Yr wyf yn ôl yng Nghaerdydd ar ôl wythnos yn Nant Gwrtheyrn. Mwynheais y lle a'r ardal i gyd hefyd -- âi'r grŵp ar deithiau yn y prynhawn: Aberdaron, Pwllheli, Caernarfon ac yn y blaen. Cafodd Caernarfon yr argraff gryfach arnaf oherwydd mae'n union fel disgrifiwyd hi gan Llyr. Y dyddiau hyn yr wyf yn amheus iawn o'r hynny a ddweda pobl wrthyf am leoedd gwahanol yng Nghymru. Yr wyf wedi siarad am hyn o'r blaen -- ar ôl darlledwyd y rhaglen ym mis Mai cefais sawl e-bost, a hyd yn oed llythyr, gan bobl a oedd yn awyddus dweud wrthyf na ddylwn wedi mynd i Gaerdydd ond yn hytrach i'r lle 'ma neu le acw. Wrth gwrs, pob tro dwedai'r person taw at ei ardal dylwn wedi mynd. Ond, fel dwedais ar fy mlog Saesneg, mae gan Gymry Cymraeg duedd i gor-werthu pethau weithiau -- yn enwedig pethau yn y Gogledd Godidog ("A thousand naked beermaids await you in the Magnificent North, Chris."). Ond chwarae teg i Llyr, yr oedd ei ddisgrifiad o'i ardal yn gywir. Mae Caernarfon yn ddinas (dref?) mewn ardal brydferth sydd ganddi fynyddoedd a'r môr ac afonydd ac yn y blaen. Mae'n ddinas (dref?) Cymraeg, ble clywir yr iaith bron ym mhobman, defnyddir gan bobl o bob un dosbarth cymdeithasol; mae ganddi chavs Cymraeg. Ni ŵn os mae'n werth taith chwe awr mewn bws-mini i weld chavs sy'n siarad iaith wahanol o'r hyn y siaradant yng Nghaerdydd, ond yr wyf yn siŵr bod yr amrywiaeth hon yn beth da i'r iaith.
Treuliais lawer o'm hamser mewn tafarnau ar y daith hon. Felly cefais gyfleoedd siarad â phobl leol, sef barmyn*. A chefais gyfleodd ymdrechu deall yr acen ogleddol. Byddwn ddweud bod ffordd gorau i'w ddynwared yw llyncu eich tafod ac wedyn ceisio siarad Cymraeg (Ie, ie. Darllenais Neighbours From Hell hefyd, felly gŵn bod y Saeson wedi arfer dweud rhywbeth eithaf tebyg am siarad Cymraeg o gwbl -- dim ond cymryd y piss ydw. Tawelwch). Gwesty Tŷ Newydd, Aberdaron, a Tŷ Coch, Porthdinllaen, oedd fy hoff dafarnau, y ddwy ohonynt ar y traeth. Mae'r olaf yn gudd ym mhentref bychan ar lan Môr Iwerddon y rhaid person cerdded iddo o hanner milltir i ffordd (nid oes lle yn y pentref ar gyfer ceir dibreswyl). Yr oeddwn wrth fy modd yno: yn eistedd tu allan, yn edrych tros y môr ac yn teimlo mor anghysbell tra yfais fy nghwrw Bragdy Mŵs Piws. Yr oeddwn yn meddwl y hoffwn fyw yno, gydag astudfa fach sy'n edrych allan tros y môr. Gallwn ysgrifennu trwy'r dydd, a phan gawn writer's block gallwn gerdded draw i'r dafarn. Bywyd annhebygol yw hwnnw -- er bod Cymro Cymraeg oedd y barmon, ymddangoswyd taw Saeson oedd mwyafrif y pentref. A Saeson ofnadwy cyfoethog -- dwedodd un o'r tiwtoriaid wrthyf y byddai fflat gwely sengl yno'n costio mwy na £200,000**.
Y daith hon gwnaeth fi feddwl am fy lle yng Nghymru a chymdeithas Cymry Cymraeg. Wrth eistedd a cherdded yn yr ardal honno, gofynnwn o'm hunan a fyddwn i'n gweddu yno. A allwn i fyw yn yr ardal honno a theimlo fel yr oeddwn yn perthyn iddi? Yn fy mhen, yr oeddwn yn cymharu'r daith i daith grŵp ieuenctid crefyddol oherwydd teimlwn yr un fath o bethau amdani: "I'm just not buying into this as much as everyone else; as much as I think I'm supposed to."
Teimlaf euogrwydd tros y ffaith nad ydw'n hoffi pob peth Cymreig-Cymraeg; fel petawn yn bechadur oherwydd nad ydw'n hoffi barddoniaeth, a chredaf fod Meic Stevens yn shit (mae yn). Ffeindiaf fy hunan yn ail-feddwl yr hyn y dwedwn tros y blynyddoedd diwethaf ac ar y rhaglen -- bod rhywbeth am Gymru yn tynnu fi ato. Yr oeddwn wedi arfer dweud bod rhywbeth am Gymru wedi gafael ar fy nghalon a thynnu fi oddi wrth dros y môr, taw fy lle yw Cymru.
