Saturday, 24 June 2006

Wythnos brysur

Na, dydy Rachel ddim yn feichiog. Diolch Duw ei bod hi ddim, hefyd -- mae digon o gynnwrf yn ein bywydau ar hyn o bryd.

Ac, yn anffodus, fydd fy llyfr ddim yn cael ei gyhoeddi eto. I'll be banging my head against that wall for a while, dw i'n amau.

Fe fydd rhaid i chi jyst anghofio am y peth ar hyn o bryd. Fe wnaf i eich atgoffa chi yn hwyrach.

Y dyddiau 'ma, dw i'n ceisio paratoi ar gyfer taith i Boundary Waters Canoe Area ar bore Sul. Mae'r BWCA yn mwy nag 1.4 miliwn acer o goedwig a llynnoedd sydd yn rhedeg dros y ffin rhwng yr Unol Daleithiau a Chanada.

Hyd yn oed mae ardal anghysbell iawn yn yr BWCA, dydy ni ddim yn bwriadu "rough it." Dw i'n dod gyda 74 ganiau o gwrw. Dw i'n edrych ymlaen at y daith 'ma. Fe fydd hi "comedy of errors" dw i'n siŵr.

Yn cymryd dydy ni ddim yn cael ein bwyta gan arth, fe fydda i'n ddychwelyd i Bloomington Rock City ar ddydd Mawrth. Wedyn, ar ddydd Iau, mae fy ngwraig a fi'n mynd i Chicago ar gyfer gwneud cais am ein teithebau.

Tuesday, 20 June 2006

Y gyfrinach fach

Post clywedol bach, gyda chyfrinach fach.


MP3 File

Roller coaster Gymraeg

Fe ges i ddydd gwych heddiw. Roeddwn i'n yfed cwrw gyda fy ffrind gorau, Eric, ac yn mwynhau'r tywydd braf yr haf. Ond rŵan, gyda fi'n sobri, dw i'n teimlo'n euog.

Roedd fy ffrind a fi'n siarad am y ffaith fy mod i'n symud i Gymru mewn mis ac am y ffaith fy mod i wedi ceisio ennill gradd o'r blaen. Wir, roeddwn i'n ifancach, a roeddwn i'n geisio ennill gradd mewn pynciau arall, a roeddwn i'n astudio mewn cyfundrefn arall (prifysgolion Unol Daleithiau).

Ond pan wyt ti'n bod yn galed ar dy hun, dwyt ti ddim yn meddwl am bethau fel hwnna. Felly, dw i'n meddwl ar hyn o bryd am y ffyrdd dw i wedi niweidio fy ymdrechion o'r blaen. Yn chwarae gormod ydy un o'r ffyrdd 'na. Gyda un mis cyn dw i'n bwriadu siarad o blaen pobl yn yr Eisteddfod, dw i ddim yn canolbwyntio ar y Gymraeg yn digon.

Dyma fi a fy Nghymraeg, efallai. Dw i'n mynd i fyny ac i lawr gyda sut dw i'n teimlo am bethau. Emotional rollercoaster ydw i.

Monday, 19 June 2006

Rhywbeth i golli

MinneapolisTafarn ydy'r lle gorau i wylio gemau pêl-droed, dw i'n meddwl. Mae hyn yn wir os wyt ti'n gwylio pêl-droed Prydeinig, neu bêl-droed Americanaidd -- yn enwedig gyda gemau pêl-droed Americanaidd oherwydd dwyt ti ddim yn gorfod talu $8.50 am gwrw.

Ar gyfer gemau pêl-droed Prydeinig, dw i'n meddwl bod un o'r lle gorau i fynd ym Minneapolis yn Brit's Pub. Fe aeth fy ffrind, Heidi, a fi yno i weld y gêm rhwng Lloegr a Trinidad-Tobago ar ddydd Iau.

Fe fuodd y dafarn yn llawn o bobl yn gwisgo crysau Lloegr ac yn canu ar gyfer eu tîm. A, buodd yr awyrgylch yn gwych -- buodd "good craic" fel mae'r basdad Gwyddeldod* 'na yn dweud.

Ac, ie, roedd Heidi a fi'n canu gyda nhw: "clap-clap, clap-clap-clap, clap-clap-clap-clap ENGLAND!"

Fe wybodais i, wrth gwrs, petasai rhywun o Gymru yn gweld fi, byddwn i golli fy "street cred" gyda nhw. Pechod ydy e i gefnogi Lloegr, dw i'n deall.

Sylweddolais i wedyn y bydd hyn yn rhywbeth y bydda i'n golli am fywyd yn yr Unol Daleithiau. Wir, rydyn ni'n cenedlaetholgar iawn, iawn. Mae ffrind fi, Huw, unwaith wedi dweud bod yr Americanwr yn: "The frontrunners of patriotic drop-of-a-hat national flag waving, even when no one else is necessarily looking." Wir iawn. Ond, hefyd, rydyn ni'n cenedl o genhedloedd, ac yn aml iawn, mae'n OK i rhedeg lawr y stryd yn chwifio'r faner o genedl arall.

A does dim angen arnat ti i fod aelod go iawn o genedl i ymuno'r hwyl. Fe glywais i acennau Americanaidd gan y mwyafrif o'r bobl yno. Peth rhyfedd pan wyt ti'n meddwl amdano. Ymladd dwy rhyfeloedd erbyn Lloegr gwnaethon ni, ond dyna ni'n canu am ei tîm.

Ar yr un ddydd, fe welais i amryw pobl yn gwisgo crysau Sweden. Mexico, Yr Almaen, hyd yn oed Yr Eidal -- fe fyddit ti'n weld pob crys yn y dafarn. A fydd bobl ddim yn cwyno (ddim yn go iawn, o leiaf) am y ffaith dy fod ti'n cefnogi tîm arall na'r Unol Daleithiau. Fe allet ti'n wisgo crys unrhyw tîm ac o hyd yn teimlo fel wyt ti'n ffitio mewn.

Efallai oherwydd rydyn ni'n unedig o dan yr lliwiau hollbresennol o Old Glory
mai dydy'r gwahaniaeth rhwng cenhedloedd mor gryf. Felly, o leiaf un peth fe wnaf i hiraethu am yr Unol Daleithiau bydd y cyfle i fod "biased supporter" o bron o unrhyw cenedl ar bron o unrhyw dydd.

*Dim ond jocian ydw i. Gwyddelod ydy fy nheulu (tipyn bach).

Sunday, 18 June 2006

Beth ydy 'we got screwed' yn y Gymraeg?

Welest ti'r gêm pêl-droed heddiw? Beth yn y byd mawr wedi digwydd yno?

Mae'r dyfarnwr twp 'na wedi rhoi dau gardiau coch i chwaraewyr UDA. Fuon ni ddim yn eu haeddu naill. Dw i'n meddwl y fuodd e'n rhy awyddus i weld y tîm UDA yn methu.

Yn ffodus, fe chwaraeon ni'n well nag erbyn y Czech Republic (mae rhywun wedi dweud wrtha i sut i ddweud "Czech Republic" yn y Gymraeg, ond dw i wedi anghofio), a roeddem ni'n gallu dal y gêm ar 1-1. Mae'r canlyniad 'ma'n rhoi tipyn o obaith i ni. Dydyn ni ddim allan o'r Cwpan y Byd eto.

Ond, dw i ddim yn gallu dweud bod ein cyfleon ni'n dda. Mae rhaid i ni guro Ghana i symud ymlaen, a fuon nhw'n chwarae da iawn erbyn y Czechs heddiw. Mae fy ngwraig wedi penderfynu bod Ghana'n ei thîm hoff nawr.

