Wednesday, 31 January 2007

Pull Shapes

Nad ydw'n deall pam gwrthoda blog Rhodri sylwadau, ond, beth bynnag, mwynheais y fideo hwn.

Petawn wedi golygu'r peth, byddwn wedi defnyddio cerddoriaeth mwy atmospheric, ond wy'n hen ffasiwn weithiau. Ac mae'n gweithio y ffordd ei gwnaeth.

Tuesday, 30 January 2007

Dau ddiwrnod da

Pob tro wy'n siarad am drenau Arriva, tynna Rhys sylw at y ffaith y na ddwedaf unrhyw beth pan rheda bethau'n esmwyth. Felly, wy'n teimlo rhwymedigaeth i ddweud wrthych bod gennyf ddim cwyn am ddyddiau Llun a Mawrth. Da iawn i chi Arriva -- pedwar teithiau heb fuck-up. Record yw hwn, siŵr.

Beth bynnag, bod pethau'n rhedeg yn iawn ar y trenau yn tanlinellu'r ffaith bod yr wythnos hon yn dechrau'n well nag y tymor diwethaf i gyd. Yr wyf yn teimlo'n nerfus i gyfaddef hynny oherwydd efallai fy dychwela karma yn ôl i fy ngyflwr blaenorol.

Dechreuodd ddydd Llun yn iawn, gyda darlith Sbaeneg, ble bûm yn hapus darganfod yr wyf yn cofio mwy o Sbaeneg na meddyliais. Bwyteais cinio mawr yn y caffi ac wedyn fforiais y Graduate Centre, lle nad euthum erioed oherwydd nad ydw'n post-graduate. Ond meddyliais, "Wel, mae golwg post-graduate arnaf, felly efallai teimlaf yn fwy cyfforddus yn yma."

Ac ydw, tipyn bach. Peth od sylwais am Brifysgol Caerdydd yw nad yw llawer o leoedd i jyst eistedd ac ymlacio. Ym mhrifysgol Unol-Daleithiedig (creais gair newydd yno, wy'n meddwl) nad alli ffeindio bar, chwarae teg, ond ffeindi nifer o soffas a chadeiriau cysurus. Mae gan Prifysgol Caerdydd digon o leoedd i eistedd ac astudio yn yr llyfrgell ac yn y blaen, ond na ffeindiais lle llaciol hyd euthum i'r Graduate Centre.

Mae caffi-math-o-beth yno, ble cefais cwpan a gallwn llygadrythu tros Gaerdydd allan ffenestri. Eisteddais yno am ddwy awr yn darllen a teimlais lled la-di-da am fy hunain: "Www, yr wyf yn myfyriwr. Yr wyf yn mor ddeallusol, yn eistedd yma, yn sipian fy nhe. Wrth gwrs rhaid gofio dal fy mys bach allan..."

Ond daeth yr uchafbwynt fy niwrnod pan bûm ar y trên adref. Bu'r trên (y 17:13 i Treherbert) yn llawn a bu rhaid i ni i gyd stwffio ein hunain i mewn; ond ffeindiais fy hunain yn sefyll wrth merch fy nghwrs. Pan ei gwelais, meddyliais: "O, merch druan -- ar y trên hwn gyda boi old and busted."

Ond, na fy stopiodd hynny rhag siarad â hi**. A thros y chwe munud nesaf, cefais y sgwrs hiraf erioed gyda rhywun o fy nghwrs. Yr wyf yn mor druenus y bûm mor hapus. Siaradodd rhywun â fi. Siaradodd rhywun â fi. Siaradodd rhywun â fi! Pan camais allan y trên, teimlodd yr awyr fel y gwanwyn ym Minnesota, pryd teimla popeth mor berffaith, a teimlais yn llawn o fywyd, yn llawn o egni.

Parhaodd fy nhymer da trwy i'r bore 'ma. Bu'r trên yn brydlon eto a teimlais yn iawn gyda'r realiti y na fyddai rhywun yn siarad â fi eto. Ond wedyn, cyn darlith, trodd dyn ataf a gofynnodd: "Hei, mae'n random, ond wyt eisiau mynd am beint?"*

"Ha! Ha! Someone has read my blog," meddyliais, yn cofio rhai postiau penodol. "Guilt trips work!"

