Rwyf wedi bod yn treulio'r wythnos hon yn gwastraffu fy amser a bod yn feudwy. Efallai bu angen arnaf actio fel hyn, er mwyn cael fy ngwynt ataf, ond rwyf yn dechrau (neu "cychwyn?" Pob tro anghofiaf pa un i'w ddefnyddio) teimlo'n aflonydd ac rwyf eisiau dechrau ar y prosiectau haf fy mod wedi gosod i fy hunan.
Yfory dechreuaf weithio ar lyfr am fy mhrofiadau dysgu Cymraeg. Mae rhai pobl wedi awgrymu i fi gwneud rhywbeth fel hyn, ac rwyf wedi bod yn meddwl amdani ers blwyddyn o leiaf. Pan gefais gyfle siarad yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, gwneuthum fraslun ar gyfer araith a dechreuais feddwl am ei ddatblygu i lyfr. Ysgrifennir yn y Gymraeg.
Os oes gennyf amser, rwyf eisiau gorffen nofel Saesneg y dechreuais arno'r llynedd. Nofel wahanol yw hon o'r nofel di-gyhoeddwyd a ysgrifennais yn ôl yn 2004. Byddai'r nofel hon am rwystredigaeth o garu rhywun eich bod chi'n casáu. A ydych chi erioed cael perthynas fel hyn? Rydych chi'n mor agos i berson, byddech chi'n take a bullet trostynt, ond pob tro rydych chi'n gweld y person hwn ("hon" yn achos fi, ond mae gair "person" yn wrywaidd), ffeindiwch eich hunan yn gweiddi ato, ac yn gofyn pam ceisiasoch chi siarad â nhw eto. Fel hyn yw pethau rhyngof i a'r ast ddieflig ddwyn-enaid o gyn-gariad. Hoffwn ysgrifennu nofel am y teimlad arteithiol hwn. Er ni ŵn ai rwyf yn awdur digon dda neu beidio i'w hysgrifennu.
Hefyd mae cylchgrawn neu ddwy wedi gofyn fi ysgrifennu erthygl, felly bydd yn haf prysur. Gobeithiaf y defnyddiaf fy amser yn ddoeth.
VOCAB
21 hours ago

1 sylw:
dechrau, cychwyn, does dim ots o gwbl.
Post a Comment