Tuesday, 31 October 2006

Monday, 30 October 2006

Helo blog

Does dim yr amser i wneud post go iawn, ond dw i jyst eisiau rhoi nodyn yma y byddaf yn y Mochyn Du heno (nos Lun).

Ddylwn i ddim yn mynd, oherwydd o hyd mae gormod o waith da fi, ond dyna ti.

Byddaf yno erbyn 8 o'r gloch.

(Rwyf yn ceisio gweithio ar fy Nghymraeg ffurfiol -- a yw hyn yn dangos?)

Wednesday, 25 October 2006

Two Pompey lads on a train (well, sort of)

Fe welais i actor Pobl y Cwm Nic McGaughey -- pwy sy'n chwarae y cymeriad o Brandon Monk -- ar y trên ddoe. Roedd e'n ymladd i ddianc yr loddest diangen gyda dieithriaid bore* sydd y trên o'r cymoedd i Gaerdydd. Gadawodd yn Llandaf, felly dw i'n siŵr mai ar ei ffordd i'r stiwdios BBC oedd e.

Peth diddorol am Nic -- mae e'n fyrrach na fi. I'w weld ef ar y teledu, meddyliwn y byddai'n... wel, mawr. Dw i ddim yn siŵr beth mae hynny'n dweud am y cyflog BBC y roedd e'n ar y trên yn y lle cyntaf. Efallai mae'n gwneud ei ddarn bach i helpu'r blaned. Neu, mae e'n mwynhau yn gwasgu erbyn gormod pobl mewn tiwb bychan metel (hei, mae rhai merched eithaf bert ar y trenau 'na -- yn enwedig ar y ffordd i'r brifysgol).

Ond s'dim ots. Mae e'n fy hoff actor nawr oherwydd dw i wedi darganfod y gafodd ef ei eni ym Mhortsmouth.

*'The unwanted morning orgy with strangers' dw i'n ceisio i ddweud.

Monday, 23 October 2006

Dim cwrw heno

Fe ddylai'r ffaith fy mod i'n hwyr i ddweud ai dw i'n mynd i'r tafarn heno yn dweud popeth.

Mae rhaid i fi aros yn y tŷ heno i ganolbwyntio ar bethau prifysgol.

Sunday, 22 October 2006

A 60-percent chance of angry sobriety

Ar hyn o bryd, dydy pethau ddim yn edrych yn dda ar gyfer fy siawnsiau o fynd allan i'r Mochyn Du ar nos Lun. Dw i'n boddi o hyd, felly mae'n tebyg y bydd rhaid i fi defnyddio'r amser i ganolbwyntio ar waith prifysgol.

Fe wnaf i'r penderfyniad terfynol erbyn 18:00 yfory.

Mae'n lladd fi i nid cael yr amser i yfed peint neu ysgrifennu ar fy mlog neu ysgrifennu fy nofel neu unrhywbeth arall fy mod i'n mwynhau. Ond dw i'n rhy brysur 'living the dream.'

Mae pobl yn defnyddio hynny yn fy erbyn y dyddiau 'ma -- yn cofio fi am faint o ymdrech fe wnes i i ddod yma. A nawr dw i'n gwneud y peth bod pawb arall yn breuddwydio amdano -- dw i wedi gadael popeth ac wedi symud yn bell i ffordd i ddilyn breuddwyd.

Woo-fucking-hoo.

Saturday, 21 October 2006

The Danescourt Rising

Yn ôl y sŵn sydd yn dod o du fas heno, mae rhyw fath o wrthryfel yn digwydd lawr y stryd. Efallai'r chwyldro bod y Marcsaidd yn wastad yn siarad amdano wedi dod o'r diwedd.

Neu, efallai mae grŵp o chavs yn dathlu Noson Tân Gwyllt pythefnos yn gynnar. Chwarae teg iddyn nhw, mae nhw'n defnyddio mwy o ordinance nag y fyddin yn defnyddio i ymosod tŷ.

