29.11.07

Deublyg

Teimlaf euogrwydd tros y ffaith nad ydw i'n cofnodi'r dyddiau hyn. Mae yna sawl rheswm am hyn: nid oes gennyf amser, neu nid ydw i'n hunanreoli fy amser yn ddigon dda; nid oes gennyf rywbeth i'w ddweud; ni theimlaf fod yr hyn fy mod yn ei feddwl yn "bloggable."

Ni ŵn a ellir dweud bod fy mlogiau yn "llwyddiannus," ond maent yn ddigon fel hynny bod pawb fy mod yn eu nabod yn ymwybodol ohonynt. Hefyd, mae gennyf reol hunanosodedig nad allaf ysgrifennu rhywbeth ar fy mlog na fyddwn ei ddweud wyneb yn wyneb i berson. Felly mae yna rai pethau ni allaf eu gofnodi.

Rydw i'n achosi pethau swnio'n fwy cyffrous na maent. Fel petai rydw i'n cynllunio lladd rhywun neu rywbeth. Na. Y pwynt yw nad oes gennyf lawer o amser y dyddiau hyn er mwyn ysgrifennu, er gwaethaf y ffaith teimlaf mor euog amdano.

Problem gyda methu â chofnodi yn gyson yw mae'n achosi pethau bod yn ddatgymalog. Hynny yw, ysgrifennaf ar bwnc ond na fyddaf ei ddehongli yng nghofnodion eraill. Er enghraifft, ar ôl fy nghofnod diwethaf, roeddwn i'n bwriadu dod yn ôl ac ysgrifennu mwy ar y pwnc, a sut rydw i'n meddwl y dyddiau hyn y hoffwn ymgeisio am dual citizenship ym Mhrydain.

Yn fwyfwy, mae'n anodd imi ddychmygu mynd yn ôl i'r Unol Daleithiau, ac eithrio petai gennyf hyder y gallwn i ddychwelyd. Perthynas mi gyda Chymru yw un cymhleth, ond nid ydw i eisiau rhoi'r gorau iddi eto.

Rydw i wedi sôn yn gellweirus (ar y cyfan) o'r blaen am eisiau bod yn ddinesydd Prydain, ond erbyn hyn rydw i'n meddwl amdani'n ddifrif. Wel, difrifach. Peth arall i'w jyglo yw fe ar hyn o bryd. Ond mae yna fron ddwy flwyddyn i fynd ar fy nheitheb gyfredol. Felly mae yna amser imi feddwl am y peth.

0 sylw: