ 'ma.

Ydy griliau Weber cael eu gwerthu yng Nghymru?

Wednesday, 26 April 2006

Y straen arall

Gyda phopeth sydd yn mynd ymlaen y dyddiau 'ma, dw i wedi anghofio mai peth arall ydy'n codi fi yn yr hanner nos: Eisteddfod.

Mae'r diwrnod cyfweliad rownd cynderfynol Dysgwr y Flwyddyn yn dod yn fuan iawn. Ac o hyd dw i ddim yn siŵr pryd bydd fy nghyfweliad, am pa fath o bethau byddem ni'n siarad, neu sut byddem ni'n siarad.

Bron o bythefnos yn ôl, siaradais i gyda rhywun o'r Eisteddfod pwy wedi gofyn fi os medrwn i gosod i fyny rhyw fath o 'webcam' ar gyfer y cyfweliad. Mae hyn yn golwg cymhleth iawn, a fe fyddai rhaid iddyn nhw cael rhywun sy'n gwybod sut i wneud y peth ar eu ochr nhw, hefyd.

Felly, heddiw, ysgrifennais i yn ôl i ddweud mai os dydyn nhw ddim eisiau defnyddio'r ffôn, fe allem ni'n defnyddio Google Talk. Mae hyn yn rhaglen hawdd-i-ddefnyddio fy mod i'n bwriadu defnyddio i siarad gyda fy rhieni pan Rachel fach a fi'n symud i Gaerdydd.

(Gyda llaw, Sarah, yn ôl fy rhestr ffrindiau, rwyt ti wedi rhoi'r meddalwedd hyn ar dy gyfrifiadur -- efallai allem ni'n siarad rhyw dydd?)

Ond, mae posibilrwydd y fydd yr swyddfa Eisteddfod ddim eisiau traswslwytho’r feddalwedd a fe fydd rhaid i ni defnyddio'r ffôn. Dw i ddim eisiau gwneud hyn.

Dw i wedi gwneud digon o cyfweliadau ffôn gyda'r BBC, ond dydy hyn ddim lawer o hwyl -- mae'n anodd iawn i glywed pobl pan rydyn nhw'n siarad iaith arall. O hyd, dydy fy ymennydd ddim yn 'fill in the gaps' pan dw i'n siarad y Gymraeg. Pan dw i'n siarad yn Saesneg ar y ffôn, a dw i ddim yn clywed gair, fe fydd fy ymennydd yn rhoi i mewn yr peth y ddylai'n bod yno.

Ond, does dim dewis os does dim dewis. Gyda'r pellter rhwng fi a'r feirniaid Dysgwr y Flwyddyn, dw i ddim yn teimlo fel fy siawnsiau o ennill yn rhy dda.

Monday, 24 April 2006

Mae pethau'n symud yn gyflym


23 Ebrill
Originally uploaded by ChrisCope.
Mae'r gwanwyn yn dod mor gyflym ym Minnesota. Edrycha ar y llun ar y dde ac wedyn, edrych ar y llun 'ma. Mae dim ond un wythnos rhwng y dau luniau. Mae'n 20C ar hyn o bryd, a dw i'n eistedd ma gyda'r ffenest yn agor i fwynhau'r dydd. Efallai fe af i lan i dafarn neu rhywbeth yn hwyrach yn y dydd -- dw i'n cymryd dydd gŵyl o waith yfory.

Dw i'n bwriadu defnyddio'r amser i ffonio yr British Consulate yn Chicago i eu gofyn nhw cwestiynau am y broses teitheb. Yn ôl eu gwefan nhw, ddylwn i ddim yn dechrau'r broses tan tri mis cyn y 'start date' o fy nghwrs yn Prifysgol Caerdydd, a mae'n edrych fel y fydd y broses yn gymhleth ac yn ddiflas. Ond mae posibilrwydd bach yn bodoli y fydd fy ngwraig a fi'n symud i Gaerdydd yn gynharach na mis Gorffennaf (tri mis cyn fy nghwrs yn dechrau). Felly, dw i eisiau gwybod os fyddai'n posibl i fy ngwraig a fi i gwneud cais am ein teithebau pan rydyn ni yng Nghymru (does dim angen teitheb ar dinesydd UDA dros 6 mis -- dim ond angen teitheb arnon ni oherwydd rydyn ni'n bwriadu i aros yn hirach).

