Edrycha'r tri brenin ar draws y brifddinas, ar draws y culfor, tua'r wyrdd teyrnas arall. Edrychant lan y cwm a ddiffiniai'r lle hwn, sy'n ei ddiffinio o hyd. Maent yn barhaol; mor barhaol â chraig. Ac maent yn frau; mor frau â phridd.
Dwedwyd gan Fwdha y bydd diwedd y byd yn dod pryd cyrhaedda llygredd i'r pennau mynyddoedd. Casgla'r concrid a tharmac a bric a mwg a sbwriel wrth droed gorsedd y tri brenin, ond o'u seddau mae popeth yn ei le. Ar ddiwrnod braf gellir gweld am filltiroedd, a gellir teimlo'n filltiroedd draw ymhell.
Ers bron 3,000 flwyddyn mae'r brenhinoedd yn sefyll yno -- hen hen hen eneidiau. Eneidiau sy'n gynhenid i'r wlad hon. Eneidiau a fu cyn gwyddai unrhyw un i alw'r lle hwn yn "gwlad." Eneidiau a fu cyn gwyddai unrhyw un sut i ddweud "gwlad."
Maent wedi edrych ar draws eu cylch trwy ryfeloedd, dyrchafiadau, heddwch a chwympau. Ond efallai bod bygythiad mwyaf iddynt yn y rheiny sy'n eu caru. Gwisga'r brenhinoedd greithiau oddi wrth draed eu hedmygwyr. Yn ôl chwedl, eisteddant ar fynydd, yn hytrach na bryn.
Nid yw'r orsedd yn naill neu'r llall. Marilyn yw ei enw swyddogol, ond daw pobl i weld Hugh. Arddangosiad pŵer y chwedl taw hi gall fygwth y tri brenin, lle nad allai amser.
Ond maent yno o hyd. Pan ddisgleiria'r haul gallaf weld nhw oddi wrth ym mhobman yn yr hen ddinas hon nad yw'n hen. Gallaf weld nhw o'r brifysgol, o'r neuadd y ddinas, o'r castell, o'r Senedd. Gallaf weld nhw wrth yr afon, tra llenwaf fy ysgyfaint â'r awyr ffres sy'n nodi'r ardal.
Dringaf weithiau i fyny trwy'r grug tuag at eu seddau. Eisteddaf gyda nhw i edrych ar draws yr hen ddinas ifanc fy mod yn ceisio ei galw yn gartref. Daw amryw i'm hymuno gyda bochau gwritgoch a gwenau mawr. Chwiliant am eu lle yn y murlun amlgenhedlig o'u blaen. Teimlaf gariad a balchder, ansicrwydd a phryder. A theimlaf yn eiddigus o'r brenhinoedd, a fydd yno o hyd ar ôl byddaf wedi mynd.
VOCAB
21 hours ago

0 sylw:
Post a Comment