25.5.07

I'm not what I ought to be, but I'm better than I used to be; I'm getting better all the time

Daw'r pennawd hwnnw wrth delyneg cân efengyl ("gospel") sy'n mynd trwy fy mhen. Ni ŵn pryd ei chlywais yn gyntaf -- yng nghapel, tybiaf. Ei chanasom ni o leiaf unwaith yn CCC, hefyd, pan yr oeddwn arfer byw yn Reno, Nevada*. Ond fersiwn sy'n chwarae yn fy mhen ar hyn o bryd yw fersiwn Blind Boys of Alabama**.

Yr wyf yn meddwl am ffydd a chrefydd yn ddiweddar. Am ddau reswm.

Ar ôl cafodd rhaglen amdanaf ei darlledu, cefais lawer o ymatebion, gyda phob un person yn gynnig ei ddamcaniaeth am pam yr oedd pethau mor anodd yng nghychwyn y rhan hon o'm hanturiaeth Cymraeg. Fy hoff ymateb yw'r un gan berson a rodd y bai ar Rhodri Morgan (bwriad cyfrinachol ni welwyd yn nogfen 11 for 2011 yw hyn: "#12: Fuck with Chris").

Ond awgrymodd sawl pobl mai anodd i fi ffeindio fy lle yma oherwydd "diwylliant capelog" Cymru. Nid ydw'n dweud hyn wrth fod yn gas, ond credaf fod y dybiaeth hon yn arwydd o awydd y Cymro teimlo'n estron.

Cofiwch y cefais fy ngeni yn y Bible Belt. Euthum i gapel bob dydd Sul hyd fy confirmation*** ("bedydd esgob" yw gair Cymraeg yn ôl Cysgeir, ond nad ydw'n siŵr os gwedda fy nealltwriaeth o "confirmation" i syniad Cymreig ohono), pan yr oeddwn yn 14 oed.

Methodist (Unedig) yw fy nhad ond daeth fy mam o deulu Beiddwyr Deheuol ("Southern Baptist"). Felly, pan dreuliwn fy hafau yn Lake Jackson, Texas, awn i gapel fy nhaid a nain.

Cynulleidfa egnïol oeddent nhw -- llament a siglent a gweiddent trwy wasanaeth. Siaradai'r pregethwr am oriau. Am oriau. Yr wyf yn ailddarllen Traed Mewn Cyffion gan Kate Roberts ar hyn o bryd ac mae darn pryd ysgrifenna hi am bregeth dwy-awr, pan ddarllenais hwnnw meddyliais: "And?" Mae dwy awr yn warm-up i bregethwyr y gwelwn yn fy mhlentyndod.

Hoff stori gan fy mam yw sut baldorddai hi yn ieithoedd ("speak in tongues") pan oedd yn llances, oherwydd yr oedd eisiau bwyd arni a gwyddai y na ataliai'r pregethwr hyd gâi pawb "the spirit."

Mae gweinidog capel fy rhienu-cu ("grandparents") y dyddiau hyn yn weddol ddiddrwg-didda, ond weithiau daw pregethwyr gwadd. Pobl fel G.E. Patterson a T.D. Jakes a'u tebyg -- pregethwyr carismataidd. Mae Jakes yn rhy enwog y dyddiau hyn dod i Lake Jackson (tybiwn -- mae ganddo fe gynulleidfa o fwy na 28,000 pobl yn Dallas), ond ei ddeuai i bregethu pan yr oeddwn yn ifanc.

Yn narlith prifysgol unwaith, dwedodd Dr. Rosser yr oedd hi'n llances, cogiai fod yn bregethwr. Bu tawelwch byddarol pan ddwedodd hynny, a'i hymatebodd hi gyda rhywbeth fel, "Hmm, dim ond fi, te," ond yr oeddwn yn meddwl: "Na, gwawn yr un peth." Ond cogiwn fod yn Jakes. Weithiau, gellir clywed, pan yr wyf yn worked up, naws Jakes yn fy llais o hyd.

Fel dwedais, awn i gyrddau Campus Crusade for Christ yn Reno -- nid cymaint oherwydd eu credwn, ond oherwydd yr oedd y merched yn ddeniadol iawn. Church girls are sexy (dylai Sara Huws wisgo'r mynegiant hwn ar grys-T). Wrth gwrs, mae'r briodferch ifanc yn dod o ardal grefyddol iawn. Yn St. George, Utah, os na ddeuwch i gapel ar ddydd Sul (mae gan y Mormoniaid tair awr o gapel) daw bobl i'ch drws i ofyn amdanoch.

A hyd yn oed ym Minnesota annwyl mae mwy o ddiwylliant capelog nag yng Nghymru. Mae gan Minnesota 30 gorsaf radio grefyddol. Felly petai gan Gymru "cymdeithas capelog" (ac nad oes, yn fy marn), ni chawn broblem gyda hi.

