Friday, 30 November 2007

FAQ: Being the fame in Welch, to a daintie new tune

Nid oes rheswm da ar gyfer y disgrifiad newydd ar fy mlog. Gwelais y brawddeg fel disgrifiad o gerdd "Byd y Bigail" gan Richard Hughes, c. 1620.

Yhm, ie. Mae'n taro mi fel rhywbeth doniol i'w gael fel disgrifiad blog. Hei, rydw i'n gorfod dysgu y shit 'ma -- dylwn geisio ei ddefnyddio rhywsut.

Thursday, 29 November 2007

Deublyg

Teimlaf euogrwydd tros y ffaith nad ydw i'n cofnodi'r dyddiau hyn. Mae yna sawl rheswm am hyn: nid oes gennyf amser, neu nid ydw i'n hunanreoli fy amser yn ddigon dda; nid oes gennyf rywbeth i'w ddweud; ni theimlaf fod yr hyn fy mod yn ei feddwl yn "bloggable."

Ni ŵn a ellir dweud bod fy mlogiau yn "llwyddiannus," ond maent yn ddigon fel hynny bod pawb fy mod yn eu nabod yn ymwybodol ohonynt. Hefyd, mae gennyf reol hunanosodedig nad allaf ysgrifennu rhywbeth ar fy mlog na fyddwn ei ddweud wyneb yn wyneb i berson. Felly mae yna rai pethau ni allaf eu gofnodi.

Rydw i'n achosi pethau swnio'n fwy cyffrous na maent. Fel petai rydw i'n cynllunio lladd rhywun neu rywbeth. Na. Y pwynt yw nad oes gennyf lawer o amser y dyddiau hyn er mwyn ysgrifennu, er gwaethaf y ffaith teimlaf mor euog amdano.

Problem gyda methu â chofnodi yn gyson yw mae'n achosi pethau bod yn ddatgymalog. Hynny yw, ysgrifennaf ar bwnc ond na fyddaf ei ddehongli yng nghofnodion eraill. Er enghraifft, ar ôl fy nghofnod diwethaf, roeddwn i'n bwriadu dod yn ôl ac ysgrifennu mwy ar y pwnc, a sut rydw i'n meddwl y dyddiau hyn y hoffwn ymgeisio am dual citizenship ym Mhrydain.

Yn fwyfwy, mae'n anodd imi ddychmygu mynd yn ôl i'r Unol Daleithiau, ac eithrio petai gennyf hyder y gallwn i ddychwelyd. Perthynas mi gyda Chymru yw un cymhleth, ond nid ydw i eisiau rhoi'r gorau iddi eto.

Rydw i wedi sôn yn gellweirus (ar y cyfan) o'r blaen am eisiau bod yn ddinesydd Prydain, ond erbyn hyn rydw i'n meddwl amdani'n ddifrif. Wel, difrifach. Peth arall i'w jyglo yw fe ar hyn o bryd. Ond mae yna fron ddwy flwyddyn i fynd ar fy nheitheb gyfredol. Felly mae yna amser imi feddwl am y peth.

Tuesday, 20 November 2007

Ga' i aros?

Pan roeddwn i'n arfer byw yn yr Unol Daleithiau, ceisio trefnu popeth er mwyn symud i Gymru, teimlwn fel roeddwn i'n brwydro erbyn y cloc.

Mae gennyf duedd bod yn felodramatig weithiau, felly byddwn greu yn fy mhen pob math o senario hunllef y byddai'n atal mi rhag symud yma. Collwn i gwsg tros y peth. Ofnwn y byddai llywodraeth UDA'n penderfynu yn sydyn na allem ni adael, neu y byddai fy menthyciad cael ei wrthod, ac yn y blaen.

Yn fwyaf yn aml (a), pryderwn i am bethau economaidd. Nid ydw i erioed bod yn gysurus â sefyllfa economaidd yn yr Unol Daleithiau, a sut rydym ni'n byw ar fynyddoedd o ddyled. Crëwn yn fy mhen ddadlau slippery slope y byddai wedi cadw mi rhag byth gadael. Gellwch chi weld y nerfusrwydd hwn yn y rhaglen amdanaf a ddarlledwyd yn ôl ym mis Mai, pan feddaf: "Dwi jyst eisiau gadael. Dwi jyst eisiau mynd."

Teimlwn i weithiau fel roedd gennyf ffenestr amser fach y byddai'n ei chau am byth, petai Rachel a mi fethu neidio trwyddi yn ddigon fuan. Cofiaf pan cyraeddasom ni ym maes awyr Gatwick, ym mis Gorffennaf 2006, teimlais fel buom ni wedi llwyddo dianc; bu eisiau arnaf gusanu'r ddaear (b).

Ie, fel dwedais: Rydw i'n felodramatig weithiau. Tra melodramatig. Gorfelodramatig.

Ond er gwaethaf hynny, teimlaf yn hapus fod yma pan ddarllenaf straeon newyddion am sut mae pethau'n mynd yn wael tros y môr. Mae'r ddoler yn plymio (c) ar hyn o bryd. Ymddengys taw bob dydd gwelaf stori arall am sut mae'r ddoler yn colli cryfder.

(a) "Most often" rydw i'n ceisio dweud.

(b) Er, ni wneuthum hyn oherwydd nad oeddwn eisiau customs meddwl fy mod yn wallgof, ac anfon ni yn ôl.

(c) Gŵn fod gair tafodieithol "plamo" yn dod oddi wrth air "plymen," ac, yn wir, mae economi UDA'n cael ei blamo.