Pan yr oeddwn yn arfer byw yn yr Unol Daleithiau, yn teimlo mor ddi-gysylltiedig rhagof fy hunan, dychmygwn yr oedd fy enaid -- neu'r darn hwnnw y byddwn yn angen i deimlo'n gyflawn -- yn arnofio trwy'r awyr rhywle yng Nghymru. Dychmygwn yr oedd fi arall, anweledig, yn crwydro'r mynyddoedd o'r wlad hon -- yn aros i fi ddarganfod fe. Yn fy meddwl gallwn weld fy hunan yn sefyll ar ben mynydd, yn edrych allan tros y môr ac yn chwerthin yn gryf i'r awyr oherwydd y teimlad gwefreiddiol o deimlo'n gyflawn, o'r diwedd. Mae ardal Pen Llŷn yn edrych yn eithaf tebyg i'r hynny yr oeddwn yn arfer dychmygu.Yn fy nghwrs, treuliaf fy amser yng nghwmni chwe merch sy'n hefyd gwneud gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Wrth gwrs mwynhaf eu gwni -- dyna fi ymhlith chwe merch ddeniadol -- byddai rhaid bod yn wallgof na fwynhau. Pan gerddaf o gwmpas y campws gyda nhw, teimlaf fel Brenin Cymru ("Penliniwch o'm blaen, dynion! Yr wyf yn cerdded gyda chwe merch! Bwahahaha!"). Ond yr wyf yn siŵr y byddent yn cytuno nad ydw'n gweddu yn berffaith i'w byd nhw. Yr wyf yn henach, nid oes gennyf ddiddordeb yn siopa, nid oes ganddynt ddiddordeb yn cerdded trwy'r cefn gwlad, ac yn y blaen***.
Felly yr oeddwn yn ardal a atgoffai fi am fy hen ddymuniadau am Gymru, ond hefyd yr oeddwn yn cael fy atgoffa am ba mor anodd mae wedi bod i fi ffitio mewn yma. Gofynnais o'm hunan a ydw'n teimlo o hyd yr un pethau yr oeddwn arfer teimlo. A ydw'n teimlo o hyd taw yma gallaf ddarganfod fy nyfodol? Er gwaethaf popeth, ydw. Mae yna rywbeth i fi yn yr wlad hon sy'n mor anodd i gynhesu ati. Ond ar ôl blwyddyn o fyw yma, mae'r dyfodol hwnnw'n fwy niwlog nag erioed o'r blaen. Teimlaf yn fwy ansicr, yn fwy pell. Deuthum yma oherwydd yr wyf yn dyheu am rywbeth; mae yna ddirboen calon y goddefaf yn feunyddiol. Meddyliais y gallwn ddod o hyd fy lle yn yr wlad fach hon. Erbyn hyn, teimlaf rwystredigaeth, chwerwdod, dicter a threchiad. Ond efallai y mae gennyf y teimladau hyn oherwydd ofn -- ofn y bydd fy serch tuag at Gymru yn ddiwobrwy.
*Diawl, rhaid bod gair gwell am "bartender" na "barmon."
**Ac wrth gwrs, cofiwch roi'r bai am bopeth o'i le yng Nghymru ar Loegr a Chaerdydd.
***Fel yr oedd pobl yn mor awyddus i archweinyddu ar maes-e ar ôl darlledwyd fy rhaglen, fel hyn pethau mae. Yr wyf yn deall hynny. Nid ydw'n cwyno yma. Mae'r merched wedi rhoi croeso i fi ac yr wyf yn ddiolchgar iawn. Dim ond eglurebu'r ffaith ein bod ni'n weddol wahanol ydw.

3 sylw:
Mae'n dda gen i gael darllen dy flog eto. Mi nes i gael cipolwg o'th deimladau pan o'n i yng Nghymru'n ddiweddar.
Sut oedd y cwrs?
Croeso nôl Chris.
Wedi colli darllen dy flog pan ot ti i ffwrdd.
Y peth cytaf wi'n edrych arno pan wi ar y we.
Trist neu be' ;-)
peth anhygoel i feddwl a gallai Porthdinllaen wedi bod lleoliad prif porthladd y Gogledd er mwyn cyrraedd Iwerddon, pe tasai canlyniad 'ras' y peiriannwyr arloesol wedi bod yn wahanol!
Mi allai hanes yr holl ardal (a safon y Guiness ar gael yn y Ty^ Coch) wedi bod yn eitha gwahanol..
gobeithio wnei di fwynhau gweddill y gwyliau ta waeth.
Post a Comment