Dechreuais waith ar fy llyfr heddiw, o'r diwedd. Bydd y llyfr hwn yn y Gymraeg, ac na fydd unrhyw un yn ei ddarllen, ond published books are for sell-outs, man. Hwn yw'r llyfr y siaradais amdano ar ddydd Iau, am fy mhrofiadau Cymreig. Rwyf yn gweithio ar fraslun ohono ar hyn o bryd, felly nad oes unrhyw beth diddorol i fi dweud amdano eto.
Rwyf wedi bod yn teimlo hiraeth cryf y dyddiau hyn am fy ffrindiau a phethau yn ôl yn yr UDA. Yn enwedig rwyf yn colli fy mrawd ifanc, Jon. Efallai rwyf wedi siarad o'r blaen am sut gweithiodd fy rhieni oriau hir pan roedd Jon a fi'n ifanc, felly roedd gorfod arnaf i'w fagu. Oherwydd hyn, roedd perthynas rhyngom ni'n dau'n ddirdynedig weithiau. Roeddem ninnau'n dechrau bod yn agos iawn tros y blynyddoedd diwethaf ac wedyn symudais yma.
Roeddwn yn ysgrifennu wrth ffrind heddiw a'i hanfonais y llun hwn iddi, o'm brawd a minnau dwy flynedd yn ôl. Rhaid chwerthin ar hynny.
Mae'n amlwg bod angen am change of scenery arnaf. Hoffwn fynd mas (defnyddiais "mas" er mwyn dy gythruddo, Llyr Lewis) rhywbryd yn fuan. Efallai dylwn ddechrau'r hen beth o fynd i'r Mochyn Du eto.
VOCAB
8 hours ago

2 sylw:
Ca i gwrw a'r dafarn fy hun wedyn rhoi fy mryd ar fwriad newydd. Bydd dau neu dri yn cychwyn cic fy ymennydd i. Beth am bostio rhannau o'r dy lyfr ar y we mewn cyfres?
Dyna lun gwych o dy frawd a ti.
Llongyfarchiadau am ddechrau'r llyfr! Dim ond gorffen y peth sydd ar ol nawr. ;)
Llun neis iawn. Highland Games oedd hynny? (Neu dych chi ddau jyst yn hoffi gwisgo ciltiau bob dydd?)
Post a Comment