Y llanast


Y llanast
Originally uploaded by ChrisCope.
Dyma'r llanast yn yr ystafell fawr lawr y grisiau. Rwyt ti'n gallu gweld Rachel yn pacio. Fe fydd bethau'n well gyda ni petasai'r tŷ'n llosgi i lawr, i ddweud y gwir.

Fe dreulion ni cymaint o amser, yn ôl ym mis Ionawr, yn ceisio penderfynu ar yr ychydig pethau roedden ni eisiau symud i Gymru. A nawr, ar ôl yn dysgu am y gost o symud, rydyn ni'n gwneud hyn eto.

"OK, do we really need plates?"

Fe allet ti'n weld i'r chwith o Rachel ein bod ni wedi pacio saith blychau eisoes. Dw i'n amcangyfrif y bydd y blychau rhain yn costio $300 (£162) i bostio i Gymru. Mae popeth ar y llawr i bacio o hyd, ac ein dillad, a fy CDau. Dw i ddim eisiau meddwl am faint bydd y gost yn y diwedd.

Gyda llaw, dw i ddim yn gwybod eithaf llawer am y gwasanaeth post yn Nghymru, wnânt nhw danfon y rhain i ein tŷ? Neu, wnei Rachel a fi'n orfod mynd i'r Post Swyddfa i eu casglu nhw? Dw i'n gobeithio am y ffurfydd -- dw i ddim eisiau ceisio cario y blychau yn ôl adref.

Wednesday, 14 June 2006

Golwg newydd

Wel, dyma ni, ar ôl gormod o amser dw i wedi rhoi golwg newydd ar y flog. Dw i'n meddwl bod y golwg hon yn haws i ddarllen. Dw i'n gobeithio eich bod chi'n ei hoffi.

Gan mwyaf, dw i ddim wedi newid llawer gyda'r cynnwys y sidebar. Dw i wedi colli'r gwahaniad o flogwyr Cymreig a blogwyr Americanaidd, ond o hyd, fe ddylai pawb yno. Dw i ddim yn meddwl fy mod i wedi anghofio unrhywun, ond os dwyt ti ddim yn gweld dy flog di ar y rhestr dolenni, dim ond angen arnat ti i ddweud wrtha i.

Dw i'n bodlon iawn gyda'r header ar y brig. Fe wnes i'r peth ar fy mhen fy hun.

Uffern

Dw i'n dechrau i boeni am fy menthyciadau. Heb y rheiny, dw i ddim yn gallu gwneud cais ar gyfer teitheb. Heb teitheb, dw i ddim yn gallu mynd i Gaerdydd.

Ar gyfer y benthyciadau i fod yn falid, mae rhaid y brifysgol yn eu ardystio nhw. Ond, o hyd, wnaeth y prifysgol ddim. Yn arfer, meddyliwn i mai'r brifysgol ar bai am y broblem, ond dw i wedi eu ffeindio nhw i fod yn cynorthwyol iawn. Felly, mae Sallie Mae yn broblem.

Mae Sallie Mae'n un o'r cwmnïau benthyciadau myfyriwr mwyaf yn yr Unol Daleithiau. Dw i wedi gwastraffu bron o ddau fis yn ceisio gorfodi Sallie Mae i anfon fy nghais i Brifysgol Caerdydd ar gyfer ardystiolaeth*. Mae nhw'n dweud wrtha i "We have all the required information from you to process your loan. Please be patient as we complete the final steps required for your loan approval. Sallie Mae is working to have your loan funds approved and disbursed." Ond mae dim byd yn digwydd. Dw i'n aros ac yn aros ac yn aros ac yn gweiddi wrth y wal, ond o hyd dw i ddim yn gallu dweud bod y benthyciadau gyda fi.

Mae'r broses teitheb yn angen prawf o fy menthyciadau, felly dw i ddim yn gallu gwneud cais am hynny tan ar ôl mae'r broses benthyciadau wedi sortio allan. Roeddwn i'n gobeithio i fynd lawr i Chicago yn y diwedd y mis. Mae Llysgenhadaeth Prydain yn Chicago, a dw i'n gorfod mynd yno ar gyfer ein teithebau.