Ail reswm yr wyf yn meddwl am y lol grefyddol hon yw bod gennyf arholiadau mewn wythnos, a theimlaf yn ddychrynllyd. Felly dyma fi'n meddwl: "Hmm, tybiaf y dylwn weddïo -- I need all the help I can get."

Dwedais wrth Rhys neithiwr fy mod yn dilyn dull o fyw mynach gwyn y dyddiau hyn. Sef, yr wyf wedi ynysu fy hunan rhag pawb er mwyn adolygu ar gyfer arholiadau. Coda fy ofn methiant gyda phob diwrnod newydd, ac yr wyf yn teimlo'n sâl erbyn hyn. Petawn yn methu fy arholiadau, ni enillaf fenthyciadau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ni allaf fynd i brifysgol heb fenthyciadau. Ni fyddai fy nheitheb yn ddilys os nad ydw'n mynd i brifysgol. Felly os fethaf, dyna ddiwedd o'r anturiaeth fach hon. No pressure, te. Ac eto daw delyneg Blind Boys of Alabama i'm mhen: "It's prayin' time again."

Ar hyn o bryd, arholiad Sbaeneg yw mwyaf cyfogol i fi. Nid allem ni defnyddio geiriadur yn yr arholiad hwnnw, er gwaethaf y bydd gennym ddau gyfieithiad (Saesneg i Sbaeneg a Sbaeneg i Saesneg) a thraethawd 200 gair. Ni ellir bullshit trwyddo, rhaid gwybod yr iaith -- a minnau'n teimlo y nad ŵn hi'n ddigon da.

Gŵn y gallaf fod yn deimladwy weithiau, ond ni allaf atal y pryder ac yr ofn sy'n fy ngwasgu ar hyn o bryd. Erbyn dydd Sadwrn nesaf (ie, mae gennyf arholiad ar ddydd Sadwrn. Ar 9 yn y bore. Y bastardiaid), byddaf yn ddyn toredig.

*Pob tro dwedaf yr oeddwn arfer byw yn Nevada, siarada bobl am Las Vegas. Mae Reno yn 450 milltir i ffordd o Las Vegas -- dyna bellter Caerdydd i Lundain.. ac yn ôl... ac yn ôl.

**Mae ganddynt pob math o delynegion difyrrus, er enghraifft: "I didn't come here looking for Jesus. I brought him with me."

***Proses grefyddol yw hon. Yn Eglwys Methodist Unedig -- tipyn gwahanol rhag Eglwys Methodist yng Nghymru -- â berson ifanc trwy ddosbarthiadau'r Beibl ac yn y blaen. Ar ôl confirmation, ym marn fy nhad, gall berson wneud ei benderfyniadau ei hunan am ei berthynas gyda'r Crwt Ar Y Llofft. Penderfynais y na awn i gapel ym mhellach.

6 sylw:

Anonymous said...

Gravitation couldn't stop him. Amen.

Chris Cope said...

Wir. Fy hoff rhan o'r clip Patterson hwnnw yw pryd cymysga fe Cristnogaeth a mytholeg Rhufeinig.

Robert Humphries said...

Pob lwc gyda'r arholiad Sbaeneg, Chris!

Post difrifol. Fe ges i'm blas cyntaf o grefydd y "Bible Belt" wrth fynd i eglwys Fedywddwyr Deheuol taid fy ngwraig yn ne-orllewin Missouri. Roedd yn dipyn wahanol i'r Eglwys Lloegr fe eson ni iddi pan oeddwn yn blentyn!

Mei said...

Dwi wasted di meddwl am Cymru fel lle Capel, ond fel ti'n deud, dio'm byd i gymharu a'r Bible Belt. Ella bod 'na hangover dal yma ers y diwygiad.

Bedydd esgob yw be ti'n cael mewn eglwys Gatholig. Dwi'n amau mai "cael dy dderbyn" ti'n chwilio am.

neil wyn said...

Yn ol atgofion fy nhad o dyfu fyny yng nghefn gwlad Cymru yn y 40au, roedd dylanwad y capel yn eithriadol o gryf. Cafodd o'i orfodi mynd i adoli tairwaith pob sul, er mwyn peidio codi cywilydd ar enw 'da' y teulu yn fwy nag oherwydd unrhyw crefydd penodol.

Diolch byth mae'r dyddiau yna wedi mynd, ond wedi dweud hynny, dwi ddim yn teimlo yn hollol cyfforddus efo'r cymdeithas 'defnyddwyr' di-stop mae'n ymddangos wedi llenwi'r bwlch.

Wierdo said...

Cydymdeimlaf yn llwyr efo ti. Arholiad 9 o'r gloch bore Sadwrn yn GAS. Bah. Dwi di cal ambell un ac mi oni wastad yn teimlon afiach yn mynd iddyn nhw yn enwedig gan fod neb arall o'n ffrindiau rioed di cal un ar ddydd Sadwrn. Grrr