Monday, 30 April 2007

Achos da

Erbyn hyn, bydd rhai ohonoch yn gwybod y ymunais Facebook yr wythnos diwethaf. Ie, yr wyf yn Internet mentalist.

Mae'n rhyfedd cymaint o amser gellir colli i Facebook. Fy hoff degan newydd yw ef. Os wyt ti'n aelod Facebook ac nid un o'm ffrindiau eto, rho fi gwybod a dy ychwanegaf. Plîs. Yr wyf yn fath o berson sy'n teimlo'n well am ei hunan os oes ganddo lawer o "ffrindiau" ar Facebook. Yr wyf yn... o... beth yw'r gair? Pathetic.

Mae dim ond 28 ffrindiau gennyf. Mae Facebook yn fy nhestunio.

Ond nid yw fy mhleidio am ffrindiau'r pwynt o'r cofnod hwn. Na, y pwynt yw tynnu eich sylw at achos da. Yn anffodus rhaid bod aelod Facebook i weld y ddolen honno. Creais grŵp Facebook sy'n dadlau tros ddinasyddiaeth Cymru i fi.

Siŵr, mae gennyf lawer o waith i wneud cyn gallaf ddweud yr wyf yn rhugl yn y Gymraeg, ac mae gennyf hyd yn oed mwy o waith i wneud cyn gallaf deimlo fel yr wyf yn rhan y byd Cymru/Cymraeg/Cymry/Cymreig, ond, diawl, yr wyf wedi blino o ymgeisio am fenthyciadau myfyriwr (rhaid i fi ofyn am $30,880 -- £15,440 -- ar gyfer 2007-2008) gan gorfforaeth anfad. Ac hefyd, yr wyf wedi blino o gael Bushy fel fy arweinydd. Pleidleisiais ei erbyn, ond na weithiodd hynny.

Felly, yr wyf yn gobeithio y ymunwch Cymdeithas Dinasyddiaeth Cymru i Chris Cope. Ac ar ôl yr wyf yn ddinesydd, gallem weithio sefydlu Garry Owen fel Brenin Cymru.

Wednesday, 25 April 2007

Newyddion pwysig

Mae gennyf newyddion pwysig i ddweud wrthych. Er, yr wyf yn cymryd tipyn o amser i'w dweud...

Tuesday, 24 April 2007

A dyma dy grys-T, atgas

Mae hen fynegiant: "honesty is the best policy." Wel, ac eithrio pryd mae'r heddlu'n eich ffeindio'n noeth yn shed gyda phum merch -- i gyd ohonoch chi'n feddw ac yn drewi o cherry bakewells. Yn y sefyllfa honno, dylech ddweud unrhyw gelwydd y gallwch feddwl amdano.

Ond mwyafrif o'r amser, mae'n well jyst dweud y gwir am bethau yn hytrach na cheisio eu hosgoi. Gwna fy nhad hynny -- ceisio osgoi siarad am rywbeth, a gwna ef y peth yn golygu'n gwaeth. Er enghraifft, yr oedd y ddau ohonom ni'n siarad y gaeaf hwn a dwedodd rhywbeth fel:

"Well, your mother has to go in for surgery on Tuesday and..."

"Surgery?" gofynnais.

"Oh, uhm, yeah. It's nothing big."

"Surgery for what?"

"Nothing. Don't worry about it."

"No. Surgery for what?"

"Look, just forget about it. Don't worry about it."

"Oh my God, is it cancer? It is, isn't it? Oh, God! Mom has cancer! And I'm 5,000 miles away and Ohgodohgodohgod! Mom has cancer!!"

"Your mother does not have cancer."

"Oh, no! It must be worse than cancer! What is it? Lupus? Cancerous lupus? Oh, woe!"

"It's her knee, OK? She just needs to have it scoped. Calm down."

Wyt yn gweld? Gallai fy nhad arbed amser a phoeni petasai ef wedi dweud y gwir o'r dechrau. Dyma pam yr wyf yn dweud wrthych nawr bod gennyf iselder clinigol (clinical depression). Nid ydw eisiau sylw ychwanegol neu dosturi neu rywbeth. Yr wyf yn crybwyll ato oherwydd nid ydw eisiau cael sefyllfa ryfedd ble yr wyf yn ceisio osgoi rhyw ffaith an-ysblennydd, ond mae pobl yn meddwl yr wyf yn cuddio rhyw ffaith ddiddorol amdanaf fy hunan, fel y tro llofruddiais Rodney Anoa'i*.

Cychwynnodd fy iselder bron yn fy wythnos gyntaf prifysgol, ond nad wneuthum rywbeth amdano hyd fis Chwefror. Rŵan, rhy'r NHS pils marŵn i fi. Your tax dollars at work. Nid ydw'n teimlo fel mae'r pils yn gweithio. Y cwbl y gwnânt yw fy nrysu. Siŵr, ni laddaf fy hunan, ond nid oherwydd yr wyf yn iawn. Ni laddaf fy hunan oherwydd yr wyf yn rhy ffwndrus i glymu dolen crogwr (hiwmor rhy ddu?).

Ond mae'r brifysgol ac Ysgol y Gymraeg wedi bod yn gydymdeimladol. Dwedasant nhw y ystyriant fy nghyflwr ar ôl arholiadau. Bydd yn help. Mae'n anodd gwneud yn dda ym mhrifysgol o dan y pwysau llethol iselder, ac, yn anffodus, mae hyn yn ymddangos yn fy marciau.

Wrth gwrs, prifysgol yw hyn, felly nad yw'r broses o hysbysu'r ffaith fy mod yn big girl's blouse yn hawdd. Rhaid llenwi pob math o ffurflen. Mae'n bron fel Catch-22 yn yr ystyr bod iselder yn eich lladrata o sgiliau trefniadaeth ond rhaid bod yn drefnus iawn ar gyfer mordwyo trwy'r fiwrocratiaeth.

Nid ydw'n hapus bod gennyf iselder. Nid oes gennyf falchder amdano. Ac, er yr wyf yn eistedd yma ac yn ysgrifennu amdano ar fy mlog, nid ydw'n mwynhau siarad amdano. Ond rhaid llenwi ffurflenni a'u rhoi i ysgrifenyddesau. Yr wyf yn teimlo'r dyddiau hyn fel dylwn wisgo crys-T sy'n darlledu fy anhwyldeb -- arbedai ef amser.

*Shit. Ni ddylwn wedi dweud hynny wrthych chi.

Monday, 23 April 2007

Meudwy

Nid ŵn pam yr wyf fel hyn, ond ydw -- weithiau nid oes eisiau arnaf fynd tu allan. Nid ydw'n hoffi sut mynegais hynny, "nid oes eisiau arnaf." Mae'n swnio rhy ysgafn, fel petaswn wedi ysgrifennu, "nid oes eisiau arnaf fwyta hufen iâ siocled." Mae'n waeth nag hynny, wrth gwrs. Mae ofn, bron, arnaf fynd tu allan. Casáu. Neu rywbeth tebyg.

Bydd y teimlad hwn yn cipio arnaf heb rybudd. Gafaelodd fe arnaf heddiw. Yn gryf. Nid euthum at fy narlithoedd heddiw, er gwybûm y dylwn. Mae fy nhad-cu yn fel hyn. Nid adawa ef ei dŷ os nad oes rhaid.

Ac, peth rhwystredig yw sut ymddwynaf ar ddyddiau fel hyn -- ni wnaf ddim byd. Felly, dyma fi, yn ceisio ysgrifennu post blog er mwyn teimlo fel gwneuthum rywbeth heddiw. Fucking waste of a day bu heddiw.

Thursday, 19 April 2007

Mae'r glaswellt yn wyrddach yn y Gogledd

Mae sylw Ordovicius i fy mhost diweddaraf yn fy atgoffa am un o'm hoff bethau am bobl Gogledd Cymru*.

Wrth gwrs creda sawl pobl Cymru mae gwahaniaeth enfawr rhwng pobl y Gogledd a phobl y De. Ar y rhan mwyaf, mae'r gwahaniaethau hyn yn ddyfeisiwyd**. Nad oes ceunant diwaelod rhwng y ddwy bobl -- ar gyfer rhywun sy'n dod o tu allan Cymru, mae'n anodd iawn i fi gweld gwahaniaeth o gwbl (mae'n anodd gweld gwahaniaeth rhwng pobl Cymru a phobl Lloegr, hefyd, ond na ddwedaf hynny ar goedd). Ond mae rhai amrywiadau -- acennau, arferion, ac yn y blaen.

Wrth gwrs, fel person sy'n dod o tu allan Cymru, yr wyf yn sylwi yn gyson ar yr hynny fy mod yn arsylwi (er enghraifft, mae pobl Cymru yn hoff iawn o farddoniaeth). Peth doniol am bobl y Gogledd yw sut ymatebant nhw fy arsylwadau. Efallai oherwydd yr wyf yn allanolwr, teimlant nhw fel yr wyf yn bod yn feirniadol (nad ydw, gyda llaw), a cheisiant chwifio'r faner ar gyfer Cymru trwy ddweud wrthyf fod pethau yn well yn y Gogledd:

"Mae mil merch noethlymun, gyda stein cwrw ym mhob un llaw, yn aros amdanat ti yng Nghaernarfon, Chris! Yn y Gogledd gogoneddus, mae yna afonydd cwrw, mae pawb yn siarad Cymraeg, ac nad oes angen ar ddyn ymuno côr er mwyn ffeindio ffrindiau."

