Wednesday, 30 May 2007

Cnuchier ffrier*

Edrychais yn fy ngeiriadur ffansi a ni ffeindiais ymadrodd ar gyfer dweud "screwed the pooch" ("cnuchio'r ci?"). Ymadrodd Yanqui ydy e, tybiaf. Beth bynnag, yr hynny gwneuthum heddiw gyda fy arholiad Cymru a'i Diwylliant.

Pan ddechreuodd yr arholiad, aeth popeth o'm pen ac eisteddais yn llonydd am 10 munud, llygadrythu ar wal. Yn y diwedd, ysgrifennais pedair tudalen o gachu a gofynnais o'm hunan a ddylwn roi fy llyfr ymateb yn ôl ai peidio. Teimlais y byddai wedi bod yn well os ni aethwn i'r arholiad o gwbl (Daria. Ni allaf adeiladu brawddeg nawr: "I felt that it would have been better if I had not gone to the exam at all").

Cyn yr arholiad trefnaswn fynd am beint neu ddau ar ei ôl. Ond pryd daeth diwedd yr arholiad, yr unig beth y gallwn feddwl bu sut bu eisiau arnaf daflu fy hunan tu blaen traen. Wrth gwrs, mae trenau Arriva yn mor gythreulig o araf y na fyddai wedi fy lladd. Mwy na thebyg, byddwn wedi torri fy mys bach ac wedyn byddai'r trenau wedi rhedeg tair awr yn araf. Felly euthum adref. Saethais oddi adeilad arholiad gyda fy iPod chwarae Clutch hynny a all ("full on"). Yr oeddwn yn uffern o grac gyda fy hunan ac oedd angen arnaf am amser eistedd ar soffa, rhegi, a thawelu fy hunan.

Ymddiheuriadau i Llyr am ddiflannu, prynaf beint i ti y tro nesaf (a chaniatáu bod y na chrogaf fy hunan cyn hynny).

Nawr mae rhaid i fi geisio canolbwyntio ar arholiad Sbaeneg sydd gennyf ar ddydd Sadwrn, felly ni fyddaf yn blogio yma hyd ar ôl hwnnw. Os ydych chi'n deall y Sbaeneg, mwy na thebyg gwyddoch mwy na fi. Ond blogiaf ar fy mlog Sbaeneg yfory.

*Dyma fi'n ceisio creu ymadrodd newydd. Dylai'n golygu "fuck a friar" a gellir ei ddefnyddio yn lle na "fuck a duck."

Tuesday, 29 May 2007

Braw

Dyma fi ar noson cyn arholiad cyntaf yn teimlo'n gachlyd oherwydd nad ydw'n barod.

Arholiad Cymru a'i Diwylliant yw'r un yfory. Yn ein darlith ddiwethaf, dwedodd Dr. Mac Giolla Chríost y na ddylem ni bryderu amdani, felly -- fel hurtyn -- gwrandais arno fe ac yr wyf wedi bod yn canolbwyntio ar arholiad Sbaeneg sy'n dod ar ddydd Sadwrn. Ond nawr, gyda llai na 24 awr cyn yr arholiad hwn, yr wyf yn cachu brics.

Cachlyd. Cachu brics. Mae'n amlwg y prynais eiriadur newydd heddiw, onid yw? Prynais Welsh Academy English-Welsh Dictionary heddiw oherwydd bwriadaf ysgrifennu yn y Gymraeg tros yr haf ac mae eisiau arnaf am eiriadur da. Yn fy marn, geiriadur sy'n rhoi cyfieithiadau "shit" a "fuck" yw geiriadur da (hefyd mae ganddo air am "fellatrix," sef "calsugnwraig" -- mae'n werth y £43 os nid am y gair hwnnw ar ei ben ei hun).

Ond mae'n annhebygol y gallaf ddefnyddio'r geiriau hynny yn arholiad yfory. Yn hytrach bydd rhaid i fi ddoethinebu ar bethau fel: "Beth yw hunaniaeth archeolegol Cymru?"

Beth?!

Mae gennym ni ddwy awr ar gyfer ysgrifennu ymateb i ddau gwestiwn. Dyna ddwy awr i fi eistedd yno ac yn meddwl: "Daria*. Dylwn wedi adolygu ddoe yn hytrach na chreu grŵp Facebook newydd, neu dreulio oriau chwilio am eiriau anghelfydd (hi, hi, "gweinlyfiad") yn fy ngeiriadur.

