Wednesday, 27 September 2006

Cwrw a'r iaith

Clicwch yma i weld fy mhost fideo diweddar.

Dw i ddim eisiau ceisio i ddweud bod fy fideos yn eithaf da, ond dw i'n meddwl ei bod hi'n gwerth yr ymdrech i wylio tan y diwedd.

Yn barod. Dw i'n meddwl

Mae teimlad bach arna i fy mod i'n "in over my head" gyda'r stwff 'ma i gyd.

Dw i wedi gorffen gyda chofrestru heddiw. Ar bore Llun, mae fy narlithoedd yn cychwyn, ac i fy syndod, dw i'n mynd ar lwybr iaith gyntaf. Hefyd, dw i wedi cofrestru mewn dosbarthiadau Sbaeneg.

Fe ddewisais i Sbaeneg oherwydd fy ngwreiddiau Texas (mae 35 y cant o'r boblogaeth Texas yn siarad Sbaeneg), a'r ffaith fy mod i wedi gwneud rhai dosbarthiadau Sbaeneg prifysgol yn yr Unol Daleithiau. I ddweud y gwir, dw i'n edrych ymlaen i'r dosbarthiadau. Mae nhw'n dweud y ddylwn i gyrraedd safon A-level erbyn y diwedd. Felly eithaf trylwyr ydy'r peth, ond dw i'n meddwl fy mod i'n gallu gwneud e os dw i'n gwthio fy hun.

Dyna'r anhysbysyn: fi.

Cyn belled ag amheuaethau, pan dw i'n edrych ar y cwrs, a'r tair mlynedd nesaf, dw i ddim yn meddwl y bydd yn rhy anodd -- heriol, ond nid amhosib. Does dim pryder arna i am y cwrs. Dw i'n pryderu am y person sydd yn y cwrs.

Dw i'n teimlo o dro i dro fel mae dau person yn fy nghorff. Dyna fi, y dyn sydd yn ysgrifennu hyn a sydd yn edrych ymlaen at y profiad 'ma, sydd nid yn ofnus o her neu o wthio fy hun; a dyna rhywun arall, y dyn sydd yn ymddangos i ddiffodd popeth, sydd yn gallu treulio'r holl dydd yn llygadrythu ar y wal. Felly, y pryder enfawr sydd yn arna i am y cwrs 'ma'n dod (rhan amlaf) am y ffaith fy mod i ddim yn gwybod am y dyn arall. Dw i ddim yn gwybod os dw i'n gallu ei oruwchreoli e pan mae'r angen arna i.

Ond dyna ni. Dyna fy mywyd. Fe all popeth bod yn llawer gwaeth, siŵr o fod. Tra roeddwn i'n ysgrifennu'r post ma, fe ges i sylw ar fy mlog Saesneg sydd yn crisialu fy nheimladau ar hyn o bryd. Fe ddwedodd Omega: "Hey, you're living the dream. But no one said it would be a nice dream."

Tuesday, 26 September 2006

Y dewis

Beth ydy'n mwy pwysig: yn blogio, neu'n mynd am beint gyda ffrind?

Dw i'n meddwl dy fod ti'n gwybod yr ymateb i'r cwestiwn 'na, a dyna pam dw i ddim yn blogio heno. Efallai yfory. Sori.

Monday, 25 September 2006

O Chris de Burgh

Mae Rhodri wedi anfon y fideo 'ma i fi. Gwych ydy e -- yn enwedig os wyt ti'n tipyn araf yn dy ben, fel fi. Roeddwn i'n eistedd yno ac yn meddwl, "I don't get it," hyd fe glywais i'r corws.

Beth sy'n gwneud yr UDA yn wych

Ar ôl yn gofyn am Velveeta ar ddydd Sul, dw i wedi bod yn meddwl am ddull coginio Americanaidd.

Mae pobl yn yr Unol Daleithiau'n cael syniadau rhyfedd iawn am beth ydy bywyd. Yn y Canol-Gorllewin, mae nifer o ryseitiau'n galw am cream of mushroom soup. Yn Hawaii, mae pobl yn hoff iawn o Spam. Mae'n anodd i gredu ein bod ni'n bwyta'r stwff 'ma heb yn cael ein gorfodi.

Efallai fy hoff rysáit Americana ydy Cinnabergers. Dw i ddim wedi bod yn digon dewr i geisio'r rhain, ond rhyw dydd...

