Thursday, 30 August 2007

Anobeithiol

Nodwedda'r wythnos hon dwy flynedd ers Corwynt Katrina, felly neithiwr ailddarlledodd BBC 4 rhaglen ddogfen 2006 "When the Levess Broke" a ganolbwyntia ar effaith Katrina. Wrth wylio'r rhaglen ddogfen, trawyd fi un peth yn gryf am yr holl brofiad: rhwystredigaeth.

Wrth gwrs mae yna rwystredigaeth tros ymateb llywodraethol -- gwnaeth FEMA traed moch o bethau, a bu'r grwpiau gwahanol lywodraethau ffederal a thalaith yn rhy araf a rhy wleidyddol i ymateb i'r anghymwyster. Daeth Katrina pedwar blynedd ar ôl 9/11 ac rydw i'n siŵr nad oeddwn yn yr unig berson a dybia y byddai'r lywodraeth ffederal (o leiaf) yn ddigon galluog delio â thrasiedi fawr, beth bynnag yr achos.

Nid oedd, wrth gwrs, a thara hyn at reswm bod yna gymaint o Americanwyr nad ymddiried eu llywodraeth -- nid oes rheswm i'w ymddiried weithiau. Annibynnol ar dueddiadau gwleidyddol, gall fwyafrif pobl cytuno taw prif gyfrifoldeb llywodraeth yw diogelu ei phobl ac adeiladu (a chadw) prosiectau cyhoeddus fel llifgloddiau a phontydd. Ond methodd y llywodraethau yn New Orleans; mae'r llywodraethau'n methu yn ardaloedd eraill yr UDA o hyd.

Ond hefyd mae gennyf rwystredigaeth tuag at bobl New Orleans, yn ystyr o'u hymateb i'r drasiedi. Dangosodd y rhaglen ddogfen cymaint o bobl a ganddynt deimlad chwerthinllyd o hawl i bethau -- fel dylai'r llywodraeth roi popeth iddynt a byth eu disgwyl gwneud dim byd am weddill eu hoesoedd, oherwydd aethant trwy gorwynt: "Well, you've gone through a hurricane. Good job, American. You've done your duty. Now we'll give you everything for free, for the rest of your life."

Ac mae yna gymaint o bobl a fynnu eu bod eisiau ailadeiladu eu tai yn yr un lle â chynt, ac maen nhw'n grac ar y llywodraethau am fethu ailadeiladu ac atgyweirio'r llifgloddiau yn ddigon cyflym. Beth?! Mae'r ffycin lle wedi gorlifo dwsinau o droeon tros y ganrif ddiwethaf. A yw'n dipyn afrealistig teimlo hawl i adeiladu eich tŷ rhywle a brofai bod yn beryglus? A ddylwn fod yn grac ar gyngor Caerdydd oherwydd rydw i eisiau byw o dan y bae ond nid ydyn nhw'n gwneud hyn yn bosibl?

Gweithia fy nhad tros gwmni a reola'r wefan WDSU yn New Orleans, a dwedodd wrthyf ei fod yn cael problemau darganfod rhywun a red y wefan. Dwedodd fod pawb yn New Orleans wedi colli gobaith ac nid oes unrhyw un a eisiau symud yno. Nid oes dim byd i'w wneud, nid oes ysgolion, nid oes teimlad diogelwch; ni ellir prynu tŷ oherwydd ni fydd cwmnïau yswiriant ei yswirio. Teimlant rwystredigaeth oherwydd mae'r sefyllfa'n mor wael, ac nid yw'n realistig disgwyl pethau i'w wella.

Rydw i

OK, defnyddiaf "rydw i" o hyn ymlaen. Gwneuthum chwiliad Google ddoe er mwyn gweld a oes unrhyw un arall yn defnyddio "rydw yn," a gwelais taw dim ond pobl nad ŵyr y Gymraeg a ddefnyddia'r modd hwnnw (a yw "modd" y gair cywir i'w ddefnyddio yma?).

