Darllenais amser maith yn ôl bod gan Gymru llai dyn a dynes busnes nag unrhyw le arall ym Mhrydain (mae'r bai ar Loegr a Chaerdydd, siŵr). Rwyf yn ymhlith fy ngwerin, te, oherwydd casâf bopeth ariannol.
Efallai cofi di'r llynedd pan euthum trwy broses rhwystredig, dirboenus o ymgeisio am fenthyciadau myfyrwyr. Mae'n amser i fi mynd trwyddi unwaith eto. Treuliais heddiw yn llenwi ffurflenni ac yn ceisio osgoi teimladau o gyfogi a achoswyd gan feddyliau o'm dyled. Erbyn diwedd yr antur brifysgol hon, byddaf wedi benthyca $90,000 (£45,000). Gallwn wedi prynu tŷ gyda'r arian hwnnw.
Dwedaf hynny yn aml -- y gallwn wedi prynu tŷ yn West Columbia, Texas, gyda'r un maint arian fy mod yn defnyddio i fynd i brifysgol yma. Yn gyfleus, ni ddwedaf y nad oes eisiau arnaf fyw yn West Columbia. Er mwyn byw yn St. Paul, byddwn angen tua $250,000 (£125,000), sy'n fwy agos i bris tŷ (gweddol fach) yng Nghaerdydd. Beth bynnag, dewisais ddilyn y llwybr hwn -- mae'n wastraff o'm hamser meddwl am yr hyn a allai wedi bod.
Gorffennodd fy mlwyddyn gyntaf ar ddydd Sadwrn, gydag arholiad gramadeg. Nid ydw'n hapus gyda sut aeth pethau -- ni chefais gyfle ei orffen -- ond rwyf wedi blino cymaint erbyn hyn ei fod yn anodd i fi poeni. Er gwaethaf sut ei gorffennodd, bu'r flwyddyn hon yn anodd iawn arnaf mewn ystyr emosiynol. Ie, gŵn, big girl's blouse ydw, ond dyma fi.
Rwyf yn edrych ymlaen at geisio ymlacio a cheisio ailadeiladu fy hunan a cheisio colli rhai o'r chwerwedd a deimlaf ar hyn o bryd. Mae prifysgol yn ei achosi, a phellter, ac yn y blaen ac yn y blaen.
Meddyliaf weithiau am fy ngorhendaid, Benjamin Curry, y daeth i Orllewin Texas o Ogledd Iwerddon yn yr 1880au, a sut weithiau rhaid ei fod wedi casáu ei fywyd newydd yn yr Unol Daleithiau. Ffeindiai llwyddiant yn ei gartref newydd -- cafodd ransh enfawr -- ond rwyf yn siŵr bod y teimlai ing a hiraeth am y pethau cysurlon o dir ei enedigaeth. Iddo fe, byddai'r pethau hyn yn daith hir, ddrud tros gyfandir a môr. Rwyf yn siŵr y teimlwyd yn amhosibl.
Yn yr oes hon, mae pellter o'r daith honno wedi lleihau ychydig; tra byddir wedi cymryd pythefnos neu fwy i fy ngorhendaid mentro adref, gallwn i fod ar lan llynnoedd Minnesota erbyn amser cinio yfory. Ond mae'r gost yn gymaint fel bod yn amhosibl i fi hefyd, a theimlaf bob milltir o'r pellter hwnnw yn fy enaid -- 5,000 milltir rhag gallu gwthio i lawr fy nhroed ar sbardun a saethu trwy nos ar ffordd syth, ddiatal; 5,000 milltir rhag gallu chwerthin hyd deimlaf boen yn fy mrest; 5,000 milltir rhag bwyd y cefais. Bwyd yr oeddwn mor awyddus, mor orffwyll i'w adael.
Dyma fi'n troelli a gweddïo a chlafychu er mwyn gwerthu fy enaid i gwmni benthyciadau yn gyfnewid am ddigon arian ar gyfer aros yma am flwyddyn mwy. Nid oes gobaith o fynd adref. Ni welaf fy mrawd, fy ffrindiau, y nentydd, yr afonydd am... wel, ni ŵn.
Deuthum i'r lle hwn yn chwilio am rywbeth i lenwi gwacter y teimlaf yn fy nghalon. Efallai, fel ffŵl, disgwyliais am bethau bod yn ready-made: Croeso i Gymru, dyma dy hapusrwydd newydd. Wrth gwrs rhaid i fi adeiladu yma, rhaid cicio o'm gwmpas a cheisio creu man bach o'm hunan. Cymrir amser. Cymrir amynedd. Gŵn.
Gobeithiaf taw, ar ôl popeth, roedd Benjamin Curry yn hapus.
VOCAB
21 hours ago

0 sylw:
Post a Comment