Richfield is for lovers

Fe glywais gan fy nhad e fod e'n house hunting y dyddiau 'ma. Mae hyn yn newyddion gwych.

Efallai wyt ti'n cofio ei landlord basdad, sydd yn hoff o dorri lawr coed. Mae e wedi bod yn rhwystro fy nhad yn diweddar i'r pwynt bod fy nhad wedi penderfynu i chwilio am lle ei hunain. Dw i'n falch iawn ohono fe am wneud hyn.

Doedd fy nhad ddim wedi piau tŷ ers y 80au. Fe brynodd e tŷ yn Irving, pan roeddwn i'n 5 oed, ac wedyn fe gollodd ei harian i gyd mewn y peth. Ar ôl y profiad 'na, fe gymrodd mwy na degawd iddo fe i ddychwelyd i sefydlogrwydd, a mae e wedi bod yn swil iawn am fuddsoddi mewn tŷ arall.

Mae e'n edrych nawr ar dŷ yn up-and-coming Richfield. Mae asiantau ystad yn hoff iawn o ddefnyddio brawddegau ddisgrifiadol cyn yr enwau trefi yn y Twin Cities, fel "prestigious West Bloomington," neu "sought-after Woodlake" (mae Tom yn byw yn "over-hyped South Minneapolis" -- dim ond jôc). Mae Richfield wedi arfer bod dymp ond nawr mae rhai teuluoedd ifanc wedi bod yn symud mewn, felly mae'r lle yn "up and coming."

Petasai fy nhad prynu tŷ, fyddai e a fy mam ddim yn dod i Gymru am Nadolig, ond s'dim ots am hynny. Dw i eisiau fe a fy mam i gael lle o eu hunain.

Mae Rachel yn meddwl bod y ffaith bod fy nhad yn gwylio am dŷ yn gysylltiedig i fy anturiau Gymraeg. Mae hi'n meddwl bod dw i wedi ei ysbrydoli e trwy yn ddilyn fy mreuddwyd o ddod yma. Dw i ddim yn gwybod am hynny, ond dw i'n hapus i weld e fod e'n mynd ar ôl rhywbeth. A, fel dwedais i ddoe, dw i'n gobeithio y fydda i ddim yn ei siomi e.

Sunday, 24 September 2006

Y tao o Mo

Dw i wedi bod yn sâl dros y penwythnos, ond dw i'n meddwl fy mod i wedi mendio digon i fod yn barod ar gyfer dydd Mawrth, pryd dw i'n dechrau ar fy nghwrs. O'r diwedd.

Ond dydy hynny ddim yn dweud dim byd am fy nhymer. Er fy lol i gyd am Gymraeg yn rhoi hyder arna i, dw i ddim yn teimlo hynny ar hyn o bryd. Dw i'n pryderu am siomi fy hun a fy ngwraig a phawb sydd wedi bod mor gefnogol. Mae darn o fi sydd eisiau osgoi dydd Mawrth, eisiau rhedeg i ffordd yn ôl i Minnesota.

Roeddwn i'n gwylio EastEnders ar ddydd Gwener, ac roedd Mo yn ceisio gwneud Stacey i siarad iddi. A fe ddwedodd Mo: "Whenever I'm in a poor mood, I like to take it out on the first person I see."

OK, arwydd cryf ydy e fy mod i wedi colli'r plot os dw i'n dyfynnu'r athroniaeth Mo Harris, ond dyna ni. Dw i'n fel hynny, yn anffodus. Felly, mae fy mhryder a fy ofn o fethiant yn troi i ddicter.

Fel canlyniad o'r rhain teimladau, mae short fuse arna i y dyddiau 'ma. Dw i wedi bod yn grac am y pethau twpaf. Ac, wrth gwrs, mae bod yn grac yn gwneud hi'n anodd i ganolbwyntio, felly mae fy Nghymraeg yn dioddef, a dw i'n digio'n mwy.

Wir, ar hyn o bryd, dw i'n ymladd brwydr arwrol i stopio fy hun o ddinistrio fy nghyfrifiadur, oherwydd dw i'n mor rhwystredig. Dw i ddim yn credu yn fy hun. Er dw i wedi bod yn gwthio at hyn am flynyddoedd, dw i ddim yn teimlo'n barod.

