Mae'r chwiorydd-yng-nghyfraith yn yma o hyd. Felly treuliaf fwyafrif o'm hamser lan y crisiau, darllen a chlustfeinio ar sgyrsiau'r briodferch ifanc a'i chwiorydd. Roeddwn newydd gwrando arnyn nhw siarad am briodas Rachel a fi, a sut mor anodd y bu oherwydd ei rhieni.
Roedd rhieni Rachel yn hollol erbyn ein priodas oherwydd nad oeddwn i'n (ac nid ydw i'n) Mormon. Ceisient nhw rwystro ein priodas trwy wrthod talu am bethau, ac yn dweud wrth Rachel y roedd hi'n siom i'w theulu, ac yn mynnu y byddent dorri hi o'u hewyllys, ac yn y blaen ac yn y blaen. Bihafient nhw fel rhieni mewn Regency romance neu rywbeth.
Priododd Rachel a fi beth bynnag. Priodasem ni yng ngardd gefn rhieni Rachel yn St. George, Utah, oherwydd chawsom ni ddim arian ar gyfer cynnal y briodas rhywle arall, ac oherwydd gwyddem na fuasai ei rhieni deithio i Minnesota. Cafodd Rachel a fi briodas ddi-flas, dawel, a deimlodd mwy fel shotgun wedding chwithig (cofiwch does gennym blant o hyd) nag diwrnod hapus.
Mae gennyf flas chwerw o'r profiad hwnnw o hyd ond ar ôl mwy nag wyth mlynedd priodas, dydw ddim yn anodd gweld pwy oedd yn gyfeiliornus yn y sefyllfa.
Ers ein priodas, dweda Rachel a finnau wrth ein hunan y cawn ni briodas arall rhyw ddiwrnod. Bydd yn pirate wedding, dwedwn ni. Gwisga bawb fel môr-ladron, gyda Rachel yn bod yn Pirate Queen a fi'n cael fy llusgo i'r allor gan fy ngweision-priodas. Bydd yna grog a cherddoriaeth, a gaiff bawb amser hwyl.
Ac roedd Rachel yn siarad am hyn heno a meddyliais wrth fy hunan: "O ble daw'r arian?"
Mae'n anodd dod o hyd arian ar hyd o bryd. Fel hyn mae pethau wedi bod trwy ein priodas ond maent yn wael ers symudasom ni i Gymru. Mae gennym gymaint o ddyled taw weithiau teimlaf fel bu'n gamsyniad i wneud hyn. Ie, mae'n hyfryd i fyw yng Nghymru ac eisiau lladd fy hunan bob dydd ac yn y blaen, ond beth wnaf ar ôl ennill gradd? Gofynnaf weithiau ai fydd yr antur hon yn talu yn ôl.
Teimlaf fel nid ydw'n ŵr da oherwydd gwthiais Rachel allan i yma gyda fi. Efallai dylwn wedi aros ym Minnesota, gweithio yn swydd fy mod yn casáu, ennill digon o arian am dŷ ac yn y blaen -- bod yn ŵr traddodiadol. Teimlaf y twyllais y briodferch ifanc rhywsut: "You expected a proper husband, but you got... well... this guy." Mae gennym ni obeithion, a theimlaf fy mod yn eu rhwystro trwy geisio dilyn breuddwydion fy mhen fy hun.
VOCAB
8 hours ago

0 sylw:
Post a Comment