Weithiau, caf syndod y cefais fy nerbyn i brifysgol. Dyma fi, bron dechrau fy ail flwyddyn yn ngradd Cymraeg, ac nid ydw'n (nid ydw i?) siŵr am bethau mor syml ag hyn.

Thursday, 23 August 2007

Os oes gennych Facebook...

Mae'r briodferch ifanc wedi ymuno Facebook. Ychwanegwch hi fel eich ffrind er mwyn hithau teimlo'n special.

Wednesday, 22 August 2007

Dysgwr newydd

Os ydych yn ddysgwr (hynny yw, ydych wedi dysgu'r iaith hon ar ôl oeddech wedi "tyfu lan," yn lle na cael eich magu yn yr iaith), rhywbryd yn eich profiad dysgu mae hyn wedi digwydd ichi: hen ddyn (o Gaerfyrddin, yn arfer) yn dweud wrthych fod rhaid ichi ddefnyddio'r iaith bob dydd.

Ie, no shit. Diolch am hynny, pops.

Ac os ydych yn ddysgwr mae'n bosibl ydych wedi darganfod bod defnyddio'r iaith bob dydd yn anodd iawn -- yn enwedig os dewch o deulu a siarada'r Saesneg. Ac mae'n yn enwedig o yn enwedig anodd os ydych chi'n cael rhyw â rhywun sy'n siarad y Saesneg**. Oherwydd, yn fy myd i, â deyrngarwch i iaith yn syth allan o'r ffenest pan mae yna ryw yn y cwestiwn.

Hyn yw fy mhrif anhawster gyda gwella fy Nghymraeg y dyddiau hyn -- nid oes Cymraeg yn fy ngwely. Ond bron i newid yw'r sefyllfa hon. Na, nid yw Kelly* yn ymateb fy llythyrau caru eto. Mae'r briodferch ifanc am ddechrau dysgu'r Gymraeg yn yr hydref.

Cofrestrodd hi am gwrs Wlpan ddoe. Ac er gwaethaf popeth a ddigwyddai i finnau, mae hi'n edrych ymlaen at ddechrau dysgu yn iawn. Rydw wedi ceisio ei dysgu ychydig o dro i dro, ond pan rydw'n brysur anghofiaf ddatblygu unrhyw fath o lesson plan iddi. Dwedir y dylai berson ar gwrs Wlpan fod yn gallu cael sgwrs sylfaenol erbyn diwedd y cwrs, felly rydw'n edrych ymlaen hefyd.

*Mmm, Kelly.

**Mae hyn yn atgoffa fi o rywbeth a ddwedodd fy nghyfaill Jim unwaith. Roeddem ni'n eistedd yn nhafarn pan welodd Jim merch a oedd yn arbennig o brydferth. A phenderfynodd Jim ceisio ei denu. Ond bu broblem.
"Jim," meddwn, "I don't think that girl speaks English."
"Not a problem," meddai fe. "The only thing she needs to know how to say is 'yes.'"

Tuesday, 21 August 2007

Hwyl fawr i 'yr wyf'

Mae hi wedi bod yn ysbaid ers gwneuthum gyfnod blog go iawn, neu fel hynny mae'n teimlo. Dweud gwir, nid oes lawer gennyf i'w ddweud, ond nid ydw eisiau caniatáu'r hen flog hwn mynd yn stale tra mae pobl yn pleidleisio am y Welsh Blog Awards. Ni ŵn beth enillwn petawn yn ennill teitl "Best Humour Blog," "Best Welsh Learner Blog" neu "Best Welsh American Blog," ond rydw'n siŵr y bydd yn wobr enfawr. Troffi gwir-faint o'r blewyn 'na sy'n chwarae Kelly ar "Pobl y Cwm," gobeithiaf. Mmm, Kelly.

