Rydw i wedi dychwelyd i'r byd prifysgol erbyn hyn. Felly mae'n gwneud synnwyr i fi ddefnyddio Gwyddeleg er mwyn nodi'r dyddiad, oherwydd rydw i'n ei dysgu rŵan.
Dweud gwir, y dosbarth hwn yw'r un fy mod i'n edrych ymlaen ato y mwyaf. Mae'n neis dim cael y pwys o orfod deall Cymraeg ar safon uchel. Er, petawn i eisiau dim byd mwy nag hynny, dylwn i wedi dewis dosbarth arall -- nid yw Gwyddeleg yn iaith symlaf yn y byd.
Ond edrychaf ymlaen at y dosbarth os nid yn unig am y rheswm fy mod i'n nabod rhywun yn y dosbarth yn barod. Mae'n gysur oherwydd rydw i wedi darganfod tros y flwyddyn ddiwethaf ei fod yn anodd i fi ddatblygu ffrindiau.
Arnaf i yw'r bai am hynny, cymaint ag yw fe ar unrhyw un. Canolbwyntiaf gymaint ar nid bod yn niwsans y ciliaf rhag sefyllfa yn rhy gyflym. Felly byddai'n anodd i rywun siarad â fi petaent nhw eisiau.
Yn y ffilm "Tao of Steve*" esbonia'r prif gymeriad, Dex, ei athroniaeth ar sut i ennill merched:
1) Dilëwch eich awyddau.
2) Gwnewch rywbeth campus yn ei phresenoldeb; a thrwy hynny, y byddech chi'n profi eich haeddiant rhywiol.
3) Enciliwch. "For as Heidegger says: 'We pursue that which retreats from us.'"
Neu, fel medda gymeriad arall: "Be desireless; be excellent; be gone."
Er mae'r cyrchnod yn wahanol, gellir defnyddio'r yr un cyngor i ennill ffrindiau. Ond rydw i'n methu dilyn yr oll athroniaeth. Fel pethau mae, rydw i'n rhy dda ar fod yn "gone" -- ni rhof bobl gyfle darganfod ai ydw i'n "excellent" neu ddim. Mae gennyf ofn y diflasa bobl o'm cwmni. Felly byddaf yn berson cyntaf allan o'r ystafell dosbarth. Saethaf lawr y neuadd, gyda fy iPod yn chwarae yn uchel -- yn drymio allan fy nheimladau pryder cymdeithasol.
Rydw i'n gweithio ar gywiro fy ymddygiad ond mae'n anodd. Yn y cyfamser, bydd Gwyddeleg fy hoff ddosbarth.
*Os nad ydych chi wedi gweld y ffilm hon, mae rhaid i chi. Un o'm hoff ffilmiau yw hi.
VOCAB
1 day ago

1 sylw:
Tá mé go maith, go raibh maith agat!
Dwi'n ceisio dysgu'r Wyddeleg hefyd. Cytunaf yn llwyr, mae'n iaith llawer mwy cymhleth na'r Gymraeg.
Wyt ti wedi gweld y ffilm fer "Yu Ming Is Ainm Dom", am lanc o Tseina sy'n dysgu'r Wyddeleg ac yn symud i Iwerddon? Mae hi ar flog Sanddef (Ordovicius) ac ar wefan Atom Films.
Pob lwc gyda'r astudiaeth!
Post a Comment