Dw i'n meddwl bod os does dim penderfyniad i'r sefyllfa 'ma erbyn y diwedd yr wythnos, fe wnaf i diddymu'r cais gyda Sallie Mae ac yn gwneud cais newydd gyda chwmni arall. Ond efallai fe fyddai'r un problemau'n dod gyda'r gwmni 'na.

Y peth dw i ddim eisiau ydy fi'n eistedd yma yn yr Unol Daleithiau, yn gwneud fuck all heb yn aros am gwmni fawr i benderfynu i wneud ei swydd. Eisoes dw i'n barod i fynd. Mae tŷ gyda ni yn Nghaerdydd a dw i eisiau symud yno ac yn dechrau ein bywyd newydd. Mae'n anodd iawn ar fy ego i fod 30 oed ac yn byw mewn tŷ fy rhieni. Ac mae'n rhwystredig iawn i wybod fy mod i'n angen un peth a dydy'r peth 'na ddim yn dod eto.

Ond dyma fi -- yn aros...

*"Certification" dw i'n ceisio i ddweud.

Tuesday, 13 June 2006

Mae pobl ffasiynol yn ei alw e 'soccer'

Fe aeth fy ngwraig a fi ar ŵyl fach ar gyfer ein pen-blwydd priodas. Dw i ddim yn siŵr beth mae hyn yn dweud amdanom ni, ond fe benderfynon ni i fynd ar daith beic 40-milltir yn Minnesota gwledig.

Fuodd y taith yn llawer o hwyl. Fe gawson ni ginio yn Red Wing, a fe wylion ni'r tîm pêl-droed UDA yn colli eu gêm erbyn y Czech Republic. Waw, fu'r gêm 'na yn ddrwg. Dros y misoedd diwethaf, 'dyn ni wedi bod yn clywed pa mor dda ydy'r tîm UDA, ond welais i ddim byd o hynny ar ddydd Llun.

I gael cyfle, fe fydd rhaid i ni guro'r Eidalwyr ar ddydd Sadwrn. Dw i ddim yn credu y bydd hyn yn digwydd. A mae hyn yn anffodus, oherwydd pan mae'r tîm UDA yn colli, mae'n niweidio’r gêm yma. O hyd mae'r gêm yn brwydro i dynnu sylw yn yr Unol Daleithiau, a dydy colledion ddim yn helpu.

Eleni, mae ABC/ESPN yn rhoi llawer o arian ac amser i mewn darlledu y gemau. A dw i'n pryderu y bydd methiant ar rhan y tîm UDA yn codi cwestiynau gyda nhw am wneud yr un peth yn 2010. Petasai'r UDA yn symud ymlaen i'r rownd cynderfynol, fe fydd pobl yn teimlo fel roedd yr ymgyrch yn mwy o lwyddiant.

Yn dal fy ngwallt

Dw i wedi sylweddoli heddiw rhywbeth sydd yn ffodus iawn am y ffaith fy mod i wedi gadael fy swydd -- mae fy ngwallt yn tyfu'n gyflymach.

Pan fues i'n ymweld Caerdydd yn ôl ym mis Hydref 2005, fe dynnes i coes Geraint am wallt, ac ers hynny, dw i wedi bod yn siŵr y byddwn i golli fy ngwallt. Ond, dyna ni, mae gadael swydd wedi bod yn peth da i fi a fy mhen.

Ond yn ôl y ffoto o fi ar fy mhriodas, efallai dw i ddim yn haeddu gormod o wallt -- dw i ddim wedi ei ddefnyddio ar gyfer golwg da. Fe hoffwn i ddweud wrthoch chi mai in style fuodd fy ngwallt yn yr adeg 'na (1999), ond fuodd e ddim.