(A oes unrhyw un arall sy'n defnyddio "blewyn" er mewn nodi merch lân? Neu yw hynny rhywbeth sy'n ddethol i'r Bois Mawr?)

Un peth sydd wedi digwydd yn ddiweddar: Rydw wedi penderfynu dechrau defnyddio "rydw" ar gyfer person cyntaf presennol "bod." Os ydych wedi bod yn darllen y blog hwn yn hir, gwyddoch taw fy nemesis yw'r person cyntaf presennol "bod." Ers dechrau'r blog hwn, rydw wedi defnyddio "dw i," "dwi," "wyf" (a chofiwch hynny?) ac "yr wyf." Anwadal ydw i. A nawr, rydw wedi penderfynu dechrau defnyddio "rydw." Mae'n dilyn y defnyddiaf "rwyt," "rydym," "rydych," ac "rydyn" hefyd.

Fy athroniaeth ar y blog hwn yw dylwn geisio ysgrifennu yn y safon orau a allaf. Am y rheswm hwn, rydw wedi bod yn defnyddio "yr wyf." Ond tros yr haf, rydw wedi bod yn darllen cymaint â rydw'n gallu, ac rydw wedi sylweddoli nad oes lawer o bobl a ddefnyddia'r modd hwnnw. O'r hyn a allaf ganfod, mae fy nefnydd o "yr wyf" yn fwy hen ffasiwn na gramadeg da. Rydw yn weddol siŵr taw mewn traethodau prifysgol gallaf ddefnyddio "rydw," felly gwnaf y newid.

Nid ydw'n siŵr a ddylwn ddefnyddio'r rhagenw (rydw i) neu beidio. Hoffwn glywed eich barn.

Monday, 20 August 2007

1976

1976Cefais freuddwyd neithiwr y mynnodd Fflur fy mod yn eillio fy marf er mwyn cael mwstas. Felly, gyda'r tywydd mor wael heddiw, gwyddwn y na fyddwn gadael y tŷ heddiw... penderfynais eillio. Dyma'r canlyniad. Ac mae yna dri ffoto arall yma.

Rhaid cyfaddef nad yw'n olwg orau i fi. Petai Fflur wedi gofyn yn iawn i fi wneud hyn, byddai rhaid gofyn ei chwaeth. Rwyf yn enwedig anghyfforddus gyda'r tebygrwydd rhwng fi a rhywun arall. Ond ar y cyfan, rwyf yn edrych yn weddol 1970au-esque (sut dwedir "-esque" yn y Gymraeg?*). Am rhyw reswm, ffeindiaf bod y llun hwn yn atgoffa fi o rhyw dyn Gwyddelig o'r 70au, a oedd yn grŵp roc trwm. Ond ni allaf feddwl am y person. Wel, petai gennyf affro a chroen du, byddwn yn edrych ychydig fel Phil Lynott. Ac unwaith eto, cysylltir Fflur a Thin Lizzy rhywsut gan fy mhen.

Rwyf yn meddwl hefyd fy mod yn edrych fel y math o actor a ddewisa Hollywood ar gyfer portreadu Latino (rhywun Mecsico neu Ciwba ac yn y blaen) yn ôl yn y dyddiau pan na ddefnyddia actorion nad oedd yn wyn. Beth bynnag, rwyf yn edrych yn erchyll. Yfory eilliaf y peth i ffordd a dechrau tyfu fy marf yn ôl.

*Efallai 1970au-og? 1970au-us?

Tuesday, 14 August 2007

Ar y ffordd

Bydd y briodferch ifanc a finnau'n teithio o gwmpas y De tros y dyddiau nesaf, felly ni fyddaf yn blogio hyd dydd Sul o leiaf. Hwyl.

Monday, 13 August 2007

Hey, wait. You're not real cowboys! You lied to me!

Dwedir taw doethineb yw'r peth cyntaf i'w fynd pan yfir alcohol. Nid yw hyn yr achos i fi. Gyda finnau, Cymraeg yw'r peth cyntaf i'w ffoi rhag fy mhen. Gellid darlunio graff llinell a ddangosa sut mae safon fy Nghymraeg yn exponentially converse i nifer o gyrfau yn fy mol.

Mae pethau'n gwella erbyn hyn -- yr oedd yn arfer bod taw dim ond dau beint gallwn eu hyfed cyn llithrai'r Gymraeg i ffordd. Gallaf yfed llawer mwy'r dyddiau hyn heb gael fy ngorfodi newid y sgwrs i'r Saesneg, ond pan geisiaf gymryd rhan yn y sgwrs, gwnaf cachu hwch ohoni.

Felly, dyna fi ar nos Fercher diwethaf -- yn sefyll wrth ochr Elin, gwraig Rhodri, yn gig Pwsi Meri Mew/ Gwibdaith Hen Frân/ Cowbois Rhos Botwnnog/ Gai Toms -- yn teimlo taw efallai y cawn i ormod o gwrw a gwin a dylwn droi tuag adref. Yr oeddwn yn bwriadu dweud wrth Elin: "Dwi'n teimlo fel shit. Dwi'n meddwl y dylwn i fynd adref."

Ond yn lle, dwedais: "This is shit. Dwi'n mynd."

Y ffycin creigiau eto!Fel hynny y cofiaf Eisteddfod 2007: fi'n teimlo'n waeth nag dylwn, a bod yn not quite there eto gydag ansawdd fy Nghymraeg.

Sawl diwrnod ar ôl dychwelyd rhag Eisteddfod, yr wyf yn teimlo'n sâl o hyd. Felly nid yn unig yr alcohol a achosai fi teimlo'n wael. Er gwaethaf hyn, gallaf adrodd wrthych yr oedd fy mhrofiad Eisteddfod yn well y tro hwn. Ni ddwedaf fy mod wedi dwlu am Eisteddfod erbyn hyn, ond o leiaf yr wyf yn dechrau deall ei atyniad.

Ar ddydd Mercher euthum i lan i Gaer ar y trên, wedyn Caer i'r Wyddgrug ar y bws, Yr Wyddgrug i faes parcio Eisteddfod ar fws arall, maes parcio i faes carafannau ar fy nhraed. Gadawais Sweet Home Radyr Way am 8:30 a gosodid fy mhabell erbyn 15:30.

Gofynnaf fy hunan weithiau tybed a oes Cymry'n mwynhau'r ffaith taw mor time-consuming yw teithio yn eu gwlad. Taw taith 147 milltir -- taith y dylai ei chymryd tair awr neu lai -- cymer saith awr gwedda'r gweledigaethau o bellterwydd hyn y mae gan Gymry am Gymru. Ond yr oeddwn yn iawn gyda'r siwrnai -- cefais lyfr i'w ddarllen a'm hacen Americanaidd i danio sgyrsiau.

Mae'r acen Americanaidd yn ychydig fel lliain yn Hitchiker's Guide to the Galaxy, sef mae'n aml-ddefnyddiol. Pan mae person ar fws 4 o Gaer i'r Wyddgrug, achosa'r acen hon sgwrs gyda gyrrwr am chwaraeon: "The thing about America, mate: all your major sports, right, you wear pads. What's that about?"

Mae gennyf ar awdurdod yr un gyrrwr y bydd Cardiff City yn symud lan i'r Premiership eleni. "Guaranteed, mate. Go to Ladbrokes and put money on it," dwedodd e.

Hefyd, mae'n "guaranteed" y bydd Cymru'n ennill y Cwpan y Byd, er gwaethaf eu chwithigrwydd erbyn Lloegr. Siaradodd y gyrrwr i fi trwy'r daith awr i gyd.

