Thursday, 31 August 2006

Wake up Maggie, I think I got somethin' to say to you...

Fe ysgrifennodd Geraint ddoe am y ffaith ei fod e'n edrych ymlaen at yr hydref. Dw i'n teimlo'r un peth, a dydw i ddim yr unig un. Ond fy nheimladau dros yr hydref yn rhyfedd -- cymysg o emosiynau; gynnwrf a lleddf a mwy.

Wrth gwrs, dw i'n dechrau ar fy nghwrs prifysgol i mewn mis. A dw i'n nerfus a chynhyrfus am y dyfodol, fel unrhyw myfyriwr. Ond cofia fy mod i wedi mynd trwy pethau fel hyn o'r blaen. Os wyt ti'n darllen y flog 'ma yn aml (OK, neb, felly), wyt ti'n gwybod fy mod i wedi mynd i brifysgol yn yr Unol Daleithiau heb llwyddiant.

Yn y cyfan, fe es i i brifysgol am chwe mlynedd (mewn pedwar brifysgolion). Felly, mae'r teimlad yr hydref yn gyfarwydd iawn i fi. A gyda theimladau o awydd a phryder, ydy'r cofion o fethiant yn y gorffennol. Felly, mae'n tipyn bittersweet*.

Hefyd, dros y mwyafrif o fy mlynedd brifysgol gynt, roeddwn i'n llygad-dynnu gan yr Ast Ddwyn-Enaid Anfad o Gyn-Gariad. Fe aeth hi i brifysgol yn y dalaith o Efrog Newydd, ac arhosais i yn ôl ym Minnesota -- pellter o 1,164 milltir, fel mae'r frân yn hedfan.

Ond doeddwn i ddim yn hedfan. Roeddwn i'n arfer gorfod yn gyrru 36 oriau yn syth i ei gweld hi. Dw i'n cofio'r teithiau y rheiny gyda anwyldeb -- dim ond fi a fy 1991 GMC Sonoma pickup (fel hon, ond yn las), yn gyrru trwy'r nos a fi'n gwrando ar radio o'm mhobman.

Fe es i ei gweld hi y mwyaf yn y gaeaf ac yn y gwanwyn, felly roedd y taith yn eiraog ac yn oer. Ond fe deimlais i'n saff yn fy pickup -- yn gyrru ac yn gyrru ac yn meddwl o fy nghariad (ie, sap ydw i, dw i'n gwybod).

Doeddwn i ddim yn gallu gwneud y daith mwy nag unwaith neu ddwywaith mis, wrth gwrs, felly, mae'r hydref wedi arfer golygu yn dweud ffarwel i'r ferch y roeddwn i'n dwlu drosti.

Wrth gwrs, mae Sara wedi torri fy nghalon, hefyd. O'r profiadau 'na ydy ei llysenw hi o "Yr Ast Ddwyn-Enaid Anfad o Gyn-Gariad" yn dod. Ac ers y dyddiau 'na, mae'r hydref o hyd yn cofio fi am y poen-calon.

Mae'n rhyfedd ac yn twp sut mae rhai pethau yn gwneud cysylltiadau yn dy ben. Dw i'n cofio'n gyrru trwy'r strydoedd o Fargo, North Dakota, ym 1997 (eto yn y GMC) yn yr hydref cynnar a roeddwn i'n meddwl am Sara pan fe glywais i'r hen gân 'na, "Maggie May."

Cân gan Rod Stewart ydy hwn, ond paid yn dal hynny erbyn e. Mae e'n cân am ddyn sydd yn dioddef poen-calon hwyr ym mis Medi.

"You stole my soul, and that's a pain I can do without," mae Rod yn canu.

"Ie!" fe feddylies i. "O, ffyc ie! Dw i'n gallu deall y teimlad 'na."

Yhm, dw i'n twp fel 'na. Fydda i ddim yn ceisio i esbonio'r cysylltiad emosiynol cryf iawn gyda fi dros "Freebird" gan Lynyrd Skynyd (Yipes, plant, dw i'n amlygu rhai ysgerbydau mawr yn fy nghwpwrdd cerddorol).

Y dyddiau 'ma, cyn fuan â dw i'n gweld y golwg cyntaf o'r hydref, dw i ddim yn gallu mynd yn hir heb yn gwrando ar "Maggie May." Petait ti i weld fi'n diweddar, fe fyddet ti'n sylwi fy mod i'n chwibanu'r felodi trwy'r dydd.

*Does dim gair Cymraeg am hyn?

Wednesday, 30 August 2006

Yr angen i siarad lol

Fe wnes i ddim byd heddiw. Dw i ddim yn gwneud lawer y dyddiau 'ma, ond dw i'n eistedd yma yn gwrando ar yr albwm "Whiskey on a Sunday" gan Flogging Molly ar hyn o bryd ac yn teimlo fel dw i ddim yn gwneud digon gyda fy mywyd.

Fe ddylwn i fod mewn tafarn nawr, yn siarad lol ac yn dinistrio fy ymennydd gyda chwrw. Ond hen dyn ydw i, efallai.

Ac efallai fe fydd mwy o gyfleoedd i wneud pethau fel hynny o fewn mis. Mae cofrestriad prifysgol yn cael ei ddigwydd ar 26 Medi, a dw i'n dechrau i deimlo'n nerfus. Dw i ddim yn siŵr o'r safon fy Nghymraeg.

Na, mae'n mwy nag hynny -- dw i'n rhwystredig gyda'r safon fy Nghymraeg. Mewn rhyw ffordd, dw i'n teimlo fel dw i'n defnyddio fy Nghymraeg yn llai na roeddwn i yn ôl ym Minnesota. Efallai dw i'n bod yn diog; dw i ddim yn cadw yr un amserlen â roeddwn i arfer cadw pan roeddwn i'n byw yno, felly dw i ddim yn gosod allan cyfnod pob dydd i ganolbwyntio ar Gymraeg.

Felly, o hynny ydy'r teimlad y ddylwn i fynd mas yn mwy yn aml yn dod. A mae synnwyr o frys yn dod gyda'r teimlad 'na y dyddiau 'ma, oherwydd dw i eisiau gwella fy Nghymraeg cyn mae fy nghwrs yn dechrau. Mae ofn enfawr arna i o fod yr hen dyn twp sydd yn deall fuck all.

Wedi dweud hynny, dw i ddim yn siŵr fe fydd gyfle gyda fi ar nos Wener i fynd i'r Mochyn Du. Mae fy ngwraig yn gwneud rhywbeth gyda ei chapel a dw i'n cael yr argraff ei bod hi'n disgwyl fi i ddod gyda hi. Mae nhw'n cael "pub quiz." Ond, eglwys Mormonaidd ydy hon, felly fe fydd yr elfen "pub" yn colli.

Tuesday, 29 August 2006

Yr angen am lyfr da

Yn ôl gwefan Menter Caerdydd, mae grŵp o ddysgwyr yn cwrdd pob dydd Mawrth yn Clwb y Cameo. Fe es i yno y bore 'ma, ond welais i neb.

Fe dreuliais i dipyn o amser yno, i fod yn siŵr, wedyn fe feicies i dros i Parc Victoria, yn Nhreganna. Fe ffeindiais i mainc wrth y cerflun o foelrhon* a cheisiais i i fwynhau'r dydd.

Ar hyn o bryd dw i'n darllen "Gwe o Gelwyddau" gan Delyth George a dw i'n agos iawn iawn i yn taflu'r peth yn y bin. Rydw i wedi blino o storiâu am ferched stroppy sydd yn anhapus yn ei gyrfa a bywyd-cariad. Y tri llyfrau diwethaf fe ddarllenais i wedi bod am ferched fel hyn.

Dw i'n meddwl y ddylwn i greu ychydig o rheolau i helpu fi i brynu llyfrau:
1) Os mae'r stori'n canolbwyntio ar merched sydd yn meddwl bod gwydryn o gwin coch yn ei gwneud hi'n soffistigedig, ddylwn i ddim yn brynu'r llyfr.
2) Os mae'r frawddeg "retail therapy" yn ymddangos unrhywle yn y llyfr, ddylwn i ddim yn ei brynu fe.
3) Os mae'r stori'n canolbwyntio ar gohebydd "tough-as-nails" gyda chalon euraid, ddylwn i ddim yn brynu'r llyfr.
4) Os mae'r llyfr yn cael cymeriad o Lundain sydd yn dod i Gymru, a mae nhw'n syrthio mewn cariad gyda'r wlad ar unwaith (fel gormod o gymeriadau yn llyfrau Geraint V. Jones), ddylwn i ddim yn brynu'r llyfr.