Yr wyf yn gwybod ein bod yn siarad am flogio'n ddiweddar, a nad wêl rhai pobl y pwynt. Ond dengys yr achos hwn bod blogio'n fuddiol. Os wyt yn fodlon cwynfan ar dy flog fel petaet yn ferch yn ei harddegau, efallai bydd rywun yn ei weld a teimla cymaint o dosturi/eugrwydd trosot y bydd yn cynnig mynd am beint gyda thi. Rock!

(Cellwair neill ochr [joking aside], bu'n beth eithaf cyfiawn i wneud, wy'n meddwl, ac wy'n gwerthfawrogol.)

Yr wyf yn person tipyn manig gyda fy emosyinau -- La vida es una montaña rusa para mí -- ond gobeithiaf yr â pethau yn iawn trwy'r wythnos. Gwna bywyd yn haws.

*Wrth gwrs, na ddwedodd y geiriau hyn yn llythrennol; nad ydw'n gallu dyfynnu pobl sy'n siarad Cymraeg -- na chofiaf eu geiriau.

**Ysgrifennais hynny'n gywir? Yr wyf yn ceisio dweud: "But that didn't stop me from speaking to her."

Sunday, 28 January 2007

Y claf ifanc

Mae'r briodferch ifanc yn eithaf sâl heddiw, a gallaf teimlo fy hun yn dechrau i deimlo yr un ffordd. Sympathy pain yw hyn, efallai. Gobeithiaf. Bydd y tymor hwn yn digon anodd os dechreuaf yn hollol iach, felly nad ydw eisiau bod yn wael. Ond eisoes wy'n teimlo poen yn fy mhen a fy ysgyfaint.

Aethom i Llanilltud Fawr ddoe i gerdded wrth y môr, ond bu Rachel yn rhy sâl i gerdded ym mhellach na St. Donat's (oddeutu 1 milltir gan Llantwit Beach). Bwriadasem mynd i dafarn Blue Anchor ond teimlodd rhy ddrwg ar gyfer hyn, hyd yn oed. Nawr mae'n lawr grisiau yn pesychu a nad ydw'n gwybod beth i'w wneud. Gŵr shit ydw yn yr ystyr hyn.

"Take some medicine," dwedaf.

"I did. It's not helping," dweda.

"Oh. Uhm. Want me to make you some hot chocolate?"

Nad ŵn beth dylwn wneud. Gallaf coginio siocled poeth a cynffonna drosti ond na helpa. Byddwn wedi bod yn gwastraff o le i Shackleton (mae'n pwysig i dy ofyn dy hunain weithiau ai byddai'r pethau dy fod yn gallu gwneud yn unrhyw help ar yr alldaith Shackleton honno pryd collodd y Cymro hwnnw ei droed).

 hi i feddygfa yfory a gobeithiaf gallant gwneud mwy drosti na fi.

Ac eto...

Gall brifysgol bod yn brofiad eithaf gelyniaethus (alienating) os ydys 30 oed ac yn dod o rywle allan o Gymru. Cefais fy atgoffa o hyn ar ddydd Gwener. Mae dim ond un person yn fy nghwrs sy'n siarad â fi, ac yntau'n allanolwr hefyd (mewn ffordd*). Mae'n anodd iawn i fi dweud beth yr oeddwn yn disgwyl -- gwybûm y na fyddai'r sylw y cefais yn yr haf yn fy myd normal, ond na feddyliais chwaith y byddai bethau fel maent yn.

Ie, ie, ie, wy'n gwybod fy mod yn 30 oed, ac yn allanolwr, ac efallai wy'n anodd i'w agosáu oherwydd yr oedd pobl yn ffilmio fi dros y tymor, a mae pobl Cymru'n swil -- yn enwedig pobl ifanc -- ac yn y blaen ac yn y blaen. Ond wy'n teimlo fel mae pobl yn troi eu cefnau arnaf, fel maent yn meddwl: "Dwyt ti ddim yn ffitio yma, hurtyn."

Ac, ie, gŵn beth meddyliwch rhai ohonoch: "Wel boo-fucking-hoo, Chris, nad am fywyd cymdeithasol gyda phlant 18-oed y daethost yma. Yr wyt yn prifysgol i ddysgu ac ennill gradd."

Gŵn. Ac wy'n cytuno, mwy neu lai. Ond dyma sut wy'n teimlo, dyna i gyd. Ac nad ŵn sut i frwydro erbyn y teimladau hynny.

Sefais fy arholiad gramadeg ar ddydd Gwener. Mae'n ddichonadwy y na fethais, ond deuthum yn gweddol agos, wy'n siŵr. Felly nad yw fy hwyl yn dda ar hyn o bryd ac wy'n ffeindio fy hun yn holi pethau.