CartrefiAr ôl gosod fy mhabell, yr oeddwn am fynd i gwrdd blogwyr ar y diwrnod, ond penderfynais orweddian yn fy mhabell am ysbaid wrth aros am Rhodri ac Elin ymddangos. Roedd miloedd o garafannau ar y maes, yn ymestyn tros sawl acer, gydag amryw pabelli ar y ffiniau. Peth cyntaf a darodd fi am yr olygfa bu: ni chredir gan y bobl yma yn y syniad o roughing it. Yr oedd y carafannau'n enfawr, yr oedd y pabelli'n enfawr, ac oedd ganddynt bob mwynder. A dyna oeddwn, gyda'm pabell bitw -- teimlwn dipyn o tent envy*. Nid oedd Rhodri ac Elin yn wahanol. Yr oedd pabell nhw'n deirgwaith y faint yr eiddof.

Mae'n amlwg bod gennyf lawer i'w ddysgu am yr hyn golyga "gwersyllu" yng Nghymru; yr oedd chippy, tafarn a Spar ar faes carafannau hefyd (gwlad wyllt fy nhin). Diolch i'r Spar, penderfynodd Rhodri brynu llosglo, cwrw, ac oenod ("eidionod" yw gair am "fyrgyrs cig eidion," felly dylai "oenod" fod yn air am "fyrgyrs cig oen" heb raid defnyddio gair Saesnegol fel "byrgyrs") er mwyn cael barbiciw, yn lle nag cerdded i'r Wyddgrug am swper. Ond am ryw reswm, ni phrynodd e gynnud tanio (fire starter), felly treuliasom ni awr a hanner yn ceisio tanio'r llosglo gyda phapurau newydd. Llosgasom ni dau rifyn Western Mail ac un rhifyn Guardian cyn penderfynodd Rhodri gerdded yn ôl i'r Spar am gynnud tanio.

Ni ŵn a oes wyth selsig a phedwar oenyn yn ormod o fywyd am ddau ddyn, ond bwytasom bron popeth. Yr hynny, plws wyth tun cwrw a photel gwin, achosai ninnau penderfynu aros yn ein gwersyll am y nos. Darganfûm bren a'i rhown yn y barbiciw trwy'r nos er mwyn cael tân bach y gallai bawb gasglu o'i amgylch. Ymddangos rhywrai eraill, Nic yn eu plith, a threuliasom ni'r nos yn gwrando ar y radio a siarad lol. Penderfynaswn erbyn diwedd y nos y gallwn ddeall pam mwynha bobl Eisteddfod yn gymaint.

Mae'r maes Eisteddfod ei hunan yn drydyddol, sef nid yw e'n bwysig i'r profiad. Y pwynt, y rheswm, y raison d'etre Eisteddfod yw'r rheiny a â i'r peth.

Peth sy'n taro fi am Eisteddfod yw'r ffaith ei bod yn freuddwyd Edwardaidd, Llundainaidd o ddiwylliant Gymru. Mae ganddi elfen o ffalsrwydd. Mae hynny'n iawn, wrth gwrs -- yr wyf yn dod o gymdeithas sy'n arbennig o hoff o greu diwylliant tros ei hunan. Os gwneir rhywbeth mwy na teirgwaith yn yr Unol Daleithiau daw yn draddodiad. Ond taw pobl cymer Eisteddfod mor ddifrifol a cheisio honni nad yw Eisteddfod yr hyn ei bod yn -- mae hynny'n mynd o dan fy nghroen tipyn bach.

Efallai'r peth a rwystra fi mwyaf yw nad yw'r weledigaeth gor-rhamantaidd o Gymru hon yn gyfeillgar i'r defnyddiwr allanol. Pan euthum i Eisteddfod am y tro cyntaf yn 2006, yr oeddwn yn chwilio am rywbeth i gyfiawnhau'r amser a thrafferth a rof i'r Gymraeg. Yr oeddwn eisiau rhywbeth i'w ddangos i'm gwraig er mwyn dweud: "See, honey. This is what all the fuss is about."

