8.6.07

Chris y Sinig

Dwedir mai traddodiad Cymru yw rhoi enw lle neu nodwedd person ar ôl ei enw. Er enghraifft, adwaen rywun sy'n galw ei hunan "Sarah Efrog" oherwydd daeth hi o York.

Ni ŵn sut gweithia'r gyfundrefn hon, felly ni ŵn os byddwn yn "Chris Cope, Minnesota" (neu "Chris Cope, Texas"), neu "Chris Minnesota" (neu "Chris Texas"). Dweud gwir, nid ydw'n hoffi'r gyfundrefn hon oherwydd yr wyf wedi byw yn 12 dinas, yn chwe ardal, yn tair gwlad. Felly mae'n anodd i fi dweud o ble yr wyf yn dod er mwyn ei rhoi y tu ôl fy enw.

Yr wyf yn fwy hoff o enw y rhodd Llyr Lewis, Caernarfon, i fi heddiw: "Chris y Sinig."

6 sylw:

neil wyn said...

Mae'r tueddiad i enwi pobl ar ol i ryw digwyddiad neu lleoliad yn cysylltiedig a'r cufundrefn cyfenwau yng Nghymru mae'n debyg. Hynny yw, mae gan y rhan mwya o gymry enwau cyffredin megis Jones a Williams. Mae 'na gwmni o adeiladwyr y fan'ma (glannau Mersi) o'r enw 'Jones the Roof' er enghraifft. Gyda cyfenw fel Cope, does dim rhaid defnyddio dim lleoliad i wahanaethu ti. Ti'n jysd Chris Cope!!

O'n i'n sgwrsio a ffrind (sy'n dod o Gaergybi yn wreiddiol, ond erbyn hyn sy'n byw ochr Lerpwl) yr heno 'ma, a dyna fo'n son am y rhaglen olaf y roedd o wedi gwilio ar S4C, am rai americanwr nath symud i Gymru er mwyn dysgu'r iaith. "Ti'n son am Chris Cope" dwedais, "dwi'n ei nabod o!!"

Americanwr said...

Er mwyn osgoi drysu hefo'r llu o Chris Copes eraill sy'n troedio'r parthau yma, beth am "Chris Cope, America"?

Rhesymau digon tebyg sydd tu ol i'r arfer yn America, mae'n siwr, o roi enw'r dalaith neu'r wlad ar ol enw lle, e.e. Orlando, Florida; London, England; New York, New York (!). Ond cyfenwau sy'n gyffredin yma yng Nghymru, nid cymaint enwau llefydd.

Rhys Wynne said...

Cafodd Sarah'r enw Sarah Efrog, pan ddechreuodd hi ddysgu Cymraeg. Dim ond 3 neu 4 oedd ar y cwrs Wlpan, ond roedd dwy Sarah, felly daeth hi'n Sarah Efrog a daeth y llall yn 'Sarah Gwlad yr Haf' (Somerset).

Peth cyffredin hefyd yn Gymraeg yw galw person ar ôl eu fferm, felly i rai Rhys Tyddyn Isa ydw i.

James said...

Beth am ei gadw e'n syml... 'Chris Ymdaro'

Tom Parsons said...

Beth am "Chris Bloomington Rock City?"

dros said...

chris texas. heb amheuaeth...