Thursday, 28 June 2007

Garden seed

Nid ydw'n blogio fel dylwn y dyddiau hyn. Mae milodfa o bethau'n mynd trwy fy mhen, felly mae'n anodd i fi eistedd i lawr ac ysgrifennu.

Mae fy nhad-cu'n marw. Mae e wedi bod mewn ysbyty am dair mis a nawr mae'r meddygon yn siarad am ei dynnu rhag cynnal bywyd (life support). Mae fy nhad yn lawr yno yn Texas yr wythnos hon er mwyn siarad am y peth gyda'i frawd a'r meddygon.

The great equalizer yw marwolaeth. Daw i bawb. Ond ni wneir y sefyllfa hon yn haws gan y ffaith honno. Ysgrifennais am fy nhad-cu yn niweddar ar fy mlog Saesneg, sut defnyddia iaith gymysglyd o'r hipster a'r dyn Gorllewin Texas. Atgoffodd fy nhad fi neithiwr am ymadrodd arall a anghofiais gyfeirio ato yn y post hwnnw. Yn lle na "god damn it," dwedai Papa, "garden seed."

Garden seed. Fel hyn rydw i'n teimlo. Rydw i'n brwydro tros beth ddylwn i wneud nawr. Hoffwn deithio allan i Lake Jackson er mwyn mynd i'r angladd, ond mae cymaint o roadblocks. Byddai arian yn broblem wrth gwrs, y lludded y deuai gyda hedfan draw yno, a'r ffaith y dylwn i fod yn mynychu cyrsiau Cymraeg.

Yr wythnos nesaf dechreuaf ar Gwrs Meistroli yn y brifysgol. Ar fy mlog Saesneg, dwedais y byddai'n Gwrs Pellach, ond roeddwn yn anghywir. Ffoniodd un o'm darlithydd heddiw er mwyn dweud hynny wrthyf. Felly, rydw i'n fwy awyddus dechrau ar y cwrs.

Ond teimlwn fel ffŵl am beidio mynd i'r angladd. Fy arwyr yw fy nhad-cuod. Rydw i'n galw fy hunan ysgrifennwr achos dylanwad Papa. Pan roeddwn yn ifanc, byddai fe'n rhoi anrheg ychwanegol i fi ar Nadolig, rhywbeth mwy na rôi i wyrion eraill. Byddai'r anrheg yn wastad cael cysylltiad at ysgrifennu -- set ysgrifbin, teipiadur, papur arbennig, ac yn y blaen. Ni wn beth i wneud. Gweddïaf y ni fydd rhaid i fi wneud y penderfyniad, taw byddai'n gwella rhywsut.

Monday, 25 June 2007

This sadness, it never ceases

Roeddwn yn jocian gyda Fflur echdoe a gwneuthum sylw am Thin Lizzy a aeth tros ei phen. Wrth gwrs buasai; mae cyfeiriad i Phil Lynott a'i griw yn weddol oroedol y dyddiau hyn. Gŵn amdanyn nhw diolch i KQ 92, gorsaf fwyaf poblogaidd yn y Minneapolis-St. Paul, sy'n chwarae classic rock yn ddiatal.

Ahhh, KQRS. Peth unigryw am y Twin Cities yw'r orsaf radio honno. Os gwrandir arni, mae'n fel bod mewn capsiwl amser, oherwydd chwaraeir ar yr orsaf yr un gerddoriaeth â chwaraewyd pan roeddwn yn laslanc. Rwyf yn cofio pan symudodd y briodferch ifanc a fi yno ym 2003 o California. Nad oeddwn wedi byw yno ers 1997, ond dyna fi yn 2003, yn meddwl: "Dude, they're still playing 'Up On Cripple Creek!' It's like I haven't aged."

Wel, nid i KQRS yn unig â'r clod i gyd am fy ymwybyddiaeth am Thin Lizzy. Cofiaf Henry Rollins yn siarad amdanyn nhw yn ei sioeau gair-llafar. Dwedodd Rollins bod Thin Lizzy yn grŵp gorau gwrando arno ar ôl cawsoch eich dympio.

Diolch i'm hamser gyda'r gyn-gariad ast anfad sy'n dwyn eneidiau, rwyf yn weddol brofiadol gyda cherddoriaeth sy'n addas i wrando arni ar ôl merch wedi rhwygo eich calon o'ch brest. Cytunaf â Rollins bod Thin Lizzy yn ddewis da -- yn enwedig "Still in Love With You." Mae'n gân dda oherwydd teimlad yn niwedd y gân -- ar ôl griddfan tros ferch am wyth munud, dweda canwr: "If there's anything I can do for you, call on me, baby." Dyna boen dwys -- cafodd ein Phil truan ei boenydio gan y ferch hon, ond mae'n awyddus i'w helpu o hyd. A ydych chi'n teimlo fel hyn erioed? Dinistria rhywun eich byd ond ydych chi'n ei garu cymaint y byddech ei helpu symud tŷ: "O, siŵr, cariad, wyt ti wedi gosod fy enaid ar dân, ond gaf i wneud cwpan o de i ti cyn mynd?"

Wrth gwrs mae Southern rock a blues yn arlwyo nifer o ganeuon da ar gyfer dolur calon, er enghraifft "Give Me a Dollar" gan Caddle: "I drink about you till the mornin' comes."Athrylith.

I fi, mae'r caneuon hynny sy'n defnyddio themâu crefyddol/tragwyddol yn gryfach. Rwyf wedi siarad am "Maggie May," Rod Stewart, o'r blaen (mae gan y gân honno telyneg wych: "You stole my soul and that's a pain I can do without"), ond hefyd rwyf yn hoffi, "I Like Drinkin'," gan The Gourds: "...you're like the rattlesnake's curl/ You coil to strike me again/ In my world of sin/ Lights out, I think it's the end/ Have mercy on me Jesus Christ." Bydd pobl sy'n wynebu'r gosb eithaf (death penalty) yn ffeindio Iesu, onid bydden nhw? Rwyf yn hoffi'r emosiwn hwnnw bod y poen yn mor gryf, mor erchyll, bod canwr yn ymbil am ei iachawdwriaeth rhagddo. Dyna boen! Ac, wrth gwrs, teimlwyd gennyf i ddiolch i'm cyn-gariad ast anfad sy'n dwyn eneidiau.

Ond dyma fy nghwestiwn: A oes cân dolur-calon dda yn y Gymraeg? Hyd yn hyn, ni chlywais un erioed. Mae cymaint o gerddoriaeth Gymraeg yn, wel, nid-y-gorau. Ond os gallai Ray treulio mis yn ei wely oherwydd cafodd ei ddympio, rwyf yn siŵr bod rhyw Gymro, rhywle, rhywbryd wedi rhoi'r teimlad hwnnw mewn cân. Ni ddarganfûm hi eto, dyna i gyd.

A ydych chi'n gwybod am gân y Gymraeg fel hyn?

Saturday, 23 June 2007

Saunders a Gethin

Yn nofel Monica, gan Saunders "Sieg Heil" Lewis, treuliwyd gan brif gymeriad dwy fis yn gorweddian yn ei gwely. Fel hynny teimlaf y dyddiau hyn. Nid oes eisiau arnaf wneud dim byd heb eistedd yno, llygadrythu ar y nenfwd.

Ond mae pethau'n well i fi nag i'n Monica druan:
1) Nid ydw'n greadigaeth y dychymyg gwrth-Semitiad.
2) Nid oes gennyf ddropsi.
3) Ni arhosaf yn fy ngwely am ddwy fis. Mae gennyf bledren rhy fach gwneud hynny. Mae rhaid i fi godi bob hyn a hyn er mwyn piso.

Ond hefyd, mae gennyf fwriad mynd mas ar y nos Fercher hon. Byddaf yn The Halfway, Pontcanna, os oes gennych chi awydd dod hefyd. Er, ni ŵn eto pryd byddaf yno. Mwy na thebyg, byddaf yno tua wyth yn y nos.

Rwyf wedi bod yn meddwl y dylwn fynd mas yn fwy, ond, fel dwedais, nid oes gennyf gymhelliad gwneud unrhyw beth. Unig beth y gwnaf y dyddiau hyn yw chwarae ar gyfrifiadur -- edrych ar Facebook a YouTube.

Darganfûm fideos baublebob heddiw. Gwna fideos bywluniedig o "Gethin," Cymro ystrydebol sy'n siarad am ba mor wych yw Cymru. Rwyf yn siŵr y byddai'r sawl Cymro'n casáu'r fideos hyn, oherwydd mae'n amlwg y cânt nhw ei gwneud gan Sais.

Ond cyfaddefaf fy mod yn hoffi rhai ohonynt. Y fideo hwn yw fy hoff, pryda dweda Gethin: "Get back over the border, you English harlot."

Friday, 22 June 2007

Newydd sylwi

Rwyf newydd sylwi hyn. Byddai "evil soul-stealing bitch of an ex-girlfriend" yn cyfieithu i: "cyn-gariad ast anfad sy'n dwyn eneidiau." Roeddwn yn defnyddio "ast ddwyn-enaid anfad o gyn-gariad," ond ni wna hynny synnwr. Beth ydych chi'n meddwl?

Wednesday, 20 June 2007

A ydych chi'n eu credu?

Bu'n halibalŵ mawr y bore 'ma ar Post Cyntaf am ddatganiad bod gan Y Byd ddiwrnod lansio. O'r diwedd.

Gwrandawais ar Garry Owen yn siarad â golygydd Y Byd am bris y papur (70c Llun - Iau, £1.20 dydd Gwener), ac am ai byddai unrhyw un ei brynu neu beidio, ac yn y blaen, ond ni chlywais pryd lansir oherwydd daeth y briodferch ifanc lawr y grisiau yn canu: "I'm going to have hot chocolate! Hot chocolate! Hot cholcolate! Yum!"

Felly euthum yn syth at y cyfrifiadur er mwyn dysgu mwy.

"Da iawn," meddyliais i, tra aros am fy nghyfrifiadur cicio*. "Mae'r papur hwn yn cyhoeddi o'r diwedd. Byddaf yn mor hapus tynnu'n ôl fy meirniadaeth amdano, a thanysgrifiaf ato heddiw."

Ond wedyn gwelais y na chyhoedda Y Byd hyd 3 Mawrth 2008. Mwy nag wyth mis. Ac wedyn darllenais y darn hwn am Y Byd ar wefan BBC: "y cynllun gafodd ei grybwyll gynta wyth mlynedd yn ôl." Wyth mlynedd? Mae hyn yn hirach nag meddyliais.

Nid ydw eisiau bod yn rhy gas, ond sylweddolais y na choeliaf i nhw. Gallaf ddychmygu taw rhwng yr wyth mis nesaf meddyliant nhw am reswm newydd i'w ohirio. Felly ni thanysgrifiaf hyd welaf y papur.

Ar Post Cyntaf y bore 'ma, dwedodd golygydd y papur nad-yw'n-bod hwn y treuliwyd gan y papur dwy flynedd yn "gwneud ymchwil." Pa fath o ymchwil oedd hwnnw? Gweld pa mor hir gellid ddweud y cyhoeddir papur heb ei gyhoeddi?

Mae gan Y Byd blog, gyda llaw. Chwarae teg iddyn nhw, maent nhw'n ymwybodol o ffaith bod "ambell un yn aros yn eiddgar os nad yn ddiamynedd." Rwyf yn siŵr eu bod yn awyddus dechrau cymaint â rwyf yn awyddus gweld nhw'n dechrau, ac rwyf eisiau gweld nhw'n llwyddo, ond fel dwedais, na chaf i ffydd ynddynt hyd welaf bapur go iawn yn fy llaw.

**Yn ôl Cysgeir, "cicio" yw gair i'w ddefnyddio er mwyn dweud "to boot" yn ystyr cyfrifiaduraeth. Rwyf yn hoffi'r syniad o gicio fy nghyfrifiadur -- gall y peth fod yn rhwystredig iawn weithiau.

Monday, 18 June 2007

Y felan

Dechreuais waith ar fy llyfr heddiw, o'r diwedd. Bydd y llyfr hwn yn y Gymraeg, ac na fydd unrhyw un yn ei ddarllen, ond published books are for sell-outs, man. Hwn yw'r llyfr y siaradais amdano ar ddydd Iau, am fy mhrofiadau Cymreig. Rwyf yn gweithio ar fraslun ohono ar hyn o bryd, felly nad oes unrhyw beth diddorol i fi dweud amdano eto.

Rwyf wedi bod yn teimlo hiraeth cryf y dyddiau hyn am fy ffrindiau a phethau yn ôl yn yr UDA. Yn enwedig rwyf yn colli fy mrawd ifanc, Jon. Efallai rwyf wedi siarad o'r blaen am sut gweithiodd fy rhieni oriau hir pan roedd Jon a fi'n ifanc, felly roedd gorfod arnaf i'w fagu. Oherwydd hyn, roedd perthynas rhyngom ni'n dau'n ddirdynedig weithiau. Roeddem ninnau'n dechrau bod yn agos iawn tros y blynyddoedd diwethaf ac wedyn symudais yma.

Roeddwn yn ysgrifennu wrth ffrind heddiw a'i hanfonais y llun hwn iddi, o'm brawd a minnau dwy flynedd yn ôl. Rhaid chwerthin ar hynny.

Mae'n amlwg bod angen am change of scenery arnaf. Hoffwn fynd mas (defnyddiais "mas" er mwyn dy gythruddo, Llyr Lewis) rhywbryd yn fuan. Efallai dylwn ddechrau'r hen beth o fynd i'r Mochyn Du eto.

Saturday, 16 June 2007

Got my Fflur face on

Roeddwn yn edrych ar ffotos ffrindiau ddoe ar Facebook a phenderfynais fod Fflur, cyd-fyfyriwr , yn berson mwyaf ffotogenig yn y byd. Neu un ohonynt, o leiaf. Mae hi'n atgoffa fi ychydig o Astrid, ffrind fi trwy fy mlog Saesneg, yn ystyr ei bod yn edrych yn dda mewn pob ffoto.

Heddiw, meddyliais: "Maybe it's her technique." Efallai y ffordd y tynna Fflur llun yw cyfrinach i ffoto da. Sylwais taw mewn sawl ffoto bydd hi'n gwneud "kissy face" neu ledwenu'n fawr. Felly penderfynais dynnu lluniau o'm hunan yn ei dynwared:

Kissy face:
Fflur a'i kissy face Got my Fflur face on


Gwenu:
Fflur'n gwenuNot a pretty man

Fi yw'r un ar y dde. Rhywsut ni weithia dechneg Fflur i fi. Dichon rwyf yn defnyddio camera anghywir. Neu'r golau'n anghywir. Hmm...

Y dyna'r dannedd cam enwog. Diawl mae'n anodd i finnau* edrych ar luniau o'm hunan. Rwyf yn wastad addo fy hunan y prynaf ddannedd newydd sbon petawn yn gyfoethog.

A ddefnyddiais y gair hwn yn gywir? Ni ŵn pryd dylwn defnyddion "minnau," "tithau" ac yn y blaen, ac rwyf yn ceisio dysgu fy hunan.

Thursday, 14 June 2007

Bwriadau mawreddog

Rwyf wedi bod yn treulio'r wythnos hon yn gwastraffu fy amser a bod yn feudwy. Efallai bu angen arnaf actio fel hyn, er mwyn cael fy ngwynt ataf, ond rwyf yn dechrau (neu "cychwyn?" Pob tro anghofiaf pa un i'w ddefnyddio) teimlo'n aflonydd ac rwyf eisiau dechrau ar y prosiectau haf fy mod wedi gosod i fy hunan.

Yfory dechreuaf weithio ar lyfr am fy mhrofiadau dysgu Cymraeg. Mae rhai pobl wedi awgrymu i fi gwneud rhywbeth fel hyn, ac rwyf wedi bod yn meddwl amdani ers blwyddyn o leiaf. Pan gefais gyfle siarad yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, gwneuthum fraslun ar gyfer araith a dechreuais feddwl am ei ddatblygu i lyfr. Ysgrifennir yn y Gymraeg.

Os oes gennyf amser, rwyf eisiau gorffen nofel Saesneg y dechreuais arno'r llynedd. Nofel wahanol yw hon o'r nofel di-gyhoeddwyd a ysgrifennais yn ôl yn 2004. Byddai'r nofel hon am rwystredigaeth o garu rhywun eich bod chi'n casáu. A ydych chi erioed cael perthynas fel hyn? Rydych chi'n mor agos i berson, byddech chi'n take a bullet trostynt, ond pob tro rydych chi'n gweld y person hwn ("hon" yn achos fi, ond mae gair "person" yn wrywaidd), ffeindiwch eich hunan yn gweiddi ato, ac yn gofyn pam ceisiasoch chi siarad â nhw eto. Fel hyn yw pethau rhyngof i a'r ast ddieflig ddwyn-enaid o gyn-gariad. Hoffwn ysgrifennu nofel am y teimlad arteithiol hwn. Er ni ŵn ai rwyf yn awdur digon dda neu beidio i'w hysgrifennu.

Hefyd mae cylchgrawn neu ddwy wedi gofyn fi ysgrifennu erthygl, felly bydd yn haf prysur. Gobeithiaf y defnyddiaf fy amser yn ddoeth.

Dod trwy storm

Darllenais amser maith yn ôl bod gan Gymru llai dyn a dynes busnes nag unrhyw le arall ym Mhrydain (mae'r bai ar Loegr a Chaerdydd, siŵr). Rwyf yn ymhlith fy ngwerin, te, oherwydd casâf bopeth ariannol.

Efallai cofi di'r llynedd pan euthum trwy broses rhwystredig, dirboenus o ymgeisio am fenthyciadau myfyrwyr. Mae'n amser i fi mynd trwyddi unwaith eto. Treuliais heddiw yn llenwi ffurflenni ac yn ceisio osgoi teimladau o gyfogi a achoswyd gan feddyliau o'm dyled. Erbyn diwedd yr antur brifysgol hon, byddaf wedi benthyca $90,000 (£45,000). Gallwn wedi prynu tŷ gyda'r arian hwnnw.

Dwedaf hynny yn aml -- y gallwn wedi prynu tŷ yn West Columbia, Texas, gyda'r un maint arian fy mod yn defnyddio i fynd i brifysgol yma. Yn gyfleus, ni ddwedaf y nad oes eisiau arnaf fyw yn West Columbia. Er mwyn byw yn St. Paul, byddwn angen tua $250,000 (£125,000), sy'n fwy agos i bris tŷ (gweddol fach) yng Nghaerdydd. Beth bynnag, dewisais ddilyn y llwybr hwn -- mae'n wastraff o'm hamser meddwl am yr hyn a allai wedi bod.

Gorffennodd fy mlwyddyn gyntaf ar ddydd Sadwrn, gydag arholiad gramadeg. Nid ydw'n hapus gyda sut aeth pethau -- ni chefais gyfle ei orffen -- ond rwyf wedi blino cymaint erbyn hyn ei fod yn anodd i fi poeni. Er gwaethaf sut ei gorffennodd, bu'r flwyddyn hon yn anodd iawn arnaf mewn ystyr emosiynol. Ie, gŵn, big girl's blouse ydw, ond dyma fi.

Rwyf yn edrych ymlaen at geisio ymlacio a cheisio ailadeiladu fy hunan a cheisio colli rhai o'r chwerwedd a deimlaf ar hyn o bryd. Mae prifysgol yn ei achosi, a phellter, ac yn y blaen ac yn y blaen.

Meddyliaf weithiau am fy ngorhendaid, Benjamin Curry, y daeth i Orllewin Texas o Ogledd Iwerddon yn yr 1880au, a sut weithiau rhaid ei fod wedi casáu ei fywyd newydd yn yr Unol Daleithiau. Ffeindiai llwyddiant yn ei gartref newydd -- cafodd ransh enfawr -- ond rwyf yn siŵr bod y teimlai ing a hiraeth am y pethau cysurlon o dir ei enedigaeth. Iddo fe, byddai'r pethau hyn yn daith hir, ddrud tros gyfandir a môr. Rwyf yn siŵr y teimlwyd yn amhosibl.

Yn yr oes hon, mae pellter o'r daith honno wedi lleihau ychydig; tra byddir wedi cymryd pythefnos neu fwy i fy ngorhendaid mentro adref, gallwn i fod ar lan llynnoedd Minnesota erbyn amser cinio yfory. Ond mae'r gost yn gymaint fel bod yn amhosibl i fi hefyd, a theimlaf bob milltir o'r pellter hwnnw yn fy enaid -- 5,000 milltir rhag gallu gwthio i lawr fy nhroed ar sbardun a saethu trwy nos ar ffordd syth, ddiatal; 5,000 milltir rhag gallu chwerthin hyd deimlaf boen yn fy mrest; 5,000 milltir rhag bwyd y cefais. Bwyd yr oeddwn mor awyddus, mor orffwyll i'w adael.

Dyma fi'n troelli a gweddïo a chlafychu er mwyn gwerthu fy enaid i gwmni benthyciadau yn gyfnewid am ddigon arian ar gyfer aros yma am flwyddyn mwy. Nid oes gobaith o fynd adref. Ni welaf fy mrawd, fy ffrindiau, y nentydd, yr afonydd am... wel, ni ŵn.

Deuthum i'r lle hwn yn chwilio am rywbeth i lenwi gwacter y teimlaf yn fy nghalon. Efallai, fel ffŵl, disgwyliais am bethau bod yn ready-made: Croeso i Gymru, dyma dy hapusrwydd newydd. Wrth gwrs rhaid i fi adeiladu yma, rhaid cicio o'm gwmpas a cheisio creu man bach o'm hunan. Cymrir amser. Cymrir amynedd. Gŵn.

Gobeithiaf taw, ar ôl popeth, roedd Benjamin Curry yn hapus.

Friday, 8 June 2007

Chris y Sinig

Dwedir mai traddodiad Cymru yw rhoi enw lle neu nodwedd person ar ôl ei enw. Er enghraifft, adwaen rywun sy'n galw ei hunan "Sarah Efrog" oherwydd daeth hi o York.

Ni ŵn sut gweithia'r gyfundrefn hon, felly ni ŵn os byddwn yn "Chris Cope, Minnesota" (neu "Chris Cope, Texas"), neu "Chris Minnesota" (neu "Chris Texas"). Dweud gwir, nid ydw'n hoffi'r gyfundrefn hon oherwydd yr wyf wedi byw yn 12 dinas, yn chwe ardal, yn tair gwlad. Felly mae'n anodd i fi dweud o ble yr wyf yn dod er mwyn ei rhoi y tu ôl fy enw.

Yr wyf yn fwy hoff o enw y rhodd Llyr Lewis, Caernarfon, i fi heddiw: "Chris y Sinig."

Monday, 4 June 2007

Parod am orffwys

Pan ysgrifennais neithiwr am Gaerdydd, nad oeddwn yn ceisio awgrymu y nad ydw eisiau mynd i weld ardaloedd eraill Cymru. Mae'r briodferch ifanc yn awyddus iawn y dyddiau hyn mynd ar ŵyl fach.

Sbel yn ôl, cynhigiodd Rhodri lle cysgu inni petaem fod yn Aberystwyth, felly mwy na thebyg derbyniwn ni ei wahoddiad. Efallai dylwn ddweud wrtho fe ein bod yn dod...

Na. Ymddangoswn ni ar ei ddrws rhyw ddiwrnod: "Wel, ble mae'r croeso cynnes enwog hwn am sonnir gymaint? Os dydyn ni ddim yn hoffi Aberystwyth, mae'r bai arnat ti, boi."

Hefyd mae'r briodferch ifanc am fynd i'r Alban rhywbryd yn yr haf. Ni ŵn o ble ffeindiwn ni'r arian ar gyfer taith fel hon, ond croeswn ni'r bont honno pan ddown ni ati*. Ble bynnag awn ni, bydd haf da, meddyliwn. Gobeithio.

Mae gennyf ddau arholiad yr wythnos hon -- llenyddiaeth ar ddydd Gwener a gramadeg ar ddydd Sadwrn -- ond wedyn byddaf yn rhydd am sbel. Yr wyf yn edrych ymlaen ato. Bwriadaf geisio ysgrifennu llyfr am fy mhrofiadau o ddysgu Cymraeg -- dilyna ef ddegawd diwethaf, o bryd clywais yr iaith am y tro cyntaf i ddiwedd fy mlwyddyn gyntaf.

Nad oes gennyf hanes da gyda cheisio cael llyfrau eu cyhoeddi (ar gyfer y bobl newydd: ysgrifennais nofel [yn Saesneg] dwy flynedd yn ôl ond er gwaethaf fy ymdrechion gorau*, ni chyhoeddwyd hi), felly mae'n bosib y bydd hwn yn llyfr arall i roi yn yr atig ar gyfer fy mhlant ffeindio ar ôl yr wyf wedi marw. Ond, ei ysgrifennaf, os nid dim ond er mwyn cael cofnod safon o'm Cymraeg yn y dyddiau hyn.

*Mae'n 'bad form' cyfieithu ymadrodd Saesneg yn llythrennol hel hynny, ond ni ŵn ei gyfwerth yn y Gymraeg.

Eneidiau anghydweddol

Noson hyfryd oedd hi heno yma yng Nghaerdydd wyrddlas. Dyna beth y ni ddwedir am Gaerdydd -- mae pobl ei thu allan yn hoff iawn o'i galw "y ddinas fawr ddrwg" ond mae'n ddinas hyfryd yn narnau.

Ar ôl darlledwyd rhaglen amdanaf, cefais nifer o negeseuon gan bobl yr oedd yn awyddus rhoi bai ar Gaerdydd am fy mhrofiadau llai-na-ddelfryd. Yn y rhaglen, siaradais am sut dweda pobl wrthyf: "Gwyddost, Chris, dydy Caerdydd ddim yn Gymru Go Iawn."

Wedyn, siŵr o fod, cefais sylwadau ar fy mlog y diwrnod nesaf gan bobl yn dweud wrthyf: "Dewch i Aberystwyth," neu "Dewch i'r Gogledd," neu "Dewch i'r Gorllewin" neu o ble bynnag daeth yr awdur y sylw. Nid ydw'n bod yn gas, gyda llaw -- mae'n wych bod gan bobl balchder yn eu hardal.

Ond cefais argraff bod er gwaethaf y ffaith gan Gaerdydd 30,000 siaradwyr Cymraeg, pencadlys llywodraeth Cymru, a phencadlys fwyafrif gwasg Cymru, mae Cymry Cymraeg yn awyddus i daflu amheuaeth ar eu prifddinas (paid ag ymateb y post hwn gydag araith lem hir am ddrygioni Seisnigrwydd, os gwelwch yn dda -- mae'n cliché).

Mewn byd breuddwyd, ym mhle gallwn wneud beth bynnag fy mod eisiau, gwnawn raglen teledu sy'n ceisio gwneud achos o blaid Caerdydd. Nid yr hen fiswail am Toy Mic Trev a Clark's Pies ac yn y blaen, ond rhywbeth sy'n dangos cryfderau Caerdydd. Yr wyf yn credu y gallai Gaerdydd bod yn ddinas ddymunadwy, a gallai bod yn fendith i gymdeithas Cymraeg petaent ei derbyn.

Ond dyna fy marn. Barn y Yanqui. Teimlaf anghyfforddus weithiau gyda sylwi ar bethau y gwelaf o'm cwmpas yma oherwydd gŵn y teimla rhai pobl mai amhosibl ydy i fi deall Cymry/Cymru/Cymraeg/Cymraeg oherwydd estronwr ydw. Efallai maent nhw'n iawn.

Ond am bethau fel hyn yr wyf yn meddwl y dyddiau hyn. Mae gan adolygu pob math sgil effaith ar berson.

Ydych chi'n gwylio'r rhaglenni eraill "O Flaen Dy Lygaid," sef cyfres a wnaeth y rhaglen amdanaf? Yr wyf wedi bod yn eu gwylio a'u mwynhau. Maent nhw'n eithaf da. Ni ddwedaf hyn dim ond oherwydd gwnaeth ef raglen amdanaf, ond credaf fod cynhyrchydd y gyfres, Marc Edwards, yn chwedleuwr da iawn.

Ymddengys i fi bod gan y gyfres i gyd rhyw fath o golden thread. Mae gennych stori amdanaf i, stori am ferched Gwlad y Tai, stori am blant gofal, ac, yr wythnos hon, stori am bobl Gwlad Pwyl -- i gyd ohonom ni'n ceisio ffeindio ein lle yma, yn ceisio gwreiddio. Eneidiau anghydweddol Cymru*.

*Dyma fi'n gwneud y peth twp hwnnw am feddwl am ymadrodd yn Saesneg -- "Disparate souls of Wales" -- a cheisio i'w gyfieithu i Gymraeg. Felly, ni ŵn os gwna "Eneidiau anghydweddol Cymru" unrhyw synnwyr.