Dw i'n edrych ymlaen at Noson Guto Fawkes. Degawd yn ôl, pan astudiais i ym Mhortsmouth, fe fuodd 5 Tachwedd y dechrau go iawn i fy mhrofiadau yno. Dw i'n ei chofio fel turning point.

Fe es i i ddathliad yn Ngosham gyda'r ferch pwy wedi arfer byw yn yr ystafell drws nesaf yn ein neuadd, Mary, ac ei ffrind hi, Irene. Dw i'n cofio'r tân gwyllt a'r ffair a'r goelcerth enfawr. Fe ddefnyddiodd Cosham sawl goeden-maint-llawn ar gyfer y goelcerth.

Fe fues i'n synnu gyda'r ffordd buodd carnival rides yn gweithio. Stopiodd y reid ddim. Buodd rhaid person neidio ar y peth, ac wedyn byddai dyn yn cerdded wrthyn nhw ac yn cymryd eu arian. Yn Unol Daleithiau rydyn ni'n gwneud cymaint o sioe o wneud y reid yn teimlo saff, fyddem ni fyth yn gadael pobl i ymuno reid sydd yn symud.

Fe deimlodd Prydain fel byd hollol newydd yn sydyn.

A dw i'n cofio'r noson hynny ar gyfer y ffaith y ces i gyfle i weld y bues i wedi bod yn rhy UDA-canolbwyntiedig i'r pwynt hynny. Roedd y grŵp ohonom ni'n cerdded heibio stondin sydd oedd yn gwerthu candy floss ac roeddwn i'n bron barod dweud rhywbeth pan dwedodd Irene: 'Oh, but they call it "cotton candy" in America, don't they James?'

(Roeddwn i'n defnyddio fy enw cyntaf, James, yn y dyddiau hynny oherwydd it sounded more English. Ond wrth gwrs, oherwydd fy acen Americanaidd, byddai bobl yn meddwl y roeddwn i'n dweud 'Dave.')

O'r pwynt hwnnw ymlaen, fe geisiais i gymryd Lloegr fel lle ar ei hyn ei hun, a nid yn ei gymharu e i Unol Daleithiau. Ac -- a dw i ddim yn siŵr y byddai Gymro eisiau clywed hyn -- fe hoffais i'r lle. Fy mhrofiadau ym Mhortsmouth fe newidiodd fy mywyd.

Felly, mae Noson Guto Fawkes yn cael lle arbennig yn fy nghalon. Dw i'n meddwl bod dathliad yn Parc Bute. Ond, yn ôl y sŵn tu fas, efallai ddylwn i aros yn fy nghartref a fe fydd sioe rownd y gornel.

N.B. -- Fe gwyliais i am wybodaeth am Sparks in the Park ar gyfer Noson Guto Fawkes a dw i'n gwybod nawr fe fydd digwyddiad ar 4 Tachwedd. Ond mwy gyffrous nag hynny yw y cynlluniau ar gyfer yn troi'r goleuadau Nadolig ymlaen. Dw i'n hoffi'r ffaith ei fod e'n deddf ym Mhrydain, mae'n debyg, mai Z-list celeb sydd yn troi'r goleuadau ymlaen. Paul Carrack? Pwwwwwy?

Friday, 20 October 2006

Mae blog hon yn angen golwg newydd

Neithiwr, gosodais i Firefox ar fy laptop. Fe es i'n hwyr i'r parti Firefox oherwydd roeddwn i'n defnyddio y gwefan BBC cymaint yn Unol Daleithiau, a mae'r gwefan BBC yn gweithio'r gorau gyda Explorer.

Rŵan, dw i'n byw yma a dw i'n gallu gwrando ar y rhaglenni fy mod i'n hoffi ar y radio, yn lle nag ar Listen Again.

Beth bynnag, mae Firefox gyda fi nawr, a dw i'n gweld bod golwg amaturaidd ar fy mlog Gymraeg. Wrth gwrs, fe adeiladais i'r flog, felly, does dim syndod. Ond dw i eisiau newid y peth yn fuan. Dw i'n dymuno y byddai Blogger yn cynnig Blogger Beta i fi* erbyn hyn. Dw i'n awyddus iawn i golli'r templed hwn.

*Neu ddylwn i ysgrifennu 'wrth fi'?

Gwag

Dw i(1) wedi colli fy hyder i gyd gyda fy Nghymraeg. Dw i'n ymwybodol nawr o'r ffaith bod fy Nghymraeg yn shit, ond dw i ddim yn gwybod sut i'w chyweirio.

Felly, dw i ddim eisiau siarad neu ysgrifennu yng Nghymraeg o gwbl y dyddiau 'ma(2). Mae eironi yno, siŵr o fod. Ond mae teimlad o gywilydd a rhwystredigaeth yn gorlifo drostaf pob tro dw i'n ceisio. Mae'r dicter wrth fy hunain yn codi mor ffyrnig fy mod i ddim yn gallu canolbwyntio. Dim ond gallu clywed y sŵn o fy ngweiddi wrth fy hun ydw i.

Pan roeddwn i'n siarad gyda'r criw camera ar nos Lun, fe deimlais i mor dwp a rhwystrus; yr arth dawnsio sydd rhy(2) dwp i ddeall beth sy'n digwydd o ei amgylch. Roedd Chwadan yn eistedd wrth fi a thrown i ati(3) bron bob pum munud i ymddiheuro.

Ddoe, roeddwn i'n agos iawn at yn dileu(6) fy mlog Gymraeg. Dw i ddim yn gallu ysgrifennu brawddeg syml gyda hyder. Dw i ddim yn gallu siarad ag unrhywun heb yn mwmian (8).

Dw i'n ffeindio fy hun yn efryddu gan ofn yn fy nosbarthiadau -- dw i ddim eisiau bod yno o gwbl -- ac yn gweddïo y fydd neb yn siarad â fi neu ofyn cwestiwn o fi. Nid oherwydd dw i eisiau bod 'loner' -- hollol wrthwyneb, mewn gwir -- ond oherwydd dw i'n mor ddychryn o gael fy amlygu fel ffŵl.

(1) Neu ddylwn i ddweud 'rwyf'?
(2) Rydw i'n ceisio i ddweud 'these days'. Ddylwn i ddweud 'y dyddiau rhain'? Neu 'dyddiau'r rhain'?
(3) Neu ddylwn i ddweud 'sydd yn rhy'?
(4) Rydw i'n ceisio i ddweud 'I would turn to her'. Ydw i'n gwneud hyn(5) yn anghywir?
(5) Ydw i'n defnyddio 'hyn' yn yr ystyr cywir yma? Neu ddylwn i ysgrifennu 'hwn' neu 'hon'?
(6) Dw i'n ceisio i ddweud(7), 'very close to deleting'. Ddylwn i ddweud 'agos iawn i ddileu'? Neu 'agos iawn i'n dileu'?
(7) Neu ddylwn i ysgrifennu 'ceisio dweud'?
(8) Neu ddylwn i ddweud 'heb mwmian'?

Tuesday, 17 October 2006

Roedd y camerâu'n hapus

Fel mae pethau wedi digwydd, roedd nos Lun yn tipyn o hwyl. Yn anffodus, feddyliais i ddim i ffonio am Rent-A-Posse, fel awgrymodd Sara (fyddwn i wedi eisiau grwp fel y Spirit Squad), ond aeth Chwadan a Rhys allan i greu'r argraff bod ffrindiau 'da fi -- diolch i chi.

Roedd yn enwedig yn wych i gwrdd Chwadan am y tro cyntaf. Dw i'n gobeithio i'w gweld hi eto. Ond y tro nesaf, fe wnaf i mynnu ei bod hi'n defnyddio tacsi neu bws i mynd adref. Fe gerddodd hi tipyn o bellter ar nos Lun a ches i ddim digon o gwsg oherwydd roeddwn i'n poeni amdani.

Monday, 16 October 2006

Yn hela'r arth dawnsio

Mewn awr, dw i'n mynd i'r Mochyn Du ond mae teimlad cryf arna i y fydd neb arall yn mynd. Fe fydd tipyn o siom i'r gohebydd radio a dau griw camera sydd wedi dweud wrtha i eu bod nhw'n bwriadu bod yno hefyd.