Mae teimlad gyda fi y fyddan nhw'n dweud y allaf i ddim yn gwneud hyn, oherwydd fe fyddai hynny yn rhy hawdd. Mae teimlo fel pob darn o'r profiad ma'n gorfod bod yn anodd.

Ond, mae'r darnau yn dod ynghyd, yn araf. Er enghraifft, rydyn ni wedi dechrau i lawr y ffordd hir o ffeindio rhywle i fyw. Mae Rhys wedi cytuno i edrych ar y lle 'ma i fi. Fy fydd fy ngwraig a fi mewn ei ddyled ef am byth ar gyfer hyn. Pan dwedais i wrth fy ngwraig fy mod i wedi ei ofyn e am helpu, dwedodd hi: "We'll probably have to name our first child after him."

Rydw i'n gwybod ei bod hi'n tipyn o daith i ganol y ddinas o Danescourt, ond mae fy ngwraig yn hoff iawn o'r lle. A, hyd yn oed dydyn ni ddim yn bwriadu prynu car os nid rhaid i ni, mae posibilrwydd y fydd hi'n gyrru i waith mewn ardal arall (Casnewydd efallai), felly fe fydd hyn yn agos i'r M4 ac yn digon agos i'r brifysgol. Dw i'n siŵr y fydda i'n bod yn gyfarwydd iawn gyda'r bysau a thrêns Gaerdydd yn fuan.

A, sut allech chi ddim eisiau byw yn agos i'r tafarn Radyr Court? Mae'r golwg y gwefan 'na yn dod allan o 1996!

  • Gyda llaw -- Dydd Siors Sant hapus i chi. Dw i'n siŵr rydych chi wedi dathlu (dw i'n teimlo fel y ddylwn i defnyddio emoticon [ fel ;-) ] i ddweud wrthoch chi fy mod i'n jocian, ond dw i'n gwrthod i fod mor ciwt â hynny).
  • Sunday, 23 April 2006

    S'mae mam Osian

    Mae Osian wedi dweud wrtha i bod ei fam e'n darllen y flog 'ma (mae hi wedi clywed amdani ar Radio Cymru), felly dw i eisiau dweud 'helo' wrthi.

    Helo mam Osian.

    Mae apêl i famau gyda fi, efallai. Mae mam Huw yn darllen hefyd, mae e'n dweud.

    Friday, 21 April 2006

    Be am Radyr Danescourt?

    Gyda phopeth fydd rhaid i fi i wneud dros y misoedd nesaf, dw i bron o wedi penderfynu y bydda i'n adael fy swydd yn gynharach na fe gynlluniais i. Mae'n dechrau i olwg fel y bydda i'n adael yn gynnar ym mis Mehefin, un hytrach na 30 Mehefin. Un mis llai o fywyd yn y swyddfa -- dw i ddim yn gallu dweud wrthot ti pa mor hapus mae hyn yn gwneud fi...

    Un o'r pethau fydd rhaid i fi i wneud gyda'r mis ychwanegol 'na y bydd ffeindio lle i ni i fyw. Heddiw, dw i wedi ffeindio tŷ yn Radyr arlein. Wel, mae e'n mwy agos i bethau na hynny -- mae e'n agos i gorsaf Danescourt.

    Mae e'n edrych yn neis iawn i fi, ond dw i ddim yn gwybod dim byd am yr ardal. Ac hefyd, dw i ddim yn rhy gyfforddus gyda'r ffaith ei fod e'n tipyn pell i ffordd o'r brifysgol. Ond, dw i'n meddwl y byddai fy ngwraig yn hapus iawn mewn lle fel 'na -- mae'r gegin yn golwg digon da. Cogyddes wych ydy fy ngwraig, felly dw i eisiau hi i fod yn hapus.

    Dw i am yn ffonio amdano yn y bore.

    Fe fyddai'n neis i gael cyfeiriad cyn mae Rachel a fi'n gadael yr Unol Daleithiau. Y ffordd hyn, fe allwn i anfon ein pethau at ein tŷ, yn hytrach na dibynnu ar fy rhieni, pwy sydd yn an-dibynadwy. Hefyd, mae'n cymryd wyth wythnos i becynnau i gyrraedd yn Nghymru dryw'r post o yma (y ffordd rhatach i anfon ein pethau), felly, gyda cyfeiriad, fe allem ni dechrau'r broses o anfon ein pethau yn gynt.

