10.9.07

Siblingiaid

Rydw i wedi cyrraedd yng nghylch llai uffern -- mae chwiorydd y briodferch ifanc yn ymweld â ni ar hyn o bryd. Nid ydw i eisiau swnio'n greulon gan ddweud hynny, maen nhw'n ferched hyfryd. Ond pan ddaw'r briodferch ifanc a'i chwiorydd gyda'i gilydd... O, diawl.

Siaradan nhw'n uchel -- ar ben eu lleisiau -- am oriau. Neithiwr, roedden nhw'n siarad hyd 3 yn y bore. Dyna oeddwn i, yn ceisio cysgu ond nad allwn oherwydd o dro i dro crynai'r tŷ gyda ffrwydrad o'u chwerthin.

Mae'r chwiorydd-yng-nghyfraith yn yma am bythefnos. Anfonwch help (a chwrw), os gwelwch yn dda.

Wedi dweud hyn, mae'n neis i gael nhw yma. Roedd y briodferch ifanc yn teimlo hiraeth cryf am ei theulu tros y misoedd diwethaf. Ni allaf ei hachosi chwerthin mor uchel, mor bur, mor lawn o lawenydd â phan mae hi'n gyda'i chwiorydd. Ac o leiaf dim ond dwy ohonynt wedi dod i'n ymweld y tro hwn -- mae gan y briodferch ifanc pedair chwaer.

Mae'n anodd i fi berthnasu i sut mae pethau rhwng fy ngwraig a'i chwiorydd. Mae gennyf frawd, ac mae gennyf bob parch trosto, a mwynhaf ei gwmni ond oherwydd caem ni berthynas ble roedd swydd fi edrych ar ei ôl pan roeddem ni'n ifancach, nid ydym ni'n agos fel Rachel a'i chwiorydd.

Peth am heneiddio yw bod yna mwy a mwy o bethau i'w edifarhau, a pherthynas fi a'm brawd yw un o'r pethau hynny y meddyliaf amdanynt am weddill fy oes. Rydw i'n edmygu'r bobl hynny sydd ganddynt berthynas dda gyda'u siblingiaid. Roeddwn i'n fwy fel rhiant i'm brawd -- oherwydd roedd fy rhieni yn gweithio llawn amser -- ac fel hyn pethau mae o hyd, mwy neu lai. Pan siaradaf â fe ar y ffôn neu drwy e-bost, dalaf fy hunan yn dweud wrtho fe beth i'w wneud.

Ond ni feddyliwn fod yna lawer y gallaf wneud am y peth. Mae fy mrawd yn byw 5,000 milltir i ffordd -- ni newidia bethau gyda chymaint o bellter rhyngddynt. Felly rydw i'n eiddigus o'r briodferch ifanc. Ond hefyd rydw i'n hapus iddi.

1 sylw:

Gary said...

Dwi'n deall ei fod yn anodd gan ei fod yn byw 5,000 milltir i ffwrdd, ond mae fy mherthynas i gyda fy mrodyr wedi gwella'n aruthrol ers i mi fynd yn hyn.

Ond dwi hefyd yn meddwl bod rhywbeth mwy i berthynas chwiorydd. Does gen i ddim chwarae ond mae fy ngwraig a'i chwaer yn agos iawn - agosach na fi a fy mrodyr o bell ffordd.