Yn nofel Monica, gan Saunders "Sieg Heil" Lewis, treuliwyd gan brif gymeriad dwy fis yn gorweddian yn ei gwely. Fel hynny teimlaf y dyddiau hyn. Nid oes eisiau arnaf wneud dim byd heb eistedd yno, llygadrythu ar y nenfwd.
Ond mae pethau'n well i fi nag i'n Monica druan:
1) Nid ydw'n greadigaeth y dychymyg gwrth-Semitiad.
2) Nid oes gennyf ddropsi.
3) Ni arhosaf yn fy ngwely am ddwy fis. Mae gennyf bledren rhy fach gwneud hynny. Mae rhaid i fi godi bob hyn a hyn er mwyn piso.
Ond hefyd, mae gennyf fwriad mynd mas ar y nos Fercher hon. Byddaf yn The Halfway, Pontcanna, os oes gennych chi awydd dod hefyd. Er, ni ŵn eto pryd byddaf yno. Mwy na thebyg, byddaf yno tua wyth yn y nos.
Rwyf wedi bod yn meddwl y dylwn fynd mas yn fwy, ond, fel dwedais, nid oes gennyf gymhelliad gwneud unrhyw beth. Unig beth y gwnaf y dyddiau hyn yw chwarae ar gyfrifiadur -- edrych ar Facebook a YouTube.
Darganfûm fideos baublebob heddiw. Gwna fideos bywluniedig o "Gethin," Cymro ystrydebol sy'n siarad am ba mor wych yw Cymru. Rwyf yn siŵr y byddai'r sawl Cymro'n casáu'r fideos hyn, oherwydd mae'n amlwg y cânt nhw ei gwneud gan Sais.
Ond cyfaddefaf fy mod yn hoffi rhai ohonynt. Y fideo hwn yw fy hoff, pryda dweda Gethin: "Get back over the border, you English harlot."
VOCAB
21 hours ago

0 sylw:
Post a Comment