Cysylltiadau Celtaidd

Dyma gwestiwn: roeddwn i'n meddwl ddoe am y ffaith fy mod i'n clywed yn aml am yr ymdrechion iaith yn Llydaw neu Gatalonia, ond dw i ddim yn clywed yn aml am ymdrechion yn Iwerddon neu'r Alban.

Diddorol ydy hi, dw i'n meddwl, mai nid yn agosach ydy'r genhedloedd Celtaidd. Yn enwedig, dw i ddim yn gweld cysylltiad rhwng Cymru a'r Alban. Efallai dw i ddim yn gweld pethau cywir o fy safbwynt 5,000 milltir i ffordd, ond mae'n ymddangos i fi fel mae pobl Gymru'n teimlo cysylltiad cryfach gyda Chatalonia nag Iwerddon. Ydy fy argraff yn gywir? Os ydy hi yn, pam?

Sunday, 11 June 2006

Saith mlynedd

Fydd ddim postiau tan ddydd Mawrth. 12 Mehefin ydy pen-blwydd priodas Rachel a fi. Mae hi a fi'n dathlu saith mlynedd gyda'i gilydd.


(Cliciwch ar gyfer llun mawr)

Saturday, 10 June 2006

Mae tŷ fy rhieni'n dyfod Nevada...

Llanast ydy ein ystafell ni ar hyn o bryd. Nawr mai tŷ gyda ni, mae Rachel a fi'n yn ceisio paratoi ar gyfer y symud i Gymru. I ychwanegu i ein hwyl, mae rhaid i ni ail-bacio ein stwff.

Rydyn ni'n anfon ein pethau ni trwy'r post, felly rydyn ni'n gorfod gwneud rhestr ar gyfer Customs o bopeth sydd yn pob blwch. Llawer o hwyl ydy hyn -- a pan rydw i'n dweud "hwyl" dw i'n golygu "gwastraff llwyr o amser."

Dw i'n y fath o berson sy'n hoffi trefn yn fy mywyd. I gael ein stwff ni ar draws y llawr ydy'n dirboeni fi. Mewn uffern ydw i ar hyn o bryd; dw i'n byw mewn llanast yn y tŷ fy rhieni. Helpia fi.

Thursday, 8 June 2006

Ofnau

Mae Rhodri wedi gofyn fi heddiw os bydd Rachel yn dod i'r Eisteddfod gyda fi. Ie, mae hi eisiau weld y digwyddiad. Dw i ddim yn siŵr y bydd hi eisiau mynd bob dydd, ond fe fydd hi'n mynd o leiaf unwaith.

Fel mae'n digwydd, mae'r person pwy wedi bod yn cysylltiad gyda fi o Swyddfa Eisteddfod yn darllen y blog 'ma. Mae hi wedi anfon nifer o awgrymiadau am beth gallwn i siarad yn Eisteddfod. Mae hi wedi dweud y gall hi'n ddychmygu fi'n siarad am gymaint â 45 munud, ond mae hi wedi dweud 20 oherwydd mae hi eisiau rhoi digon o amser i siaradwyr arall.

Diawl. Fi yn siarad dros 45 munud? Fe fyddai hynny yn diflasu fi!

Dw i ddim yn siŵr pryd fe wnaf i ddechrau ar feddwl am bethau i ddweud -- efallai hwyrach yn y mis 'ma. O dro i dro dw i'n meddwl y hoffwn i ysgrifennu llyfr am fy mhrofiadau dysgu, ond efallai fydd ddim lawer o bobl gyda diddordeb. Un o fy ofnau mwyaf ydy bod yn diflas.

Ofn arall ydy cerdded mewn y toiled benywol ar ddamwain.
...

Fe es i allan ar lyn lleol gyda chaiac heddiw. Mae'n anodd iawn i symud fy mreichiau nawr. Dw i'n ceisio ymarfer ar gyfer taith sydd yn dod yn dwy wythnos.