    Ddylwn i ddim yn 'get my hopes up,' dw i'n gwybod. Rydw i'n jyst yn gobeithio y byddem ni'n ffeindio lle sydd yn digon da. Mae'n pwysig iawn i fi i fyw mewn lle y bydd Rachel yn hoffi. Fuodd hi erioed yn byw tu fas yr Unol Daleithiau, felly dw i eisiau'r profiad i fod yn da iawn iddi hi. Rydw i'n siŵr y byddwn i fod yn hapus mewn lle syml, bach yn Cathays, ond fyddwn i ddim yn hapus petasai Rachel ddim yn hapus.

    Ond, beth wyt ti'n meddwl? Ddylwn i chwilio am rhywbeth arall?

    Wednesday, 19 April 2006

    Sut i siarad â rhywun sy'n 4,000 milltir i ffordd

    I ddweud y gwir, dw i ddim yn teimlo fel ysgrifennu heno. Dw i eisiau ysgrifennu, a dw i'n gwybod y ddylwn i ysgrifennu, ond does dim egni gyda fi. Dw i'n dioddef tipyn o 'burnout' ar hyn o bryd.

    Dw i'n teimlo 'burnout' bron o unwaith pob mis y dyddiau 'ma. Mae'r trafferth o geisio bod yn barod am symud i Gymru'n tynnu lawer o egni allan o fi. A'r ffaith bod fy ngwraig a fi'n byw gyda fy rhieni yn ychwanegu'r i'r straen.

    Fe glywais i heddiw gan rhywun o'r Eisteddfod. Mae nhw eisiau cyfweld fi ar gyfer y rownd cynderfynol Dysgwyr y Flwyddyn. Fe gofynnodd y fenyw pwy wedi ffonio fi heddiw os oes posib i fi i fod yng Nghymru draw 6ed Mai.

    Yn anffodus, na. Felly, fydd rhaid i fi feddwl am ffordd i'r feirniaid i siarad gyda fi pan dw i'n yma. Fe allem ni'n ddefnyddio'r ffôn, wrth gwrs, ond dw i ddim yn meddwl eu bod nhw eisiau gwneud hyn. Fy fyddem ni'n 'conference call' gyda'r opsiwn 'na, a hyn gwnâi bethau yn anodd i fi. Roeddwn i'n meddwl am ddefnyddio NetMeeting, i wneud 'video conferencing' ond mae'n edrych fel tipyn o sialens.

    Felly, os rydych chi'n gallu meddwl am rhyw ffordd y allwn i siarad gyda'r feirniaid, fe hoffwn i glywed amdano.

    Thursday, 13 April 2006

    Y hufen iâ cyntaf

    Mae'n teimlo fel yr haf ar hyn o bryd ym Minnesota, felly mae'n anodd iawn i ganolbwyntio ar bethau fel Cymraeg.

    Heno, aeth fy ngwraig a fi i Coldstone i mwynhau ein hufen iâ cyntaf o'r tymor. Roedd e'n gwych, wrth gwrs. Roedd fy ngwraig yn gofyn fi am ble byddem ni'n ffeindio hufen iâ yn Nghaerdydd. Dw i ddim yn gwybod, ond dw i'n siŵr y byddwn ni'n ffeindio rhywle i fynd.

    Yfory dw i'n bwriadu geisio ffonio Chris John & Partners i ofyn am ffeindio lle i fyw. Gyda dim ond 91 diwrnod i fynd, dw i'n meddwl bod yr pryd wedi cyrraedd i fi i ddechrau chwilio am fflat. Hefyd dw i'n gallu ffonio Mead Property. Diolch i Rhys am awgrymu y rhain dau.

    Ar ôl dw i'n ffeindio fflat, mae'n edrych fel y ffordd rhataf i symud ein pethau bydd anfon popeth trwy'r post. Fe fydd ein stwff yn cymryd 6-8 wythnos i gyrraedd yng Nghymru, ond dyma ni.

    Dw i'n dechrau i deimlo y pwysau; dw i'n mynd i fyny ac i lawr gyda emosiwn bron o bob dydd. Ac ma pethau'n enwedig poenus gyda'r dau ohonyn ni'n byw gyda fi rhieni. Mae hi wedi bod tri mis nawr gyda nhw, ac mae ein amynedd yn teneuo. Mae fy ngwraig wedi cael digon ohonyn nhw i ddweud y lleiaf (a dydych chi ddim eisiau bod ar yr ochr ddrwg o fy ngwraig).