Dechreua'r tymor gwanwyn dydd Llun a nad ydw'n teimlo'n barod. Nid ydw wedi siarad yn llawn ar fy mlogiau am ba mor anodd bu'r tymor diwethaf arnaf. Efallai na fyddaf fyth. Ond yn crynodeb, wy'n jyst nawr yn dechrau teimlo yn fyw eto.

Achosodd y tymor rhyw fath o mental-emotional hypothermia. Pe cwympit trwy'r iâ, dechreuai dy gorff ceisio i gynilo ei wres. Yn araf, collit teimlad yn dy ddwylo a dy draed tra ceisiai dy gorff i'w achub dy galon a dy organau mewnol. Yn yr ystyr hwn, collais fy nghreadigrwydd, collais fy niddordeb yn Nghymraeg, collais fy awydd i fynd allan; erbyn canol mis Rhagfyr, teimlais... wel, yn erchyll.

Yr wyf yn ysgrifennu mwy y dyddiau hyn, ond nid cymaint ag hoffwn. Yr wyf yn darllen ychydig mwy, ond nid cymaint ag hoffwn. Yr wyf yn teimlo ychydig fel chwaraewr rygbi ar fore Llun -- gallaf symud o gwmpas heb eisiau crio, ond nad ydw'n teimlo'n barod i fynd yn ôl allan ar y cae. Ond daw ddydd Llun ai wy'n barod neu ddim. Byddaf yno, yn fy narlithoedd ond pryderaf am y dyfodol.

* Mae wedi byw yn Nghaerdydd ers cyn cefais fy ngeni, felly nad yw'n allanolwr o gwbl yn fy marn. Ond oherwydd mae'n Indiaidd, caiff ei drin fel allanolwr weithiau.

Thursday, 25 January 2007

Llygadrythu i mewn wyneb trychineb

Mae gennyf arholiad ar ddydd Gwener ac wy'n shitting bricks ar hyn o bryd. Nid oeddwn fyth yn dda gyda adolygu; dyna (rhan o'r rheswm) pam wy'n 30 oed ac heb radd prifysgol.

Nawr, wy'n teimlo mwy pwysau nag erioed o'r blaen. Mae'n hollol posib y methaf yr arholiad hwn, a nad ydw'n siŵr beth gwnaf petai hynny'n digwydd (nad ydw'n gallu byw yma os nad ydw'n mynd i brifysgol; os wy'n methu, wel...). Yr wyf yn ceisio nid meddwl am bethau fel hwn. Gwnaf fy ngorau glas ac yn gobeithio bod Duw yn gwenu arnaf.

Beth bynnag digwydda, af i'r Pen & Wig ar ôl y peth. Os oes unrhywun yn ar gael am 3 o'r gloch prynhawn Gwener, dylech popio draw.

Wednesday, 24 January 2007

Newid paradeim

Cyfaddefaf y na ddarllenaf maes-e yn aml, felly nid welais y sgwrs hon hyd dydd Llun, pryd ei gwelais ar flog Chwadan.

Fel gwybu bawb arall pythefnos yn ôl (pryd dechreuodd y sgwrs), trafoda'r sgwrs am deimlad bod y byd blog Cymraeg wedi colli ei loywedd ychydig.

Beth sy'n diddorol i fi yw, tra oedd y sgwrs hon yn cael ei chynnal, yr oeddwn yn meddwl am fy nheimlad bod mae paradigm shift yn digwydd yn araf ar flogiau Saesneg ar hyn o bryd. Mwy a mwy, ffeindiaf bod blogiau Saesneg -- yn enwedig blogiau sydd wedi cael ei ysgrifennu am mwy nag un flwyddyn -- yn symud i ffordd o bostiau sy'n dim byd mwy na thudalen o ddolenni. Er enghraifft, os edrychi ar y dyddiau cynnar fy mlog Saesneg, gweli yr oeddwn yn ei ddefnyddio fel casgliad o ddolenni i straeon newyddion a chlipiau fideo. Wrth gwrs, gwnaf hyn o hyd weithiau, ond os edrychi ar fy mlog y dyddiau hyn, gweli yr ysgrifennaf bostiau llawn. Gwelaf yr un peth ar y mwyafrif o'r blogiau Saesneg y darllenaf.