Mae grŵp o ffrindiau a fi'n mynd i Boundary Waters Canoe Area dros 25-27 Mehefin. Mae'r Boundary Waters yn 1,000,000 aceri o goedwig, llynnoedd a nentydd rhwng yr Unol Daleithiau a Chanada. Dw i'n edrych ymlaen at y taith -- dw i ddim yn gallu meddwl am ffordd gwell i adael yr Unol Daleithiau. Fe fydd y taith yn rhoi cofion da i fi, a fe wnaf i allu edrych yn ôl arnyn nhw pan dw i'n teimlo homesick yng Nghymru.

Wednesday, 7 June 2006

Mae tŷ gyda ni!

Wel, fe arwyddodd fy ngwraig a fi ein tenancy agreement heddiw ar gyfer y tŷ yn Radyr Way. Felly, mae'n swyddogol -- mae cartref gyda ni!

Rŵan, dim ond rhaid i ni symud yno. A fydd rhaid i fi ffeindio mas sut i osod y gwasanaethau trydan, dŵr, ac yn y blaen. Fe fydd bopeth yn dod mewn amser.

Fy nhasg nesaf bydd gadarnhau fy menthyciadau myfyriwr. Dw i'n dechrau i boeni drostyn nhw, oherwydd mae angen nhw arna i ar gyfer gwneud cais teitheb. Heb deitheb, dw i ddim yn gallu byw yng Nghymru (wel, dim mwy na 6 mis). Felly, fe wnaf i ar y ffôn yfory, yn gweiddi ar rhyw company lackey, yn geisio dysgu ble ydy fy arian.

...

Fe glywais i heddiw o'r pobl Eisteddfod. Mae nhw'n gofyn fi i siarad am 20 munud am fy mhrofiadau dysgu yn y Pabell y Dysgwyr. Dw i'n meddwl y gwnaf i, hyd yn oed does dim syniad gyda fi sut y byddwn i lenwi 20 munud.

Fel rhan o sgwrs ar ddysgu y tu allan i Gymru byddwn i, ar dydd Iau 10 Awst. Fe wnaf i rhoi mwy o gwybodaeth pan mae'r adeg yn dod agosach. Dw i'n gobeithio y bydd fy Nghymraeg yn digon da.

...

Rydw i wedi blino lan. Fe feiciais i o gwmpas y lle heddiw. Pan rydw i'n gwneud y mathemateg, dydy'r milltiredd ddim mwy na 10 milltir, ond gyda thywydd poeth roedd y taith yn digon heriol.

Dw i'n ceisio ymarfer corff tipyn mwy rŵan fy mod i'n di-swydd (gyda llaw, dw i'n sylweddoli bod y gair ar gyfer "unemployed" yn "di-waith," ond dw i ddim nid yn gweithio, felly, dw i'n hoffi dweud "di-swydd"), ond efallai dw i wedi bod yn over doing it. Mae fy nghorff yn dolurio a dw i'n gwegian o gwmpas y tŷ cymaint bod fy ngwraig yn fy ngalw fi "old man."

Tuesday, 6 June 2006

Yn chwarae gormod

Dw i ddim yn siŵr fy mod i wedi defnyddio fy amser yn y ffordd gorau heddiw. O hyd dw i'n chwarae gormod gyda cheisio’n gwneud fideos. Roeddwn i arfer bod golygydd fideo yn Reno, felly, dw i'n tipyn o perfectionist pan dw i'n gweithio ar fy fideos.

Ond, pan roeddwn i'n golygydd proffesyinol, roeddwn i'n gweitho gyda Beta. Dw i'n gwybod bod rhai pobl teledu'n darllen y blog 'ma, a dw i'n gallu eu clywed nhw rwan: "Beta?! Wyt ti'n 80 oed?!"

Tipyn behind the times oedd y gorsaf teledu yn Reno. Ond, hefyd dw i wedi defnyddio meddalwedd neis iawn ar gyfer DVC, a dydy'r pethau bod wedi dod gyda fy nghamera ddim yn cystal.

Felly, dw i'n treulio gormod o amser yn golygu. A gyda hynny, dw i ddim yn treulio digon o amser yn canolbwyntio ar Gymraeg.