Velveeta

Dyma gwestiwn: Ble wyt ti'n meddwl y gallwn i'n ffeindio Velveeta? Yn ôl Wikipedia, "at one time it was sold in the United Kingdom," ond efallai nid ym mhellach? Mae angen ar Rachel a fi i ei ffeindio oherwydd mae rysáit gyda Rachel sydd yn gofyn am y stwff.

Efallai ddylwn i bopio draw i Wally's i weld os oes Velveeta yno.

A phaid yn beirniadu. Mae'r rysáit 'ma'n dod o Oprah. Fyth yn amharchu Oprah, y'all.

Wednesday, 20 September 2006

Llai nag wythnos i fynd

Cliciwch yma i weld fy mhost fideo diweddar

Gyda llai nag wythnos i fynd cyn dw i'n dechrau ar fy nghwrs, fe allet ti'n gweld fy mod i'n groendenau * iawn.

*"Irritable" dw i'n ceisio i ddweud.

Coffi am ddim

Dw i wedi anghofio i ddweud hyn ar ddydd Llun, ond mae Starbucks yn rhoi bag o goffi i Rachel bob wythnos. Ond dydy Rachel neu fi ddim yn yfed coffi. Felly, os wyt ti'n byw yn agos ac yn hoffi coffi Starbucks, dweud wrtha i.

Ond, mae rhaid i ti addo y fyddet ti ddim yn protestio Starbucks pan mae'r briodferch ifanc yn gweithio yno.

Yr ail nofel

Ar ddydd Gwener diwethaf, fe siaradais i eto gyda fy asiant llyfr am fy nofel. Rydyn ni wedi cytuno y ddylwn i ddim yn ceisio ail-ysgrifennu fy nofel yn llwyr. Fe fyddai'n gwneud hynny dim ond yn ymestyn y stori yn rhy bell; fe fyddai y finished product yn cael y golwg o nofel sydd nid y peth taw roedd yr awdur yn bwriadu.

Ond, yn y cyfamser rhwng y dau ohonyn ni'n siarad, fe benderfynodd fy asiant y ddylai hi geisio i werthu'r nofel fel young adult. Mae Sarah yn gwybod mwy am y genre 'ma na fi, dw i'n meddwl -- mae hi'n ysgrifennu dros y blog 'ma.

Gyda llaw, Sarah, wnes i erioed yn dweud pa mor gwych wyt ti? (Fe ddylwn i ddechrau y kissing up rŵan, dw i'n meddwl)

Gyda'r gobaith bychan o werthu fy nofel o'r diwedd, ar ddydd Sul fe ddechreuais i ar ail nofel. "Gastonia" ydy'r nofel 'ma -- am ddyn sydd yn byw yng Nghymru ac yn ceisio i osod ei fywyd ynghyd eto pan mae ei gyn-wraig yn ymddangos ac yn gofyn e i ddod yn ôl iddi. Mae'r dyn, Finley, yn byw jyst allan pentref bychan (dw i'n enwi'r pentref "Pentreffug" fel inside joke ar gyfer siaradwyr Cymraeg) mewn tŷ sydd wedi arfer bod tafarn. Mae rhai o'r dynion o'r pentref yn gwrthod i dderbyn y ffaith mai nid tafarn ydy'r lle nawr, felly rydyn nhw'n dod i yfed yn tŷ Finley pob nos.

Dw i'n meddwl y bydd y nofel 'ma yn well na fy nofel gyntaf, ond hefyd, fe fydd hi'n fwy o gwaith. Fe fydd ffordd hir.

Monday, 18 September 2006

Mae'n amser i brynu coffi

Mae'r briodferch ifanc wedi ffeindio swydd. O rhyw fath. Mae hi'n dechrau ar ddydd Mawrth yn swydd gyda Starbucks.

Dydy hyn ddim y fath o gwaith ei bod hi eisiau o gwbl, wrth gwrs, ond hi ydy'n hapus i ffeindio rhyw ffordd i ennill arian. Mae hi'n gweithio yn y Starbucks ar Heol Frenhines yng Nghaerdydd -- yr un ar yr ochr dwyrain sydd yn wrth y KFC -- felly fe ddylet ti fynd i mewn i ddweud helo.

Fe fydd hi'n gweithio yno hyd mae swydd ysbyty'n cael ei chynnig. Ond peth tipyn doniol am gyfweliad Rachel heddiw -- yn y cyfweliad, mae nhw wedi penderfynu y ddylai hi bod supervisor yn hytrach na barista. Fe fydd y safle 'na yn ennill tipyn mwy o arian ac mae'n dangos y bersonoliaeth Rachel, dw i'n meddwl.

