29.7.07

Codi fy nhymer

Efallai gwyddoch nad ydw'n ffan fwyaf o Eisteddfod. Un rheswm am hyn yw fy nghred bod y peth yn hollol anniben.

Yr wyf eisiau i chi ddychmygu eich bod yn Americanwr sy'n byw yng Nghaerdydd ac sydd eisiau mynd i Eisteddfod. Ni wyddoch lawer am ddaearyddiaeth Cymru ac nad oes gennoch gar. Nawr, yr wyf eisiau chi ceisio defnyddio gwefan Eisteddfod, neu wefan Sir Fflint, neu'r ddau ohonynt, i ddysgu sut yn union i gyrraedd y ffycin Maes. Nid oes trên Arriva neu gerbyd National Express y bydd yn mynd yn syth i'r Wyddgrug, felly pa le dylwn fynd ati sy'n agosaf i'r Wyddgrug? Byddai hyn yn wybodaeth dda rhoi ar wefan, onid fyddai?

Grr. Efallai byddai'n well i fi aros tan ddaw Eisteddfod i Gaerdydd.

(Ar ôl diwrnod o ymchwil, yr wyf wedi darganfod yr hyn yr oeddwn yn chwilio amdano -- ond yr wyf eisiau gweld os gallech chi ei ffeindio hefyd)

2 sylw:

Rhys Wynne said...

Na, does dim gorsaf drên yn Yr Wyddgrug. A cytuno mae gwefan yr Eisteddfod braidd yn vague gyda'i wybodaeth. Dyna pam dechreuais i wiki Eisteddfod 2007.

Mae gwybodaeth ar gael o wefan Sir y Fflint sydd ddim rhy anodd dod o hyd iddo, ond mae'n cymeryd dau glic ac wedyn rhaid agor dogfen PDF (sigh!)

Dwi wedi copio'r wybodaeth i gyd i'r dudalen yma.

Mae'n debyg byddai i'n mynd fyny nos Wener yma syth o'r gwaith gan bod gyda fi ofod ar gyfer jobs-cymraeg.com (plug plug) ar stondin CMC

Os ti'n edrych am lifft nes at ddiwedd wythhnos nesaf, beth am adael neges yma'n gofyn am llifft?

O ran ti a'r Eisteddfod. Pa fathau o bethau hoffet weld yna.
-Cerddoriaeth (am ddim ar y Maes neu gigs fîn nôs)
-Corau (choirs)
-Barddoniaeth (efallai ddim!)
-Gwaith Celf
-Ffilmiau Byr (Mae Pictiwrs.com yn dangos ffilmiau yn ôl y rhaglen, ond tydi Rhodri na Geriant wedi'w hysbysebu!)
-Darlithoedd
-Dramau

???

Noda beth hoffet weld, ac efallai wnaiff eraill ddweud wrthyt ble byddant yn digwydd.

Dafydd said...

Wnes i ffeindio'r wybodaeth yn reit rhwydd (er fase'n help os oedd gwefan yr Eisteddfod yn cysylltu'n syth i'r PDF).

Doeddet ti ddim yn gwybod mai rhan o hwyl yr Eisteddfod oedd gweithio allan y logistics ar sut i gyrraedd y lle, gweithio allan beth sydd mlaen, pryd a lle - rhyw fath o Krypton Factor Cymreig?