Wrth gwrs, os wyt ti'n ychwanegu'r ffaith fy mod i'n ffafrio stori gyda diwedd hapus, does dim lawer o lyfrau modern i fi i ddarllen.

*"Seal," dw i'n ceisio i ddweud. Mae Geriadur yn defnyddio yr un gair am "seal" a "porpoise."

Monday, 28 August 2006

Cyfforddus yng Nghaerdydd

Dw i wedi bod yn diog iawn gyda fy Nghymraeg a gyda blogio yma dros yr wythnos diwethaf. Dw i'n ymddiheuro am hynny. Dw i'n gobeithio i wneud yn well o hyn allan.

Mae Rachel a fi'n preswylyddion cyfreithiol nawr. Fe aethon ni i Calais ar ddydd Gwener. Dw i'n tipyn od fy mod i'n teimlo fel hyn, ond dw i'n teimlo'n mwy cyfforddus gyda phopeth nawr. Ddylai'r broses o fi yn mynd i Ffrainc ac yn ôl ddim yn gwneud cymaint o wahaniaeth, ond dyna fi. Dw i'n teimlo fel dw i'n gallu ymlacio tipyn bach. Dw i'n yma am sbel. Dyma fy nghartref.

A gyda fy nheimlad newydd o gysur, dw i'n awyddus i fforio'r ardal. Fe gerddodd Rachel a fi allan i'r pentref St. George's heddiw. Roedden ni'n chwilio am y Millennium Heritage Trail, ond doedden ni ddim yn gallu ei ffeindio.

Felly, fe gerddon ni ar lwybrau cyhoeddus hyd fe gyrhaeddon ni at dudalen 92 yn ein "Cardiff A-Z" a fe benderfynon ni i troi yn ôl. Thar be monsters pan wyt ti'n gadael y diogelwch o'r tudalennau "Cardiff A-Z."

Fe aethon ni ar ein tro gyda phicnic bach a fe fwyton ni ginio yn Sain Ffagan, sydd yn y hoff lle lleol Rachel y dyddiau 'ma. Mae hi'n edrych ymlaen at y gaeaf, pryd fe fyddi hi'n gallu mynd yno ac yn mwynhau'r lleoedd tân yn y tai.

Dw i am brynu map o'r Millennium Heritage Trail yfory ac yn mentro allan eto hwyrach yn y wythnos.

---

Fe aeth Rachel a fi i'r Mochyn Du heno, ond welon ni ddim unrhywun arall yno. *Fe ddylai fy ddweud i hyn yn dy gwneud di'n teimlo euog*. Ydy e? OK, efallai dim.

Gyda llaw, fy nydd Mercher yma'n rhydd. Oes unrhywun eisiau mynd mas am beint?

*"My saying this should make you feel guilty," dw i'n ceisio i ddweud.

Wednesday, 23 August 2006

Dw i eisiau bod yn gyfreithlon

Mae'r briodferch ifanc a fi'n mynd i Lundain bore fory (dydd Iau). Rydyn ni'n am mynd i weld y Minnesota Orchestra pryd mae nhw'n chwarae yn Royal Albert Hall dros BBC Proms. Mae Rachel yn nabod dau aelod o'r gerddorfa, felly rydyn ni'n edrych ymlaen i'r profiad.

Hefyd, fe fydd y taith yn rhoi esgus i ni i ymweld â ffrindiau sydd yn byw yno. Fe gynigiodd Chris a Jenny lle i fi i aros yn Llundain pan roeddwn i'n yno yn ôl ym mis Hydref 2005 ac mae nhw'n ymestyn y gwahoddiad eto i fi a Rachel nawr. Mae nhw'n caredig iawn -- nodwedd bod Rachel a fi'n ffeindio yn aml yma yng Nghymru hefyd.

Efallai mae nhw'n mor garedig oherwydd dydyn nhw ddim yn dod o Lundain*. Albanwyr ydyn nhw. Ac, wrth gwrs, fel gyda phobl Iwerddon, deddf ydy hi, dw i'n meddwl, bod Americanwyr yn bod yn dwlu dros bobl Yr Alban.

Ac, i ychwanegu i'r hwyl, mae Rachel a fi'n bwriadu i geisio eto i ddilysu ein teithebau ni. Efallai wyt ti'n cofio'r clusterfuck sydd wedi digwydd yn gynharach yn y mis 'ma.

Y tro 'ma, mae Rachel a fi'n mynd i Calais. Dinas o gynnwrf! Dinas o ddiwylliant!

Uhm, OK, efallai dydy Calais ddim yn y pethau 'na o gwbl. Ond, mae'n digon agos i Lundain ac mae'n rhad i fynd yno. A dw i'n eithaf siŵr fe fydd swyddog mewnfudiad yno. Ac, os dw i ddim yn gallu ffeindio un, fe fydda i'n weiddi: "I am so happy to have arrived from Bulgaria! Now I will take job from British person!"

Dw i'n siŵr i ffeindio swyddog wedyn...

*Cheap pop ydy'r sylw 'na, neu be?

Gah!

Blogel, wyt ti wedi cerdded heibio fi heb yn dweud helo?! Rŵan, dw i'n ceisio cofio pob person fy mod i wedi weld yn y safle bws ers yn dod yma.

Enw newydd?

Dw i wedi bod yn meddwl am newid yr enw y flog 'ma i "Y Gringo Cymraeg." Beth wyt ti'n meddwl? Twp?

Tuesday, 22 August 2006

Yn llusgo

Dw i wedi bod mor ddiog gyda fy Nghymraeg yn diweddar. Fy nofel ydy fy esgus y tro 'ma. Dw i wedi bod yn gweithio ar lathru’r hen peth gyda'r gobaith o ei gwerthu o'r diwedd. Mae fy asiant yn dweud bod y hydref yn y tymor gorau i geisio i werthu llyfr. Welwn ni.

Dim ond dydd Mawrth ydy heddiw ac yn barod mae hi wedi bod wythnos hir. Fe fuodd ddydd Llun ac heddiw'n galed ar y briodferch ifanc. Dydy hi ddim yn cael cynnig am swydd.

Fe cyfwelodd hi am dwy swyddi -- un yn Abertawe ac un yng Nghaerdydd. Doedd hi ddim yn hapus gyda'r cyfweliad yn Abertawe, felly fuodd ddim sioc pan fe glywodd hi eu penderfyniad. Ond roedd teimlad gwell gyda hi am y swydd yng Nghaerdydd. Ar ôl fe ffonion nhw heddiw, roed Rachel yn crio am awr.

Doedd dim syniad gyda fi beth i wneud. Dw i wedi dysgu dros y blynyddoedd bod unrhywbeth dyn yn ceisio i wneud yn anghywir pan mae benyw'n crio.

Sunday, 20 August 2006

Alatriste

Dymunol -- dyna sut fe fyddwn i'n disgrifio ddoe. Hyd yn oed roedd y tywydd yn cymylog, mae pethau wedi symud heibio yn dawel. Dw i ddim yn gwybod os mae hyn yn symptom o heneiddio neu rhywbeth arall (dw i'n gobeithio am rhywbeth arall), ond mwy a mwy, dw i'n ffeindio fy hun yn ymlid dyddiau ac awyrgylchoedd tawel.

Fe aeth Rachel a fi i Talbot Green ar ddydd Sadwrn i ffeindio'r siop llyfrau Borders.

Mae Waterstones, yn y canol y ddinas, yn agosach a mae'n yn haws i fynd yno. Ond does dim llyfrau rhamant yn y Waterstones, a mae Rachel yn hoff iawn o lyfrau rhamant. Mae hi'n gallu darllen dau neu mwy mewn wythnos.

Fe brynodd hi chwe llyfrau, a dw i'n siŵr fe fyddem ni'n ddychwelyd yn fuan iawn.

Fe brynais i "Captain Alatriste," gan Arturo Pérez-Reverte. Fe brynais i'r llyfr dim ond oherwydd mae Sbaenwr swashbuckling ar y clawr, a mae'r llyfr yn cael ei osod yn Sbaen. Hyd yn oed fe hoffwn i feddwl am fy hun fel awdur, dw i'n eithaf cyffredin pryd mae'n dod i ddewis llyfrau.

