28.6.07

Garden seed

Nid ydw'n blogio fel dylwn y dyddiau hyn. Mae milodfa o bethau'n mynd trwy fy mhen, felly mae'n anodd i fi eistedd i lawr ac ysgrifennu.

Mae fy nhad-cu'n marw. Mae e wedi bod mewn ysbyty am dair mis a nawr mae'r meddygon yn siarad am ei dynnu rhag cynnal bywyd (life support). Mae fy nhad yn lawr yno yn Texas yr wythnos hon er mwyn siarad am y peth gyda'i frawd a'r meddygon.

The great equalizer yw marwolaeth. Daw i bawb. Ond ni wneir y sefyllfa hon yn haws gan y ffaith honno. Ysgrifennais am fy nhad-cu yn niweddar ar fy mlog Saesneg, sut defnyddia iaith gymysglyd o'r hipster a'r dyn Gorllewin Texas. Atgoffodd fy nhad fi neithiwr am ymadrodd arall a anghofiais gyfeirio ato yn y post hwnnw. Yn lle na "god damn it," dwedai Papa, "garden seed."

Garden seed. Fel hyn rydw i'n teimlo. Rydw i'n brwydro tros beth ddylwn i wneud nawr. Hoffwn deithio allan i Lake Jackson er mwyn mynd i'r angladd, ond mae cymaint o roadblocks. Byddai arian yn broblem wrth gwrs, y lludded y deuai gyda hedfan draw yno, a'r ffaith y dylwn i fod yn mynychu cyrsiau Cymraeg.

Yr wythnos nesaf dechreuaf ar Gwrs Meistroli yn y brifysgol. Ar fy mlog Saesneg, dwedais y byddai'n Gwrs Pellach, ond roeddwn yn anghywir. Ffoniodd un o'm darlithydd heddiw er mwyn dweud hynny wrthyf. Felly, rydw i'n fwy awyddus dechrau ar y cwrs.

Ond teimlwn fel ffŵl am beidio mynd i'r angladd. Fy arwyr yw fy nhad-cuod. Rydw i'n galw fy hunan ysgrifennwr achos dylanwad Papa. Pan roeddwn yn ifanc, byddai fe'n rhoi anrheg ychwanegol i fi ar Nadolig, rhywbeth mwy na rôi i wyrion eraill. Byddai'r anrheg yn wastad cael cysylltiad at ysgrifennu -- set ysgrifbin, teipiadur, papur arbennig, ac yn y blaen. Ni wn beth i wneud. Gweddïaf y ni fydd rhaid i fi wneud y penderfyniad, taw byddai'n gwella rhywsut.

0 sylw: