Mae pethau'n gwella erbyn hyn -- yr oedd yn arfer bod taw dim ond dau beint gallwn eu hyfed cyn llithrai'r Gymraeg i ffordd. Gallaf yfed llawer mwy'r dyddiau hyn heb gael fy ngorfodi newid y sgwrs i'r Saesneg, ond pan geisiaf gymryd rhan yn y sgwrs, gwnaf cachu hwch ohoni.
Felly, dyna fi ar nos Fercher diwethaf -- yn sefyll wrth ochr Elin, gwraig Rhodri, yn gig Pwsi Meri Mew/ Gwibdaith Hen Frân/ Cowbois Rhos Botwnnog/ Gai Toms -- yn teimlo taw efallai y cawn i ormod o gwrw a gwin a dylwn droi tuag adref. Yr oeddwn yn bwriadu dweud wrth Elin: "Dwi'n teimlo fel shit. Dwi'n meddwl y dylwn i fynd adref."
Ond yn lle, dwedais: "This is shit. Dwi'n mynd."
Fel hynny y cofiaf Eisteddfod 2007: fi'n teimlo'n waeth nag dylwn, a bod yn not quite there eto gydag ansawdd fy Nghymraeg.Sawl diwrnod ar ôl dychwelyd rhag Eisteddfod, yr wyf yn teimlo'n sâl o hyd. Felly nid yn unig yr alcohol a achosai fi teimlo'n wael. Er gwaethaf hyn, gallaf adrodd wrthych yr oedd fy mhrofiad Eisteddfod yn well y tro hwn. Ni ddwedaf fy mod wedi dwlu am Eisteddfod erbyn hyn, ond o leiaf yr wyf yn dechrau deall ei atyniad.
Ar ddydd Mercher euthum i lan i Gaer ar y trên, wedyn Caer i'r Wyddgrug ar y bws, Yr Wyddgrug i faes parcio Eisteddfod ar fws arall, maes parcio i faes carafannau ar fy nhraed. Gadawais Sweet Home Radyr Way am 8:30 a gosodid fy mhabell erbyn 15:30.
Gofynnaf fy hunan weithiau tybed a oes Cymry'n mwynhau'r ffaith taw mor time-consuming yw teithio yn eu gwlad. Taw taith 147 milltir -- taith y dylai ei chymryd tair awr neu lai -- cymer saith awr gwedda'r gweledigaethau o bellterwydd hyn y mae gan Gymry am Gymru. Ond yr oeddwn yn iawn gyda'r siwrnai -- cefais lyfr i'w ddarllen a'm hacen Americanaidd i danio sgyrsiau.
Mae'r acen Americanaidd yn ychydig fel lliain yn Hitchiker's Guide to the Galaxy, sef mae'n aml-ddefnyddiol. Pan mae person ar fws 4 o Gaer i'r Wyddgrug, achosa'r acen hon sgwrs gyda gyrrwr am chwaraeon: "The thing about America, mate: all your major sports, right, you wear pads. What's that about?"
Mae gennyf ar awdurdod yr un gyrrwr y bydd Cardiff City yn symud lan i'r Premiership eleni. "Guaranteed, mate. Go to Ladbrokes and put money on it," dwedodd e.
Hefyd, mae'n "guaranteed" y bydd Cymru'n ennill y Cwpan y Byd, er gwaethaf eu chwithigrwydd erbyn Lloegr. Siaradodd y gyrrwr i fi trwy'r daith awr i gyd.
Ar ôl gosod fy mhabell, yr oeddwn am fynd i gwrdd blogwyr ar y diwrnod, ond penderfynais orweddian yn fy mhabell am ysbaid wrth aros am Rhodri ac Elin ymddangos. Roedd miloedd o garafannau ar y maes, yn ymestyn tros sawl acer, gydag amryw pabelli ar y ffiniau. Peth cyntaf a darodd fi am yr olygfa bu: ni chredir gan y bobl yma yn y syniad o roughing it. Yr oedd y carafannau'n enfawr, yr oedd y pabelli'n enfawr, ac oedd ganddynt bob mwynder. A dyna oeddwn, gyda'm pabell bitw -- teimlwn dipyn o tent envy*. Nid oedd Rhodri ac Elin yn wahanol. Yr oedd pabell nhw'n deirgwaith y faint yr eiddof.Mae'n amlwg bod gennyf lawer i'w ddysgu am yr hyn golyga "gwersyllu" yng Nghymru; yr oedd chippy, tafarn a Spar ar faes carafannau hefyd (gwlad wyllt fy nhin). Diolch i'r Spar, penderfynodd Rhodri brynu llosglo, cwrw, ac oenod ("eidionod" yw gair am "fyrgyrs cig eidion," felly dylai "oenod" fod yn air am "fyrgyrs cig oen" heb raid defnyddio gair Saesnegol fel "byrgyrs") er mwyn cael barbiciw, yn lle nag cerdded i'r Wyddgrug am swper. Ond am ryw reswm, ni phrynodd e gynnud tanio (fire starter), felly treuliasom ni awr a hanner yn ceisio tanio'r llosglo gyda phapurau newydd. Llosgasom ni dau rifyn Western Mail ac un rhifyn Guardian cyn penderfynodd Rhodri gerdded yn ôl i'r Spar am gynnud tanio.