*Dim ond cymryd y piss yma ydw, nid ydw'n bwriadu bod yn gas. Mwyafrif o'm ffrindiau yw pobl y Gogledd, a gellir clywed tipyn o'u hacen yn fy lleferydd y dyddiau hyn.

**Nid ydw'n siŵr mae strwythur hwn yn gweithio; yr wyf yn ceisio dweud, "For the most part, these differences are contrived."

Wednesday, 18 April 2007

Dw i ddim yn Gymro

Peth sylweddolais yn syth pan symudais i Gymru yw cymaint o bobl yn aelod côr. Esboniodd rhywun wrthyf fod corau yn ganolog i fywyd cymdeithasol ar gyfer sawl pobl.

Heno, yr oeddwn yn chwarae gyda fy nghyfrifiadur ac yr oeddwn yn recordio fy llais. Wff. Annioddefol yw fy llais canu. Yr oeddwn yn ceisio, hefyd. Go iawn, yr oeddwn yn ceisio fy ngorau glas canu sawl math o ganeuon a bu pob un ohonynt yn arswydus.

Sunday, 15 April 2007

Melancholia

How we feel sometimes Mae cymaint o amser wedi llithro heibio ers tro diwethaf ysgrifennais. Dweud gwir, nad ydw'n teimlo fel ysgrifennu; yr wyf yn teimlo fel dileu'r blog hwn.

Fel hyn ydw -- tueddol at benderfyniadau sydyn. Gwnaf bethau weithiau dim ond er mwyn achosi rhyw fath o ymsymudiad yn fy myd. Da neu ddrwg, os gwneir rhywbeth pendant rhaid delio â'r peth.

Un o fy hoff gysyniadau athronyddol yw Vishnu: creawdwr a dinistrydd ydy hi/fe. Yn ôl yr Hindŵiaid mae Vishnu yn creu a dinistrio'r byd miloedd troeon pob eiliad. Wrth gwrs, mae gan y Cristnogion yr un peth: "Through Christ all things are new," medden nhw. Ond yr wyf yn hoff o'r syniad o ddinistrio popeth ac yn ailadeiladu.

Tyb rhywun sydd wedi symud o gwmpas ydy hyn, siŵr. Symudais nifer o droeon pan yr oeddwn yn ifanc -- symud tŷ, symud ysgol, symud dinas. Cefais gyfleoedd i ail-greu fy hunaniaeth tros a thros a thros.

Double-edged sword oedd hyn. Nid oedd rhaid cludo hen gamgymeriadau, hen gymeriadaeth. Dychmygwch sut byddai eich bywyd os na ddwedasech y peth twp hwnnw i'r ferch honno; petasai na rhaid i chi fod y person mai ydych; petasai gael cyfle i ail-greu eich hanes. Gallwn wneud hyn mewn ystyr -- ni wybu unrhyw un amdanaf yn y lleoedd newydd. Os dwedais yr oeddwn yn boblogaidd yn fy hen ysgol, fy credasant. Ni wybuant dim byd amdanaf. Ond ni wybûm lawer amdanaf chwaith. Nid ydw'n deall fy hunan weithiau -- y pethau y gwnaf, a pham.

O hyd, mae'r awydd i ddileu'r blog hwn gyda fi. Nid ydw'n hapus â sut aeth popeth eleni, yr hyn a wneuthum o'm hunan. Hoffwn ddinistrio ag ail-greu. Ond nid ellir diflannu yng Nghymru fach, on'd ydys?* Gellir rhoi'r gorau i'r iaith ond nad ellir diflannu tu mewn Cymru Cymraeg. Os yr wyf eisiau cadw ymlaen gyda'r iaith hon, rhaid derbyn y fersiwn hwn o'm hunan (neu "y fersiwn o'm hunan hwn?"). Nid ydw'n gyffyrddus gydag hynny ond rhaid ei dderbyn.

*Pa mor rhyfedd yw'r frawddeg honno? Defnyddiais ffurf amhersonol mewn ymadrodd tafodieithol.

Friday, 6 April 2007

Ble yr wyf wedi bod...

Dyma ffoto o fi'n ceisio esbonio wrth fy mam sut i ddweud "Llanilltud Fawr." Fel ceisio esbonio Cymraeg wrth wal ydy hynny. Dyma pam nad ydw'n blogio ers wythnos. Byddaf yn ôl yn fuan.
Explaining something to Mom