Beth bynnag, fe orffennais y llyfr heddiw. Tra roeddwn i'n darllen y llyfr, roeddwn i'n meddwl: "Hmm, fe fyddai hyn yn gwneud ffilm da, dw i'n meddwl."

Ac wedyn, fe ffeindiais i hyn. Dw i ddim yn gwybod pryd bydd y ffilm yn cael ei darlledu ym Mhrydain, ond dw i eisiau ei gweld hi.

I'r pobl sydd yn byw yng Nghaerdydd: oes rhywle i fynd i weld "foreign films" yma? Yn technegol, mae'r ffilmiau o'r Unol Daleithiau'n "foreign" efallai, ond dw i'n siŵr dy fod ti'n deall beth mai dw i'n golygu.

Thursday, 17 August 2006

If I had a million dollars...


Geraint a Chris
Originally uploaded by Dwlwen.
Dyma fi a Geraint yn Eisteddfod. Mae golwg arnon ni fel y ddylwn i fod ar album coverallan o'r 90au.

Ac, wrth gwrs, fe fyddai rhaid iddyn ni'n chwarae caneuon Barenaked Ladies.

(Diolch i Mair am y llun.)

Wednesday, 16 August 2006

Y post fideo cyntaf yng Nghaerdydd

Dyma fy mhost fideo cyntaf ers dw i wedi cyrraedd yng Nghaerdydd. Dw i'n ymddiheuro am fy Nghymraeg diog. Fe fuodd heddiw'n diwrnod hir.

Cliciwch yma i weld y fideo

Tuesday, 15 August 2006

Monday, 14 August 2006

Ac o ble wyt ti'n dod, Chris?*

  • Fe ddylwn i ymddiheuro os fe est ti i'r Mochyn Du ar nos Llun ac roeddet ti'n disgwyl fi i fod yno. Roeddwn i'n meddwl am fynd, ond fe anghofiais i am y peth tan jyst nawr.
    Dw i'n bwriadu i fynd ar ddydd Llun nesaf. Rydw i'n addo.

    Rhodri a fiFel nifer ohonoch chi'n gwybod yn barod, fe gafodd blog gwrdd ei chynnal ar ddydd Sadwrn yn Eisteddfod. Mae'r cymuned flogwyr Gymraeg yn agosach nag unrhyw cymuned flogwyr arall, dw i'n meddwl, a roedd hi'n gwych i gwrdd â chymaint o bobl ar unwaith.

    Ar hyn o bryd, dw i ddim yn cofio pawb pwy wedi dod, ond dw i'n gwybod fe ges i gyfle i ymweld â:
    - Dogfael
    - Kamikazee Cymru (dw i ddim yn siŵr sut i sillafu ei enw go iawn -- ond dw i wedi ei weld e heddiw yn y gorsaf trên) (EDIT: Dw i'n siarad am Ray Diota yma)
    - Nic
    - Rhodri (dyna ni ar y dde -- dw i ddim yn cofio pam mae Rhodri'n tynnu'r wyneb 'na)
    - Weirdo (gyda ei lais yn mynd ar ôl yn campio yn Eisteddfod)
    - Geraint
    - Mair (pwy sydd cymryd fy ngalwadau nawr)
    - Rhys (Dw i'n gobeithio fe gest ti gyfle i blygio Jobs Cymraeg i'r camera)
    - Elidir

    Dw i'n siŵr fy mod i'n anghofio sawl pobl. I ddweud y gwir, dw i'n synnu ar fy hun am gofio cymaint. Beth bynnag, roedd amser gwych -- yn enwedig ar ôl fe symudodd grŵp ohonyn ni'n agosach i'r bar. Fel dwedais i wrth Weirdo: "Wherever there is beer, I'll be there."

    Ond, yn anffodus, dw i'n ffeindio o hyd dw i ddim yn gallu meddwi gormod. Mae'n anodd iawn i fi i siarad yn y Gymraeg ar ôl mwy na thri beintiau -- mae fy ymennydd yn mynd yn ddiog a dw i'n defnyddio gormod o Saesneg.

    Tuedd yn cyffroi** ydy fy nefnydd o Saesneg y dyddiau 'ma. Dw i'n ffeindio fy mod i'n defnyddio Saesneg mwy yn fy sgyrsiau na phawb arall. Dw i'n gwneud hyn oherwydd dw i ddim yn hapus gyda'r safon o fy Nghymraeg. Dw i'n teimlo fel dw i'n swnio twp, a dw i eisiau dweud pethau yn y Saesneg i ddangos fy mod i ddim rhyw fath o big fucking retard.

    Ond wedyn, dw i'n teimlo'n mwy twp am ddefnyddio Saesneg oherwydd mae hyn yn dangos taw dydy fy Nghymraeg ddim yn digon da.

    Errr -- efallai dw i'n over-analysing pethau.

    *Mae'r teitl y post 'ma yn dod o'r sarcasm Nic. Roedd camera yn dilyn fi trwy'r dydd ar y dydd y flog gwrdd, a pan roeddem ni'n gwneud cyflwyniadau, mae Nic wedi cogio ei fod e ddim wedi clywed amdanaf.
    Diolch i bawb pwy siaradodd i'r camera, a diolch i chi am ddweud pethau neis amdanaf.


    **"Disturbing trend," dw i'n ceisio i ddweud.
  • Sunday, 13 August 2006

    Nodiadau drwg

    Y PafiliwnAr ôl heddiw, dw i'n teimlo'n well am Eisteddfod. Mae'n pwysig i fi i ddweud hyn, dw i'n meddwl, oherwydd roedd llawer o bobl yn gofyn fi ar ddydd Sadwrn am fy siom gyda'r digwyddiad. Fel pe bai* fi ydy'r cynrychiolydd yr Unol Daleithiau: "We, the Americans, will be withholding our emotional and financial support of this festival from now on..."

    Fe ddechreuodd y diwrnod gyda fi'n gadael y tŷ am 7:45 yn y bore. Mae rhywun o'r BBC wedi dod i gyrru fi i Eisteddfod, a fe gyrrodd e'n agos i 100 mph i'r maes. Dw i wedi sylweddoli bod y "speed limits" ym Mhrydain ydy "speed minimums."

    Ond dw i wedi cyrraedd yn fyw, a roeddwn i'n yn y pabell y dysgwyr erbyn 8:30.

    Hyd yn oed fe fues i wedi cytuno i cymryd rhan yn y Diwrnod y Dysgwyr, fe ges i ddim syniad am beth roedd y BBC yn disgwyl o fi. Ond, fe ges i grys-T coch gyda'r geiriau "The Big Welsh Challenge" arno, felly doeddwn i ddim yn teimlo fel cwyno. Sut allwn i gwyno am grys-T am ddim?

    Mae Geraint wedi awgrymu yn hwyrach yn y dydd y ddylwn i wisgo'r crys ac yn dweud bod y crys yn cyfeirio at fi: "Hello, ladies. I am The Big Welsh Challenge; climb me."

    Y dyn a fiHefyd, fe ges i ysgrifbin. A -- a dyma'r rhan gorau -- fe ges i gyfle i gwrdd â Garry Owen, pwy ydy'n amhosibl i nid yn hoffi. Os dwyt to ddim yn hoffi Garry Owen, mae rhywbeth yn anghywir gyda ti. Os dwyt ti ddim yn hoffi Garry Owen, wyt ti'n caniatáu'r terfysgwyr i ennill.

    Mae Garry wedi dweud wrtha i ei fod e'n darllen fy mlog. Fe ddwedodd e fy mod i'n ysgrifennu "blog nodiadau drwg." Dw i'n meddwl y ddylwn i'n rhoi'r sylw 'na yn fy mhroffil Blogger.

    Roedd nifer o bobl yn y pabell mor gynnar yn y bore. Fe ddechreuodd pethau gyda phawb yn dysgu sut i ganu "Hen Wlad Fy Nhadau." I ddweud y gwir, roeddwn i'n talu tipyn o sylw ar hyn, oherwydd arfer gyda fi i ddweud "Ei gwrol ryfelwyr" gyda phwyslais anghywir.

    Roedd cyfarwyddwr côr yno a mae e wedi mynd trwy nifer o warm-up exercises gyda phawb. Dyma lun o bawb yn gwneud yr ymarferiad. Dw i'n meddwl bod hi'n doniol sut mae pobl perfformiad yn paratoi. Pan roeddwn i'n arfer gweithio mewn cwmni theatr, roedd yn anodd i fi i nid yn chwerthin ar yr actorion pwy roedd yn arfer gwneud pob fath o stwff doniol i baratoi am sioe.