Yr wyf yn meddwl bod hwn yn adlewyrchu'r ffaith bod mwy a mwy siaradwyr Saesneg (a dylwn dweud Americanwyr/Llundeinwyr i fod yn fwy cywir) wedi cyrraedd i'r pwynt ble nad ydynt yn fforio'r rhyngrwyd ym mhellach. Nid yw'r rhyngrwyd yn degan ym mhellach.

OK, ie, rydym i gyd wedi gweld fideos o cathod sy'n dawnsio; rydym i gyd wedi enwi ein hoff ffilmiau; rydym i gyd wedi dysgu pa cymeriad X-Men yr ydym yn fwyaf tebyg ato. Ar ôl sbel, blina berson o wneud hyn tros a thros, a nifer o bobl wedi rhoi'r gorau i'u blogiau. Darllenais sbel yn ôl bod dim ond 7 miliwn blogiau'n weithredol (active), allan o'r mwy na 50 miliwn sy'n bodoli. Pryd blogio'n colli ei wow factor mae mwyafrif o bobl yn stopio.

O'r blogiau sydd yn weithredol y dyddiau hyn, gwelaf bobl yn defnyddio eu blog i'u croniclo eu bydoedd personol -- dweud straeon am bethau sy'n digwydd yn eu bywyd, a nid cymaint i gysylltu â straeon newyddion neu glipiau fideo ac yn y blaen. Wrth gwrs, blogiau fel hyn wedi bodoli ers y dechrau (cyn cawsant eu enwi "blogs" buant yn "online journals"), ond maent yn fwy amlwg nawr.

Efallai mae'r un peth yn digwydd ym myd blogiau Cymraeg. Ond oherwydd nad oedd llawer o flogiau yn y lle cyntaf, mae'r pethau sy'n digwydd yn y byd blogiau Saesneg yn fwy pendant yn ein byd bach. Dros ben fy mhen, gallaf meddwl am dim mwy nag dyrnaid o flogwyr Cymraeg sy'n eu groniclo eu bydoedd personol*: fi (wrth gwrs fi -- mae popeth yn amdanaf, on'd yw?), Weirdo, Ray, Robert, Tom ac, wrth gwrs, Dogfael. Fel dwedais ar fy mlog Saesneg, mae Dogfael yn blogio bron pob 12 munud. Bydd blog ef yn drysor i archeolegwyr.

Nid ydw'n hollol siŵr pam mae cyn lleied o flogwyr Cymraeg sy'n croniclo, ond dyfalwn** caiff ryw cysylltiad i'r traddodiad Cymreig o guddio enw ysgrifennwr. Pryd cyflwynais traethawd ar gyfer Eisteddfod y llynedd, cefais fy synnu y bu rhaid dewis ffugenw. Os edrychi ar flogiau Cymraeg, gweli y nad oes llawer o flogwyr Cymraeg yn eu defnyddio enwau go iawn ar eu blogiau: fi (fi eto! I am fucking awesome, bitches), Nic (er, mae'n anodd i'w ffeindio'r wybodaeth hon ar ei flog), Rhys, Robert, Gary, Tom ac efallai ychydig eraill.

Mae rhyngrwyd yn lle digon mawr ar gyfer pob fath o flogwyr, ac hoffwn gweld mwy Cymry ar-lein, ond nad ydw'n siŵr y digwydda hynny.

*Yr wyf yn siŵr mae mwy, ond bûm yn rhy ddiog i chwilio ar eu gyfer.

**Ond cofia fy mod yn byw mewn "George Bush World."

Saturday, 20 January 2007

Risking the potentially disastrous repercussions of making fun of the Welsh

Yr oeddwn yn siarad â rhywun am fy mlog y diwrnod arall a sylwodd fy mod yn weddol agor ar y gwefan hwn. Na ddwedwn fy mod yn "controversial" neu "edgy" neu unrhywbeth, ond gwisgaf fy nghalon ar fy llawes, fel petai. Ac weithiau gofynna bobl os pryderaf am adweithiau negyddol.

Ar y cyfan, na. Ni phryderaf am bethau fel hynny. Dim ond fi yw'r blog hwn. Nid ydw'n ceisio newid y byd neu affeithio barnau pobl; yr wyf yn llenwi y blog hwn gyda dim byd mwy pwysig nag y ffaith fy mod yn hoffi cwrw a bronnau. Weithiau, ceisiaf bod yn ddoniol -- weithiau, gweithia'r ymgais hwnnw ac weithiau, na weithia. Nid ydw'n yn deall, yn hollol, pam fy mod yn blogio. Mae'n debyg fel nad ydw'n deall, yn hollol, pam fy mod yn dysgu Cymraeg. Ceisiaf nid i'w feddwl amdano gormod. Gall gor-feddwl pethau lleihau celf*.