Felly, fe fydd fy niffyg poblogrwydd cael ei gofnod heno.

Neu, efallai fe fydd grŵp o ferched ddeniadol yno o rywle arall, a dw i'n gallu dweud wrthyn nhw: "Oh, yes, ladies, I am very big in Wales. I'm like Lamar to these people. Except I don't sing."

Blog gwrdd

Mae'r amser wedi dod...

Dw i'n mynd i'r Mochyn Du ar nos Lun (16.10.06), a dw i'n gobeithio i weld grŵp mawr ohonoch chi yno.

Wel, i ddweud y gwir, mae'r gwasg yn gobeithio i weld grŵp mawr ohonoch chi yno. Fe glywais i gan y BBC ar ddydd Gwener a mae'n nhw'n bwriadu anfon gohebydd i'r Mochyn Du ar nos Lun i siarad gyda ni am flogio. Dw i'n mynd i'r Mochyn Du bron bob nos Lun, ond dw i'n meddwl bod y BBC yn meddwl fy mod i'n mwy poblogaidd nag ydw yn.

Beth bynnag, fe fydda i yno erbyn 8 o'r gloch ar nos Lun. Plîs, plîs, plîs paid adael fi i fod yno ar fy mhen fy hun.

Cysglyd

Diawl. Dw i ddim yn gallu fy nghyfarwyddo fy hun gyda chodi yn gynnar.

Pan roeddwn i'n arfer byw ym Minnesota (diawl, dw i'n dechrau blino o glywed fy hun yn dweud hwnna: 'Ooh, Minnesota, yr Unol Daleithiau. La-dee-da'), roeddwn i'n arfer codi bob bore am 7 o'r gloch.

Fe feddylies i cyn dod yma y byddai'r ffaith 'ma yn rhoi mantais i fi mewn prifysgol -- fe allwn i fod yn effro ac yn barod yn gynnar iawn tra mae fy nghyd-fyfyrwyr yn dioddef eu pen mawrion nhw.

Ond, wnes i ddim ymdrech dros yr haf i ail-osod fy nghloc mewnol i Amser Cymru o Amser yr Unol Daleithiau Gwynfydedig Gan Duw. Felly, mae prifysgol yn ar waith nawr a dw i'n ffeindio fy hun yn ymlafnio i godi mewn digon o amser i gyrraedd i fy nosbarthiadau.

Beth bynnag, dw i'n bwriadu dal yn effro digon hir heddiw i fynd i'r Mochyn Du. Dw i'n gobeithio i dy weld di yno hefyd.

Saturday, 14 October 2006

Camsyniad

Mae yna dyn yn fy nghwrs o Bangladesh gyda enw o Islam.

Y tro cyntaf fe gyfarfodais i gyda fe, fe feddyliais i: 'Enw tipyn rhyfedd ydy hwnna. Pwy fyddai'n enwi eu plant ar ôl crefydd?'

Wedyn, fe feddyliais i tipyn fwy ar y peth:

'Ie, James Christian Cope, pwy wir fyddai'n enwi eu plant ar ôl crefydd?'

Thursday, 12 October 2006

Hiraeth

Fy hoff le -- neu, le sydd yn fy meddyliau'n ddiweddar -- ydy'r Mendota Bridge, ym Minnesota, Unol Daleithiau. Mae'r bont yn ymestyn milltir dros y cwm Afon Minnesota, yn cysylltu Saint Paul, Minnesota, a Mendota Heights, Minnesota. Pont ffordd-ddeuol ydy hi, ond pan rwyt ti'n hwylio ei dros hi, yn gannoedd o draed uwchben y ddaear a'r dŵr, mae amser yn arafu. Ac yn enwedig yn y tymor hwn o'r flwyddyn, mae'r amser bach hwn yn y lle bach hwn yn perffaith.