  • Oes 'na unrhywbeth fe hoffech chi i fi i flogio amdano? Dw i'n teimlo fel y flog 'ma yn tipyn diflas ar hyn o bryd a rydw i'n rhy ddiog i feddwl am syniadau ar fy mhen fy hun.
  • Wednesday, 12 April 2006

    92 diwrnod

    Fe benderfynais i heddiw y ddylwn i ddewis y ddydd y fydd Rachel a fi'n symud i Gymru. Felly, allan o awyr tenau, 11 Gorffennaf bydd y ddydd hon. Ac ar ôl fe benderfynais i ar y ddydd 'ma, dw i wedi dechrau i banig: "Oh shit, oh shit, oh shit, oh shit."

    Mae 11 Gorffennaf yn dim ond 92 dyddiau o rŵan. Diawl, dw i'n teimlo'n wan.

    I ddweud y gwir, pan dw i'n meddwl am symud i Gymru, mae ofn enfawr arna i. Tan rŵan, doedd y daith 'ma ddim yn teimlo gwir i rhyw fath o fi. Wrth gwrs dw i wedi gwybod bod Rachel a fi'n symud. Ond mae'n hawdd iawn ar gyfer popeth i llithro i mewn teimlad o freuddwyd -- fel does dim angen arna i i geisio jyglo y realitioedd gwahanol am symud i wlad newydd. Dw i'n colli fy hun yn y broblemau feunyddiol fel bywyd yn y swyddfa, neu ymolchi dillad, neu pethau cyffredin fel hynny.

    Ond mae rhaid i fi ffeindio lle i fyw yn Gaerdydd o hyd; mae rhaid i fy ngwraig yn ffeindio gwaith o hyd; mae rhaid i fi ffeindio ffordd i symud ein pethau i Gymru o hyd. Y gwbl o hyn mae rhaid i fi gwneud i mewn y 92 dyddiau nesaf.

    Ac, ym mhellach nac hynny, mae'n hawdd i anghofio y ffaith y fydda i'n siarad iaith arall -- yn geisio byw mewn iaith arall. Bob dydd. Dw i'n dechrau teimlo ofnus iawn y fydd fy Nghymraeg ddim yn digon cryf. Dw i'n teimlo fel dw i ddim yn geisio digon caled i wella fy Nghymraeg. O dro i dro, fe fydda i'n codi yn y hanner nos ac yn pryderu am wneud fwl o fy hun yn Prifysgol Caerdydd -- hen dyn twpsyn gyda breuddwydion afrealistig.

  • Mwy am y stori fyr: Fe fyddai'r stori yn cael ei cyhoeddi yn Esquire. Dw i ddim yn gwybod pa mor da ydy'r siawnsiau go iawn y fydden nhw yn prynu'r peth, ond dw i'n gobeithiol. Petasai fy stori yn cael ei cyhoeddi yn y cylchgrawn 'na, fe fyddai fy siawnsiau o cael fy nofel yn cyhoeddi yn gwella, dw i'n meddwl. Fe fyddwn i'n meddwl y fyddwn i wybod beth fydd yn digwydd gyda hyn erbyn y diwedd yr wythnos.
  • Tuesday, 11 April 2006

    Sori

    Rydw i'n ymddiheuro am methu ysgrifennu ar y blog 'ma ers ddydd Mercher. Dw i wedi bod yn brysur iawn yn ysgrifennu stori fyr ar gyfer y cylchgrawn Esquire.

    Fy fyddaf i ddychwelyd yfory (dw i'n gobeithio).

    Thursday, 6 April 2006

    Mam fach

    OK, efallai mae'n wir bod dynion yn cwyno ychydig mwy na benywod pan ydyn ni'n teimlo drwg, fel mae Mair wedi awrgrymu heddiw. Ond wir, dw i'n sâl! Mae poen anghredadwy arna i. O, gwae fi! Mae'n troi'n dywyll!

    *peswch, peswch*

    Wel, efallai dydy pethau ddim mor ddrwg a hynny, ond penderfynais i heddiw i fynd adref o'r swyddfa'n gynnar. Pan cyrhaeddais i yn ôl at y tŷ, fe ges i gyfle i weld o ble fy natur ceintachlyd yn dod -- fy mam.