    Ond, wedi cael yn dweud hynny, mae'n pwysig i nodi bod fy ymgeision i i fod perfformiwr wedi methu.

    Ar ôl yn canu, fe gynigiodd y BBC rhyw fath o taster course yn y Gymraeg a fe es i ffeindio cwpan o de. Pan fe ddychwelais i, fe rhoddodd Gary cyflwyniad i fi ac wedyn, dyna oedd fi'n sefyll tu blaen o grŵp o bobl ac yn meddwl: "Fuck. What the hell am I doing here? What in the great googly moogly am I supposed to do?"

    (O hyd dw i'n meddwl yn Saesneg)

    Felly, fe wnes i'r peth fy mod i'n gwneud yn gorau: siarad lol. Fe ges i gymeradwyaeth fawr pan fe ddwedais i fod un o'r rhesymau dw i wedi dal at ddysgu Cymraeg buodd i gael cyfle i fyw allan o'r Unol Daleithiau ar ôl fe gafodd George W. Bush ei ail-ethol. Dw i ddim yn siŵr pa mor gyfforddus ydw i gyda hynny -- pwy a ŵyr yn gwybod o ble mae'r CIA operatives yn cuddio.

    Fi a SabrinaSiaradais i hyd fe ddwedodd Garry wrthaf i stopio. Wedyn, fe gyflwynodd e Emyr Bell, Bethan Ellis Owen, a Gillian Elisa, gan "Pobl y Cwm."

    Mae Gillian wedi rhedeg y sioe o yno. Mae hi'n yr fath o all-around performer sydd yn gallu "gweithio ystafell" o unrhyw maint; tri bobl neu 300 o bobl, mae hi'n gallu eu difyrru nhw gyda chanu a dweud jociau ac yn y blaen ac yn y blaen. Dw i'n gwybod fy mod i'n y BBC Kiss-Ass, ond roedd hi'n gwych.

    Doedd dim cliw gyda fi pam roeddwn i yno, yn sefyll wrth pobl enwog Cymru, ond fe ges i amser gwych. A fe gorffennodd Gillian popeth gyda mynnu bod pawb -- yn cynnwys côr meibion -- yn canu "Hen Wlad Fy Nhadau" eto.

    Profiad gwych oedd yr holl peth. Roedd pawb yn canu mor uchel, allwn i ddim yn glywed fy hun. Mae'n wastad peth da pan allech chi ddim yn clywed fi'n canu.

    Fe ges i gyfle i gael rhai sgyrsiau gyda phobl ar ôl popeth. Roedden nhw'n caredig iawn ac yn dweud fy mod i'n ysbrydoliaeth iddyn nhw i ddal at ddysgu. Mae hyn yn gwneud fi'n teimlo anghyfforddus, i ddweud y gwir. Fe hoffwn i wneud pethau gwych gyda fy mywyd, ond dw i ddim eisiau bod yr fath o berson sydd yn dweud ei fod e'n gwneud pethau gwych.

    Dw i'n cofio ar ôl y seremoni dechreuad Bush yn mis Ionawr 2001, pan fe ddilynodd y gwasg Bill Clinton i rhyw awyrendy, ble fe gafodd e math o parti ffarwél ar gyfer ei hun. A dyna oedd Clinton, gyda ei bawd twp ac ei olwg brathu-gwefus, yn dweud: "We did a lot of good."

    Os wyt ti wir wedi gwneud "a lot of good," does dim angen arnat ti i ddweud wrth pobl amdano.

    Felly, pan mae pobl yn fy nghanmol i, dw i'n gwerthfawrogol** iawn, ond dw i ddim yn siŵr beth i ddweud. Fe ddwedais i "diolch yn fawr iawn" a fe wenais i ac yn y blaen. Doeddwn i ddim yn gwybod beth arall i wneud.

    Fe ges i gyfle i siarad gyda Garry a Gillian am sbel. Roedd lawer o ddiddordeb gyda fi i glywed sut mae pethau'n gweithio ar y set "Pobl y Cwm." Roedd hi'n siarad am weithio gyda chyfarwyddwyr gwahanol a roeddwn i'n swyno i ei gweld hi'n gwneud "crying scene" fach ar y tu blaen o fi.

    Hefyd fe ges i sgwrs gyda chyn-rheolwr o'r Felindre tin plate works blaenorol; mae Eisteddfod wedi cael ei chynnal ar y cae o ble fe fuodd y tin plate works. Mae e'n dod o Lloegr ac yn siarad Cymraeg gyda acen Sais. O hyd dw i ddim yn gallu enwi'r gwahaniaeth rhwng yr acen Cymraeg y de ac yr acen Cymraeg y gogledd, ond roeddwn i'n gallu clywed yr acen Sais. Roedd e'n hen dyn gwych -- yn cyfeillgar iawn ac yn mynnu y ddylwn i ymuno tîm rygbi a chôr lleol. Fi, pwy sydd yn rhy fach i chwarae rygbi ac yn rhy ddigywair i ganu.

    *Dw i ddim yn siŵr os dw i'n defnyddio'r brawddeg 'na'n gywir; "as if" dw i'n ceisio i ddweud.

    **"Appreciative" dw i'n ceisio i ddweud.

    Helo eto

    Y post clywedol cyntaf ers sbel.


    MP3 File

    Friday, 11 August 2006

    Rhywbeth arall i wneud

    Wyt ti'n brysur bore fory?

    Dydd Sadwrn ydy Diwrnod y Dysgwyr ym MaesD (cyn-nabod fel "pabell y dysgwyr"):

    "Os ydych yn newydd i'r iaith neu am wella eich Cymraeg ymunwch 'da ni ar gyfer gweithgareddau Cymraeg yng nghwmni rhai o wynebau cyfarwydd BBC Cymru.

    Cewch sgwrs 'da rhai o drigolion Cwmderi -- Ffion (Bethan Ellis Owen) a Kelly (Lauren Phillips), ynghyd a'r cyflwynydd newyddion, Garry Owen.

    Bydd cyfle ichi gyfarfod Chris Cope, Americanwr a ddefnyddiodd y we i ddysgu Cymraeg. Symudodd Chris a'i wraig Rachel i Gaerdydd o Minneapolis a bydd yn cychwyn cwrs gradd yn y brifysgol ym Medi. Cyn cychwyn ei gwrs tair-blynedd mae am arfer ei Gymraeg yn ei fywyd bob dydd.

    Ydych chi'n euog o feimio'r Anthem Genedlaethol gan obeithio bod eich gwefusau yn cyd-fynd â'r geiriau? I gyd-fynd â phen-blwydd yr Anthem Genedlaethol yn 150 oed, dyma'ch cyfle i ddysgu Hen Wlad fy Nhadau a'i chanu â balchder.

    9.00am, dydd Sadwrn Awst 12fed
    Maes D - Pabell y Dysgwyr, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Abertawe
    Cofrestrwch nawr! learnwelsh@bbc.co.uk
    "

    Wednesday, 9 August 2006

    Dere i weld yr Americanwr yn gwneud ffŵl o ei hun!

    Uffern (ydy unrhywun go iawn yn defnyddio "uffern?" Chlywais i e erioed), dw i'n teimlo'n garw. Mae annwyd drwg arna i, a fy nhrwyn fel dwsel. I ddweud pethau'n byr -- dw i ddim yn teimlo fel mynd i Eisteddfod yfory. Dw i eisiau aros yn fy ngwely ac yn gwneud dim byd.

    Ond mae MaesD yn disgwyl fi i fod yno. Ar 15:15 dydd Iau, dw i'n siarad am fy mhrofiadau o ddysgu Cymraeg yn yr Unol Daleithiau. Fe allet ti'n gweld nodyn bach am hyn ar dudalen 175 yn y Rhaglen Eisteddfod.

    I ddweud y gwir, fyddwn i ddim yn awgrymu dy dod i weld fi yno, oherwydd, gyda fi'n teimlo fel cachu, fe fydda i'n siarad lol. Ond, efallai mae'n gwerth yr ymdrech i ddod yn union am y ffaith 'na -- i wylio fi'n methu.

    Ac hyd yn oed petaswn i mwy iach nag erioed o'r blaen, dw i ddim yn hapus gyda'r pethau fy mod i'n dweud yfory. Dw i ddim yn hapus gyda'r safon o fy Nghymraeg a dw i'n gwybod y bydda i'n gwneud ffŵl o fy hun.

