7.1.08

Led-led

Bu'r briodferch ifanc a mi yn Iwerddon ar gyfer Nos Galan, a fu'n brofiad life-affirming mewn ffordd ryfedd. Ni chaf lawer o gyfleodd ffoi rhag y brifddinas y dyddiau hyn ac anghofiaf sut mae'n dda cael newid ar amryw amseroedd.

Oherwydd prinder arian, a chasineb Rachel tua hedfan, aethom ni i Iwerddon trwy drên i Gaergybi a fferi i Dún Laoghaire. Petai pethau'n mynd yn ôl cynllunio (ac nad aethant -- oherwydd y tywydd, bu rhaid inni aros yn y porthladd am dair awr ychwanegol), mae'n daith tua wyth awr. Ni phoenid Rachel a mi ganddi: gallem ni deimlo'n well amdanom ein hunain ar gyfer teithio wrth fodd mwy "gwyrdd"; mae'n well gennyf deithio heb y trafferthu o raid mynd trwy atal diogelwch Draconiaidd (a); a bu gennyf ddigon o amser i ddarllen yn llwyr Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau ar y daith lan ac yn ôl.

Hefyd, cefais lawer o amser i feddwl am bethau. Wrth gwrs deuthum i at benderfyniad y dylai fod yn drên tra-chyflym oddi wrth Gaerdydd i Gaergybi, neu, o leiaf, trên heb 20 stop. Dylai fod yn: Caerdydd - Wrecsam - Caergybi. Mae'n bethau fel hyn sy'n achosi mi meddwl fel petawn yn Dori Saesnig: "This place is a joke, what. These people want independence and they can't even sort out how to run a fucking train on existing lines. What!" (b)

Sylweddolais taw peth da arall am deithio ar drên yw effaith y gall gael ar economi canolau trefi. Nid oes llawer o sôn am hyn, ond petai ragor o bobl deithio ar drenau, gallai gynorthwyo'r ardaloedd ble mae gorsafoedd trenau. Pan fu rhaid i Rachel a mi aros am awr yng Nghaergybi cyn cychwyn yn ôl i Gaerdydd, aethom ni i gaffi ar Market Street (c) a theimlai petai y roeddem yn ôl yn y hen ddyddiau.

Ni ŵn yn union pa "hen ddyddiau" fy mod yn cyfeirio atynt -- dyddiau a fu cyn mi. Dyddiau y roedd pan adeiladwyd cynifer o'r gorsafoedd trenau, efallai. Pan eir i orsaf drên hyd yn hyn, mae yna deimlad o le sydd wedi arfer bod, teimlad o esgeuluso. Gellir gweld drysa sydd wedi cael eu cau â brics. Ac o gwmpas yr orsaf, yn aml mae pethau'n mynd yn wael. Wedi mynd yn wael. Yn aml, petai person ddefnyddio gorsaf drên fel porthladd i ddinas/dref Cymru, caiff deimlad bod y ddinas wedi rhoi'r ffidl yn y to. Pan welaf y lleoedd hyn, meddyliaf wrth mi fy hunan: "Sut bu'r lle 'ma? A fu dafarnau yma? Caffis? Bywyd? Gobaith?"

Rhaid cyfaddef nad yw Caergybi ar ben fy rhestr o leoedd i'w ymweld â nhw, ond pan eisteddai Rachel a mi yn y caffi hwnnw -- mwynhau bywyd go iawn yn hytrach na'r cachu annioddefol a ffeindir ar droli trên -- meddyliais wrthyf fy hun: "Ie, dyma sut dylai pethau fod."

-------------------------------
(a) Ni allaf ddod â dim byd mwy na 100ml o ddŵr?! Fuck you.

(b) Ie, gŵn nad yw pethau mor syml â hynny.

(c) Gyda llaw, os byth petaech ffeindio chi eich hunan yng Nghaergybi, argymhellaf fynd i'r Internet Cafe; cafodd y briodferch ifanc eu chili a dwedodd hi amdano: "This is almost as good as what I would make." Mae'r briodferch ifanc yn gogyddes arbennig o fedrus, felly mae hon yn ganmoliaeth uwch.

1 sylw:

Rhys Wynne said...

Cytuno bod gorsafoedd trenau Cymru'n gallu bod yn ddi-enaid a di-groeso ofnadwy, hefyd mae pryd o fwyd mewn caffi stryd lot neisiach na rhybeth plastig mewn catron plastig sy'n costio crocbris a'r drên neu mewn caffi o fewn maes awyr.