31.7.07

Anturiaeth

OK, yn ôl Dafydd, rhan o'r hwyl Eisteddfod yw ei darganfod, fel petai hi'n ryw fath o flash mob. Dweud gwir, gwneid y digwyddiad yn llawer gwell: "Psst. Yfory byddem yn cystadlu ym marddoniaeth -- dweda wrth dy ffrindiau."

Ar hyn o bryd yr wyf yn meddwl am deithio i fyny ar ddydd Llun neu ddydd Mawrth ar y trên. Af gyda'm pabell a gobeithiaf y gallaf ffeindio lle i'w osod (sut byddaf yn delio â hyn, ni ŵn). Yr wyf yn meddwl am fod yno er mwyn y blogmeet bach ar ddydd Mawrth a hefyd oherwydd mae yna bosibilrwydd y caf gyfle bod yn bresennol ar gyfer y ddadl hon ar nos Fawrth.

Os nad oes gennych gyfrif Facebook, bydd rhaglen BBC 4, "Hecklers," yn trafod a oes gormod o gefnogaeth i'r iaith Gymraeg:

"Has promotion of the Welsh language gone too far? Sir Dai Llewellyn, baronet and proud Welshman, thinks that it has. He travels to Mold, host town to this year's national eisteddfod, to argue his case in front of an audience and a panel of expert opponents."

Rhaid meddwl na fydd lawer o drafodaeth ddeallusol yn y rhaglen hon. Tybiaf taw Daddy didn't love Dai enough, a'i fod eisiau sylw. Fe'i ffeindia trwy fynd i'r Eisteddfod a chwyno (yn y Saesneg) am y Gymraeg. Exercise in futility bydd y digwyddiad hwn, mwy na thebyg, ond mae yna bosibilrwydd cael gwin am ddim -- felly yr wyf am fynd.

Ni ŵn eto pryd af yn ôl i Gaerdydd -- dydd Iau mwy na thebyg. Efallai yn gynharach os nad oes gennyf fodd y lle.

4 sylw:

Carwyn Edwards said...

Cofia fod y rhaglen radio 4 wedi symud o'r Eisteddfod i Theatr Wyddgrug!!

Nwdls said...

Cei ddod i gampio wrth ein pabell ni os ti isio. Fyddwn ni yn y maes pebyll ar y maes Carafanau eleni am y tro cyntaf. Wedi mynd chydig rhy hen i'r malarky yn Maes-B, ond dyw hynny ddim yn meddwl na fydd digonedd o gwrw braf haf yn cael ei quaffio, a digonedd o siarad rwtsh i abra blwyddyn. Fydda i'n setio pabell fyny dydd Mawrth felly croeso i ti ymuno â ni.

Netty said...

Hiya! Rwy'n o'r Almaen. Annette Strauch - nawr yn byw ym Machynlleth. Diddorol i weld dy Blog!!! Mwynha dy Eisteddfod.

Guto said...

Ma'r rhaglen wedi ei chanslo. Meri Huws, y sdeddfod, Richard Brunstrom a Nic Parry wedi tynnu allan.