Efallai gwelsoch chi stori amdanaf ar dudalen 17 Y Cymro yr wythnos hon (11 Mai), neu gwelsoch chi froliant amdanaf ar wefan Cymru'r Byd, neu gwelsoch chi stori heddiw amdanaf ar wefan Newyddion BBC. Os nid yw hyn i gyd yn ddigon i chi, byddaf ar raglen Hywel a Nia yfory (eto).Wrth gwrs, rheswm am hyn yw caiff rhaglen amdanaf ei darlledu nos Fawrth (21:00/S4C). Hefyd gellir ei gwylio ar 21:15 nos Sadwrn gydag isdeitlau, neu ar wefan S4C. Amhosibl i osgoi ydw.
Gŵn y bydd hyn yn anodd i'ch credu, ond mae'n dipyn anghyfforddus i fi ceisio drum up diddordeb yn y rhaglen hon. Nid achos y rhaglen ei hunan -- mae'n rhaglen dda, yr wyf yn credu -- ond oherwydd mae'n rhaglen amdanaf ("amdanaf fiiiiiiiii"). Wrth gwrs yr wyf yn hoffi cellwair fy mod yn "kind of a big deal," ac, ie, fel sylwodd Dogfael yn Eisteddfod 2006, mae unrhyw blog yn ynghylch un peth: fi, fi, fi, fi, fi, fi, a fi (sef, yr awdur blog). Ond rhywsut mae'n teimlo rhy fyfiol, hyd yn oed i fi, i fi eistedd yma a mynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen am raglen deledu sy'n canolbwyntio arnaf i. Neu, efallai yr wyf yn teimlo fel na ddylwn siarad amdani oherwydd mae pobl Cymru yn gwerthfawrogi gostyngeiddrwydd.
Ond, wedi dweud hynny, yr wyf yn gobeithio ei gwyliwch. Yr oeddwn yn cynllunio ar gael viewing party yma ym Mhalas Cope, ond gyda fy arholiadau'n dod nad oes yr amser gennyf i gymhennu. Felly, bydd rhaid i fi addo peint dyfodol i'r rhai ohonoch chi sy'n byw yng Nghaerdydd.
21:00/ S4C/ 15 Mai - Paid ag anghofio!

20 sylw:
Mi fydda dosbarth Cymraeg www.welshleagueofarizona.org yn defnyddio y rhaglen fel case study!a ysbrydiolaeth!
Rwyf yn edrych ymlaen at wylio'r raglen ar y we a cheisiaf wrando ar Hywel a Nia hefyd!
Diolch am fod yn ffynnon o ysbrydoliaeth a dufyrrwch i'r cymuned o ddysgwyr Cymraeg trwy'r byd. Rwyt ti'n haeddu pob munud o dy enwogrwydd!
Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn i weld y rhaglen hefyd. Gyda llaw nid gwerthfawrogi gostyngeirddrwydd yn gymaint â gorfod bod yn ostyngedig yw trafferth y Cymru. Wedi'n gormesu ers ein concro dwi'n credu ein bod wedi ceisio troi ein cyflwr darostyngedig yn rhinwedd trwy ei wisgo yn nillad un o'r rhinweddau Cristnogol. Er bod Cristnogaeth yn prysur cilio o'n tir mae'r ysbryd 'gostyngedig', cymhleth y taeog, yn dal i fodoli. Mae i'w weld ym mhobman. A dyw e byth yn fwy amlwg na pham bod aelodau o 'genedl' sydd wedi'i goresgyn ers wyth can mlynedd yn dod i gysylltiad ag aelodau o 'genedl' a oedd yn rheoli hanner y byd hyd ryw hanner cant o flynyddoedd yn ôl. Dwi ddim yn credu bod angen imi roi esboniad hir iawn o hyn na llawer o enghreifftiau o hynny'n digwydd - oherwydd fe'i gwelir o festri'r Pasg mewn plwyf bach gwledig gorllewinol reit lan at ein haelodau seneddol sy'n credu nad ydyn ni'n ddigon abl i ymdopi â mwy o bwerâu i'n llywodraethu ni ein hunain!
Mi wrandes i ar dy gyfweliad ar Hywel a Nia. Roedd yn wych!
Llongyfarchiadau ar raglen ddiddorol ac ysbrydoledig.
Newydd weld y rhaglen 'O Flaen Dy Lygaid' ar y teledu a chlywed chi yn dweud bydd 'Americanwr sydd wedi dysgu Cymraeg' yn cael ei ysgrifennu ar eich carreg bedd, nid 'Cymro'... rubbish! Mae fy mhartner, Saesnes, wedi dysgu'r iaith dros y tair a hanner mlynedd ddiwetha' a rŵan yn berffaith rugl. Mae hi'n meddwl am eu hun fel Cymraes, nid Saesnes, ac mae'r Cymry Cymraeg yn cael sioc pan mae hi'n ddweud mai dysgwr i'w hi! Mewn ffordd, mae hi'n fwy Cymraeg na lawer o bobl sydd wedi cael eu geni yma! Pob lwc Chris ac eich gwraig a dal ati.
Mi wyliais i'r rhaglen ac roedd yn dda iawn! Wedi bod yn darllen dy flog bob hyn a hyn ers rhai misoedd bellach felly'n gwybod ychydig am dy gefndir (ac wedi hen arfer ar dy fideos YouTube rhyfedd!) ond roeddwn i'n teimlo bod y rhaglen yn rhoi darlun dyfnach.
Un neges gen i - efallai na fydd rhyw foment hudol yn cyrraedd lle fyddi di'n teimlo fel dy fod yn Gymro "dros nos". Ond rwyt ti'n Gymro rwan yn fy marn i. Paid a phoeni am y peth cymaint. Jyst get on with it.