Ceisiaf ysgrifennu yn onest ac i'r safon gorau y bydd amser yn gadael, ond ym mhellach nag hynny, na threuliaf lawer o amser yn meddwl am fy mlog neu ei effaith (go iawn neu thybiedig).

Wedi dweud hynny, cyfaddefaf bod veto power gan y briodferch ifanc dros fy mlog Saesneg. Ni ddefnyddiodd erioed, ond mae standing rule rhynggdom os oes ganddi broblem gyda unrhyw post, byddaf ei ddileu.

Mae hyn i gyd yn arwain at y post hwn ar fy mlog Saesneg.

"This isn't going to get you in trouble with your Welsh friends, is it?" gofynnodd y briodferch ifanc.

Mae ganddi bryder y bydd rhai pobl yn meddwl fy mod yn eu sarhau. Nid ydw'n meddwl fy mod yn, ac os ydw, meddyliwn y nad yw'r pobl sy'n cael eu sarhad yn darllen beth bynnag (oherwydd mae ofn y rhyngrwyd arnynt) .

Ond oherwydd yr wyf yn meddwl am ysgrifennu mwy o bostiau fel hwnnw, sy'n sylwi ar bethau rhyfedd/doniol am Gymru/Gymry (er enghraifft, "2: They actually like poetry."), meddyliaf y tawelai meddwl y briodferch ifanc petawn ymestyn cynnig i chi i'w defnyddio pleidlais atal erbyn y post. Mwy na thebyg, na wrandaf, wrth gwrs, ond o leiaf teimlwch fel eich bod yn rhan o'r broses democrataidd.

*Wwwwww! Edrycha arnaf, yn awgrymu bod blogio yn gelf. La-di-da.

Wednesday, 17 January 2007

Arth sy'n saethu

Shooty the Death PandaDyma Shooty y Panda o Farwolaeth. Nid yw hynny ei enw swyddogol, yn anffodus. Mae enw yn Jīngjing. Mae'n fascot dros Gemau Olympaidd 2008 yn Tsieina (mae'r gwefan hwnnw yn weddol araf oherwydd defnyddia Tsieina Commodore 64 ar ei gyfer eu serfer, yn ôl pob tebyg). Mae Jīngjing yn un o bum cymeriadau cartŵn y caiff eu nabod fel "the Five Friendlies," neu y "Fuwa." Gyda Jīngjing, mae Bèibei, Huānhuan, Yíngying a Nīni. The animals so nice they named them twice, fel petai.

Ond ffafriaf Shooty ar gyfer enw yr arth hwn. Pob tro wy'n ei weld nad allu stopio fy hun gan chwerthin. Ffeindiais fe bron flwyddyn yn ôl, ond ail-ddarganfodais fe ddoe a, fel dwedais ar fy mlog Saesneg, yr wyf ei eisiau ar grys-T.

Ond teimlais fel nad oedd y panda hwn ar ei ben ei hun yn ddigon di-nod (obscure), felly penderfynais y dylai bod rhyw brawddeg od gyda fe. Yn wreiddiol, yr oeddwn yn meddwl am, "Big up the Pontcanna massive," oherwydd mae'n swnio'n ddoniol i'w dweud, yn enwedig os ei dwedi mewn acen De Cymru gryf.

"Na. Nid yw hynny'n ddigon di-nod, ddigon doniol," meddyliais. "Dylai bod yn y Gymraeg."

Ond cefais dwy broblem:
1) Nid ydw'n byw ym Mhontcanna, a na swnia "Big up the Danescourt massive" mor ddoniol, rhywsut.
2) Nid wn sut i'w chyfieithu "big up" i Gymraeg.

Felly, penderfynais ar "Penliniwch o flaen y dyrfa Gaerdydd" -- brawddeg byddwn cyfieithu (yn fras) i: "Kneel before the Cardiff massive." Ond wrth gwrs, fel gwyddost, wy'n shit gyda chyfieithu. Awgrymodd Weirdo y dylai cael ei ysgrifennu fel: "Penliniwch o flaen tyrfa Caerdydd." A betiwn ei bod yn iawn. Ond ysgrifennais "Penliniwch o flaen tyrfa Gaerdydd" oherwydd mae "tyrfa" yn fenywaidd, felly meddyliwn y byddai "Caerdydd" yn mwtanu i "Gaerdydd." Ond nad ydw'n hollol siŵr. Beth meddyli? Llawer o waith ar gyfer crys-T, on'd yw?