A mae'r briodferch ifanc yn ddiolchgar iawn i wedi ffeindio rhywbeth o'r diwedd. Mae'n neis i ei gweld hi'n hapus heno.

Fydd yr arian ddim yn cynnal ni, ond o leiaf rydyn ni'n gallu ymestyn fy menthyciadau myfyriwr ym mhellach. Nawr, dim ond rhaid i ni gobeithio y bydd popeth yn iawn gyda'r benthyciadau 'na -- o hyd dw i'n aros arnyn nhw.

Califfornia tueddol

I ddweud y gwir, dw i ddim yn teimlo fel blogio heno, ond mae hi wedi bod yn rhy hir ers y post diwethaf. Dw i'n mynd trwy rhyw fath o ornest o eithaf diogi y dyddiau 'ma.

Ar ddydd Sadwrn, fe ddylwn i wedi mynd i Noson Owain Glyndwr ond roeddwn i'n gormod o flake. Ac wedyn, es i ddim i'r Mochyn Du heno. Dw i'n actio fel pobl yn De Califfornia.

Pan roeddwn i'n arfer byw yn San Diego, y peth y byddai'n rhwystro fi mwy nag unrhywbeth arall oedd pobl pwy wedi arfer flake out o bethau. Ac wrth gwrs, fydden nhw erioed yn gwneud galwad ffôn syml neu ddweud dim byd, fydden nhw jyst methu ymddangos.

A dyma fi'n gwneud yr un peth dros yr wythnos diwethaf. Fe hoffwn i ddweud bod esgus gwych gyda fi, ond, na -- dw i'n diog, a dim mwy.

Efallai mae rhywbeth am y ffaith bod prifysgol yn cychwyn yr wythnos nesaf yn gwneud fi'n teimlo fel dw i eisiau bod yn meudwy.

Wednesday, 13 September 2006

Ond...

Fe glywais i heddiw gan fy asiant llyfr. Efallai wyt ti'n cofio fy mod i wedi bod yn gweithio ar nofel (yn Saesneg) ers bison roamed the plains.

Fe anfonais i'r fersiwn chweched o'r nofel iddi ym mis diwethaf a fe glywais i yn ôl oddi wrthi hi heddiw. Fe wnaeth hi'r peth 'na o'n dweud ei bod hi'n caru'r llyfr, ond...

Ond, mae hi eisiau fi i ysgrifennu nofel hollol newydd. Dim fersiwn newydd -- nofel newydd. Efallai gyda rhai o'r un themâu, dwedodd hi, ond gyda phobl wahanol. Ac efallai ddylai'r llyfr yn cael ei osod mewn rhywle arall.

Mae hi'n meddwl bod y llyfr fy mod i wedi ysgrifennu yn dda, ond nid cystal â gallwn i wneud. Ac y peth mwyaf yn rhwystro amdani ydy'r ffaith ei bod hi'n gwir.

Dw i'n meddwl bod y nofel yn dda -- fyddwn i ddim yn deimlo unrhywfath o gywilydd mewn gofyn pobl i dalu amdani -- ond, ar yr un pryd, fe allwn i gwneud yn well. Ac os dw i eisiau cael cyfle o gwbl o wneud gyrfa o ysgrifennu, fe ddylai fy lyfr cyntaf y llyfr gorau fy mod i'n gallu ysgrifennu.

Felly, dw i'n meddwl fe af i yn ôl i'r drawing board yfory ac yn dechrau ar lyfr hollol newydd. Dw i ddim yn gallu mynegi pa mor yn ddigalonni ydy hyn. Mae nofel wedi'i sgleinio gyda fi, ond dw i'n rhoi'r peth ar y silff. Dw i'n teimlo fel chump.

Nodyn

Wnei rhywun yn dweud wrth Cymuned bod y dyfyniad cywir yn "News of my death is greatly exaggerated?"

Tuesday, 12 September 2006

Y llythyr

Os dim arall, mae'r fideo 'ma yn gwerth ei gwylio ar gyfer yr olygfa pryd dw i'n... Wel, dw i ddim eisiau ei sbwylio e.

Cliciwch yma i weld fy mhost fideo diweddar.

Aderynrhydd

OK, dw i wedi meddwl am ffordd "airtight" i ddiwedd y problem 'ma o gael dim digon o arian. Fe gytunodd Sara a fi neithiwr y gwnawn ni fersiwn Cymraeg o "Freebird" gan Lynyrd Skynyrd.