Ni ŵn a oes wyth selsig a phedwar oenyn yn ormod o fywyd am ddau ddyn, ond bwytasom bron popeth. Yr hynny, plws wyth tun cwrw a photel gwin, achosai ninnau penderfynu aros yn ein gwersyll am y nos. Darganfûm bren a'i rhown yn y barbiciw trwy'r nos er mwyn cael tân bach y gallai bawb gasglu o'i amgylch. Ymddangos rhywrai eraill, Nic yn eu plith, a threuliasom ni'r nos yn gwrando ar y radio a siarad lol. Penderfynaswn erbyn diwedd y nos y gallwn ddeall pam mwynha bobl Eisteddfod yn gymaint.
Mae'r maes Eisteddfod ei hunan yn drydyddol, sef nid yw e'n bwysig i'r profiad. Y pwynt, y rheswm, y raison d'etre Eisteddfod yw'r rheiny a â i'r peth.
Peth sy'n taro fi am Eisteddfod yw'r ffaith ei bod yn freuddwyd Edwardaidd, Llundainaidd o ddiwylliant Gymru. Mae ganddi elfen o ffalsrwydd. Mae hynny'n iawn, wrth gwrs -- yr wyf yn dod o gymdeithas sy'n arbennig o hoff o greu diwylliant tros ei hunan. Os gwneir rhywbeth mwy na teirgwaith yn yr Unol Daleithiau daw yn draddodiad. Ond taw pobl cymer Eisteddfod mor ddifrifol a cheisio honni nad yw Eisteddfod yr hyn ei bod yn -- mae hynny'n mynd o dan fy nghroen tipyn bach.
Efallai'r peth a rwystra fi mwyaf yw nad yw'r weledigaeth gor-rhamantaidd o Gymru hon yn gyfeillgar i'r defnyddiwr allanol. Pan euthum i Eisteddfod am y tro cyntaf yn 2006, yr oeddwn yn chwilio am rywbeth i gyfiawnhau'r amser a thrafferth a rof i'r Gymraeg. Yr oeddwn eisiau rhywbeth i'w ddangos i'm gwraig er mwyn dweud: "See, honey. This is what all the fuss is about."
Mae'n anodd gwneud hyn gyda Chymru Gymraeg. Mae ganddi gerddoriaeth shit, ddawns wael, ac amryw bethau eraill a deimla fel gimmicks a gafodd eu creu ar gyfer ymwelwyr America a Lloegr a ymddangosai a gofyn: "Where are your leprechauns? Where is your tartan? What's so fucking special about you?"
Mae cymaint o'r rhinwedd cymdeithas Gymru Gymraeg wedi ei lapio yn yr iaith ei hunan. Mae'n anodd i rywun di-gymraeg gweld "what's so fucking special." Dweud gwir, mae'n anodd i fi i'w weld, hefyd. Mae'r pabelli crysau-T a bwyd organig a HSBC, y creigiau, y sefyll yn stond, a'r hanner can copi gwael o Bob Dylan yn siom i'r person a obeithia weld Cymru Gymraeg ar arddangos.
Ond eleni, ymhlith y carafannau a phabelli'r pentref ebrwydd y maes carafannau, ac ymhlith yr yfwyr gwin a chwrw maes Eisteddfod, gallwn i ddechrau deall yr hyn sy'n mor bwysig am y digwyddiad hwn. Dweud gwir, gellid (ac efallai dylid) llosgi lawr pob pabell wen PVC ar y maes Eisteddfod hwnnw a byddai'r peth a wna Eisteddfod gwerth yr ymdrech yno o hyd.Ar ôl y tro gorfodol o gwmpas y maes Eisteddfod ("Yep, y ffycin creigiau yw yma. Yep, y dwsinau o gymdeithasau heb unrhyw bwysigrwydd i fi yw yma. Yep, y stondinau crysau-T sothachlyd yw yma. Check, check, check. Mae popeth yn ei le."), plannais fy hunan yn agos i stondin cwrw a mwynheais ddiwrnod haf. Yr oedd yn llwyfan bach yno ble dynwaredodd rhywun y Dynwaredwr Bod Dylan Rhif Un Meic Stevens a oedd yntau'n eistedd ymhlith y gynulleidfa. Safwn i ar yr ymylon, yfed fy nghwrw. O dro i dro, gwelwn i rywun fy mod yn eu nabod o'm cwrs, neu rywun ac maent yn fy adnabod o'r rhaglen.