    Hypochondriac ydy fy mam. Dw i ddim yn gwybod o ble mae hyn yn dod. Dyn garw ydy ei thad, felly efallai roedd hi'n arfer defnyddio salwch i dynnu ei sylw e. Beth bynnag, mae'n amhosibil i fod yn sâl yn y tŷ fy mam oherwydd fydd hi'n wastad yn geisio dy all-sâl* di. Mae'n anodd iawn i ffeindio fy mam pan nid ydy hi'n cwyno am rhywfath o poen rhywle -- ei thraed, ei chefn, ac mae'n wastad annwyd arni hi. Mae Mam yn cofio pethau yn ôl y salwch mai roedd hi'n dioddef dros y cyfnod.

    Fe fydd hi'n ddweud pethau fel: "I remember we went there because my foot was hurting. Not the same foot that's hurting now, but here, on my left foot. Sort of in the middle. It hurts in the ball of my foot now, but this was when it was hurting in the middle and I went to that doctor that's no good and he just wanted me to deal with it, which is ridiculous, and so we were over in that part of town because they have this foot store there and I wanted to get one of those things, you know one of those things that wraps around your foot? I wanted one of those. But they were out ofthem so we came back past that restaurant and i really didn't want to go in because we had to park in the street and i didn't want to walk that far and make things worse for my foot, but your father made me. And I had the lamb, which was reall good, but I remember thinking: 'This would be so much better if my foot didn't hurt.'"

    O, a fy mam yn hoff iawn o siarad. Fe all fy mam yn all-siarad** unrhywun yn y byd. Mae'n cymryd 45 munud iddi hi i ddweud 'ie.' Mae ei salwch hi'n rhoi hi rhywbeth i siarad amdano, dw i'n meddwl.

    Felly, fe ddes i adref yn gynnar heddiw ac roeddwn i'n teimlo ofnadwy. Athrawes ydy fy mam ac ar ei gŵyl gwanwyn ar hyn o bryd ydy hi, felly roedd hi'n adref hefyd. Fe es i'r gwely yn syth, ond ar ôl awr neu ddwy, fe es i i fyny i'r gegin i wneud cwpan o de.

    'Sut ydy dy annwyd?' gofynnodd fy mam (nid yn y Gymraeg, wrth gwrs).

    'O hyd arna i,' dwedais i.

    'O hyd? Efallai mae'r un peth arnat sydd yn arna i,' dwedodd hi.

    'Pa peth?'

    'Yr annwyd fe ges i yn ôl ym mis Chwefror. O hyd mae'r peth arna i. Fe es i'r meddyg i ofyn os oes y peth yn "whooping cough." Dydy hi ddim. Peswch bach sydd dim yn gadael ydy hyn.'

    'Reit. OK, Mam, dw i'n mynd yn ôl lawr grisiau eto i fy ngwely,' dwedais i, yn geisio cadw fy hun o chwerthin.

    'OK. Teimla'n well.'

    'Yhm, ie, chi hefyd, Mam.'

    *'Out-sick,' dw i'n geisio dweud.

    ** 'Out-talk,' dw i'n geisio dweud.

    Wednesday, 5 April 2006

    Annwyd uffernol

    O hyd mae annwyd arna i. Dw i'n teimlo yn waeth na ddoe, dw i'n meddwl. Yn y swyddfa heddiw, fuodd yn anodd i aros mewn fy nghadair trwy'r ddydd. Mae llwnc tost arna i, felly wnaf i ddim post clywedol heno chwaith. Rydw i'n gwybod y does dim ots i chi os dw i'n gwneud post clywedol neu ddim, ond dw i eisiau gwneud nhw i helpu fi gyda fy Nghymraeg.

    A, fel arfer, mae fy rhieni yn gwylio'r teledu cyn swnllyd â phosib. Dros swper heno, geisiodd fy ngwraig i esbonio bod 'na pethau arall i wneud yn lle na gwylio'r teledu i fy mam, ond doedd hi ddim yn wrando.

    Mae rhieni yn aml dweud wrth eu plant nhw: "Rhyw dydd fe gei di plant hefyd, ac wedyn fe fyddet ti'n deall y trafferth wyt ti wedi ein rhoi ni drwy."

    Wel, dw i'n deall rŵan. Mae fy rhieni yn fel plant. Mae nhw'n gwylio'r teledu pob munud eu bod nhw'n adref, mae nhw'n gadael llanast i fi a fy ngwraig i lanhau, a mae nhw'n wastad yn gofyn fi i wneud pethau: "Chris, my computer's broken, can you come make it work?"