O, ie. Dw i'n meddwl y bydd hyn yn enfawr.

Dw i ddim yn cofio sut rydyn ni wedi cyrraedd ar y penderfyniad 'ma. Roedd hi a Rhys a fi'n siarad lol -- fel arfer, pan dw i'n darn o'r sgwrs -- a rhywsut, fe ffeindiais fy hun yn haeru fy mod i'n gallu canu'r unawd gitâr gan "Freebird."

Wedyn, fel mae pethau'n mynd pan wyt ti'n yfed cwrw, roeddem ni'n cyfieithu'r delynegion i Gymraeg. Nawr, mae dim ond angen cerddorion cyfeiliant arnon ni. Rydyn ni'n gallu recordio'r peth ac yn bod ar y radio erbyn y diwedd y mis. Wedyn, rydyn ni'n gallu eistedd yn ôl ac yn aros am yr arian i rholio mewn!

Dw i'n athrylith! Helo ffyniant!

Sunday, 10 September 2006

Bachen araf

Pan fe ddechreuais i'n ysgrifennu'r post 'ma, roedd y cloc yn y gornel is-y-de'n darllen, "17:12."

Rydw i'n nodi'r ffaith 'ma i rhoi syniad i di am faint o amser mae'n cymryd fi i ysgrifennu post ar y flog 'ma. Dw i'n meddwl fy mod i'n rhy araf.

Dw i wedi bod yn meddwl am hyn dros y dyddiau diwethaf, yn berthnasol i'r ffaith fy mod i'n dechrau ar fy nghwrs mewn tair wythnos. Heddiw, pan fe wnes i post fideo, fe dreuliais i dwy oriau yn gweithio ar y peth.

Yn wreiddiol, roeddwn i eisiau siarad am yr wythnos diwethaf, tipyn fel llythyr fideo i fy nheulu -- petasai unrhywun yn fy nheulu'n deall Cymraeg. Fe wnes i cymaint o "takes" fy mod i wedi anghofio'r nifer ohonyn nhw. Mae rhywbeth am rhoi fy hunain y tu blaen i gamera'n brifo fy hyder a dw i'n anghofio Cymraeg ac yn colli fy nerf.

Yn y diwedd, fe wnes i post shite. Doeddwn i ddim yn hapus gyda'r peth, ond doedd dim eisiau arna i i gario ymlaen. Ond wedyn, fy sylweddolais i mai 15 munud oedd y peth. Pwy yn y byd byddai'n eistedd yno ac yn dioddef fy wyneb anffodus am 15 munud?! Felly, fe benderfynais i y roedd angen arna i i wneud post arall.

Ac eto, fe es i trwy'r un proses o'n ceisio i ddechrau, yn colli fy hyder, ac yn ceisio eto. Roedd y proses yn achosi rhwystredigaeth i fi, ac eto, yn y diwedd, fe benderfynais i i fynd gyda rhywbeth doeddwn i ddim yn hoffi.

Dwy oriau i orffen gyda rhywbeth sydd yn hanner-derbyniol. Dyma fy mhrofiad o fy nefnydd o Gymraeg y dyddiau 'ma. Dw i'n treulio gormod o amser ar bethau a dydw i ddim yn hapus gyda'r canlyniad.

Mae'r un peth yn digwydd pan dw i'n blogio. Dydy'r Gymraeg ddim yn dod i fy mhen yn digon gyflym, a dw i'n teimlo'n twp ac yn rhwystredig. Dw i'n ddiamynedd gyda'r safon o fy Nghymraeg. Dw i'n teimlo fel y ddylwn fod yn siaradwr gwell erbyn hyn.

A rŵan, mae dosbarthiadau prifysgol yn dechrau yn y diwedd y mis. A dw i'n pryderu am y safon o fy Nghymraeg unwaith eto. Os dw i ddim yn gallu ysgrifennu post blog mewn timely manner, sut fydda i bara'n fyw yn y byd brifysgol?

Dw i'n sylweddoli bod darn pwysig o ddysgu yn y profiad o fwrw dy ben erbyn y wal (metaphorically, wrth gwrs -- fe fyddai'n bwrw dy ben erbyn wal yn go iawn dim ond yn gwneud pethau'n waeth). Ond mae fy mhen yn boeni nawr.

