
Efallai ydych chi wedi gweld y llun a
rois ar fy mlog Saesneg yng nghofnod am Oktoberfest. Mae'n forwyn gwrw hawdd-ar-y-llygaid sydd ganddi chwech
stein o gwrw yn ei llaw. Pan fyddaf yn farw, bydd hon yno i fy nghroeso i nefoedd.
Ac am hon a'i thebyg meddyliaf pan ddweda rywun wrthyf ba mor wych yw Gogledd Cymru. Ar ôl darlledwyd y rhaglen ym mis Mai, cefais sawl berson
ddweud wrthyf fod y Gogledd Gogoneddus yn llawer gwell na Chaerdydd, llawer gwell nag unrhyw le yn y de, y gorllewin, y dwyrain, y byd i gyd. A dyna oeddwn i, yn meddwl: "A yw fe'n wir?" Oherwydd, petaech yn dweud wrthyf fod rhywle'n arbennig o wych, dechreuaf feddwl am lawer o bethau arbennig o wych y disgwyliaf i'w weld yno.
Felly, mae'n well dim ceisio "gwerthu" lle i fi, oherwydd mae gennyf ddychymyg gorfywiog. Heblaw hyn, mae gennym ni'r
ferch hon yn y de. Petai yna fwy o'i thebyg, gyda pheintiau o gwrw yn eu dwylo, ni fyddwn i fyth yn gadael Caerdydd.
Fel pethau mae, rhaid i fi fod yn hapus gyda'r lle am sbel doed a ddelo, oherwydd cychwynna ddosbarthiadau prifysgol unwaith eto yr wythnos hon. Chaf i ddim gyfle i adael y brifddinas am sawl wythnos. Yn barod rydw i'n codi yn gynnar eto. Bu'r briodferch ifanc ar ei gwyliau tra bu ei chwiorydd yma'r pythefnos diwethaf, felly cawsom ni'r moeth o gysgu yn hwyr bob bore. Ond dechreuodd hi heddiw ar swydd newydd yng Nghasnewydd ac roedd hi'n cyffroi erbyn 7 o'r gloch y bore hwn. Mentrais allan o'm gwely am 7:30 ac edrychodd fy rhosyn tlws arnaf yn ddu am gymryd mantais o'r ffaith nad oes gennyf swydd.
Rydw i'n nerfus am y flwyddyn sy'n dod, am sawl reswm, ond rydw i'n edrych ymlaen ati hefyd. Efallai ffydd ddall yw hon. Ni theimlaf yn barod am bethau, a phryderaf am safon fy Nghymraeg o hyd. Er gwaethaf y cwrs a wneuthum ym mis Gorffennaf, chefais i ddim lawer o gyfleodd siarad Cymraeg tros yr haf. Mae'r bai arnaf i am hynny -- gallaswn i wneud mwy i gysylltu â ffrindiau. Ond mae yna gylch creulon o deimlo fel nad yw safon fy Nghymraeg yn ddigon dda oherwydd chaf i ddim ddigon o gyfleoedd i'w defnyddio, felly nid af i allan gyda ffrindiau oherwydd ni fyddaf eisiau swnio'n dwp; nid wella fy Nghymraeg oherwydd ni ddefnyddiaf i hi, ac yn y blaen ac yn y blaen.
Ond fel dwedais, mae gennyf obaith y gallaf ailddarganfod fy hyder yn nhermau siarad â phobl a mynd allan. Gobeithiaf hefyd y gallaf wella fy nghanlyniadau -- pasiais y flwyddyn gyntaf, ond gŵn y gallaf wneud yn well. Er gwaetha fy mod yn amharod yn academaidd, rydw i'n barod am yr antur.
Mae'r tywydd yn berffaith ar ei chyfer. Mae'n teimlo fel yr hydref (wrth gwrs, mae
yn yr hydref, ond cofiwch taw'r llynedd bu'n dwym ar ddechrau'r flwyddyn). Mae'n atgoffa fi o gymaint o hydrefau Minnesota, pan deimlwn i gymaint o ddisgwyliad am y flwyddyn y roedd yn dyfod -- disgwyliad i ddechrau eilwaith, disgwyliad i ddod o hyd cariad newydd. Teimlai bopeth yn newydd. Wrth gwrs mae gennyf gariad y dyddiau hyn (ac atgoffa pobl fi amdani bob tro dwedaf rywbeth ewn am ferch arall**), ond mae'r teimlad yno o hyd.
Pan roeddwn i'n fachgen, byddai fy mrawd a finnau yn mynd i ben y bryn ar France Avenue South (ble mae'n cysylltu â
Overlook Drive) gyda'n sgrialfyrddau, ac saethem ni i lawr fe. Teimlaf rŵan fel teimlwn i ar y pen: nerfus, awyddus, ofnus, cynhyrfus.
*
Diawl. Defnyddiais gyfeiriad i Herman's Hermits yn y pennawd. Pa mor astrus yw hwnnw?**
Mae'n ddoniol y rhif pobl a goelia fi pan ddwedaf rywbeth egr fel: "Hoffwn gael hi yn sied ar gyfer personal use."
"Ond, mae gennyt ti wraig!" meddant nhw.
Yhm, ie. Gŵn i. Dim ond cymryd y piss oeddwn i.