    Fy fydda i fod mor hapus i adael y tŷ 'ma. Rydw i'n gwerthfawrogus* iawn o'r caredigrwydd fy rhieni gyda helpu Rachel a fi i baratoi ar gyfer symud i Gymru, ond dw i'n awyddus iawn i symud ymlaen. Dydw i ddim yn teimlo fel oedolyn yn y bywyd 'ma.

    Wrth gwrs, dw i am symud i Gymru a mynd i brifysgol, ac ar ôl hynny dw i'n breuddwydio o ysgrifennu nofelau neu rhywfath o waith fel hynny. Felly, dydw i fyth eisiau bod yn oedolion, mae'n siŵr.

    Dw i'n hoffi'r ffaith bod y gair "gwaeth" yn swnio fel "gwaith" -- addas iawn ydy hynny, dw i'n meddwl. Yn y Sbaeneg, mae'r gair "cansado" yn golygu "blinedig," a mae'r gair "casado" yn golygu "priod." Fyddwn i ddim yn cytuno (fe fydd fy ngwraig yn dysgu Cymraeg rhyw dydd, cofiwch; mae rhaid i fi gwylio fy nhin), ond dw i erioed yn meddwl y cyd-ddigwyddiad yn ddoniol.

    *"Appreciative" dw i'n geisio dweud.

    Tuesday, 4 April 2006

    Teimlo well tra'n teimlo gwaeth


    2 Ebrill
    Originally uploaded by ChrisCope.
    Diawl, dw i'n sâl heno. Dw i ddim yn gwybod beth wedi digwydd rhwng neithiwr a heno, ond mae rhywbeth yn anfad iawn wedi dal arna i. Dw i'n teimlo'n ofnadwy. Rydw i'n dechrau i golli fy lais, felly, fydda i ddim yn gwneud post clywedol heno. Rydw i'n siŵr bod y newyddion ma'n torri eich calon.

    Hyd yn oed gyda theimlo'n ofnadwy, dw i'n gobeithio y gwnaf i dod yn ôl i fy nhrefn arferol yr wythnos 'ma. Dw i wedi colli tipyn o fy iaith, dw i'n teimlo, dros mis Mawrth. Gyda'r dyddiad o ein symud yn dod yn fuan (dim ond ychydig mwy na tri mis!), dw i'n teimlo nerfus braidd.

    Diolch i bawb sy wedi cynnig cyngor ar ffeindio arian.

    Sarah, allwn i ddim yn gwneud cais ar gyfer Fulbright Scholarship oherwydd dydw i ddim yn astudio tua radd uchaf eto. Efallai os dw i'n aros ym Mhrifysgol Caerdydd i ennill 'master's degree,' fe wnaf i geisio am y Fulbright.

    Ac Tom, dw i wedi clywed am y NAWF hefyd, ond pan ysgrifennais i atyn nhw rhai misoedd yn ôl, mae'r amlen wedi dod yn ôl 'Return to Sender.'

    Felly, y broses o ffeindio arian wedi bod yn rhwystredig iawn i fi. Ond, o leiaf fe gaf i gyfle i wneud cais am benthyciadau. Dw i'n aros am ffurflen swyddogol i ddod yn y post, ond dw i'n bwriadu trefnu popeth y penwythnos 'ma.

    A mae fy ngwraig wedi dechrau yn chwilio am swydd yng Nghymru. Mae hi wedi ffeindio un swydd yn Casnewydd sydd yn ei diddori hi, ac hefyd fe ysgrifennodd hi at yr adran ymchwil yn UWIC (ar hyn o bryd, mae Rachel yn gweithio mewn ymchwil dros Prifysgol Minnesota).

    Felly mae pethau yn dechrau teimlo... wel, OK. Fe all y broses 'ma yn bod mor emosiynol i fi; efallai peth da fy mod i'n sâl oherwydd does dim digon o egni gyda fi am banig. Dim ond yn symud ymlaen ydw i.

    Sunday, 2 April 2006

    Rachel fach

    Mae Rachel eisiau chi i wybod roedd hi'n flinedig iawn pan gafodd hyn ei recordio. Dydy hi ddim yn siarad fel plentyn yn aml.

    Mae hi wedi rhoi camera newydd i fi i fy mhen blwydd, felly, dw i'n defnyddio hyn i ddysgu fy hun sut i ei ddefnyddio.