I'r gogledd-ddwyrain, fe allet ti'n gweld Saint Paul, yr hen brifddinas ddiwydiannol, yn sgleinio yn yr haul hydref. Mae Afon Minnesota yn cysylltu gyda Afon Mississippi yn agos iawn i'r bont, ac yn gwthio heibio'r brifddinas. Fe allet ti'n gweld yr simneiau o'r hen fracty a'r orsaf trydan. Ac hefyd, yn eistedd ar fryn ac yn edrych i lawr ar bopeth, yn hofran dros bopeth, ydy'r eglwys gadeiriol Pabyddol loyw o Paul Sant. I'r ddinas hon fe ddaeth y Gwyddelig yn y pedwerydd canrif ar bymtheg i adeiladu'r 'ymerodraeth' James J Hill.

I'r de-orllewin, fe allet ti'n gweld y cwm an-llychwyn Afon Minnesota. Mae'r afon yn troi a throi yn raddol allan o Twin Cities ac ymlaen i'r tir fferm ffrwythlon o Dde Minnesota. O boptu i'r afon mae aceri ac aceri o goed yn llenwi'r cwm. Yn y hydref, mae'r goed yn bedyddio'r cwm gyda lliwiau llachar -- cochion, orennau, a melynion o bob arlliw. Yn y prynhawn, mae'r haul yn suddo i mewn y cwm diddiwedd ac yn ymolchi popeth mewn aur.

Cerdyn post America ydy'r bont. Ar un terfyn mae hen gaer, ar y terfyn arall mae eglwys fach; rhwng Duw a'r fyddin ydy harddwch yn cuddio o dan concrit. Mae'r afon yn cydblethu gyda'r hanes o'r dalaith a'r bobloedd y daeth yno -- Swediaid, Gwyddelod, Almaenwyr, Eidalwyr, Norwyeg, a phob math arall. Ar un tro o'r afon, rhwng y ferched bert brifysgol o Mankato a'r cwrw blasus o New Ulm ydy trefgorch fach o 271 pobl a wyth stryd sydd yn cael ei enw Cambria, Minnesota -- wedi setlo gan Gymry.

Hefyd, mae'r afon yn sglefrio heibio'r ddinas an-ysblennydd ble fe ges i rhan o fy magu -- Bloomington. Fe allet ti'n ei weld hi o'r bont. Felly, yn hedfan dros y bont ydy fel gweld darlun panoramig cynrychiadol o fy mywyd a fy magwraeth. Roeddwn i'n arfer croesi'r bont bob dydd pan roeddwn i'n dysgu Cymraeg i fy hunain ac yn defnyddio fy nhro bore i ymarfer Cymraeg.

'Dyna pam, roeddwn i'n arfer dweud. 'Dyna pam dw i'n caru'r lle 'ma.

Monday, 9 October 2006

Nid heno

Dw i'n shit am ddatgan hyn beth bynnag, ond efallai wyt ti'n gwybod fy mod i'n mynd i'r Mochyn Du bob nos Lun.

Wel, fydda i ddim yno heno. Yn hytrach, fe fydda i'n treulio fy amser yn y llyfrgell. Woooo! Y bywyd cyffrous o Chris Cope.

Sunday, 8 October 2006

Mae fy mwnci yn y goeden

Ar gyfer llenwi fy ngofyniad prifysgol o gymryd 120 credyd mae rhaid i fi astudio pwnc arall yn y blwyddyn gyntaf. Oherwydd fe ges i fy ngeni yn Texas -- felly mae'r iaith yn swnio'n gyfarwydd i fi -- dw i'n astudio Sbaeneg.

Dw i'n mwynhau'n dysgu Sbaeneg -- mae'n teimlo fel seibiant mewn wythnos rhwystredig o Gymraeg. Er mae'r ffaith fy mod i'n canolbwyntio ar ddwy iaith (wel, tri) yn chwarae gyda fy mhen.

Peth sydd yn difyrru fi am ddysgu iaith newydd ydy'r brawddegau dy fod ti'n dysgu fel enghreifftiau: "Mi abuelo es comunista" (Mae fy nhad-cu'n comiwnydd).

Ydy hyn yn dod i fyny'n aml mewn sgwrs?

