16.9.07

Hello. Am Laura. You make nice husband?

Mail-order brideMae'n anodd weithiau deall hiwmor y briodferch ifanc. Heddiw gafodd hi syniad ei bod hi eisiau cael ei chwiorydd dal yng Nghymru, a taw ffordd gorau i wneud hyn byddai Ya-Ya briodi dyn lleol.

Ar hyn, dyfeisiodd hi syniad rhyfedd o hysbysebu ei chwaer fel mail-order bride (priodferch-archebwyd-trwy'r-post?) ar fy mlog (gwneuthum hyn ar fy mlog Saesneg).

"It'll be funny," meddai hi. "I want to see what people will say."

"Uhm, the internets are full of nutjobs," meddwn i. "They'll probably take it seriously."

Ond mynnodd Rachel tynnu lluniau o'i chwaer er mwyn y blog beth bynnag. Dweud gwir, maent yn ddoniol -- yn enwedig yr un a rhois yn y cofnod hwn. Mae'r olwg archub-trwy'r-post yn berffaith yma. Mae'n scary, bod yn onest. Gellir dychmygu'r llun hwn ar wefan gydag enw an-dychmygus fel www.russianbride.com (o, diawl, gwelaf fod yna wefan go iawn gyda'r enw hwnnw -- ni chysylltaf iddo). Byddai hi gael disgrifiad dwl fel: "Am I Laura. Am I liking to dance and sing and be good wife to nice man in Wales. Always am thinking that best thing in life is transcend rainbow."

1 sylw:

Ordovicius said...

Dim ond joc oedd o??? Ond be' dw'i'n mynd i neud efo'r lluniau o Laura a'r allor rwan?