Gwelais heddiw bod gwybodaeth am y rhaglen amdanaf ar wefan S4C erbyn hyn (Yn ôl Neil, maent nhw'n hysbysebu'r rhaglen ar y radio, hefyd). Wrth gwrs, big girl's blouse ydw, a pheth sy'n taro fi am y dudalen honno yw fy ngwallt yn y lluniau.
Gellir gweld llawer mwy o fy ngwallt annhaclus ar ddydd Mawrth nesaf. Caiff y rhaglen ei darlledu ar 21:00 15 Mai.
Yr wyf wedi siarad am fy argraffiadau cyntaf (hmm, nid ydy 'first impressions' yn cyfieithu fel hynny, ydy?) o'r blaen, ond gyda'r darllediad yn agosáu, yr wyf yn ffeindio fy hunan yn meddwl am fwy o bethau embarrassing oddi'r rhaglen. Er enghraifft, ffordd y cerddaf. Mae gennyf gerddediad rhyfedd, sbonciedig (bouncy?). Dyna fi, dyn tenau'n sboncio lawr y ffordd -- yr wyf fel hen gartŵn Popeye*. Ond ni allaf baffio.
Ac wedyn mae rhan pan yr wyf yn bron crio (ac nad ydw'n bwyta). Dyna proud moment, on'd yw? Yr wyf yn dweud wrth bawb am wylio, a gwelant nhw i gyd fi yn gwneud ffŵl o'm hunan. Gallaf weld fy hunan yn y dyfodol, yn cyfweld am swydd: "O, dw i'n nabod ti! Ti'n y babi 'na gwelais ar S4C. Ha, ha, ha. Pansi."
*Ah, Popeye. Aethpwyd y dyddiau o hiwmor hiliol WWII.
VOCAB
1 day ago

5 sylw:
Yn edrych ymlaen i wylio'r rhaglen ar y we .....gobeithio :)
Dwi wir wir wir yn edrych ymlaen i dy weld yn sboncio lawr y stryd. Anodd gin i gredu dy fod yn sboncio gystal a popye!
A dylet ti edrych ymlaen i dy weld dy hunan yn y rhaglen, Mari. Mae un shot o fi yn Eisteddfod yn siarad â grwp o flogwyr, a dyna ti -- mae arnat ti golwg hollol, hollol, hollol bored. Mae'n ddoniol iawn.
a dyna ti -- mae arnat ti golwg hollol, hollol, hollol bored.
Dwi'n tueddu cael yr effaith yma ar bobl
Gobeithio y byddaf yn gallu gweld y rhaglen ar y we hefyd. Sut gallwn i golli cyfle i dy weld yn crio ac yn "sboncio'n heini dros y bryn" fel milgi? Ha ha HA!!!
Post a Comment