Tuesday, 16 January 2007

Tafarn da = Hoff le Chris

Dyn syml ydw. Pan meddyliaf am leoedd fy mod yn hoffi, ymddangosa'r un peth tros a thros. Er enghraifft, yr oeddwn yn eithaf hoff o St. Paul, a phan atgofiaf y ddinas meddyliaf am The Liffey, Groveland Tap, Great Waters Brewing Co., ac yn y blaen. Pan aeth y briodferch ifanc a fi i South Dakota ar ein gwyliau unwaith, yr oeddwn yn eithaf hoff o ein gwesty oherwydd cafodd dafarn y gwasanaethodd gwrw Big Sky. Wy'n hoffi Barcelona oherwydd L'Ovella Negra. Wy'n hoffi Dulyn oherwydd Stag's Head, ymhlith amryw lleill (among several others).

Looking east toward Llantwit Beach Felly, nad oes dim byd o syndod fy mod yn hoffi Llanilltud Fawr. Euthum yno ar ddydd Mercher a cefais amser gwych. Yn barod gallaf clywed pobl yn ymateb: "O, Chris, rhaid i ti ddod i (lle o ble'r siaradwr yn dod)*, mae'n llawer gwell na Llanilltud Fawr."

Ie, efallai, ond nad yw'r lle hwnnw mor hawdd i fi i deithio ato. Mae'n dim ond £3.15 return o Gaerdydd i Llanilltud Fawr ar y trên a cymra'r daith dim mwy na 50 munud. Nad oedd rhaid i'w ffeindio bws pan cyrhaeddais, gallwn cerdded yn weddol syth o'r orsaf at Glamorgan Heritage Coast Path.

Ar fy ffordd lawr i'r traeth gwelais Eglwys Illtud Sant ond na sylweddolais yr oedd yn beth oedd (I didn't realise that it was what it was). Tynnais un llun ond bydd rhaid i fi mynd yn ôl. Y peth y sylweddolais bu'r tafarnau. Mae pum tafarnau yn y dref fach, os cofiaf yn iawn.

"O, wy'n hoffi'r lle 'ma," meddyliais. "Dyma fy hoff le newydd."

Yr oeddwn yno ar gyfer gwneud tipyn o heicio, ond gwneuthum nodyn meddyliol i adael digon o amser am beint cyn dal fy nhrên yn ôl i Gaerdydd.

Yr oedd yr arfordir yn brydferth. Wy'n dymuno yr oedd safon fy Nghymraeg yn well er mwyn disgrifio yr ardal yn well, ond rhaid i ti fy ymddiried -- yr oedd yn wych. Yr oeddwn yn heicio ar yr unig dydd heulog mewn pythefnos, felly gallwn gweld tros Môr Hafren i Exmoor. Cerddais o Llantwit Beach lawr i Saint Donat's -- nid rhy bell o gwbl oherwydd yr oedd y llwybr yn fwdlyd a llithrig. Ond cefais gyfle i dynnu lluniau (y gelli gweld ar fy nhudalen Flickr) cyn euthum yn ôl i'r Old Swan am beint wrth y lle tân.

*Petaswn elwa 10 ceiniog pob tro fy mod wedi clywed, 'O, paid mynd i blah-blah -- mae Cymru go-iawn yw yn blah-blah-blah,' byddwn yn gyfoethog erbyn hyn.

Tuesday, 9 January 2007

Teacher's pet

Mae'r briodferch ifanc wedi penderfynu ei bod eisiau dysgu Cymraeg.

Nawr, rhywle yn nghornel fy ymennydd, wy'n cofio rhywun yn dweud wrthyf y na ddylwn ddefnyddio "mae" mewn adeiladwaith brawddeg gyda "wedi." Ond nad ydw'n siŵr o ffordd arall i'w ddweud, "The child bride has decided she wants to learn Welsh."

Efallai dylwn wybod, oherwydd tiwtor Rachel ydw. Yr oedd yn gobeithio mynd i ddosbarth cyngor ym mis Ionawr, ond gyda ei amserlen mae dim ond un cwrs y gallai wedi mynychu a mae'n llawn erbyn hyn. Felly byddaf yn ceisio ei dysgu tipyn o sylfaen yn yr amser rhwng nawr ac yr hydref, pryd bydd mwy o ddosbarthiadau ar gael (er enghraifft, dosbarth Canolfan Dysgu Cymraeg).