    Ond, dyna ti. Mae pobl yn mwynhau yn gweld Americanwyr gwneud ffyliaid o hun. Efallai fe ddylwn i sefyll ar y lwyfan gyda pheint o gwrw yn fy law. Fe fydd hynny fy esgus am siarad fel hurtyn.

    Hmm, efallai fe fydda i yn gwneud hynny (Ti'n gweld am y safon fy Nghymraeg? Dw i'n ceisio i ddweud "Perhaps I will do that," ond does dim syniad gyda fi os dw i wedi ei ysgrifennu hi'n gywir).
    ...

    Dw i newydd cofio heddiw fy mod i'n cystadlu yn yr Eisteddfod eleni gyda cyfansoddiad. Does dim syniad gyda fi pryd bydd yr enillwr yn cael ei cyhoeddi. A, i ddweud y gwir, oherwydd dw i ddim yn cofio y ffugenw y roes i, fyddwn i ddim yn gwybod petaswn i ennill.

    Tuesday, 8 August 2006

    Fubar

    Dw i wedi blino lân. Ar hyn o bryd, dw i'n ymladd salwch ac yn gobeithio y bydd fy lais yn dod yn ôl erbyn dydd Iau, pan dw i'n siarad ym MaesD (fe fydda i'n siarad tua 15:00 ar ddydd Iau, gyda llaw).

    A, dw i'n dioddef y rhwystredigaeth o wedi gwastraffu fy amser ddoe a heddiw gyda thaith i Iwerddon.

    Fe aeth Rachel a fi ar gyfer y pwrpas o adael Prydain a dychwelyd. Mae angen arna i i wneud hyn i ddilysu ein teithebau. Mae hyn yn swnio'n cymhleth, ond dydy hi ddim. Rydyn ni wedi dod i Brydain ar deithebau dwrist. Ond dydy hon ddim y deitheb ein bod ni'n bwriadu i ddefnyddio. All Rachel ddim yn gweithio ar y deitheb 'na, felly dyma pam mae teithebau myfyriwr gyda ni (wel, teitheb gwraig o fyfyriwr yn yr achos Rachel). Efallai wyt ti'n cofio fi a Rachel yn mynd trwy ddŵr a thân drostyn nhw.

    Ond y peth amdanyn nhw -- doedden ni ddim yn gallu eu defnyddio nhw tan ar ôl 1 Awst.

    Felly, mae'r briodferch ifanc a fi wedi dod yma ar un fath o deitheb, a rŵan, rydyn ni eisiau bod yma ar y fath arall o deitheb. Ac, i ddilysu'r deithebau myfyriwr, oedd rhaid iddyn ni adael Prydain ac yn dod yn ôl. Felly fe benderfynodd Rachel a fi i fynd i Rosslare, Iwerddon, am ddiwrnod.

    Fe aethon ni yno neithiwr (nos Llun) -- yn mynd ar y trên i Abergwaun ac wedyn ar y fferi i Rosslare. Fe fwynheuon ni ein taith, fel mae'n digwydd. Mae Rosslare yn tref fach ac yn dawel ac yn neis. Fe arhoson ni mewn gwesty i mewn cerdded bach iawn o'r porthladd, a fe gawson ni gyfle i wylio tipyn o deledu yn ein ystafell (hyd yn oed fe welon ni pennod o EastEnders); cofia taw does dim teledu gyda ni.

    Ond pan fe ddychwelon ni'n ôl i Gymru, fe ddysgon ni taw does dim swyddog mewnfudiad yn Abergwaun! Does dim unrhywun yno i nodi dy basport! Fe dreulion ni dau ddyddiau yn gwastraffu ein amser!

    Felly, ar ôl yn treulio cymaint o amser ac yn gwario cymaint o arian, fe fydden ni'n orfod ceisio eto. Does yr arian ddim gyda ni i wneud hyn, ond ar gyfer Rachel i weithio yn yr wlad 'ma, fe fydd rhaid i ni beth bynnag. Yfory, fe fydda i'n ffonio Immigration ac yn eu gofyn nhw ble allem ni fynd i ffeindio swyddog pwy bydd yn ddilysu ein teithebau ni.

    Dw i ddim yn gallu credu hyn. A mae'r stwff i gyd yma'n dod tra fe ddylwn i fod yn canolbwyntio ar paratoi ar gyfer dydd Iau.

    (Mae'r fyddin yn yr Unol Daleithiau wedi creu'r gair "fubar." Mae e'n golygu: "fucked up beyond all recognition")

    Sunday, 6 August 2006

    Ydw i'n colli rhywbeth?

    Fe ddylwn i fod yn gofalus iawn gyda'r post blog 'ma. Fel mae'r briodferch ifanc wedi dweud wrtha i ddoe: "You're not going to win any friends if you diss Eisteddfod."

    Ond...

    Fe aeth Rachel a fi i Eisteddfod ddoe (dydd Sadwrn), a petasai nid am y ffaith bod rhwymedigaeth arna i i ddychwelyd ar ddydd Iau a dydd Sadwrn nesaf (fe allet ti'n ffeindio fy enw ar dudalen 175 o'r rhaglen Eisteddfod: "Trafod dysgu Cymraeg yn Unol Daleithiau America gyda Chris Cope"), fyddwn i ddim yn fynd yn ôl.

    Felly, efallai rydw i wedi colli rhywbeth. Dw i ddim yn gallu credu bod yr Eisteddfod fe welais i ddoe (maes parcio enfawr o greigiau llychlyd) ydy'r un Eisteddfod bod pawb yn canu ac yn ysgrifennu ac yn dihoeni am.

    Dw i'n gobeithio y gallech chi'n helpu fi i weld yr Eisteddfod trwy'r llygaid Cymro. Dw i wedi bod yn edrych ymlaen at dod i Eisteddfod am adeg hir -- dyma'r rheswm bod Rachel a fi wedi symud yma mor gynnar -- ond ar hyn o bryd dw i'n siomedig.

    Efallai roeddwn i'n disgwyl gormod. I ddod o'r Unol Daleithiau, o ble mae ffeiriau'n cael ei chynnig ar mwy na 320 erwau, ac yn meddwl y bydd Eisteddfod cymaint â, neu fwy na'r digwyddiadau 'na'r rhain pethau -- efallai dw i ddim yn y mindset cywir.

    Yr anfantais o gael fy ngeni a fy magu yn yr UDA ydy hyn, efallai. Pan dw i'n gweld pethau dw i'n eu cymharu nhw i bethau o fy mhrofiadau personal. Felly, dw i'n cymharu Eisteddfod i'r Minnesota State Fair, neu'r State Fair of Texas. Ond mae Minnesota State Fair wedi cael 1,632,876 ymwelwyr y llynedd. Fe gafodd y State Fair of Texas mwy na 3 miliwn ymwelwyr y llynedd.

    Ond does dim 1.6 miliwn siaradwyr Cymraeg , o beth rydw i'n deall, felly mae'r gymhariaeth yn annheg.

    Fe fwynheuais i'n gwrando ar y bandiau pres. Roeddwn i'n arfer chwarae'r trombôn pan roeddwn i'n ifancach, a dw i'n gwastad yn dweud wrth fy hun fy mod i eisiau dechrau eto, felly fe fues i'n wrth fy modd yn gwrando ar y bandiau.

    A fe arhosodd Rachel a fi i wrando ar y cystadleuaeth corau cymysg dros 45 mewn nifer. Mae Rachel a fi wedi gweld yr arweinydd Côr Godre'r Garth -- Eilir Owen-Griffiths -- o blaen, ar rhaglen teledu. Felly roeddem ni'n hapus i weld y côr yn ennill y gwobr gyntaf.

    Efallai dydy Eilir ddim yn meddwl bod hyn yn doniol, ond fe ollyngodd e'r cwpan fe enillodd y côr a mae'r peth wedi torri -- ar y llwyfan, tu blaen pawb. Fe chwerddais i ar hynny am mron bum munud.

    Hefyd, fe ges i gyfle i gwrdd â Catherine McKenna, sydd yn darlithiwr Harvard. Mae ei adran hi wedi tynnu fy niddordeb am amser hir -- yn y cefn o fy mhen, fe hoffwn i astudio neu weithio yn Harvard rhyw dydd yn y dyfodol pell.

    Felly, dw i ddim yn dweud y roedd Eisteddfod yn gwastraff o fy amser, ond dw i'n teimlo fel dw i wedi colli rhywbeth. Yn dy farn di, beth ddylwn i wneud ar ddydd Iau i helpu fi i fwynhau Eisteddfod yn fwy?

    Friday, 4 August 2006

    Wythnos brysur yn dod

    Hyd yn oed mae'r rhyngrwyd gyda fi o'r diwedd, dw i ddim yn siŵr faint fe fydda i'n flogio dros yr wythnos nesaf. Mae'n edrych yn brysur iawn.

    Yn ffodus, fydd ddim lawer o bobl yn darllen oherwydd mae pawb arall yn brysur gyda Eisteddfod, fel fi.

    Yfory (dydd Sadwrn) fe fydda i'n weithio ar stondin Prifysgol Caerdydd. Os wyt ti eisiau popio draw i ddweud helo, fe fyddai hynny'n gwych. Dw i'n meddwl y bydda i yno o 1100 i 1400.

    Nodion gan fy amser hir i ffordd o'r rhyngrwyd

    Dydd Llun 17 Gorffennaf 2006
    Fydd dim internet gyda fi am ddeg mwy o ddyddiau (golygu: mae'r proses wedi cymryd mwy o amser na hynny), ond dw i wedi penderfynu i ddechrau post blog ar ddogfen Word ac wedyn rhoi'r peth arlein cyn gynted â phosib.

    Dydd Mawrth 18 Gorffennaf 2006
    Ches i ddim gyfle i orffen fy mhost ddoe, oherwydd mae Rachel a fi wedi mynd i'r Mochyn Du i gwrdd â grŵp o flogwyr: Fuodd Rhys, Geraint, Mair, a Sara yno. Fe ges i amser gwych hyd yn oed chawn ni ddim lawer o gyfle i siarad yn y Gymraeg oherwydd fe fuodd fy ngwraig gyda fi.

    Mae hyn yn gwneud hi swnio fel rhyw fath o angor. Dw i ddim yn golygu i ddweud hynny. Ond i fod yn moesgar (polite dw i'n ceisio i ddweud), mae pawb wedi siarad yn Saesneg.

    S'dim ots. Dw i'n siŵr y bydd cyfleodd arall yn fuan iawn.

    Y peth rhyfeddaf am y nos wedi dod pan gohebydd gan BBC Wales wedi troi lan:

    "Are you Chris Cope?"

    "Yeah, that's me."

    "I'm from BBC Wales and we had heard that you were here tonight, so I've been sent to interview you."


    Wedi clywed y bues i yno? Gan pwy? Efallai mae BBC wedi rhoi microchip yn fi. Ond, roedd y cyfweliad yn digon o hwyl. A, mae rhaid i fi gyfaddef fy mod i'n mwynhau'r sylw tipyn bach.

    Dw i ddim eisiau cerdded o gwmpas gyda rhyw fath o ego enfawr, ond mae'n neis i gael cymaint o gymorth a chefnogaeth gyda fy Nghymraeg.
    ...

    Dw i ddim yn credu pa mor boeth mae hi wedi bod dros y dyddiau diwethaf. Yn ôl y Western Mail, fe fydd yfory y dydd poethaf ar record. Wffta, fel mae nhw'n dweud yn Minnesota.

    A dyma fi a Rachel yn gorfod cerdded ym mhobman. Mae Rachel wedi dweud heddiw mae mwy o losg haul gyda hi nawr ers rydyn ni wedi gadael San Diego (yn ôl ym 2003). Pwy fyddai wedi meddwl y byddai Gymru mor boeth?!

    Dw i ddim eisiau cwyno am y tywydd, oherwydd dw i'n gwybod beth allai dod yn ei le, ond fe hoffwn i ei weld y tymheredd yn mynd i lawr tipyn bach. Dw i'n dod o Texas, ond dw i ddim yn cyfarwydd gyda bywyd heb air conditioning. Dw i'n chwysu heb-stopio; fel sauna ydy fy ystafell astudio.
    ...

    I osgoi'r tywydd poeth heddiw, fe aeth Rachel a fi i'r sinema ar gyfer gweld "Pirates of the Caribbean." Ffilm da iawn oedd hi.

    Dw i ddim yn gwybod pam, ond mae mynd i weld ffilm wedi rhoi tipyn o hiraeth arna i ddros yr Unol Daleithiau. Daeth yr hiraeth ddim gan y ffilm wrth gwrs -- ffilm am bobl gyda accennau Prydeinnig ydy hi -- ond rhywbeth am fynd i weld ffilm, efallai. Pan gadawon ni'r sinema, roeddwn i'n meddwl am fywyd yn yr Unol Daleithiau... cerdded yn ôl i'r car, yn weld pethau cyfarwydd, ac yn y blaen. Mae'n anodd iawn i esbonio'r teimlad hyd yn oed yn Saesneg.

    Dydd Mercher 19 Gorffennaf 2006
    Fe ges i gyfweliad bach ar Radio Wales heddiw. Fe fues i ar Good Evening Wales yn siarad am y ffaith bod Rachel a fi wedi cyrraedd yng Nghaerdydd. Helo, Cymru, rydw i yma nawr.

    Rydw i'n teimlo fel y profiad 'ma wedi taken on a life of its own. Gyda fi ar y radio ac mewn storiau newyddion ac yn siarad yn Eisteddfod, dw i'n teimlo fel mae'r peth yn tynnu fi ymlaen.

    Dw i ddim yn gallu darllen blogiau eto, ond mae rhywun yn y BBC wedi dweud wrtha i bod Rhys wedi ysgrifennu am y "Chris Cope Effect." Dw i ddim yn siwr beth ydy hynny.

    Dw i'n pryderu am bod siom i bobl petaswn i methu gyda hyn. Yn fy mywyd, dw i wedi gwneud nifer o bethau sydd yn tipyn left field, ac, i ddweud y gwir, y mwyafrif ohonyn nhw wedi methu. Dim ond fy mhriodas a fy mhrofiadau Cymraeg wedi gweithio i'r pwynt 'ma.

    Petaswn i gwneud gwastraff o fy amser ym mhrifysgol, a'r pethau y byddai'n dod yn nesaf, dw i'n teimlo fel y byddwn i siom i bob person pwy wedi rhoi cymaint o gymorth a chefnogaeth.
    ...

    Yr dydd mwyaf poeth ar record fu heddiw, yn ôl y BBC. Rhywle yn y byd rŵan, mae Al Gore yn gweiddi: "I told you so!"

    Dw i ddim mor simple minded i rhoi'r bai i gyd ar GW, neu hyd yn oed yr Unol Daleithiau am global climate change, ond mae'n rhwystredig iawn i wybod bod mae cymaint o Americanwyr yn gwrthod i gredu bod yna problem.

    Yn ffodus, mae tywydd tipyn mwy oerllyd yn symud mewn heno. Mae nhw'n dweud y ddylai'r dyddiau nesaf yn OK, ond mae heat wave arall yn dod yr wythnos nesaf.
    ...

    Mae Rachel yn dechrau dangos diddordeb go iawn mewn dysgu Cymraeg. Mae cariad Rhys wedi rhoi amryw llyfrau dysgu i Rachel ddoe, a heddiw fe bynodd Rachel y llyfr "Street Welsh" yn y siop Caban ym Mhontcanna.

    Dw i'n meddwl taw cyn gynted â mae Rachel yn gallu ffeindo swydd -- a, felly, yn gwybod ei rhestr -- fe fydd hi'n ddechrau gyda dosbarthiadau yn y Canolfan Dysgu Cymraeg.

    Dw i ddim eisiau ei gwthio hi i wneud pethau (os dw i wedi dysgu un peth am briodas: fyth yn geisio dweud wrth dy wraig beth i wneud), ond mae rhai fi gyfaddef y byddwn i'n hapus i weld hi'n dysgu.

    Os dim byd arall ("if nothing else" dw i'n ceisio i ddweud) fe fyddai'n wych i gael Rachel yn siarad y Gymraeg oherwydd fe fyddai hyn yn rhywstro fy mam-yng-nghyfraith, dw i'n meddwl. Dw i'n hapus iawn i wneud bron o unrhywbeth i rhywstro fy mam-yng-nghyfraith ceidwadol.
    ...

    Fe ddylwn i gael ffôn erbyn y diwedd y dydd yfory. Ac wedyn, dw i'n gallu ffonio i ofyn am band-llydan. Neu, ddylwn i ddweud "band-eang?" Mae S4C yn defnyddio "band-llydan", ond welais i arwydd ar man stopio bws sydd yn hyrwyddo "band-eang."