*Dyna air arall o'm geiriadur newydd -- yn ei ôl, mae'n golygu "bollocks."

Friday, 25 May 2007

I'm not what I ought to be, but I'm better than I used to be; I'm getting better all the time

Daw'r pennawd hwnnw wrth delyneg cân efengyl ("gospel") sy'n mynd trwy fy mhen. Ni ŵn pryd ei chlywais yn gyntaf -- yng nghapel, tybiaf. Ei chanasom ni o leiaf unwaith yn CCC, hefyd, pan yr oeddwn arfer byw yn Reno, Nevada*. Ond fersiwn sy'n chwarae yn fy mhen ar hyn o bryd yw fersiwn Blind Boys of Alabama**.

Yr wyf yn meddwl am ffydd a chrefydd yn ddiweddar. Am ddau reswm.

Ar ôl cafodd rhaglen amdanaf ei darlledu, cefais lawer o ymatebion, gyda phob un person yn gynnig ei ddamcaniaeth am pam yr oedd pethau mor anodd yng nghychwyn y rhan hon o'm hanturiaeth Cymraeg. Fy hoff ymateb yw'r un gan berson a rodd y bai ar Rhodri Morgan (bwriad cyfrinachol ni welwyd yn nogfen 11 for 2011 yw hyn: "#12: Fuck with Chris").

Ond awgrymodd sawl pobl mai anodd i fi ffeindio fy lle yma oherwydd "diwylliant capelog" Cymru. Nid ydw'n dweud hyn wrth fod yn gas, ond credaf fod y dybiaeth hon yn arwydd o awydd y Cymro teimlo'n estron.

Cofiwch y cefais fy ngeni yn y Bible Belt. Euthum i gapel bob dydd Sul hyd fy confirmation*** ("bedydd esgob" yw gair Cymraeg yn ôl Cysgeir, ond nad ydw'n siŵr os gwedda fy nealltwriaeth o "confirmation" i syniad Cymreig ohono), pan yr oeddwn yn 14 oed.

Methodist (Unedig) yw fy nhad ond daeth fy mam o deulu Beiddwyr Deheuol ("Southern Baptist"). Felly, pan dreuliwn fy hafau yn Lake Jackson, Texas, awn i gapel fy nhaid a nain.

Cynulleidfa egnïol oeddent nhw -- llament a siglent a gweiddent trwy wasanaeth. Siaradai'r pregethwr am oriau. Am oriau. Yr wyf yn ailddarllen Traed Mewn Cyffion gan Kate Roberts ar hyn o bryd ac mae darn pryd ysgrifenna hi am bregeth dwy-awr, pan ddarllenais hwnnw meddyliais: "And?" Mae dwy awr yn warm-up i bregethwyr y gwelwn yn fy mhlentyndod.

Hoff stori gan fy mam yw sut baldorddai hi yn ieithoedd ("speak in tongues") pan oedd yn llances, oherwydd yr oedd eisiau bwyd arni a gwyddai y na ataliai'r pregethwr hyd gâi pawb "the spirit."

Mae gweinidog capel fy rhienu-cu ("grandparents") y dyddiau hyn yn weddol ddiddrwg-didda, ond weithiau daw pregethwyr gwadd. Pobl fel G.E. Patterson a T.D. Jakes a'u tebyg -- pregethwyr carismataidd. Mae Jakes yn rhy enwog y dyddiau hyn dod i Lake Jackson (tybiwn -- mae ganddo fe gynulleidfa o fwy na 28,000 pobl yn Dallas), ond ei ddeuai i bregethu pan yr oeddwn yn ifanc.

Yn narlith prifysgol unwaith, dwedodd Dr. Rosser yr oedd hi'n llances, cogiai fod yn bregethwr. Bu tawelwch byddarol pan ddwedodd hynny, a'i hymatebodd hi gyda rhywbeth fel, "Hmm, dim ond fi, te," ond yr oeddwn yn meddwl: "Na, gwawn yr un peth." Ond cogiwn fod yn Jakes. Weithiau, gellir clywed, pan yr wyf yn worked up, naws Jakes yn fy llais o hyd.