Mae'n anodd gwneud hyn gyda Chymru Gymraeg. Mae ganddi gerddoriaeth shit, ddawns wael, ac amryw bethau eraill a deimla fel gimmicks a gafodd eu creu ar gyfer ymwelwyr America a Lloegr a ymddangosai a gofyn: "Where are your leprechauns? Where is your tartan? What's so fucking special about you?"

Mae cymaint o'r rhinwedd cymdeithas Gymru Gymraeg wedi ei lapio yn yr iaith ei hunan. Mae'n anodd i rywun di-gymraeg gweld "what's so fucking special." Dweud gwir, mae'n anodd i fi i'w weld, hefyd. Mae'r pabelli crysau-T a bwyd organig a HSBC, y creigiau, y sefyll yn stond, a'r hanner can copi gwael o Bob Dylan yn siom i'r person a obeithia weld Cymru Gymraeg ar arddangos.

Drinking in the sunOnd eleni, ymhlith y carafannau a phabelli'r pentref ebrwydd y maes carafannau, ac ymhlith yr yfwyr gwin a chwrw maes Eisteddfod, gallwn i ddechrau deall yr hyn sy'n mor bwysig am y digwyddiad hwn. Dweud gwir, gellid (ac efallai dylid) llosgi lawr pob pabell wen PVC ar y maes Eisteddfod hwnnw a byddai'r peth a wna Eisteddfod gwerth yr ymdrech yno o hyd.

Ar ôl y tro gorfodol o gwmpas y maes Eisteddfod ("Yep, y ffycin creigiau yw yma. Yep, y dwsinau o gymdeithasau heb unrhyw bwysigrwydd i fi yw yma. Yep, y stondinau crysau-T sothachlyd yw yma. Check, check, check. Mae popeth yn ei le."), plannais fy hunan yn agos i stondin cwrw a mwynheais ddiwrnod haf. Yr oedd yn llwyfan bach yno ble dynwaredodd rhywun y Dynwaredwr Bod Dylan Rhif Un Meic Stevens a oedd yntau'n eistedd ymhlith y gynulleidfa. Safwn i ar yr ymylon, yfed fy nghwrw. O dro i dro, gwelwn i rywun fy mod yn eu nabod o'm cwrs, neu rywun ac maent yn fy adnabod o'r rhaglen.

Mwyaf nodedig o'r rheiny a adnabu fi bu Dyl Mei, o Genod Droog. Yn anffodus, bu rhaid i fi ddinoethi pa mor di-gŵl ydw trwy ofyn fe pwy yw e, ond o leiaf adnabyddwn i enw ei grŵp.

"Hei, dwi'n nabod chi!" dwedais.

Ac yr oeddwn am ddweud, "You're one of the few Welsh bands that I don't hate," ond nad allwn i gyfieithu hyn yn ddigon cyflym, ac nad oeddwn yn siŵr a fyddai'n swnio fel sarhad.

Yr oedd yr awyrgylch yn dda, gyda phawb yn siarad a chwerthin ac mewn hwyliau da. Sylweddolais taw hyn yw'r rheswm y dylwn werthfawrogi Eisteddfod -- cyfle i fodoli yn y byd rhamantaidd hwnnw ble mae pawb yn siarad y Gymraeg, ble nad yw siarad Cymraeg yn weithred herfeiddiol neu academaidd ond dim byd mwy nag rhywbeth i'w wneud, rhyw ffordd i gyfathrebu. A rhywsut, er na ddwedwn fod fy nheimladau am Eisteddfod wedi newid yn mawr, mae'r profiad wedi ail-ysbrydoli fi ychydig. Awn i adref gydag awydd brau newydd i ysgrifennu eto.

*Defnyddiais y ffraetheb hon sawl tro pan yr oeddwn yn Eisteddfod, a theimlwn ni wyddai bobl yr oeddwn yn ceisio gwneud cyfeiriad at theori Freud.