Mae'n well na "Mon singe est dans l’arbre", efallai.

Dw i'n meddwl ei bod hi'n diddorol fy mod i'n dysgu Sbaeneg yma, ym Mhrydain, pan roeddwn i'n arfer byw mewn cymunedau gyda phresenoldeb hispanic cryf yn Texas, Nevada, a California. Hyd yn oed yn St. Paul roedd nifer o orsafoedd radio a theledu'n darlledu mewn y cyfrwng o Sbaeneg (Dyma rhywbeth i meri'r gwaed o chi mewn Cymdeithas: Roedd mwy cyfryngau Sbaeneg ym Minnesota -- o ble mae 10 y cant y boblogaidd yn siarad Sbaeneg -- nag mae cyfryngau Cymraeg yn Nghymru).

Ond efallai fel hyn ydy sut ydw i'n dysgu. Dw i wedi (dechrau i) dysgu Cymraeg allan o Gymru, felly pam lai dysgu Sbaeneg yma?

Ar fy mlog Saesneg rhai wythnosau yn ôl, roeddwn i'n siarad am hyn ac am y ffaith y dysgaf i Sbaeneg Castilian yma, mwy na thebyg, a sut mae hyn yn tipyn rhyfedd pan mae mwy o ddiddordeb 'da fi gyda defnyddio Sbaeneg yn Canol a De America. Neu, fel fe ysgrifennais i: "crazy-unpronounceable-and-not-really-useful-where-I'm-from Castilian Spanish."

Fe feddyliodd fy ffrind, Chris, y roeddwn i'n dweud bod yr iaith i gyd o Sbaeneg yn annefnyddiol a fe gofynnodd e sut allwn i feddwl rhywbeth fel 'na pan dw i'n dysgu Cymraeg.

Fe ofynnodd: "... in what way is Castilian Spanish any more 'crazy-unpronounceable-and-not-really-useful-where-I'm-from' than Welsh?"

Ac wedyn fe aeth e ymlaen i gymharu y ddwy ieithoedd.

Fel fe ddwedais i mewn fy ymateb iddo fe, dw i'n meddwl bod tipyn o sefyllfa apples and oranges ydy'r gymhariaeth rhwng y dwy ieithoedd. Ond ers hynny, dw i wedi bod yn meddwl tipyn bach am sut ydw i'n teimlo am y ddwy.

Wrth gwrs, mae Sbaeneg yn swnio mwy naturiol i fi. Fe glywais i Sbaeneg ym mhobman pan roeddwn i'n cael fy magu, ac ar safon isymwybodol dw i'n ei deall hi yipyn well na Chymraeg. Ond dw i'n meddwl am Sbaeneg fel iaith iwtalitaraidd. Iaith masnach ydy hi i fi; iaith i ddefnyddio ar gyfer gwneud tasg.

Gyda Chymraeg, dw i'n teimlo cysylltiad emosiynol. Ac efallai fe allet ti'n weld hyn yn y ffordd fy mod i'n blogio. Rydw i'n mwy onest a difrif (tipyn rhy ddifrif, fe ddylai hi cael ei ddweud) ar y blog 'ma nag ar fy mlog Saesneg.

Beth roedd y pwynt o'r post 'ma?

Dw i ddim yn cofio.

Friday, 6 October 2006

Y Mochyn Du, fy ail gartref

Heno (06.10.06), dw i'n bwriadu mynd i'r Mochyn Du ar gyfer peintiau a sgwrs. Os wyt ti'n dod allan hefyd, dw i'n addo y fydda i ddim yn cwyno am bethau prifysgol.

Fe fydd hwn fy nhrydydd ymweliad i'r Mochyn Du mewn wythnos. Fe ddylen nhw gynnig rhyw fath o "frequent drinkers card."

Gyda llaw, fe fydd nos Wener yn nos tipyn arbennig i fi. Fe fydd 6 Hydref yn nodi chwe mlwyddyn ers dw i'n dysgu Gymraeg.