Fel dwedais, awn i gyrddau Campus Crusade for Christ yn Reno -- nid cymaint oherwydd eu credwn, ond oherwydd yr oedd y merched yn ddeniadol iawn. Church girls are sexy (dylai Sara Huws wisgo'r mynegiant hwn ar grys-T). Wrth gwrs, mae'r briodferch ifanc yn dod o ardal grefyddol iawn. Yn St. George, Utah, os na ddeuwch i gapel ar ddydd Sul (mae gan y Mormoniaid tair awr o gapel) daw bobl i'ch drws i ofyn amdanoch.

A hyd yn oed ym Minnesota annwyl mae mwy o ddiwylliant capelog nag yng Nghymru. Mae gan Minnesota 30 gorsaf radio grefyddol. Felly petai gan Gymru "cymdeithas capelog" (ac nad oes, yn fy marn), ni chawn broblem gyda hi.

Ail reswm yr wyf yn meddwl am y lol grefyddol hon yw bod gennyf arholiadau mewn wythnos, a theimlaf yn ddychrynllyd. Felly dyma fi'n meddwl: "Hmm, tybiaf y dylwn weddïo -- I need all the help I can get."

Dwedais wrth Rhys neithiwr fy mod yn dilyn dull o fyw mynach gwyn y dyddiau hyn. Sef, yr wyf wedi ynysu fy hunan rhag pawb er mwyn adolygu ar gyfer arholiadau. Coda fy ofn methiant gyda phob diwrnod newydd, ac yr wyf yn teimlo'n sâl erbyn hyn. Petawn yn methu fy arholiadau, ni enillaf fenthyciadau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ni allaf fynd i brifysgol heb fenthyciadau. Ni fyddai fy nheitheb yn ddilys os nad ydw'n mynd i brifysgol. Felly os fethaf, dyna ddiwedd o'r anturiaeth fach hon. No pressure, te. Ac eto daw delyneg Blind Boys of Alabama i'm mhen: "It's prayin' time again."

Ar hyn o bryd, arholiad Sbaeneg yw mwyaf cyfogol i fi. Nid allem ni defnyddio geiriadur yn yr arholiad hwnnw, er gwaethaf y bydd gennym ddau gyfieithiad (Saesneg i Sbaeneg a Sbaeneg i Saesneg) a thraethawd 200 gair. Ni ellir bullshit trwyddo, rhaid gwybod yr iaith -- a minnau'n teimlo y nad ŵn hi'n ddigon da.

Gŵn y gallaf fod yn deimladwy weithiau, ond ni allaf atal y pryder ac yr ofn sy'n fy ngwasgu ar hyn o bryd. Erbyn dydd Sadwrn nesaf (ie, mae gennyf arholiad ar ddydd Sadwrn. Ar 9 yn y bore. Y bastardiaid), byddaf yn ddyn toredig.

*Pob tro dwedaf yr oeddwn arfer byw yn Nevada, siarada bobl am Las Vegas. Mae Reno yn 450 milltir i ffordd o Las Vegas -- dyna bellter Caerdydd i Lundain.. ac yn ôl... ac yn ôl.

**Mae ganddynt pob math o delynegion difyrrus, er enghraifft: "I didn't come here looking for Jesus. I brought him with me."

***Proses grefyddol yw hon. Yn Eglwys Methodist Unedig -- tipyn gwahanol rhag Eglwys Methodist yng Nghymru -- â berson ifanc trwy ddosbarthiadau'r Beibl ac yn y blaen. Ar ôl confirmation, ym marn fy nhad, gall berson wneud ei benderfyniadau ei hunan am ei berthynas gyda'r Crwt Ar Y Llofft. Penderfynais y na awn i gapel ym mhellach.

Friday, 18 May 2007

Diwobrwy

Heb gwestiwn, hwn yw'r fideo gorau y gwelais erioed. Mae'n bwysig i fi dweud y ni wneuthum fe -- rhaid rhoi'r parch i Dafydd.

Wednesday, 16 May 2007

Pwy ydy e?

Yn gyntaf, yr wyf eisiau dweud diolch yn fawr iawn i bawb sy'n anfon e-byst, neu adael sylwadau ar fy mlog i'w mynegi eu cefnogaeth. Yr wyf yn werthfawrogol iawn. Nid ydw erioed bod yn dda am ddangos fy ngwerthfawrogiad am bethau, felly yr wyf yn ymddiheuro os yr wyf yn methu i'ch ymateb.

Yn y rhaglen neithiwr oedd rhan pan yr oedd Chwadan a fi'n siarad am weld pobl enwog yng Nghaerdydd. Er ni wybûm pwy yw Siân Lloyd, adwaen berson enwog Cymraeg o dro i dro yma yng Nghaerdydd dlws.

Gwelais Dafydd Du heddiw ym Mhontcanna. Eisteddodd nesaf ato fe yn siop barbwr. Yr oedd fe a'r merched yno yn siarad am eu pysgod. Ni chlywais erioed pobl yn siarad mor hir am bysgod.

Pysgod ydynt nhw, for the love of Pete. Ni wnânt nhw dim byd.

Ie, ac ydw un i siarad, on'd ydw? Siaradaf am oes am iaith, neu hanes Texas, neu professional wrestling (a gyda llaw, gwelais fod yn y rhaglen, sillafodd yr isdeitlau enw Ric Flair fel "Rick Flare." Dere nawr, sut gellir person nid gwybod am The Nature Boy?)

Ac, chwarae teg iddo fe, mae Dafydd Du yn taro fi fel dyn OK. Nid ydw'n ffan o'i rhaglen (nid ydw wedi gwrando arno ers blwyddyn, felly efallai bod sioe ef yn wahanol nawr), ond ar ôl ei weld in person, yr wyf yn ei hoffi mwy.

Mae'n rhyfedd weld rhywun eich adnabu oddi wrth deledu neu radio. Ni ŵn sut ymddwyn o'u cwmpas. Ddylwn ddweud 'helo,' neu eu gadael nhw i'w hunain?

Er enghraifft, yn aml iawn gwelaf Nic McGaughey (boi o Portsmouth ydy e!) ar y trên. Rhaid rhoi parch iddo fe am hynny -- nid yw'r profiad Arriva'r gorau yn y byd ac, fel cymeriad ar raglen Cymraeg fwyaf poblogaidd, mae'n siŵr bod ganddo fe'r arian am gar. Ond mae'n cymryd y trên ac yn cerdded y chwarter milltir o orsaf Danescourt i'r BBC. Neu, teithia fe lawr ar ei feic -- gwelais ef unwaith ar Taff Trail, yn gyrru trwy Tongwynlais.

Byddaf eisiau siarad â fe, er mwyn dweud, "Hei, pob parch i chi am deithio gyda'r bobl gyffredin ni ar y trên." Ond ni fyddaf oherwydd nad ydw eisiau ei flino.

Efallai rhyw ddydd, ymwrolaf, cludaf fy nghamera digidol, a phan welaf bobl enwog Cymru eu gofynnaf am lun gyda fi er mwyn y blog.

Eich adwaith?

Yr wyf yn gobeithio eich bod wedi mwynhau'r rhaglen neithiwr. Os ydych wedi ei cholli, dyma linc i'w gweld arlein. Bydd ar gael hyd 22.05.07. Hoffwn glywed beth ydych chi'n meddwl amdani.

Ysgrifennaf mwy heno (neu yfory, os yr wyf yn mynd allan am beint heno). Ar hyn o bryd yr wyf yn adolygu.

Monday, 14 May 2007

I don't know how to put this, but, I'm kind of a big deal

21:00/ S4C/ 15 Mai - Paid ag anghofio! Efallai gwelsoch chi stori amdanaf ar dudalen 17 Y Cymro yr wythnos hon (11 Mai), neu gwelsoch chi froliant amdanaf ar wefan Cymru'r Byd, neu gwelsoch chi stori heddiw amdanaf ar wefan Newyddion BBC. Os nid yw hyn i gyd yn ddigon i chi, byddaf ar raglen Hywel a Nia yfory (eto).

Wrth gwrs, rheswm am hyn yw caiff rhaglen amdanaf ei darlledu nos Fawrth (21:00/S4C). Hefyd gellir ei gwylio ar 21:15 nos Sadwrn gydag isdeitlau, neu ar wefan S4C. Amhosibl i osgoi ydw.

Gŵn y bydd hyn yn anodd i'ch credu, ond mae'n dipyn anghyfforddus i fi ceisio drum up diddordeb yn y rhaglen hon. Nid achos y rhaglen ei hunan -- mae'n rhaglen dda, yr wyf yn credu -- ond oherwydd mae'n rhaglen amdanaf ("amdanaf fiiiiiiiii"). Wrth gwrs yr wyf yn hoffi cellwair fy mod yn "kind of a big deal," ac, ie, fel sylwodd Dogfael yn Eisteddfod 2006, mae unrhyw blog yn ynghylch un peth: fi, fi, fi, fi, fi, fi, a fi (sef, yr awdur blog). Ond rhywsut mae'n teimlo rhy fyfiol, hyd yn oed i fi, i fi eistedd yma a mynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen am raglen deledu sy'n canolbwyntio arnaf i. Neu, efallai yr wyf yn teimlo fel na ddylwn siarad amdani oherwydd mae pobl Cymru yn gwerthfawrogi gostyngeiddrwydd.

Ond, wedi dweud hynny, yr wyf yn gobeithio ei gwyliwch. Yr oeddwn yn cynllunio ar gael viewing party yma ym Mhalas Cope, ond gyda fy arholiadau'n dod nad oes yr amser gennyf i gymhennu. Felly, bydd rhaid i fi addo peint dyfodol i'r rhai ohonoch chi sy'n byw yng Nghaerdydd.

21:00/ S4C/ 15 Mai - Paid ag anghofio!

Thursday, 10 May 2007

Adolygu

Dylwn fod yn adolygu tros fy arholiadau (sy'n dod yn niwedd y mis) ond mae'n anodd i fi canolbwyntio. Felly, gwastraffais lawer o'm hamser heddiw yn gwneud y fideo hwn (ar y dde). Yr wyf yn gobeithio ei fwynhewch -- yr wyf yn eithaf balch ohono. Bu'n anodd iawn iawn cydamseru pethau i'r gerddoriaeth oherwydd mae Windows Movie Maker yn feddalwedd shite.

Ni ŵn os oes ots* gennych chi am y gerddoriaeth y defnyddiais ond, defnyddiais "Mon Manege a Moi" gan Edith Piaf a "Hikky Burr" gan Bill Cosby a Quincy Jones. "Hikky Burr" yw fy hoff gân ar hyn o bryd. Credaf am weddill fy oes bod Bill Cosby yn supergenius. Mae "Hikky Burr" yn dod oddi wrth albwm gweddol anadnabyddus, sef "The Original Jam Sessions 1969." Cydgasglodd y Cos grŵp cerddorion gwych er mwyn gwneud cerddoriaeth tros ei raglen "The Bill Cosby Show" (bu honno'n wahanol rhag ei raglen yn yr 80au).

Ni ŵn pam mae gennyf gân Edith Piaf. Nid ydw'n cofio ei llwytho i lawr ("download" yn ôl Cysgeir, ond meddyliais fod y gair cywir yn "lawrlwytho"). Efallai, fel mae gan bobl yn ffilmiau efell anfad, mae gennyf efell hoyw y rhodd Edith Piaf a Queen a Dolly Parton ar fy iPod.

*A ydy hyn sut i ddweud "I don't know if anyone cares"?

Wednesday, 9 May 2007

Mae'r heriau'n parhau

Peth hoffais am y rhaglen a gaiff ei darlledu ar nos Fawrth nesaf yw sut rhy'r argraff y nad yw'r stori wedi gorffen -- ceir teimlad bod y briodferch ifanc a fi'n symud ymlaen i heriau newydd. Mae hyn yn bortread gonest, yr wyf yn meddwl. Mae'r briodferch ifanc a fi'n byw yma ers blwyddyn, ond mae'r heriau'n parhau.

Pasiodd y briodferch ifanc ei theory driving test heddiw. Yr ydym ni wedi bod yn defnyddio ein trwyddedau gyrru o'r Unol Daleithiau erbyn hyn, ond gallem ni eu defnyddio dim ond am flwyddyn. Er mae ganddi brawf behind-the-wheel i wneud o hyd, mae'n neis bod y briodferch ifanc wedi heibio'r rhwystr hwnnw.

Bydd angen arnaf wneud yr un peth, ond mae rhaid i fi ganolbwyntio ar fy arholiadau yn gyntaf. Mae gennyf dair wythnos cyn fy arholiadau ac yn barod yr wyf yn nerfus.

Tuesday, 8 May 2007

Un wythnos

Gwelais heddiw bod gwybodaeth am y rhaglen amdanaf ar wefan S4C erbyn hyn (Yn ôl Neil, maent nhw'n hysbysebu'r rhaglen ar y radio, hefyd). Wrth gwrs, big girl's blouse ydw, a pheth sy'n taro fi am y dudalen honno yw fy ngwallt yn y lluniau.

Gellir gweld llawer mwy o fy ngwallt annhaclus ar ddydd Mawrth nesaf. Caiff y rhaglen ei darlledu ar 21:00 15 Mai.

Yr wyf wedi siarad am fy argraffiadau cyntaf (hmm, nid ydy 'first impressions' yn cyfieithu fel hynny, ydy?) o'r blaen, ond gyda'r darllediad yn agosáu, yr wyf yn ffeindio fy hunan yn meddwl am fwy o bethau embarrassing oddi'r rhaglen. Er enghraifft, ffordd y cerddaf. Mae gennyf gerddediad rhyfedd, sbonciedig (bouncy?). Dyna fi, dyn tenau'n sboncio lawr y ffordd -- yr wyf fel hen gartŵn Popeye*. Ond ni allaf baffio.

Ac wedyn mae rhan pan yr wyf yn bron crio (ac nad ydw'n bwyta). Dyna proud moment, on'd yw? Yr wyf yn dweud wrth bawb am wylio, a gwelant nhw i gyd fi yn gwneud ffŵl o'm hunan. Gallaf weld fy hunan yn y dyfodol, yn cyfweld am swydd: "O, dw i'n nabod ti! Ti'n y babi 'na gwelais ar S4C. Ha, ha, ha. Pansi."

*Ah, Popeye. Aethpwyd y dyddiau o hiwmor hiliol WWII.

Thursday, 3 May 2007

Ffrwydro

Dyma fi'n gwylio rhaglen canlyniad etholiad. Ni welais cymaint o bells and whistles erioed. Mae'r BBC yn defnyddio bron pob camer sydd ganddyn nhw ar gyfer dangos fi pobl bwysig yfed gwin yn y Bae -- from several; different angles.

Yr oedd y talking heads yn sôn am flogio tipyn o amser yn ôl. Dwedasant fod blogio wedi "ffrwydro" yng Nghymru. Mae ffrwydro yn air tipyn rhy gryf, ond nad ydy'n mor gyffrous dweud bob blogio yng Nghymru wedi cronni fel nodd gwiniolen mewn bwced.

Wednesday, 2 May 2007

Pregeth gan yr Americanwr

Yr oeddwn yn bwriadu gwneud post fideo heno, ond dyma fi yn lle, yn gwrando ar Man U colli ei gêm erbyn AC Milan (nid oes gennyf Sky, felly dyma fi'n gwrando arni ar Radio Five). Nid ydw'n ffan enfawr o bêl-droed, ond mae gennyf ddiddordeb yn y gêm hon -- ni ŵn pam.

Petaswn wneud post fideo, byddwn wedi baldorddi am bleidleisio. Wrth gwrs, mae etholiad ar ddydd Iau. Tro diwethaf y cafodd Gymru etholiad, pleidleisiodd dim ond 38 y cant poblogaeth ac nad oes lawer o obaith y bydd pethau'n well y tro hwn.

Felly, mae gennyf deimlad fel dylwn eich annog pleidleisio. Nid allaf bleidleisio oherwydd nad ydw'n ddinesydd Cymru (eto), neu ddinesydd Undeb Ewropeaidd. Oherwydd hyn, nid ydw'n meddwl y dylwn ddweud wrthoch chi ar gyfer pwy bleidleisiwn. Does dim ots am hynny oherwydd na phleidleisiwn.

Mae gennyf syndod ar faint pobl yr wyf yn gweld ar deledu sy'n dweud y na phleidleisiant. Gallaf ddeall sut gall person teimlo fel mae wedi cael ei ddadryddfreinio gan broses gwleidyddol. Gellir teimlo fel nad yw gwleidyddiaeth yn berthnasol i'ch bywyd bob dydd, ond dyma rywbeth yr wyf yn atgoffa fy hunan pan deimlaf fel hynny: Evil people always vote.

Os ni phleidleisiwch, siŵr o fod bydd rhywun gyda phwy ydych chi'n anghytuno'n llwyr. Os ydych chi'n hapus gyda status quo, rhaid pleidleisio er mwyn ei gadw. Os nid am ddim rheswm mwy, rhaid i chi bleidleisio erbyn pobl pwy wnâi pethau yn waeth.

OK, yr wyf wedi pregethu gormod. Hollol ddigyswllt i'r cofnod hwn yw'r fideo hwn: Hooray Beer.