(Y pennawd yw'r hyn oeddwn eisiau gweiddi ar Cowbois Rhos Botwnnog)

Monday, 6 August 2007

Ar y ffordd

Yr wyf yn siŵr nad oes neb a sylweddola nad ydw'n blogio yr wythnos hon, oherwydd maent yn Eisteddfod. A gellir rhifo fi yn eu plith nawr. Byddaf yno yn fy mhabell o leiaf hyd ddydd Iau. Os yr wyf yn mwynhau a bod gennyf ddigon arian, efallai arhosaf am ysbaid hirach.

Os ydych chi'n gweld fi unrhywle o gwmpas, plîs dwedwch helo. Ar fy mhen fy hun byddaf (ni ddaw'r briodferch ifanc), felly byddaf yn awyddus cael cwmni.

Hwyl.

Athrylith

Wrth gwrs, mae'n amlwg bod telyn + Metallica = syniad gorau erioed.

Fy nghwestiwn yw: pam ni ddyfeisiwyd hwnnw gan Gymro?

Thursday, 2 August 2007

Trychineb

Treuliais fy more yn anfon e-byst at fy ffrindiau i gyd yn ôl yn y Twin Cities er mwyn bod yn siŵr bod pawb yn ddiogel. Ni sylweddolais o'r blaen faint o ffrindiau sydd gennyf yno, faint o'm hunan yw'n gysylltiedig i'r ardal honno. Yn ffodus, pawb fy mod yn nabod yn iawn. Er mae gennyf un ffrind a fu ei frawd yn gyrru tros y bont rhyw ychydig funudau cyn y dymchweliad. Yn ôl pob sôn, nad oedd unrhyw fath o rybudd cyn syrthiodd y bont.

Os nad ydych chi wedi clywed eto, cwympodd bont fawr yng nghanol y ddinas Minneapolis neithiwr. Bu cannoedd o geir ar y bont pan gwympodd y peth i gyd lawr i mewn Afon Mississippi. Gellir gwylio'r bont yn syrthio yma. Ni wyddys eto faint o bobl cafodd eu lladd.

Yr oedd y briodferch ifanc yn arfer gweithio wrth nesaf at y bont. Yn y llun hwn, gellir gweld cylch coch. Yr oedd hi'n arfer gweithio yn yr adeilad hwnnw cyn symudasom ni i Gymru. Y bont yn syth i'r de (ddwyrain) o'r adeilad yw'r un a gwympodd -- Intersate Highway 35 West (neu "35W" i bobl yr ardal). Gellir gweld ei hen adeilad hefyd yn y llun hwn, jyst uwchben y blwch sy'n dweud "School bus."

Mae'n anodd credu y gallai rywbeth fel hwn ddigwydd ym Minneapolis. Mae'r Twin Cities yn ardal a ymfalchïa mewn gwneud pethau'n iawn. Nid oes llawer o lygredigaeth -- os adeiladir ffordd neu bont neu adeilad, ac yn y blaen, cymer gormod o amser a gormod o arian, ond o leiaf gall bobl wybod y caiff ei adeiladu'n iawn. Mae hyn yn teimlo'n swrrealaidd. Disgwylid rhywle arall, efallai, ond nid yno. Fel dwedodd ffrind fi heddiw trwy e-bost: "Matt Lauer is reporting from 4th/University -- this stuff doesn't happen here!"

Teimlir y trychineb hwn yn y Cities am flynyddoedd. Caiff flynyddoedd i adeiladu pont newydd a bydd rhaid ail-arolygu bron pob pont arall yn y dalaith. Ond ym mhellach nag hynny yw'r effaith ar yr economi. Yr wyf yn siŵr y bydd y ddwy ddinas fawr yn goroesi hyn ond gall cael effaith ar y maestrefi gogleddol -- nid oes llwybr cyfleus o'r gogledd i Minneapolis nawr. Mae'n anodd bod yma ar hyn o bryd. Ni allwn wneud dim byd yn y Cities, ond teimlaf yn ddiwerth yma beth bynnag.

Dim geiriau