Dwi'n teimlo bod gennyt ti gyfraniad mawr i'w wneud i Gymru - rydyn ni angen cymaint o fewnbwn a phosib o'r tu allan er mwyn rhoi perspectif i bobl. I'n helpu ni i weld ein gwendidau ond hefyd i helpu i ni sylweddoli pa mor unigryw a sbeshial ydyn ni.
Diolch i ti am yr hyn rwyt ti wedi'i wneud eisoes a phob lwc i ti i'r dyfodol.
Dowch i'r Gogledd Chris. Mae'r Eisteddfodau yn shit yn y dde. Wel, mae nhw'n shit yn a Gogledd hefyd ond o leiaf mae gen ti'r mynyddoedd yma, ac y tren bach yn Betws-y-Coed.
Beth am rywun arall sydd eisiau symud ar draws yr Iwerydd - ond y ffordd arall?? americanwr.wordpress.com
Newydd mwynhau'r rhaglen Chris, da iawn ti. Mi ddaeth Rachel drosodd yn dda hefyd, mae gen ti dipyn o dlws y fan'na, pob lwc iddi gyda'r Gymraeg.
Chwerthinais yn uchel tra gwilio'r darn efo Sian (pwy uffach ydy hi?) LLoyd. Ces i fy atgofio o gan Geraint Lovgreen 'Dwi'n cael fy stalcio gan Sian Lloyd', gobeithio'n wir oedd hi'n gwilio!!
Rhaglen wych. Un o'r rhaglenni gore i fi weld ar S4C ers peth amser. Pob lwc i ti gyda dy gwrs, a phob lwc i Rachel wrth iddi ddysgu'r Gymraeg.
Ffordd o feddwl yw bod yn Gymro. os wyt ti'n teimlo fel Cymro, rwyt ti yn Gymro!
Wyt ti'n mynd i Eisteddfod yr urdd yng Nghaerfyrddin ymhen pythefnos?
Newydd orffen wylio'r rhaglen ar y we, ac wedi ei fwynhau yn fawr iawn . Da iawn ti Chris , a Rachel hefyd!Pob clod i'r ddau ohonoch!
Dw'i wedi bod yn lurcio am amser hir.
Roedd y rhaglen yn wych iawn yn fy marn i.
Dal ati!
Da iwn ti Chris am fod mor ddewr a dod draw i gymru. Paid poeni gymaint am 'fod yn Gymro'. Mae'r ffaith dy fod yn siarad Cymraeg yn golygu fod cenedligrwydd ddim mor bwysig - rwyt ti'n rhan o'r diwylliant Gymraeg ac mae hwnnw'n ddiwylliant aml-ethnig. Mae'n dda i ni allu dweud fod yna Americanwyr sy'n siarad Cymraeg!
roeddwn i'n teimlo drostat ti yn dy dymor cyntaf yn y Coleg. Mae myfyrwyr yn gallu bod yn hynod o anaeddfed a 'clici' - mae hynny'n wir am bobl sy'n Gymry hefyd!
Pan ddechreuais i ddysgu Almaeneg roeddwn i'n digaloni rhywfaint fod dal gen i acen Gymraeg wrth siarad yr iaith ac roedd pobl yn gwybod yn syth nad oeddwn yn Almaenwr. Ond wedyn meddyliais, wel, dydw i ddim yn Almaenwr ond wrth siarad Almaeneg (cywir gobeithio) ond gydag acen Gymreig roeddwn i'n gwneud pwynt nad oedd rhaid bod yn Almaenwr ethnig i siarad Almaeneg ac fod yr Almaeneg yn iaith digon apelgar a diddorol a phwysig fod dyn bach o Gymro am ei siarad.
Rwyt ti'n Americanwr sy'n rhan o'r genedl Gymraeg - bydd yn falch o hynny! Mae gan y Cymry lot i ddiolch America amdanno - ysbrydolwyd Cymdeithas yr Iaith yn rannol gan fudiad hawliau dynol America, ysbrydiolwyd canu cyfoes Cymraeg gan Woody Guthrie, yrbrydolwyd Titch Gwilym i ganu Hen Wald fy Nhadau ar y gitar drydan gan Jimi Henrix. Rwyt ti'n siarad Cymraeg Chris - dyna sy'n bwysig.
Wyt ti wedi cwrdd/ clywed am Americanwyr eraill yng Nghymru e.e. Philys Kinney, Jerry Hunter, Lorena (dynes yn y gwaith yma sy'n wreiddiol o Texas)?
Mae gen i barch mawr i ti a dy wraig. Dewch lan i Aberystwyth am drip a gallwn gwrdd am beint!
Sion Jobbins
"Sion Jobbins" – am enw gwych!
'Annie Rhiannon said...
"Sion Jobbins" – am enw gwych!'
... diolch - fy rhieni ddewisodd e!
Sion
Chris, mi weles i'r rhaglen yn fyw p'nawn ddoe (neithiwr i ti) wedi'r cyfan. Rhaglen wych oedd hi. Llongyfarchiadau!
Wnes i weld y rhaglen ar y we y prynhawn 'ma - blydi wych ychan.
Ti'n lwcus wnest ti ddweud wrth Sian Lloyd bod gwraig 'da ti yn ddigon cynnar iddi hi adael dy drowsus yn eu lle. ;-)
Wyt ti wedi gweld hyn?
Gobeithio bod Rachel ddim...
Chris, nes i wir fwynhau'r rhaglen ac yn enwedig y darn lle ti'n gofyn os oes rhaid i ti fwynhau'r Eisteddfod er mwyn bod yn Gymro ...!
Wel, nagoes ydi'r ateb ... gobeithio, neu fyddwn i ddim yn Gymro!
Post a Comment