Mwyaf nodedig o'r rheiny a adnabu fi bu Dyl Mei, o Genod Droog. Yn anffodus, bu rhaid i fi ddinoethi pa mor di-gŵl ydw trwy ofyn fe pwy yw e, ond o leiaf adnabyddwn i enw ei grŵp.
"Hei, dwi'n nabod chi!" dwedais.
Ac yr oeddwn am ddweud, "You're one of the few Welsh bands that I don't hate," ond nad allwn i gyfieithu hyn yn ddigon cyflym, ac nad oeddwn yn siŵr a fyddai'n swnio fel sarhad.
Yr oedd yr awyrgylch yn dda, gyda phawb yn siarad a chwerthin ac mewn hwyliau da. Sylweddolais taw hyn yw'r rheswm y dylwn werthfawrogi Eisteddfod -- cyfle i fodoli yn y byd rhamantaidd hwnnw ble mae pawb yn siarad y Gymraeg, ble nad yw siarad Cymraeg yn weithred herfeiddiol neu academaidd ond dim byd mwy nag rhywbeth i'w wneud, rhyw ffordd i gyfathrebu. A rhywsut, er na ddwedwn fod fy nheimladau am Eisteddfod wedi newid yn mawr, mae'r profiad wedi ail-ysbrydoli fi ychydig. Awn i adref gydag awydd brau newydd i ysgrifennu eto.
*Defnyddiais y ffraetheb hon sawl tro pan yr oeddwn yn Eisteddfod, a theimlwn ni wyddai bobl yr oeddwn yn ceisio gwneud cyfeiriad at theori Freud.
(Y pennawd yw'r hyn oeddwn eisiau gweiddi ar Cowbois Rhos Botwnnog)

5 sylw:
Waw, lot o sdwff i ymateb iddo!
Dwi'n meddwl fasa dy babell di wedi bod yn reit gartrefol ar faes pebyll Cymdeithas a Maes-B, jest fod pawb sy'n ddigon trist (a hen) i fynd i gampio yn Maes Carafannau yn crefu am *fymryn* o gyfforddusrwydd. Os da ni isio mynd am roughing it, da ni'n gneud o ar ben mynydd!
O ran y rheswm am fynychu - ti di taro'r hoelen ar ei phen. Mae o fel byw mewn gwlad gyfangwbl Gymraeg ei hiaith am wythnos. Iwtopia ffug? Efallai. Cyfle gwych i ddathlu ein iaith, a phopeth sy'n deillio ohoni? Yn sicr.
Mae'r Alban, yr Iwerddon a Llydaw wedi llwyddo i gadw elfennau diwylliannol eraill yn gryf fel eu cerddoriaeth draddodiadol, tra'n bod ni Gymry wedi llwyddo i gadw'n iaith yn lawer cryfach na'u rhai hwythau. Efallai am taw dyma'r unig wir elfen o'n diwylliant cynhenid sydd ganddon ni ar ôl.
Falch o glywed gest ti brofiad ychydig yn well eleni Chris.
Teimlais braidd yn siomedig wedi diwrnod o stiwardio, doedd dim lot o sgwrs yn y Pagoda yn ystod rhagbrofion offerynau chwythbren!
Ond gwthiais fy hun mynd yn ôl dydd sadwrn er mwyn mwynhau'r profiad o eistedd yn yr haul yn yfed cwrw ymhlith miloedd o Gymru Cymraeg. O'n i'n falch mi wnes i'r ymdrech, awyrgylch gwerth ei gofio. Fel y dwedodd nwdls, dyna'r peth am steddfodau, cymdeithasu mewn byd eitha fach ond er hynny gyfeillgar yn y rhan mwyaf.
Hmm, dwinna mbach o snob....Mi odd gin i 6 man tent i fi fy hun...tan i un o fy ffrindiau anghofio'i thent (yeah right, mi oedd hi'n gwbo fod fy nhent yn ôsym) ac wedyn mi oedd na dair ohonom ni. Mi oedd gin i air bed a phopeth!
Falch bo ti di joio mwy troma, allaim ymddiheuro digon am rwbath idish i nos fercher...
Dw i wedi bod yn mynd i'r Steddfod am (y rhan fwya o'r) yr wythnos ers Meifod, a dim ond nawr dw i'n dysgu ymlacio a gadael i'r Steddfod ddod ata i, fel petai. Y pethau joies i fwya eleni oedd y noson gyda ti, Rhodri a'r lleill o gwmpas y barbiciw, yr awr treuliais i ar mhen fy hunan yn y bar brynhawn dydd Mercher, ac, i fod yn onest, cymryd diwrnod off o'r Steddfod ddydd Iau a mynd i Wrecsam i wylio'r Simpsons.
A gweld pawb.
Ti di taro'r hoelen ar ei phen, mae cerddoriaeth Gymraeg yn shit.
O.N. Acer = Erw (neb yn defnyddio'r gair Cymraeg)
Post a Comment