Wrth gwrs, ei dysgaf dechrau brawddeg gyda "Wyf," ond wy'n nerfus am wneud gwaith digon da. Na fydd rhaid ei dysgu at safon ymddiddanol neu rywbeth, ond o hyd pryderaf y byddwn yn ei dysgu pethau anghywir y byddai'n ei rhwystro pryd dechreua gwrs go iawn.

Ar gyfer pobl sy'n darllen hyn o dros y môr, yr oedd rhaglen sketch comedy -- "Mawr" -- ar S4C rhywbryd dros gŵyl Nadolig. Fel, wel, pob rhaglen gomedi Gymraeg, yr oedd yn annioddefol ond ganddi un cymeriad hanner-difyrrus -- y dysgwr sydd wedi methu â dysgu lawer mwy nag "Yecky da." Ni chofiaf ei enw, ond gwisgodd crys rygbi Cymru a cafodd ei wallt ei steilio mewn mullet. Gwnaeth ffŵl o ei hunain trwy ceisio cymryd rhan mewn sgwrs gyda siaradwyr Cymraeg. Eisteddai yno gyda golwg hollol ddryslyd ar ei wyneb hyd clywai gair Saesneg ac wedyn dwedai: "C'mon. Yn y Cymraeg. Make the effort. I do."*

Nid ydw eisiau creu dysgwr fel hwnnw gyda Rachel. Os gwnaf gwaith shit, na fydd eisiau parhau gyda dysgu. Oes gan unrhyw un syniadau ar ble dylwn dechrau?

*Byddai wedi bod yn ddifyrrus petasai'r rhaglen yn defnyddio'r gimig unwaith neu ddwywaith, ond bwriasant y jôc i mewn y ddaear.

Monday, 8 January 2007

Rhys Sant

Euthum allan nos Wener am y tro cyntaf mewn sbel. Dros wyliau Nadolig/Galan yr oeddwn fel Howard Hughes -- yn cuddio yn fy nhŷ ac yn shifflo o gwmpas y lle gyda blychau Kleenex ar fy nhraed ac yn siarad â neb ac eithrio Mormoniaid.

Ond pan addewais fy hun y sgwennwn fwy yn aml, addewais hefyd awn allan mwy yn aml hefyd. Felly bu i'r Mochyn Du gyda fi.

Yn anffodus, nag wnâi lawer o bobl eraill yr un peth -- yr oedd yn gweddol dawel yn y tafarn. Mwy fel nos Lun nag nos Wener. Ond yr oedd yn noson ddysgwyr, felly yr oedd rhai bobl yno'n awyddus i siarad, a cefais gyfle i'u cyfarfod tri pobl newydd. A dyna oeddem i gyd yn siarad yn ffordd atal dweud, gor-gyffroëdig y dysgwr. Gellir gweld dysgwr gan y gwên hanner-dirnad ein bod yn gwisgo.

Y dyddiau hyn, ffeindiaf fy hunain yn gwisgo'r wên wirion hon a meddyliaf: "Diawl. Rhaid bod yn anodd i siaradwr iaith gyntaf (siaradwr iaith gyntaf go iawn, wy'n golygu -- nid pretender to the crown fel fi) i'n dioddef."

Nid ydw'n ceisio bod yn gas ond dyna sut mae pethau, wy'n siŵr. Mae rhai pobl jyst eisiau mynd allan a cael peint a nad ydynt eisiau eistedd yno tra ceisia rhyw ffŵl baldorddus meddwl am sut i'w ddweud "roughing the kicker*" yn y Gymraeg.

Yr oeddwn yn meddwl am hwn ar nos Wener, ac yn teimlo tipyn hunanymwybodol ac wedyn gwelais Rhys yn gornel fy llygad. Yr oedd yn siarad â dysgwr ac fel mae'n gyda phawb, yr oedd yn amyneddgar ac yn gadael y dysgwr i'w gymryd ei amser a meddwl am ei eiriau. Sylweddolais y rhaid Rhys wedi dioddef gormod sgyrsiau araf a diflas gyda fi dros y misoedd ers symudais i Gymru.

"Ffycin sant yw'r dyn 'na," meddyliais.

Fe ac y bobl ddi-rif eraill sy'n ddangos amynedd i'r dysgwr. Diolch.

