Pan roeddwn i'n ysgrifennu fy nofel The Way Forward (nofel di-gyhoeddedig a ysgrifennais yn ôl yn 2005), rhown i gyfrifiad geiriau ar fy mlog weithiau er mwyn dilyn fy nghynnydd.
Heddiw dechreuais y gwaith go iawn, o'r diwedd, o ysgrifennu fy ail lyfr, felly yma mae'r esgyniad yn dechrau. Mae'r broses o ysgrifennu yn hir ac yn ddiflas ac yn anodd, a bydd y broses hon yn arbennig o anodd oherwydd byddaf yn mynd i brifysgol wrth geisio ysgrifennu.
Ysgrifennais y drafft cyntaf o'm nofel i mewn chwe mis, ac wedyn treuliais bedwar mis arall yn ei ailysgrifennu. Ond mae gennyf amlinelliad llawn y tro 'ma, felly mae gennyf obaith y symuda pethau'n fwy cyflym.
Yn gysylltiedig i bethau ysgrifenedig, byddaf yn dechrau ysgrifennu erthygl fach yng nghylchgrawn Barn ym mis Hydref. Methais ddweud unrhyw beth am yr hyn a ysgrifennais trosto yn ôl ym mis Gorffennaf, felly dyma fi'n bod yn siŵr i hunan-hysbysebu.
Mae pethau'n mynd yn OK ar hyn o bryd, er mae'n anodd i fi i'w weld weithiau. Dim ond gobeithio nawr y gallaf wneud y gorau ohonynt.
VOCAB
1 day ago

2 sylw:
Dw'i wedi dy dagio
Dim diolch Sanddef -- mae'r gwefan 'na yn gofyn fi cofrestru.
Post a Comment