Thursday, 5 October 2006

Yr Arth Dawnsio

Dw i'n meddwl pan dw i'n newid i Blogger Beta, fe fydda i'n newid yr enw y blog 'ma i: "Yr Arth Dawnsio."

Dw i'n dysgu Cymraeg a Saesneg!

Un peth sydd yn rhwystro fi yn ddiddiwedd am fy nghwrs ydy'r ffaith bod rhaid i fi ddysgu Saesneg eto. Dydy hon ddim gofyniad ffurfiol, wrth gwrs -- dim ond rhywbeth sydd rhaid i fi wneud.

Er enghraifft, yn fy nghwrs 'Sgiliau Iaith,' fe ddysgais heddiw am yr Ymadrodd Enwol; yn Saesneg, dw i'n meddwl, mae hwn yn "Nominitive Phrase."

"OK," fe feddylies i, "beth ydy’r ystyr o 'nominative?"

Fe fethais i fy nghyrsiau Saesneg pan roeddwn i'n ifanc, felly dw i'n ymlafnio. Beth ydy "preposition?" Beth ydy "relative clause?" Does dim ffycin clem gyda fi.

Trallod

Fe welais i dyn heddiw pwy roedd yn defnyddio zimmer frame ("walker" mewn Saesneg Americanaidd) i honcian trwy'r Adeilad Dynoliaethau. Roedd y zimmer frame y fath gan yr NHS, dw i'n siŵr -- hen, lletchwith, a salw -- a roedd y peth yn gwneud sŵn "clec-clec-clec" ar y llawr fel aeth y dyn trwy'r lolfa.

Fe llygadrythodd pawb arno fe gyda golygon o anghyfleustra ar eu wynebau nhw, a feddylies i: "Fe allai bethau'n lawer gwaeth i fi. Dw i'n mor anhapus ar hyn o bryd, a dw i'n teimlo fel dw i'n boddi, a fel dw i ddim yn perthyn yma o gwbl, ond fe allai bethau'n lawer gwaeth, kid."

Wedi cael dweud hyn, fe fydda i'n mynd ymlaen i ddweud fy mod i'n casáu fy sefyllfa i ar hyn o bryd. Fel fe ddwedais i, dw i'n boddi; dw i'n i mewn dros fy mhen; dw i ddim yn gallu dal fy mhen uwchben y dwr. Does dim ots pa bynnag trosiad dy fod ti eisiau defnyddio -- dw i'n ffeindio yn sydyn, a gyda syndod, bod pethau'n eithaf caletach na fe feddylies i.

A dw i ddim yn gwybod os dw i'n gallu dal i fyny. Dysgwr araf ydw i; mae angen amser i feddwl am bethau arnaf i cyn dw i'n gallu ysgrifennu amdanyn nhw neu wneud sylw amdanyn nhw.

Ar nos Lun, roeddwn i'n barod i rhoi'r gorau i bopeth. Fe ges i wedi gorfod darllen yn lafar eto mewn seminar, ac y tro 'ma roeddwn i'n gwneud swydd mor ddrwg o bethau yr allwn i ddim yn siarad.

Dw i'n gwybod fy mod i'n tipyn o novelty gyda'r ffaith fy mod i'n siarad Cymraeg. A, trwy'r mwyafrif o'r amser dw i'n hapus i fod hwn. Mae'n rhoi cyfleodd i fi i fod ar y teledu, ac yn cyfarfod â phobl diddorol a enwog, a mae'n ice-breaker gwych mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Ond, mewn ystafell ddosbarth, dw i ddim eisiau bod yn dancing bear. Ac ar ddydd Llun, fe deimlais i fel roeddwn i'n dim byd mwy nag hynny. Roeddwn i'n siarad ag atal ac yn meddwl yn fy mhen: "You're a joke. People were too nice to you to let you in here and now you're making them and yourself look bad. Just shut the fuck up and go home."

Fe wnes i'n gallu teimlo fy wyneb yn troi poeth a fe deimlais i cywilydd enfawr gan y ffaith y ges i gymaint o drafferth yn darllen. Roedd fy mhen yn gweiddi gyda sŵn gwyn a halogrwydd ("profanity" dw i'n ceisio i ddweud), ac wnes i ddim yn gallu meddwl.