    Beth bynnag, dw i'n edrych ymlaen at dychwelyd i'r byd arlein. Mae'r cymuned Gymraeg arlein yn pwysig iawn hyd yn oed pan dw i'n byw yng Ngymru, dw i'n ffeindio.

    Ac hefyd, fe fydda i'n gallu cysylltu fy nheulu. O hyd dw i'n teimlo tipyn homesick. Dw i ddim yn siŵr pam -- dw i ddim eisiau mynd yn ôl. Dw i ddim yn colli byw mewn basement fy rhieni ac yn gwrando arnyn nhw'n gwylio teledu. Ond dw i'n colli the familiar, efallai. Ac hefyd, efallai dw i'n colli bod dim byd mwy na pheth dichonadwy. Fel dwedais i yn gynharach, rŵan fy mod i'n yma, dw i'n pryderu y bydda i'n fethu mewn rhyw ffordd.
    ...

    Hefyd yfory dw i'n bwriadu ffonio am ein beiciau. Rydyn ni wedi mynd gyda nhw i Reg Braddick Cycles yn y Rhath ar eu gyfer cael eu trwsio. Dw i'n edrych ymlaen at bod yn gallu defnyddio fy meic yn lle na gawrio cymaint o arian ar y bwsiau a thrênau.

    Dydd Sul 23 Gorffennaf 2006
    Fydd ddim rhygrwyd gyda fi tan 4 Awst. Dw i ddim yn siŵr pam dw i'n ysgrifennu hynny yma -- oherwydd fyddech chi ddim yn ei weld tan ar ôl 4 Awst -- ond dyna ti.

    Fe ges i gyfle i feicio lawr i Ganol y Ddinas heddiw ac yn defnyddio'r WiFi yn Starbucks. £5 i ddefnyddio y rhygrwyd am un awr -- dydy hyn ddim yn union bargain. Mae Rachel a fi'n bwriadu ffeindio llyfrgell yfory i weld os rydyn ni'n gallu defnyddio'r rhyngrwyd yno.

    Mae'n pwysig i Rachel i gael dyfodfa rhygrwyd oherwydd mae hi wedi gwneud cais am swydd ac yn gobeithio i glywed yn ôl ganddyn nhw. Ar hyn o bryd, mae hi wedi gwneud cais am swydd yn Abertawe a swydd yng Nghaerdydd. Mae rhywun sydd yn gweithio yn Heath Hospital wedi dweud wrthi hi am wefan i ffeindio swyddi yn yr ardal, felly mae hi'n bwriadu edrych arno yfory hefyd.
    ...

    Mae beiciau gyda ni nawr. Dw i'n dysgu sut i saethu trwy'r strydoedd heb ofal am fy mywyd. A Jedi must be willing to accept losing everything, dwedodd Yoda.

    Mae'r gyrrwyr yma'n hollol gwallgof. Mae nhw'n gyrru fel does dim rheolaeth gyda nhw yn eu bywydau. Felly, os mae Duw yn dweud y byddet ti'n marw mewn damwain car, fe fyddet ti'n marw mewn damwain car. A does dim ots os wyt ti'n gyrru 20 mph neu 80 mph -- fe fydd yr anochel yn digwydd. Felly, mae pobl Cymru yn gyrru cyn gyflym â phosib, ar gyfer cyrraedd i leoedd yn gynnar ar y dyddiau pryd dydy eu tynged ddim i farw.

    (Dw i'n ymestyn fy Nghymraeg yno, felly dw i ddim yn siwr os dw i'n dweud beth rydw i'n ceisio i ddweud.)

    A dyma fi, yn beicio eu ymhlith nhw. Mae'n fel beico ar roller coaster, ond mae rhaid i fi dewis yr olion. Ond -- a phaid yn dweud dim byd i fy ngwraig -- dw i'n ei mwynhau tipyn bach. Dw i ddim yn siŵr os bydda i'n dweud yr un peth ym mis Rhagfyr, ond ar hyn o bryd dw i'n mwynhau'n beicio yng Nghaerdydd.
    ...

    Dydd Llun 24 Gorffennaf 2006
    Mae Rachel a fi wedi torri ein gwely heddiw tro roeddem ni'n cael rhyw. Mae'n hurt i ddweud rhywbeth fel hynny ar fy mlog, ond cofiwch fy mod i wedi priod ers mwy na saith mlynedd. Point of pride ydy hyn!
    ...

    Mae'r rhaglen "Wedi 7" wedi ffonio fi heddiw ac yn gofyn i wneud cyfweliad bach gyda fi yfory. Mae nhw'n cwrdd â fi yn y Mochyn Du. Mae'n doniol oherwydd dw i'n bwriadu mynd i'r Mochyn Du heno. Fe fydda i regular mewn amser byr -- fyddwn i ddim yn gwyno am hynny.

    Dw i erioed wedi eisiau bod fel Norm ar y rhaglen teledu Americanaidd "Cheers." Fe hoffwn i ddod i mewn tafarn ac yn cael fy nabod.

    Dw i ddim yn gwybod pryd bydd y cyfweliad gyda Wedi 7 yn cael ei darlledu, ond fe wnaf i rhoi dolen i'r fideo ar fy mlog os dw i'n gallu.
    ...

    Fe es i lawr i'r llyfr gell heddiw, ond ches i ddim cerdyn llyfrgell oherwydd fe anghofiais i ddod gyda adnabyddiaeth. Felly, fe fydda i'n fynd yn ol yfory ac wedyn fe ddylwn i allu bod yn defnyddio eu cyfrifiadur i edrych ar fy e-bost ac yn y blaen.
    ...

    Mae'r Eisteddfod yn dechrau i olwg yn brysur iawn i fi. Mae Prifysgol Caerdydd wedi gofyn fi i weithio ar eu stondyn nhw am ddydd; dw i'n meddwl y gwnaf i hynny ar y ddydd Sadwn gyntaf (5 Awst). Hefyd, fe fydda i'n siarad yn y pabell y dysgwyr ar ddydd Iau, ac eto ar yr ail ddydd Sadwn (12 Awst).

    Mae Rhys wedi dweud wrtha i mai dim problem fe ddylai i ffeindio gwesty hyd yn oed nawr, mor agos i Eisteddfod, felly yfory fe fydda i'n ffonio i ffeindio B&B nhw rhywbeth tebyg dros fi a Rachel.

    Ie, dw i'n gwybod y ddylwn i gampio ar gyfer y profiad Eisteddfod go iawn, ond dydy ein stwff campio ddim wedi cyrraedd gan yr Unol Daleithiau eto.
    ...

    Dydd Mawrth 25 Gorffennaf 2006
    Ar hyn o bryd dw i'n eistedd wrth bwrdd yn yr ardd gwrw Y Mochyn Du, yn teipio ar fy laptop i rhoi "Wedi 7" rhywbeth i ffilmio.

    Fe fydd fy nghyweliad yn cael ei darlledu ar nos Llun, mae'r gohebydd yn dweud. Dw i ddim yn cofio ei enw ar hyn o bryd a fe fyddwn i'n embarassed i ofyn nawr.
    ...

    Dydd Mercher 26 Gorffennaf 2006
    Mae heddiw'n nodi un bythefnos ers mae Rachel a fi wedi cyrraedd yng Nghymru. O hd dw i ddim yn teimlo cyfforddus gyda phopeth. Dw i'n teimlo o hyd fel dw i'n ar fy ngwyliau, a mae rhyw darn o fi'n eisiau mynd adref.

    Ond dydy hynny ddim yn teimlad dilys i fi. Dw i ddim eisiau mynd yn ôl i Minnesota i weithio mewn swydd ddiflas eto. Dw i eisiau bod yma, ond dw i'n teimlo rhwystredigaeth gyda... dw i ddim yn gwybod. Efallai roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n deimlo fel hen boi Gymu erbyn hyn.
    ...

    Dw i ddim yn siwr sut aeth fy nghyfweliad gyda "Wedi 7" ddoe. Dw i'n siwr fy mod i wedi gwneud fŵl o fy hun. Efallai peth da ydy bod dim teledu gyda Rachel a fi. A peth da hefyd fydd y rhygrwyd ddim gyda fi chwaith tan dydd Gwener nesaf. Felly, dw i'n gallu anwybyddu popeth.

    "Eh? Fi? Ar y teledu? Yn siarad fel hurtyn ar y teledu? Na, efallai fe fuodd rhyw dysgwr Americanaidd arall..."
    ...

