Tuesday, 31 July 2007

Anturiaeth

OK, yn ôl Dafydd, rhan o'r hwyl Eisteddfod yw ei darganfod, fel petai hi'n ryw fath o flash mob. Dweud gwir, gwneid y digwyddiad yn llawer gwell: "Psst. Yfory byddem yn cystadlu ym marddoniaeth -- dweda wrth dy ffrindiau."

Ar hyn o bryd yr wyf yn meddwl am deithio i fyny ar ddydd Llun neu ddydd Mawrth ar y trên. Af gyda'm pabell a gobeithiaf y gallaf ffeindio lle i'w osod (sut byddaf yn delio â hyn, ni ŵn). Yr wyf yn meddwl am fod yno er mwyn y blogmeet bach ar ddydd Mawrth a hefyd oherwydd mae yna bosibilrwydd y caf gyfle bod yn bresennol ar gyfer y ddadl hon ar nos Fawrth.

Os nad oes gennych gyfrif Facebook, bydd rhaglen BBC 4, "Hecklers," yn trafod a oes gormod o gefnogaeth i'r iaith Gymraeg:

"Has promotion of the Welsh language gone too far? Sir Dai Llewellyn, baronet and proud Welshman, thinks that it has. He travels to Mold, host town to this year's national eisteddfod, to argue his case in front of an audience and a panel of expert opponents."

Rhaid meddwl na fydd lawer o drafodaeth ddeallusol yn y rhaglen hon. Tybiaf taw Daddy didn't love Dai enough, a'i fod eisiau sylw. Fe'i ffeindia trwy fynd i'r Eisteddfod a chwyno (yn y Saesneg) am y Gymraeg. Exercise in futility bydd y digwyddiad hwn, mwy na thebyg, ond mae yna bosibilrwydd cael gwin am ddim -- felly yr wyf am fynd.

Ni ŵn eto pryd af yn ôl i Gaerdydd -- dydd Iau mwy na thebyg. Efallai yn gynharach os nad oes gennyf fodd y lle.

Sunday, 29 July 2007

Codi fy nhymer

Efallai gwyddoch nad ydw'n ffan fwyaf o Eisteddfod. Un rheswm am hyn yw fy nghred bod y peth yn hollol anniben.

Yr wyf eisiau i chi ddychmygu eich bod yn Americanwr sy'n byw yng Nghaerdydd ac sydd eisiau mynd i Eisteddfod. Ni wyddoch lawer am ddaearyddiaeth Cymru ac nad oes gennoch gar. Nawr, yr wyf eisiau chi ceisio defnyddio gwefan Eisteddfod, neu wefan Sir Fflint, neu'r ddau ohonynt, i ddysgu sut yn union i gyrraedd y ffycin Maes. Nid oes trên Arriva neu gerbyd National Express y bydd yn mynd yn syth i'r Wyddgrug, felly pa le dylwn fynd ati sy'n agosaf i'r Wyddgrug? Byddai hyn yn wybodaeth dda rhoi ar wefan, onid fyddai?

Grr. Efallai byddai'n well i fi aros tan ddaw Eisteddfod i Gaerdydd.

(Ar ôl diwrnod o ymchwil, yr wyf wedi darganfod yr hyn yr oeddwn yn chwilio amdano -- ond yr wyf eisiau gweld os gallech chi ei ffeindio hefyd)

Tuesday, 24 July 2007

That unconquerable race

Mountain + cloud = North WalesYr wyf yn ôl yng Nghaerdydd ar ôl wythnos yn Nant Gwrtheyrn. Mwynheais y lle a'r ardal i gyd hefyd -- âi'r grŵp ar deithiau yn y prynhawn: Aberdaron, Pwllheli, Caernarfon ac yn y blaen. Cafodd Caernarfon yr argraff gryfach arnaf oherwydd mae'n union fel disgrifiwyd hi gan Llyr.

