28.1.08

Yr imperialydd olaf

Yn Llundain oeddwn i tros y penwythnos. Neu dylwn i ddweud "Yn Llundain bûm"? Oherwydd pan soniaf am y penwythnos, rydw i'n sôn am adeg benodol, onid ydw i? Gramadeg Cymraeg: more fun than a kick in crotch, but only just.

Beth bynnag, euthum i Lundain er mwyn ymweld â hen ffrind o Minnesota, Jen. Os cofiaf yn iawn, dwedais wrth Fflur fod Jen yn gyn-gariad. Mae hyn yn ymestyniad o'r gwirionedd.

"I've got a girl in every port," meddwn i.

OK, roeddwn i'n gwneud mwy nag ymestyn y gwirionedd. Mae gennyf duedd i wneud hyn pan deimlaf yn is mewn presenoldeb person. Teimlaf fel mae yna angen arnaf gyfiawnhau mi fy hunan rhywsut. Petawn i geisio awgrymu fy mod yn ddeallus, byddai Fflur weld trwy hynny yn syth. Yn ei le, soniaf am the womens I got. Felly dyna oeddwn i'n ceisio big myself up trwy awgrymu bod merch a âi i swper gyda mi ychydig droeon yn gyn-gariad.

Jen Rodvold and meBeth bynnag mae hi, euthum i'w ymweld. Dyma lun i brofi'r peth. Tynnais y llun hwn gyda'm llaw chwith pan euthum i Greenwich ar brynhawn Sadwrn. Esboniais ar fy nghofnodolyn Saesneg y roeddwn i yno chwilio am Primrose Hill, lle cynhaliodd Iolo Morgannwg yr Orsedd gyntaf. Ond wrth gwrs, nid yw Primrose Hill yn agos i Greenwich o gwbl. Wel, mwy agos na Chymru, ond chi'n deall fy mhwynt. Gŵn i fuck all am ddaearyddiaeth Llundain.

Ond, fel dwedais ar fy nghofnodlyn Saesneg, cawsom ni hwyl beth bynnag. Ni ŵyr Jen ddim byd am Lundain chwaith, felly roeddwn i'n gweini fel arweinydd taith iddi hi. Roedd y tywydd yn berffaith ac ar ben y bryn hwnnw, teimlais gysylltiad i yma. Nid ydw i'n siŵr am beth rydw i'n meddwl pan ddefnyddiaf y gair hwnnw: "yma." Beth yw ystyr o "yma" pan deimlaf gysylltiad (bach) i Gymru, Llundain ac Iwerddon ar unwaith?

Yr ail dro i hyn digwydd bu hwn. Efallai bod y teimladau o estroniaeth yn dechrau treulio tipyn bach. Ac maent yn cael eu disodli gan imperialaeth, ymddengys. Hmm...

0 sylw: