"Prif gryfderau Barn yw:
- ei hunaniaeth glir o fewn y farchnad newyddiadurol Gymraeg, fel yr unig fisolyn sy’n trafod materion cyfoes a diwylliannol.
- safon uchel ei gyfranwyr."
Fuck yeah, bitches! Safon uchel ei gyfranwyr. Amdanaf i mae'r arolwg hwnnw'n sôn. Mae Barn yn y cylchgrawn gorau erioed, wrth gwrs. Un rheswm am hynny yw'r ffaith ei fod yn bodoli.
Rydw i'n siŵr y clywsoch chi'r newyddion yr wythnos diwethaf am y gwaith ofer hwnnw a alwir Y Byd. Yn y cyfanswm, dwedodd arolwg ar ran Llywodraeth y Cynulliad taw tra-optimistaidd yw gobeithion Y Byd. Ac mae hyn yn digwydd mewn awyrgylch ble "nid yw’n amser ffafriol, ac nid yw Cymru’n lle ffafriol, ar gyfer lansio papur newydd mewn unrhyw iaith."
Wrth ddarllen yr arolwg, synhwyrais i oddi wrtho'r un peth a deimlaf am Y Byd: mae'n syniad da, ond nid oes ganddo gyfle o lwyddo.
Fel pethau mae, nid oes ganddo gyfle o ddechrau hyd yn oed. A dyna'r peth sy'n cythruddo mi. Mae'n amlwg imi na fydd y balŵn plwm hwn yn mynd unrhyw le, a theimlaf ei fod yn sarhad i'r ewyllys da siaradwyr Cymraeg i barhau gydag addewidion gwag o'i ddod. Erbyn hyn, rydw i'n teimlo fel aelod praidd William Miller ym mis Tachwedd 1844: "Hang on, boys. I think we've been duped."
Petawn i wedi rhoi arian i Y Byd ar gyfer tanysgrifiad byddwn i'n gynddeiriog erbyn hyn ac yn ffonio nhw bob dydd er mwyn mynnu cael fy arian yn ôl.
Wedi dweud hyn, mae yn sefyllfa drist. Dwedwyd bod yna angen am y wasg ar gyfer democratiaeth i weithio -- rhaid y werin bod yn wybodus i gydgyfranogi'r hyn sy'n digwydd o'u cwmpas. Ac eithrio'r BBC, mae gan Gymru fuck all yn nhermau o newyddion am yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru (sori, Western Mail, nid yw straeon am Gavin Henson a chavs sy'n tanio biniau sbwriel yn newyddion). Rydw i'n siŵr bod yna awydd gan rai pobl rhoi'r bai ar Loegr am hynny, ond nid yw pethau mor syml. Mae gan sawl ardal ar led y byd yr un fath o broblemau. Beth bynnag y rheswm, mae'r wasg a'r werin wedi colli cysylltiad gyda'i gilydd.
Ac yn yr awyrgylch hwn o anniddordeb, rhaid gofyn a oes pwynt i barhau gyda datganoli. Y ddadl o blaid llywodraeth Cymru yw amddiffyn rhag gormes yr allanolwr. Hynny yw, i fod yn siŵr nad yw'r llais y Cymry'n cael ei foddi gan leisiau eraill o leoedd eraill. Ond os nid oes gan y Cymry ddiddordeb mewn defnyddio eu llais, mae gennych ormes yr elit.
VOCAB
1 day ago

2 sylw:
Dwi ddim wedi bod yn siarad allan yn erbyn Y Byd gan mod i eisiau osgoi rhyw fath self fulfiling prophecy [sll?], ond mae angen dod i rhyw bwynt ble bydd rhaid i Dyddiol Cyf wynebu'r realiti.
Dwi'n meddwl weithiau gyda'r holl oedi bod gan y buddsoddwyr (gor obeithiol fel fi) mwy o ffydd yn y peth na Dyddiol Cyf eu hunain.
O ran datganoli, dwi'n meddwl bod pwynt iddo (ond wedyn, mi ydw i'n genedlaetholwr).
Nid adwaith gwrth-seisnig yw'r galw am ddatganoli/hunanlywodraeth/annibyniaeth, ond awydd am gymeryd rheolaeth dros ein dyfodol ein hunain - wyt ti'n darllen unrhyw erthyglau eraill yn Barn oni bai am dy erthygl di? :-)
Dwi'n cytun mae'n ymddangos bod y mwyafrif o'r boblogaeth ddim yn malio cachiad am beth sy'n digwydd o ddydd i ddydd yn wleidyddol, ond dwi ddim yn meddwl bod hynny yn golygu bod pobl yn ymwrthod â'r syniad o ddatganoli. Er mor dila yw'r Cynulliad a bod digon yn dal yn fodlon ei weld yn diflannu - hen Brits o'r blaid Lafur a Thoriaid yw'r rhain sy'n mynd i farw allan rhwy ddiwrnod, tra bod yr ymdeimlad o Gymreictod yn cynyddu ymysg pobl iau Cymru, dim ots beth yw eu hiaith na'u cefndiroedd nhw.
Beth? Mae gan Barn gyfranwyr eraill? Newyddion imi.
Post a Comment