Rydw i'n casáu mis Ionawr. Dydd Calan yw'r broblem. Wel, nid y dydd ar ei ben ei hun, ond y teimlad sy'n o'i amgylch. Hynny yw: y teimlad o hel atgofion.
Tro diwethaf yr euthum i gapel yn wirfoddol bu mis Ionawr 1999. Yn ei bregeth, soniodd y gweinidog am y flwyddyn newydd, sut ceisia pobl ailosod eu bywydau ym mis Ionawr a chânt eu siomi ar ôl methiant bach. Pwynt y bregeth bu nad oes angen inni aros am ddiwrnod arbennig er mwyn ailddechrau.
"Through Christ, all things are new," meddai fe.
Rydw i'n meddwl o hyd am yr hyn a ddwedodd y gweinidog. Nid cymaint y stwff am Iesu Newydd Sbon, ond y syniad taw newydd yw pob dydd. Mae pob un eiliad yn un fy hun i adeiladu arno.
Ceisiaf fyw fel hyn. Ceisiaf ganolbwyntio ar y pethau fy mod yn gallu eu gwneud yn hytrach nag yr hynny a fu. Petawn feddwl gormod am y gorffennol, gwna ddigalonni. Rydw i'n 31 oed, heb swydd, heb yrfa, heb arian, a dim ond nawr fy mod yn gweithio tuag at radd -- gwir Duw, mae yna room for improvement yno.
Nid ydw i'n hoffi meddwl am bob cam anghywir y rydw i ei wneud. Ond tuag adeg Dydd Calan mae'n fron amhosibl i'w osgoi.
Ar ôl flwyddyn a hanner o fyw yn y wlad hon, teimlaf mor estron ag erioed. Rydw i'n estronwr yn ystyr yr iaith, estronwr yn ystyr fy oed, estronwr yn ystyr o'm cenedl. Ac y mwyfwy a ddysgaf am Gymru/Gymraeg, y mwyfwy rydw i'n dod o hyd y sylweddoliad nad ydw i'n perthyn yma.
Wrth gwrs gallaf weddu yma. Gallaf, ar ôl amser, ddarganfod lle i'm fy hun yng Nghymru. Gallaf ddatblygu cyfeillion, gallaf wella fy Nghymraeg, ac yn y blaen, ac yn y blaen. Ond fyddaf i fyth berthyn yma. Rydw i'n estronwr, ac rydw i'n casáu'r teimlad hwn.
Peth diddorol: pan soniaf am fy nheimladau o "estronwriaeth," dweda sawl person wrthyf y gallant gydymdeimlo â mi. Wrth gwrs nid ydynt yn fyfyrwyr hŷn o dros y môr sy'n ymdrechu meistroli'r Gymraeg (wel, ac eithrio Peggi Rodgers), ond teimlant yn estron mewn ffyrdd gwahanol.
Daw person o'r gogledd i'r de, o'r gorllewin i'r dwyrain. Dwedodd un person wrthyf y gallai ddeall fy sefyllfa oddi wrth ei brofiad symud o Gaernarfon i Aberystwyth. Rhaid imi gyfaddef, meddyliaf y roedd yn methu deall yn hollol -- ond sut teimlai yw sut teimlai.
Ac mae'n ddiddorol imi faint o Gymry sy'n teimlo'n estron mewn lleoedd eraill o Gymru. Ymddengys bod yr hyn sy'n uno Cymru yw'r teimlad o fod yn anunedig. Beth mae hyn yn golygu i genedlaetholdeb, tybed? A yw'n gariad tros wlad, neu anhoffter tua phethau gwahanol?
Ond mae pruddglwyf yn agwedd y bersonoliaeth Geltaidd, onid yw? Dwedir yn aml nad oes gair Saesneg sy'n cyflwyno ystyr y gair "hiraeth" yn llawn. Sylwodd Billy Connolly bod yr Albanwyr yn canu am weld eisiau tros eu gwlad wrth fod yn eu gwlad. Ac mae'n bechod i Wyddel ddweud stori na sonia am farwolaeth. Mwynha'r werin Geltaidd fod yn drist.
Mae'r broses o hel atgofion -- o edrych yn ôl a meddwl am yr hyn a allai wedi bod -- yn rhan o'r tristwch hwn. Dwedir câi Dydd Calan fwy o bwysigrwydd ar galendr y Cymry hyd y dyddiau cyfoes. Ac eto, yn yr ystyr hwn, rydw i'n estronwr.
Neu efallai dim. Fel Cymro, rydw i'n felancolaidd. Fel Cymro, mae gennyf hiraeth am... wel, ŵn i ddim. Efallai fy mod yn perthyn yn berffaith. A dyna rywbeth i edrych ymlaen ato. Er, peidiwch â dweud wrth neb fy mod yn hapus amdano.
VOCAB
21 hours ago

3 sylw:
Cymro wyt ti nawr Chris - 'sdim dowt. Rwyt ti'n malu cachu fel pob un ohonon ni! (wel heblaw am y rhai crefyddol ond maen nhw'n byw yn eu byd bach nhw eu hunain)-:)
Gobeithio cawsoch Blwyddyn Newydd dda yn Iwerddon. Mi welis chi yn Caerdydd Canolog yn dal tren bore dydd sadwrn. Doedd y wraig na' ddim yn edrych yn hapus iawn!
ti wedi taro nifer o hoelen ar eu phennau. Mae hiraeth (hyd a gwn i) yn rhywbeth i ymfalchio ynddi. Mae sawl cymro/cymraes yn teimlo fwyfwy fel estroniaid yn eu chynefin eu hunan wrth i gymdeithas - yn enwedig yn y cefn gwlad - newid mor gloi. Ond ai dyna atyniad y Gymraeg? Iaith a diwydiant sy'n sefyll ar y dibyn...
gyda llaw, blwyddyn newydd dda, mae'n ddrwg gen i am y malu cachu
Post a Comment