Y dyddiau hyn yr wyf yn amheus iawn o'r hynny a ddweda pobl wrthyf am leoedd gwahanol yng Nghymru. Yr wyf wedi siarad am hyn o'r blaen -- ar ôl darlledwyd y rhaglen ym mis Mai cefais sawl e-bost, a hyd yn oed llythyr, gan bobl a oedd yn awyddus dweud wrthyf na ddylwn wedi mynd i Gaerdydd ond yn hytrach i'r lle 'ma neu le acw. Wrth gwrs, pob tro dwedai'r person taw at ei ardal dylwn wedi mynd. Ond, fel dwedais ar fy mlog Saesneg, mae gan Gymry Cymraeg duedd i gor-werthu pethau weithiau -- yn enwedig pethau yn y Gogledd Godidog ("A thousand naked beermaids await you in the Magnificent North, Chris."). Ond chwarae teg i Llyr, yr oedd ei ddisgrifiad o'i ardal yn gywir. Mae Caernarfon yn ddinas (dref?) mewn ardal brydferth sydd ganddi fynyddoedd a'r môr ac afonydd ac yn y blaen. Mae'n ddinas (dref?) Cymraeg, ble clywir yr iaith bron ym mhobman, defnyddir gan bobl o bob un dosbarth cymdeithasol; mae ganddi chavs Cymraeg. Ni ŵn os mae'n werth taith chwe awr mewn bws-mini i weld chavs sy'n siarad iaith wahanol o'r hyn y siaradant yng Nghaerdydd, ond yr wyf yn siŵr bod yr amrywiaeth hon yn beth da i'r iaith.

Treuliais lawer o'm hamser mewn tafarnau ar y daith hon. Felly cefais gyfleoedd siarad â phobl leol, sef barmyn*. A chefais gyfleodd ymdrechu deall yr acen ogleddol. Byddwn ddweud bod ffordd gorau i'w ddynwared yw llyncu eich tafod ac wedyn ceisio siarad Cymraeg (Ie, ie. Darllenais Neighbours From Hell hefyd, felly gŵn bod y Saeson wedi arfer dweud rhywbeth eithaf tebyg am siarad Cymraeg o gwbl -- dim ond cymryd y piss ydw. Tawelwch). Gwesty Tŷ Newydd, Aberdaron, a Tŷ Coch, Porthdinllaen, oedd fy hoff dafarnau, y ddwy ohonynt ar y traeth. Mae'r olaf yn gudd ym mhentref bychan ar lan Môr Iwerddon y rhaid person cerdded iddo o hanner milltir i ffordd (nid oes lle yn y pentref ar gyfer ceir dibreswyl). Yr oeddwn wrth fy modd yno: yn eistedd tu allan, yn edrych tros y môr ac yn teimlo mor anghysbell tra yfais fy nghwrw Bragdy Mŵs Piws. Yr oeddwn yn meddwl y hoffwn fyw yno, gydag astudfa fach sy'n edrych allan tros y môr. Gallwn ysgrifennu trwy'r dydd, a phan gawn writer's block gallwn gerdded draw i'r dafarn. Bywyd annhebygol yw hwnnw -- er bod Cymro Cymraeg oedd y barmon, ymddangoswyd taw Saeson oedd mwyafrif y pentref. A Saeson ofnadwy cyfoethog -- dwedodd un o'r tiwtoriaid wrthyf y byddai fflat gwely sengl yno'n costio mwy na £200,000**.

Y daith hon gwnaeth fi feddwl am fy lle yng Nghymru a chymdeithas Cymry Cymraeg. Wrth eistedd a cherdded yn yr ardal honno, gofynnwn o'm hunan a fyddwn i'n gweddu yno. A allwn i fyw yn yr ardal honno a theimlo fel yr oeddwn yn perthyn iddi? Yn fy mhen, yr oeddwn yn cymharu'r daith i daith grŵp ieuenctid crefyddol oherwydd teimlwn yr un fath o bethau amdani: "I'm just not buying into this as much as everyone else; as much as I think I'm supposed to."

Teimlaf euogrwydd tros y ffaith nad ydw'n hoffi pob peth Cymreig-Cymraeg; fel petawn yn bechadur oherwydd nad ydw'n hoffi barddoniaeth, a chredaf fod Meic Stevens yn shit (mae yn). Ffeindiaf fy hunan yn ail-feddwl yr hyn y dwedwn tros y blynyddoedd diwethaf ac ar y rhaglen -- bod rhywbeth am Gymru yn tynnu fi ato. Yr oeddwn wedi arfer dweud bod rhywbeth am Gymru wedi gafael ar fy nghalon a thynnu fi oddi wrth dros y môr, taw fy lle yw Cymru.

CymylauPan yr oeddwn yn arfer byw yn yr Unol Daleithiau, yn teimlo mor ddi-gysylltiedig rhagof fy hunan, dychmygwn yr oedd fy enaid -- neu'r darn hwnnw y byddwn yn angen i deimlo'n gyflawn -- yn arnofio trwy'r awyr rhywle yng Nghymru. Dychmygwn yr oedd fi arall, anweledig, yn crwydro'r mynyddoedd o'r wlad hon -- yn aros i fi ddarganfod fe. Yn fy meddwl gallwn weld fy hunan yn sefyll ar ben mynydd, yn edrych allan tros y môr ac yn chwerthin yn gryf i'r awyr oherwydd y teimlad gwefreiddiol o deimlo'n gyflawn, o'r diwedd. Mae ardal Pen Llŷn yn edrych yn eithaf tebyg i'r hynny yr oeddwn yn arfer dychmygu.

Yn fy nghwrs, treuliaf fy amser yng nghwmni chwe merch sy'n hefyd gwneud gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Wrth gwrs mwynhaf eu gwni -- dyna fi ymhlith chwe merch ddeniadol -- byddai rhaid bod yn wallgof na fwynhau. Pan gerddaf o gwmpas y campws gyda nhw, teimlaf fel Brenin Cymru ("Penliniwch o'm blaen, dynion! Yr wyf yn cerdded gyda chwe merch! Bwahahaha!"). Ond yr wyf yn siŵr y byddent yn cytuno nad ydw'n gweddu yn berffaith i'w byd nhw. Yr wyf yn henach, nid oes gennyf ddiddordeb yn siopa, nid oes ganddynt ddiddordeb yn cerdded trwy'r cefn gwlad, ac yn y blaen***.

Felly yr oeddwn yn ardal a atgoffai fi am fy hen ddymuniadau am Gymru, ond hefyd yr oeddwn yn cael fy atgoffa am ba mor anodd mae wedi bod i fi ffitio mewn yma. Gofynnais o'm hunan a ydw'n teimlo o hyd yr un pethau yr oeddwn arfer teimlo. A ydw'n teimlo o hyd taw yma gallaf ddarganfod fy nyfodol? Er gwaethaf popeth, ydw. Mae yna rywbeth i fi yn yr wlad hon sy'n mor anodd i gynhesu ati. Ond ar ôl blwyddyn o fyw yma, mae'r dyfodol hwnnw'n fwy niwlog nag erioed o'r blaen. Teimlaf yn fwy ansicr, yn fwy pell. Deuthum yma oherwydd yr wyf yn dyheu am rywbeth; mae yna ddirboen calon y goddefaf yn feunyddiol. Meddyliais y gallwn ddod o hyd fy lle yn yr wlad fach hon. Erbyn hyn, teimlaf rwystredigaeth, chwerwdod, dicter a threchiad. Ond efallai y mae gennyf y teimladau hyn oherwydd ofn -- ofn y bydd fy serch tuag at Gymru yn ddiwobrwy.

*Diawl, rhaid bod gair gwell am "bartender" na "barmon."

**Ac wrth gwrs, cofiwch roi'r bai am bopeth o'i le yng Nghymru ar Loegr a Chaerdydd.

***Fel yr oedd pobl yn mor awyddus i archweinyddu ar maes-e ar ôl darlledwyd fy rhaglen, fel hyn pethau mae. Yr wyf yn deall hynny. Nid ydw'n cwyno yma. Mae'r merched wedi rhoi croeso i fi ac yr wyf yn ddiolchgar iawn. Dim ond eglurebu'r ffaith ein bod ni'n weddol wahanol ydw.

Saturday, 14 July 2007

Yn y Nant

Nid ydw wedi bod yn ysgrifennu ar fy mlog yn ddiweddar oherwydd y cwrs hwn yn cymryd fy amser i gyd. Nawr fy esgus yw nad fydd gennyf ddefnydd o'r rhyngrwyd tros yr wythnos nesaf.

Byddaf yn Nant Gwrtheyrn hyd dydd Sadwrn 21.7.07.

Hwyl!

Wednesday, 4 July 2007

Where at least I know I'm free

Dydd Gŵyl Annibyniaeth Unol Daleithiau oedd heddiw. Dweud gwir nid ydw erioed talu llawer o sylw arni o'r blaen, ond mae'r pellter yn achosi fi meddwl am bethau Americanaidd heno.

Am swper cafodd y briodferch ifanc a fi hot dogs heno. Yr oedd y tywydd yn rhy oer a gwyntog eu barbiciw (yr wyf yn defnyddio "barbiciw" fel berf yma), felly bu rhaid inni roi nhw o dan gril. Cynnyrch Ffrainc oedd y hot dogs, a chynnyrch Iwerddon oedd fy nghwrw. Os meddylir ar y peth, bu'n dathliad Americanaidd iawn. Er, nid oedd tân gwyllt neu ganeuon gorwlatgar*.

Hoffwn gael dyfais ffuglen-wyddonol y gallwn ddefnyddio i'm chludo i Minnesota am y noson, er mwyn gweld fy ffrindiau eto ac yn mwynhau dathliad, ond wedyn bod yn ôl yng Nghaerdydd yn y bore. Mwy nag unrhyw beth, yr wyf yn colli fy mrawd ac Eric a'r teimlad o fod ym Minnesota -- y teimlad o'r awyr, y tir, ac yn y blaen. Mae yna rywbeth am eistedd gyda ffrindiau ar nos laith, boeth, Minnesotaidd sy'n ailgyfodi enaid.

Ffycin hiraeth. Wrth gwrs, gwyddoch chi ar bwy yw'r bai am hyn: Lloegr a Chaerdydd. Yn ddieithriad.

*Rhaid ichwi wylio'r fideo hwnnw. Y darn gorau yw pryd dechreua pawb ganu.

Monday, 2 July 2007

Ynysedig

Bollocks. Nid yw fy mlog yn ymddangos ar Blogiadur y dyddiau hyn, a phob tro anfonaf e-bost i ofyn am y peth, caiff yr e-bost ei adlamu yn ôl.

Argyfwng ffydd

Dechreuais ar Gwrs Meistroli heddiw yng Nghanolfan Dysgu Cymraeg. Os darllenwch fy mlog Saesneg gwyddoch eisoes y cynigiodd Ysgol y Gymraeg lle i fi yn y cwrs er mwy gwella safon fy Nghymraeg.

Dweud gwir, nad oeddwn eisiau mynd. Yr oeddwn yn edrych ymlaen at ymlacio ac ysgrifennu trwy'r haf, ac efallai teithio ychydig. Ond gŵn bod angen arnaf fod yn y cwrs hwn. Mae'n amlwg pan siaradaf y Gymraeg bod angen help arnaf. Yr ydw wedi colli fy hyder i gyd -- fy niddordeb hefyd. Pan euthum allan gyda Rhys, Mair, Sara, Chris a Ffion yr wythnos diwethaf, ni ddefnyddiais y Gymraeg. Llywiwn y sgwrs tuag at ddefnyddio Saesneg oherwydd casâf deimlad o heb ddeall.

Hefyd mae hiraeth a lludded yn broblemau i fi. Mae pobl yma'n gwneud eu gorau croesawu fi, ac yr ydw'n werthfawrogol iawn, ond ni allaf atal fy hunan rhag colli pethau cyfarwydd a'm ffrindiau. Yn enwedig heno, pan mae'r gwynt yn gwthio trwy'r coed ac yn fy atgoffa am fod ar lan llyn ym Minnesota.

Ond fel hyn mae. Nid oes arian i fi hedfan adref ar gyfer peint gydag Eric. Ni welaf e, neu Paul, neu Anthony, neu Dan, neu fy mrawd, neu bawb sy'n draw yno am flynyddoedd (ar hyn o bryd, ni chreda'r briodferch ifanc a fi y byddwn ni'n weld yr Unol Daleithiau eto am o leiaf dwy flwyddyn). Rhaid i fi dderbyn hyn. Gwneuthum y dewis symud i Gymru, a gyda'r dewis hwn daw ei ganlyniadau.

Felly yr ydw'n obeithiol iawn y gall y cwrs hwn aildanio fy niddordeb, fy awydd i ddysgu Cymraeg a bod yn rhan o'r byd hwn. Gobeithiaf y mwynhau oherwydd mae'n edrych fel y byddaf yn rhoi fy enaid i'r Ganolfan Dysgu Cymraeg am fis Gorffennaf i gyd. Â'r cwrs o 9:00 trwy 17:00 dydd Llun i ddydd Gwener. Ond nid y cwbl yw hynny. Mae'r cyrsiau haf ar gyfer pobl sy'n dod o du allan Caerdydd, tybiaf, felly mae yna weithgareddau yn y nos hefyd, a theithiau. Bob nos Iau yn y Pen & Wig, y nos Wener hon yn y Mochyn Du, taith i Sant Ffagan, taith i Ganolfan Mileniwm, taith i Ganolfan Gwlypdir Cenedlaethol Cymru, ac wythnos yn Nant Gwrtheyrn. It's like I've joined some kind of fucking cult.

Tybed os yn niwedd y cwrs, casglwn ni o amgylch tân, canu a siarad am sut yr ydym ni wedi newid tros y mis a sut yr ydym ni'n caru ein gilydd -- fel pan yr oeddwn yn arfer mynd i wersyll haf y capel? Kumbaya!

Er, bod yn onest, gall profiad dysgu Cymraeg a cheisio byw bywyd Cymraeg deimlo fel byw mewn cwlt. Teimlaf euogrwydd am golli fy mrwdfrydedd am yr iaith tros y flwyddyn ddiwethaf.