    Fe gafodd Rachel ei ffôn symudol newydd heddiw yn y post. Cam arall tua bod trigolion Cymru ydy hynny, dw i'n teimlo. Rŵan, rydyn ni'n gallu ffônio am dacsi, yn lle na gorfod yn gofyn rhywun arall i ffônio drostyn ni.

    Mae ffôn braidd yn gŵl gyda Rachel, ond does dim ots gyda hi. The wonders of technology are often lost on her. Mae hi'n digon hapus i wybod sut i ffônio a sut i ymateb y ffôn. Fe roeddwn i'n geisio i ddangos iddi sut i ddefnyddio'r camera neu newid ei ring tone, ond gwrthododd hi i wrando.

    "You can do all that stuff with your phone," fe ddwedodd hi.

    Ie, ond dydy fy ffôn fi wedi cyrraedd eto!
    ...

    Dw i'n gwybod mae'n anaeddfed, ond dw i ddim yn gallu stopio fy hun o chwerthin pob tro dw i'n clywed y gwres drws nesaf yn galw am ei chath: "Pussy. Pussy, pussy, pussy, pussy."

    Dw i'n gallu dal fy hun o gilwenu pan dw i'n clywed rhywun yn dweud "fag" dros "cigarette," ond dw i'n gallu gweld fy hun fel dyn 60 oed o hyd yn chwerthin ar glywed rhywun yn galw am, "Pussy. Pussy, pussy, pussy, pussy."

    Wel, dw i'n yn galw am hynny hefyd. Ond dw i ddim yn edrych am gath.

    (Mae'r sylw 'ma yn mynd yn ôl i sgwrs fe ges i gyda Mair, Sara a Geraint ar ddydd Llun -- dw i'n gweithio tua ysgrifennu mwy fel dirty old man)
    ...

    Mae'r briodferch ifanc a fi'n bwriadu beicio i fyny i Gastell Coch yfory. Dw i ddim yn siŵr beth i ddisgwyl, ond rydyn ni'n gobeithio ein bod ni'n gallu ffeindio rhai llwybrau i heicio. Rydyn ni wedi bod yma am hanner his ac o hyd chawson ni ddim gyfle i fynd am grwydrad.
    ...

    Dydd Iau 27 Gorffennaf 2006
    Fe aeth Rachel a fi i weld Castell Coch heddiw. Mae'r adeilad yn colli rhywbeth pan ydych chi'n dysgu y gafodd e ei adeiladu yn y 19ed canrif. Aethon i ni ddim i mewn y castell; mae £3.50 yn swnio fel gormod o arian i wario ar castell mai ddim yn castell.

    Ond mae sawl llwybrau yn mynd draw o'r castell, a dyma oedd y rheswm fe beiciodd Rachel a fi i fyny yno yn y lle cyntaf. Fe heicion ni ar llwybr ceffyl am dipyn bach ac wedyn fe gawson i gino yn y cysgod. Fe fuodd yn hyfryd. Ond o hyd dw i'n chwilio am le i fynd i deimlo fel dw i'n gallu dianc o'r byd. Dw i'n siŵr bod lleoedd fel hyn yn bodoli yng Nghymru ac yn agos i Gaerdydd -- dim ond rhaid i fi eu ffeindio nhw.

    Dw i'n sylweddoli bod hyn yn swnio'n hurt, ond fe hoffwn i ffeindio lle fel Southsea Promenade ym Mhortsmouth, yn Lloegr. Mae'r promenâd yn ymestyn mwy na phedwar milltiroedd, felly fe allech chi'n jyst yn cerdded ac yn cerdded ac yn cerdded ac yn anghofio am bopeth sydd yn poeni chi.

    Wel, oddiethr os mae sŵn y môr, gwylanod a achlysurol dynion digartef meddw yn eich poeni chi.

    Fe hoffwn i ymweld Portsmouth rhywbryd, ond dw i'n meddwl y byddai hynny hard sell i'r briodferch ifanc. Gyda chymaint o bethau gwych i weld a gwneud yn Nghymru, pam mynd i un o'r dinasoedd gwaeth yn Lloegr?

    Efallai fydd rhaid hyn yn aros tan ar ôl mae Shiona'n cyrraedd. Shiona ydy ffrind da iawn fy mod i wedi nabod ers y dyddiau Portsmouth -- fe aeth hi i brifysgol yn Pompey hefyd. Felly, efallai fe allaf i wthio Shiona i fynd ar daith fach gyda fi.

    Na, efallai dim. Mae mwy o taste gyda Shiona, yn anffodus.
    ...

    Dydd Llun 31 Gorffennaf 2006
    Dyma'r tywydd y roeddwn i'n dysgwyl. Mae'n bwrw glaw heddiw. A fe gawn i dipyn o'r un fath o stwff ddoe ac echdoe. A, mae'r papur newydd yn dweud y bydd hi'n bwrw glaw eto yfory.

    Mae'n OK gyda fi. Dw i'n hoffi'r glaw a ddes i yma ddim yn disgwyl unrhywbeth gwahanol.

    Ond, mae'r tywydd yn ychwanegu i'r dymer bruddglwyfus Rachel. Mae'n teimlo'n isel oherwydd dydy hi ddim wedi ffeindio swydd eto. Pob tro mae'r ffôn yn canu, dw i'n gallu gweld golwg gobeithiol arni; mae hi'n gobeithio bod rhywun wedi ffônio i gynnig cyfweliad swydd iddi.

    Ac wedyn, pan rydy hi'n clywed fi'n siarad yn y Gymraeg, mae hi'n mynd yn ôl i deimlo'n isel. Dw i'n gallu gweld ei bod hi'n dechrau i deimlo'n rhywstredig gyda phopeth. A dw i'n teimlo'n ddrwg oherwydd does dim llawer fy mod i'n gallu gwneud. Dim ond rhaid i ni aros ac yn gobeithio y bydd rhywbeth yn dod.
    ...

    Dw i'n dechrau i bryderu am fy nghyfrifiadur. Fe bynais i fy laptop yn yr Unol Daleithiau, felly dw i'n defnyddio converter yma. Ond dw i ddim yn siŵr bod popeth yn gweithio fel y ddylai. Dyma union y peth fy mod i'n angen ar hyn o bryd -- cyfrifiadur fucked.
    ...

    Fe aeth y briodferch ifanc a fi i Joust ar ddydd Sadwrn. Dathliad canoloesol ydy Joust, ac efallai wyt ti'n gwybod fy mod i'n dwlu dros bethau fel na. Fe es i yno gyda fy nghwpan lledr, wrth cwrs.

    Doedd y peth mor fawr â Renaissance Festival ym Minnesota, a fe fuodd disconcerting lack of ribaldry and saucy lasses, ond fe gafodd Rachel a fi llawer o hwyl. A, mae Joust yn cael ei gynnal tu blaen castell go iawn -- all RenFest ddim yn cymharu i hynny.

    Fe brynodd Rachel cwpan lledr ei hun yno. Mae'r draig goch arno, felly dw i'n eiddigeddus. Os wyt ti'n gweld ni yn Y Mochyn Du, efallai fe fyddet ti'n weld Rachel a fi'n yfed o ein cwpannau lledr.

    Ie, dw i'n gwybod. Dorks ydyn ni.

    Dydd Gwener 4 Awst 2006
    Mae'r BT Hub wedi cyrraedd heddiw. Mae hyn yn golygu y ddylwn i gael y rhyngrwyd yn fuan iawn.

    Ar hyn o bryd, dw i'n ceisio i ladd amser tra rydw i'n aros am awr, fel mae'r llyfr hyffordi'n dweud wrtha i i wneud. Dw i ddim yn deall pam mae rhaid i fi aros awr, ond dw i'n dysgu bod yn haws i nid gofyn cwestiynau.

    Mae Hub wedi cyrraedd ar 7:30 yn y bore heddiw. A roeddwn i'n effro yn barod ac yn aros am y peth i ddod, fel plentyn ar Ddydd Nadolig.

    Roedd yn digon hawdd i osod, ond am rhyw rheswm, mae'n dweud: "Step 4: Take a break. Please leave everything for about an hour before continuing to set up your BT Total Broadband service."

    Mae diogi'n built ino yr proses. Tipyn fel petaset ti trwsio'r waith plymwr yn dy dŷ dy hun ac wedyn yn gofyn dy hun i dalu gormod am y gwaith.