*Mae'n gosb NFL ac achosa gosb 15-llath.

Sunday, 7 January 2007

This fair city

Ar Noswyl Galan gwneuthum addewid wrth fy hunain y sgwennwn bost blog bob dydd ym 2007. Wythnos ar ôl gwneuthum yr addewid hon, dyma fy mhost go iawn cyntaf y flwyddyn. Ni ddylwn wneud addewidion wrth fy hunain.

Yr oedd yn gwrando ar gêm Caerdydd-Spurs ar y radio tra oeddwn yn ysgrifennu hwn. O'r ffordd oedd y sylwebwyr yn cwyno am y tywydd, byddai berson yn meddwl y nad yw'n bwrw glaw fyth unrhyw le arall ym Mhrydain. Petasai Tottenham wedi colli'r gêm hon, byddai'r bai ar y glaw yn ôl y sylwebwyr Sais hyn*.

Nid oedd diddordeb go iawn gennyf yn y gêm hon, cyfaddefaf, ond gwrandais oherwydd wy'n teimlo rhwymedigaeth i Gaerdydd. Yn dechrau i dyfu arnaf rhywsut yw'r hen ddinas gwrs hon. Cofiaf rhai misoedd yn ôl, yn enwedig ar ôl taflodd rywun ŵy arnaf, nad oedd yn gor-hoff o'r brifddinas. Gyda phethau'n mynd mor wael yn fy nghwrs, oeddwn yn hanner-barod i'w adael popeth. Ond nawr, wel, wy'n teimlo'n fwy cyfforddus yma.

Efallai cofi y ffwdan 'na am fenywod Mwslimaidd ac eu gorchuddion (veils). Nid oes unrhyw ddiddordeb gennyf o gwbl mewn parhau'r ddadl yma, ond cofiaf gwrnado ar fenyw ar y radio yn siarad am ei bywyd ym Mhrydain a sut mae'n byw y tu ôl ei gorchudd, a nad â ei theulu allan fyth heb i'u prynu bwydydd, a na siaradant gyda unrhyw un Prydeinig, ac yn y blaen. Yr wyf yn cofio y meddyliais, "Wel pam ydych yn byw yma?" Beth yw'r pwynt o symud rhywle os nid oes eisiau arnoch mewn bod rhan o'r lle?

(Eisoes gallaf clywed y sŵn o rhai ohonoch yn teipio ymateb sy'n gofyn y cwestiwn hwn o'r Sais sy'n symud i Gymru)

Ond erbyn diwedd y tymor diwethaf, dyna oedd fy mywyd, mwy neu lai. Nid oedd diddordeb gennyf mewn mynd allan am beint, nid oedd diddordeb gennyf mewn gwneud dim byd ac eithrio eistedd yn fy nhŷ ac yn teimlo'n shit.

Gobeithiaf y byddai agwedd well am Gaerdydd yn helpu yn y tymor nesaf. Os wy'n teimlo'n well am Gaerdydd, efallai gallaf teimlo'n well am brifysgol. Ni fyddaf gwneud addewid wrth fy hun, ond hoffwn weld fy hunain yn gwneud mwy allan o fy amser yma -- mynd am beint mwy yn aml, mynd i'r sinema, mynd am bryd gyda fy ngwraig; pethau syml, ond pethau gwerthfawr.

Mae gennyf gobeithion. Ond mae'n anodd dweud beth digwydda.

- Gyda llaw, mae teitl y post hwn yn dod o rywbeth y dwedodd Ray wrth fy ffrind, Eric, yn ôl ym mis Hydref. Yr oedd Eric yn ymweld â fi yma yn Nghaerdydd, ond yr oedd yn awyddus i fynd yn ôl i Lundain (ble yr oedd fe ac ei wraig yn aros gyda ffrindiau) i'w gwylio gêm pêl-droed Lloegr erbyn Croatia.
"London? I've never heard of it," dwedodd Ray. "We have a team here, you know. And they are playing in this fair city."
Weithiau, ffeindiaf fy hunain yn edmygu Caerdydd a dwedaf wrth fy hun, "This fair city," mewn acen sy'n-ceisio-copi-acen-Ray. Wrth gwrs, dweda bawb bod fy acen Welsh yn shit, felly swniaf dim byd fel fe.

*Ha! Edrycha arnaf, yn beirniadu y Saeson fel petawn yn Gymro. Dyma fi yn mynd am y "cheap pop."