O wel. Dim ond y dydd cyntaf o fywyd di-swydd fu heddiw. Fe allwn geisio i wneud yn well yfory.

Friday, 2 June 2006

Un dydd i fynd

Fy nydd gwaith olaf ydy yfory. Dw i'n edrych ymlaen ato fe. Ar ôl hon, fe fydd mwy o amser gyda fi i ganolbwyntio ar y pethau mae rhaid i fi wneud cyn symud i Gaerdydd.

O hyd, mae rhaid i fi sicrhau ein tŷ ni yn Gaerdydd. Ac wedyn, mae rhaid i fi sicrhau fy menthyciadau. Hefyd, mae rhaid i fi bacio ein pethau ni ac eu postio nhw i Gaerdydd. A, mae rhaid i fi deithio lawr i'r Llysgenhaty Prydeinwyr yn Chicago ar gyfer ein teithebau ni.

Ond un peth dw i eisiau gwneud yn fuan ydy newid yr olwg y flog 'ma. Dw i ddim yn siŵr beth rydw i eisiau gwneud, ond dw i'n meddwl bod yr amser wedi dod am olwg newydd. Os ydych chi'n nabod gwefan gyda thempledi da, fe hoffwn i wybod amdani.

Gyda un dydd i fynd, mae pobl yn y swyddfa wedi rhoi cacen i fi i ddweud "goodbye." Tipyn bach fel hon oedd y cacen, ond gyda'r geiriau: "Best wish's good luck in Whales."

Mae nhw wedi camsillafu pethau oherwydd golygydd ydw i. Wel, golygydd fues i, o yfory.

Beth bynnag, roeddwn i'n hapus ac yn syn i dderbyn cacen. Dim "model employee" dw i wedi bod dros fy mhrofiadau cyflogaeth, felly dyma'r tro cyntaf fy mod i'n gadael swydd ar dermau da. Am un neu dau eiliad, fe deimlais i dipyn o leddf am y ffaith fy mod i'n gadael.

Ond wedyn, fe gofiais i mai ar ddydd Llun fe wnaf yfed cwrw tra bod pawb yn y swyddfa'n gweithio. Bwahahaha.

Thursday, 1 June 2006

Cymru: yr wlad moch ymosodiad

Mochyn yn brathu dyn.

Yhm, does dim lawer yn digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd, efallai?

Dw i'n dychmygu y bydd bywyd yn anodd ar y ffermwr 'ma pan mae e'n mynd lawr i'r tafarn:

"Don't worry, Geraint. We've searched the place for pigs. It's safe."

(Rŵan, oherwydd y natur agos o gymdeithas Gymraeg, dw i'n siŵr y bydd aelod teulu'r ffermwr 'ma'n darllen hyn ac yn ysgrifennu e-bost cas ataf i.)

Diogi

Dw i'n diog -- dyma fy mhroblem i. Fe hoffwn i eich rhoi chi rhyw fath o esgus mawr manwl i esbonio'r ffaith fy mod i wedi bod yn esgeuluso fy mlog Gymraeg. Ond, yn anffodus, diogi ydy'r gwir.

Er enghraifft, dim ond heddiw -- heddiw -- fe wnes i ddechrau'n i ddarllen y Siarc Marw o Rhagfyr 2005. Mae'r peth wedi bod yn eistedd i mewn fy mag dros fisoedd.

Fe wnaf i ddweud mai yn anodd iawn oedd hi i ganolbwyntio ar y Gymraeg pan fu fy ngwraig a fi yn St. George dros yr wythnos diwethaf, ond dw i ddim yn siŵr beth ydy fy esgus am ddim yn blogio ddoe. Fe wnes i fideo o fy nithoedd a neiaint ar fy mlog Saesneg ddoe, ond fues i'n rhy ddiog i wneud dim byd ar y blog 'ma.

Grrr. Dw i'n cymaint o slacker.