Bu'n halibalŵ mawr y bore 'ma ar Post Cyntaf am ddatganiad bod gan Y Byd ddiwrnod lansio. O'r diwedd.
Gwrandawais ar Garry Owen yn siarad â golygydd Y Byd am bris y papur (70c Llun - Iau, £1.20 dydd Gwener), ac am ai byddai unrhyw un ei brynu neu beidio, ac yn y blaen, ond ni chlywais pryd lansir oherwydd daeth y briodferch ifanc lawr y grisiau yn canu: "I'm going to have hot chocolate! Hot chocolate! Hot cholcolate! Yum!"
Felly euthum yn syth at y cyfrifiadur er mwyn dysgu mwy.
"Da iawn," meddyliais i, tra aros am fy nghyfrifiadur cicio*. "Mae'r papur hwn yn cyhoeddi o'r diwedd. Byddaf yn mor hapus tynnu'n ôl fy meirniadaeth amdano, a thanysgrifiaf ato heddiw."
Ond wedyn gwelais y na chyhoedda Y Byd hyd 3 Mawrth 2008. Mwy nag wyth mis. Ac wedyn darllenais y darn hwn am Y Byd ar wefan BBC: "y cynllun gafodd ei grybwyll gynta wyth mlynedd yn ôl." Wyth mlynedd? Mae hyn yn hirach nag meddyliais.
Nid ydw eisiau bod yn rhy gas, ond sylweddolais y na choeliaf i nhw. Gallaf ddychmygu taw rhwng yr wyth mis nesaf meddyliant nhw am reswm newydd i'w ohirio. Felly ni thanysgrifiaf hyd welaf y papur.
Ar Post Cyntaf y bore 'ma, dwedodd golygydd y papur nad-yw'n-bod hwn y treuliwyd gan y papur dwy flynedd yn "gwneud ymchwil." Pa fath o ymchwil oedd hwnnw? Gweld pa mor hir gellid ddweud y cyhoeddir papur heb ei gyhoeddi?
Mae gan Y Byd blog, gyda llaw. Chwarae teg iddyn nhw, maent nhw'n ymwybodol o ffaith bod "ambell un yn aros yn eiddgar os nad yn ddiamynedd." Rwyf yn siŵr eu bod yn awyddus dechrau cymaint â rwyf yn awyddus gweld nhw'n dechrau, ac rwyf eisiau gweld nhw'n llwyddo, ond fel dwedais, na chaf i ffydd ynddynt hyd welaf bapur go iawn yn fy llaw.
**Yn ôl Cysgeir, "cicio" yw gair i'w ddefnyddio er mwyn dweud "to boot" yn ystyr cyfrifiaduraeth. Rwyf yn hoffi'r syniad o gicio fy nghyfrifiadur -- gall y peth fod yn rhwystredig iawn weithiau.
VOCAB
21 hours ago

4 sylw:
Gwleidyddiaeth! man!Gwleidyddiaeth!
Mae nhw cachu brics oherwydd fod yna siawns da iawn (Place your bets when!) i'r papur methu. Felly mae angen casglu llawer o arian $300,000 yn barod medda nhw i sefydlu nhw hunan. Mae papurau wythnosol/misol cymreig yn cael traferth bodoli. Felly mae papurau dyddiol yn hynod o bregus. Ond dwi gobethio fydd nhw yn llwyddianus. Beth am erthygl 'freelance" gan Chris Cope unwaith yr wythnos!!Llais America yn Nghymru!!
Wel, gyda fi'n cwyno amdanynt pob amser, ni chredaf y byddai ganddynt ddiddordeb yn minnau'n ysgrifennu trostynt.
Dwi'n teimlo'n fwy hyderus gan mae ganddynt olygydd erbyn hyn o leia, ond fel tithau Chris, dwi'n petruso cyn mynd ati i danysgrifio.
Gyda llaw dwi newydd ail-danysgriofio i 'Golwg' am flwyddyn arall sydd wedi gwella ychydig ers penodiad golygydd newydd. Galla i ddim gweld fy hun yn danysgrifio i'r dau cyhoeddiadau ar yr un pryd.
Rwyn meddwl y bydd yr papur yn llwyddiant ond mae'n drist gen i ddweud yn fy marn i gyda'r papur newyddion 'Cymro' yn diflannu.
Mae'r amser yr Cymro wedi bod ac ma wedi helpu tyfu a datblygu yr byd Cymraeg. A diolch yn fawr iddo.
Mae rhaid cytuno a Neil Wyn a ddweud fod safon Golwg wedi gwella. Ond eto i fi ma strwythur Golwg ar Byd yn hollol wahannol.
Gyda Golwg yn cylchgrawn 'Cwl' , Olygus ac yn mynd yn sydd a delio a materion Cymreig. Ond mi fydd yr Byd yn siarad amdan yr materion yma ond eto'n rhoi pwyslais fawr a digwyddiadau yr byd eu hin.
Yr unig peth mae rhaid wneud yn siwr yw fod yr byd yn gallu wneud rhywbeth am dysgwyr e.e supplement i dysgwyr unwaith yr wythnos, bydd yr hyn yn hybu'r mwy o pobl i darllen.
Post a Comment