Ac os dw i'n swnio gor-dramatig, trystia fi, fe deimlodd pethau'n gwaeth nag y ffordd fy mod i'n eu disgrifio nhw.

A phan fe gollais i fy modrwy briodas... wel, roedd hynny'n gormod. Dw i'n ymddiheuro i Rhys, pwy gorfod dioddef fi ar nos Lun. Dw i'n siŵr y fues i ddim y cwmni gorau.

Ar ddydd Iau, o hyd dw i'n teimlo yn annedwydd gyda phethau, ond o hyd dw i'n dal at bethau. Fe gwthiais i at hwn am ddwy flwyddyn, felly dw i ddim yn gallu gadael mor fuan â hynny.

Sunday, 1 October 2006

Yr wythnos gyntaf

Fe fuodd wythnos hir. Dw i'n hapus ei bod hi wedi gorffen a dw i'n poeni am y wythnosau sy'n dod. A dydy darlithoedd ddim yn dechrau nes yfory.

Erbyn nos Gwener, roeddwn i'n rhy flinedig i wneud dim byd mwy na gwylio rygbi ar y teledu ac yfed cwrw. Er, chwarae teg, fe fyddwn i wedi gwneud yr un peth petaswn i wedi bod yn llawn o egni.

Ond, o hyd, roedd yr wythnos yn anodd -- dydd Gwener yn enwedig. Mae'n twp sut mae rhai pethau'n gallu eich rhwystro chi cymaint. Roedd rhaid y grŵp ohonyn ni'n mynd i gyflwyniad i'r llyfrgell, a fyddwn i ddim wedi mynd petasai nid am y ffaith ei bod hi wedi bod yn degawd ers dw i wedi defnyddio llyfrgell.

Felly, roedd PowerPoint diflas ac yn y blaen ac yn y blaen, a, mewn ymdrech i orfodi ni i rhyngweithio, roedd cardiau lliw ar ein seddau gyda chwestiynau wedi ysgrifennu arnyn nhw. Roedd gorfod arnon ni i ddarllen y cwestiwn, ac wedyn fe fyddai'r dyn PowerPoint yn ymateb nhw.

Dw i ddim yn cofio fy nghwestiwn nawr, er fe ddarllenais i'r peth tua chant o droeon. Wnes i ddim dosbarthiadau ffurfiol yn y Gymraeg, felly, dw i'n teimlo ansicr iawn gyda'n gwneud pethau fel darllen rhywbeth yn uchel. Roeddwn i'n mor nerfus am ddarllen yn uchel y tu blaen i'r bobl arall yn fy nghwrs, fy mod i wedi gwneud gwastraff o'r peth. Roeddwn i'n mwmian ac yn atal dweud cymaint y roedd rhaid y dyn PowerPoint yn gofyn fi i ofyn y cwestiwn eto.

Peth bach iawn oedd yr digwyddiad 'na, ond fe deimlais i mor dwp. Roeddwn i'n eistedd yno yn meddwl: "Dw i ddim yn perthyn yma. Dw i'n gwneud jôc o fy hun. Dw i'n y fersiwn iaith o'r Special Olympics."

Ac wrth gwrs, ar ôl hynny, the wheels came off yn fy mhen. Roeddwn i'n eistedd yno ac yn meddwl pob peth drwg y gallwn i am fy hun: "Diawl, fy nillad ydy mor anffasiynol. Fy ngwallt, fy nannedd, fy nhrwyn -- mae popeth yn o'i le. O, ffyc, ydw i'n drewi?"

Roeddwn i'n actio fel glaslances yn mhen. Ac ar ôl fe orffennodd y peth, fe saethais i allan o'r ystafell. Wnes i ddim eisiau bod yno am un eiliad mwy.

A nawr, ar nos Sul, dw i'n edrych ar yr wythnos sy'n dod a mae'n teimlo'n erchyll. Eisoes, mae angen cwrw arna i, a dydy pethau wedi dechrau eto hyd yn oed.