Bah. Does dim byd fy mod i'n gallu gwneud ond dal ati. Dim ond pissing and moaning ydw i.

...

Gyda llaw, dw i'n bwriadu i fynd i'r Mochyn Du ar nos Llun. Dw i'n yno bron bob nos Llun, ond dw i'n anghofio i nodi'r ffaith 'na ar fy mlog. Os wyt ti'n byw yn Nghaerdydd, fe ddylwn iyno erbyn 8 yn y nos.

Y noson olaf Proms

Mae hi wedi bod rhy hir ers dw i wedi gwneud post fideo.

Cliciwch yma i weld fy mhost ar YouTube

Friday, 8 September 2006

Hwre Sara!

Ar ddydd Mercher fe gafodd y briodferch ifanc a fi grŵp o gwestai Americanwyr yma yn yr ystâd anferth Cope -- ffrind Rachel o brifysgol (Koss), brawd Koss, a ffrind brawd Koss. Ie, dw i'n sylweddoli fy mod i wedi defnyddio y parenthesis yn y ffordd anghywir, ond dw i'n bwriadu i ddatgan anwybodaeth ddysgwr ar y peth. Dw i ddim yn deall gramadeg Cymreag o hyd.

Mae Kossover yn mwynhau ei hufen iaBeth bynnag, fe aeth y grŵp Yanqui ohonyn ni i Sain Ffagan. Mae Amgueddfa Werin Cymru wedi dod i fod yr hoff lle y briodferch ifanc. Mae hi'n dwlu â mynd yno a mae hi'n mwynhau'r awyrgylch.

Ac wrth gwrs, roedd y triawd teithwyr Yanqui'n gwneud y peth Americanaidd o geisio i weld cymaint â phosib mewn wythnos. Dydy cwmnïau Unol Daleithiau ddim yn cynnig digon o amser gŵyl, felly, pan mae Americanwyr yn mynd ar eu gwyliau, mae nhw'n ceisio i wneud gormod. Gyda dim ond wythnos, roedd y triawd teithwyr Yanqui yn ceisio i weld Llundain, De Lloegr, Cymru a Dulyn.

Fe ges i llai na 24 oriau i wneud argraff da dros Gymru, a fe feddylies i y byddai Sain Ffagan yn cynnig y cyfle i weld llawer o Gymru mewn amser byr a lle bach. Dw i ddim yn siŵr beth fe feddylion nhw am y lle -- fe warion nhw eu amser yn tynnu lluniau o bethau anniddorol i fi, fel mochyn -- ond chwynon nhw ddim. Felly roedd popeth yn mynd yn hyfryd hyd fe geision ni i adael.

Mae cwmni Bws Caerdydd yn cael ei weithredu fel petasai mae hippy yn rhedeg y sioe: "Dw i'n gwrthod i kowtow i'r Dyn ac ei syniad o amser ac amserlenni, dude." Felly, daeth y bws 32 dim.

Roedden ni i gyd yn sefyll yno ac yn ceisio meddwl am beth i wneud pan fe welais i Sara. Mae Sara'n gweithio yno, yn Eglwys Sant Teilo, ond mae Rachel a fi'n galw yr lle "Sara's church."

Ar ôl yn clywed am y bws ar goll, fe gynigiodd Sara i yrru ni adref. Santes Sara ydy hi o hyn ymlaen. Dw i ddim yn siŵr sut fe wnaethon ni'r peth, ond fe orlenwon ni chwe bobl i mewn car dau-ddrws bach Santes Sara. Felly, nifer o beintiau iddi, y tro nesaf fy mod i'n ei gweld hi.

Y bore nesaf, ar ôl y triawd wedi mynd, roedd y briodferch ifanc a fi'n meddwl am y ffaith y roedd ein gwestai Americanwyr yn mor ffycin swnllyd! Pan roedden ni i gyd yn y car gyda Santes Sara roedden nhw'n gweiddi popeth, ond fe waethygodd pethau ar ôl fe gafodd nhw tipyn o alcohol yn hwyrach yn nos. A roedden nhw'n ceisio i siarad gyda acennau ffug Brydeinig trwy'r amser. Roedd yn trafferthus*.

Ac wedyn, fe ofynnodd Rachel a fi o ein hunain: "Ydyn ni fel hynny?"

Uffern. Ydyn ni'n mor swnllyd ac yn fras? Pan rydyn ni'n cwrdd â ffrindiau, ydyn nhw'n teimlo gwarthrudd i cael eu gweld gyda ni? Dw i'n gwybod fy mod i'n jocio am fod Americanwr, a fe fydda i'n cyfaddef bod fy ego Texas i'n helpu fi i ddysgu Cymraeg, ond dw i ddim eisiau stand out fel 'na.

Wedyn, fe ddechreuon ni i feddwl am y bobl eraill pwy bydd yn dod i ymweld â ni efallai. Ei theulu. O diawl, dim ond yn meddwl am deulu enfawr Rachel yn dod i Gymru ydy digon i wneud fi'n pisio fy nhrôns. Dw i'n gallu dychmygu nhw yma, yn siarad fel petasai tannoy yn eu blychau llais ac yn ceisio i siarad am wleidyddiaeth -- yn glynu wrth eu cariad o G.W. Bush.

Wff. Ow. Dw i'n cael gwaedlif ymennydd yn meddwl am y peth.

*"Embarrassing" dw i'n ceisio i ddweud

Bollocks

Fel mae'n digwydd, dw i ddim yn meddwl y gallaf i defnyddio cod gan Blogger Beta ar y blog 'ma. Anffodus iawn ydy hynny, oherwydd dw i'n colli amynedd gyda'r ffaith bod y template 'ma yn colli pyst.

Ond does dim ffordd i fi i newid i Blogger Beta os dw i ddim eisiau colli fy hen byst. Felly, fe fydd rhaid i fi'n aros. Mae Blogger yn dweud y bydd pawb yn cael y taclau beta'n fuan, ond dw i eisiau nhw rŵan.

Thursday, 7 September 2006

Yn meddwl am olwg newydd

Dw i wedi bod yn gweithio ar olwg newydd dros y flog 'ma. Dw i'n hapus gyda phethau ar hyn o bryd, ond yn anffodus, mae'r template 'ma yn gwneud pethau rhyfedd. Dw i ddim yn gallu postio fideo heb anhawster a fe fydd postiau'n cael eu colli o dro i dro.

Felly, dw i'n meddwl am newid i rhywbeth fel hyn. Beth wyt ti'n meddwl? Efallai ddylwn i fod yn hapusach yn y llun, ond mae'n yno dim ond i rhoi syniad i chi.

Os fy nghof yn gweithio, mae camera 3,000,000,000 megapixels gyda Mair, felly, efallai allwn i ei darbwyllo hi i dynnu llun o fi ar gyfer fy mlog.

Dw i'n meddwl os oes nid gwrthwynebiadau, fe fydda i'n ceisio i newid y template ar ddydd Sadwrn.

Separated at birth

Fi a Craig Bellamy, yn ôl Mr. Gasyth.

Paffiwr ifanc

Roeddwn i'n gwneud Google image search am rhywbeth heddiw, a fe ffeindiais i hyn yn y proses.

Edrycha ar y bachen 'ma. Fe fydd e'n cicio dy din!

Tuesday, 5 September 2006

Pobl ddiddorol

Fe es i i Bontcanna ar ddydd Mawrth ar gyfer "Bore Coffi Dysgwyr." Ond, wrth gwrs, dw i ddim yn yfed coffi, felly fe ges i peint.

Efallai gallwn i wedi cael te, ond mae enw da gyda fi i gadw.

Roedd y peth yn y Conway a fe benderfynais i y ddylwn i fynd yn ôl rhywbryd. Yn ôl i'r Conway, dw i'n golygu. Ond roedd y grŵp coffi'n OK, hefyd.

Roeddwn i'n yr ifancaf yno, ond doedd dim ots gyda fi. Dw i'n ffeindio bod pobl sydd yn henach ac yn dysgu Cymraeg yn cael bywydau diddorol iawn. Ar fy ne heddiw roedd benyw pwy wedi arfer dysgu Saesneg i blant yn Kuwait; ar fy chwith roedd benyw pwy wedi arfer dysgu "y gelf o symudiad" yn De Ffrainc a'r Swistir. Dw i'n wastad yn mynd ymlaen am fod "y Chris Cope enwocaf" a'r lol 'na, ond dydw i ddim yn gallu cymharu i hynny.

Ond y peth doniol oedd mai roedden nhw yn gwneud fuss amdanaf i! Dim ond Americanwr twp ydw i.

A fe ges i tipyn o gyfle i siarad yn Nghymraeg. Dyma fywyd Cymraeg yng Nghaerdydd -- mae rhaid i chi chwilio am gyfleodd i siarad yr iaith. O dro i dro, dw i'n meddwl am jyst yn beicio allan i Sain Ffagan i gael sgwrs gyda'r bobl sydd yn gweithio yno -- dw i'n ffeindio bod y mwyafrif ohonyn nhw'n siarad Cymraeg.

Efallai fe fydda i'n gwneud hynny yn y gaeaf, pan mae'n dawel iawn yno a mae nhw'n cael tanau yn y lleoedd tân. Fe fydda i'n mynd yno gyda fflasg o wisgi i helpu'r sgwrs ac i yrru i ffordd yr oer. Ie, fyddai hynny ddim yn eu achosi nhw i golli eu swydd...

Gwell

Mae pethau'n mynd tipyn gwell heddiw, ar ôl y siom mawr o ddoe. Fe glywodd Rachel yn ôl gan yr ysbyty heddiw, ac, ie, mae nhw wedi ei gwrthod hi, ond mae nhw wedi dweud eu bod nhw'n impressed* iawn gyda hi. Mae nhw eisiau ffeindio lle iddi hi yn yr ysbyty, fe ddwedon nhw.

Felly , mae yna gobaith y bydd Rachel yn ffeindio gwaith. Pwy a ŵyr pryd, ond mae yna gobaith. Dw i'n meddwl y gallem ni'n para'n fyw am sbel ar yr arian sydd gyda ni ar hyn o bryd; fe ddylai'r siec benthyciadau myfyriwr yn dod yr wythnos nesaf.

Hefyd, dw i'n meddwl am ddilyn cyngor Rhys mewn ffordd ac yn ysgrifennu i Golwg i ofyn os oes diddordeb gyda nhw mewn cael fi'n ysgrifennu colofn. Fe fyddai hi'n ddilyn fy daith dros y blynyddoedd nesaf, gyda fi'n byw yma ac yn dysgu ac yn ceisio i ffitio mewn.

Yn barod, mae rhywbeth gwahanol gyda fi i gynnig: es i ddim i goleg neu brifysgol yn Aberystwyth. Y ffaith hyn ar ei phen ei hun yn gosod fi allan o 90 y cant o bobl cyfryngau Cymraeg.

Ond, fe welwn ni beth bydd yn digwydd.

*Ie, dw i'n gwybod -- dw i'n twyllo ac yn defnyddio Saesneg gormod.

Monday, 4 September 2006

0-4

Fe aeth Rachel a fi lawr i Benarth heddiw ar gyfer y briodferch ifanc i gyfweliad am swydd arall. Fe gyfwelodd hi gyda Ysbyty Llandoche* y tro 'ma. Fyddem ni ddim yn wybod am sicr tan ddydd Mercher, ond mae'n olwg yn gryf fel fydd hi ddim yn ennill y swydd.

Felly, pedwar gwrthodiadau iddi hi. Mae'r peth yn anodd iawn ar Rachel. Pan roeddem ni'n cerdded yn ôl i'r orsaf trên, fe ddwedodd hi wrtha i: "My confidence is completely shot."

A dyma fi'n teimlo rhwystredigaeth mawr oherwydd dw i ddim yn gwybod beth i wneud am y peth. Mae darn o fi'n teimlo... dydw-i-ddim-yn-gwybod am y ffaith fy mod i ddim yn gweithio ar hyn o bryd. Mae'n anodd iawn i esbonio.

Dw i ddim yn prynu'r sbwriel am swyddogaethau traddodiadol mewn priodas, ond, gŵr ydw i. I should be able to fix it, for fuck's sake. Rhywle yn y cefn o fy mhen, dw i'n teimlo fel y ddylwn i wedi erioed gadael hyn i ddigwydd. Fel y ddylwn i fod yn ceisio i ennill arian.

Ond sut? Dydy unrhywbeth fy mod i'n gwneud ddim yn ennill arian. Dw i'n ysgrifennu ac ysgrifennu, dw i'n gwneud jôc mawr o fy hun gyda "all this Welsh shit" (i gipio telyneg gan Anweledig), ond dw i ddim yn gallu talu'r rhent.

Gah. Dw i'n meddwi ar hyn o bryd. Dw i ddim yn gallu casglu fy meddyliau.

*Neu "Llandochau," neu "Landochau" -- dw i wedi gweld e'n cael ei sillafu mewn tri ffrorddiau wahanol