15.2.08

Sorry, what were you saying?

Nid y cofnodolyn hwn o'r math sy'n trafod pethau. Dylwn i wneud hynny'n glir. Rydw i'n sylweddoli sut gallech chi gael eich drysu gan fy nghofnodion diweddar -- roeddwn i'n sôn am wleidyddiaeth yr Unol Daleithiau ac wedyn am ddiffyg papur dyddiol yng Nghymru.

Ond, a dweud y gwir, nid oes gennyf ddiddordeb mewn sgwrsio gormod ar y pynciau hyn. Os ydych chi eisiau ymuno trafodaeth ar rywbeth, ewch i Maes-e. Mae gennyf i fwy o ddiddordeb mewn bronnau a chwrw.

Petaem ni mewn tafarn ac oeddech chi'n ceisio siarad â mi am sut rydw i'n methu â deall pam mae angen Cymru papur dyddiol materol, byddwn i "clock out" yn fy mhen a dechrau sganio'r ystafell am ferched i edrych arnyn nhw (ac eithrio petaech chi fod yn fenyw eich hunan -- wedyn byddwn i'n llygadrythu ar dy frest).

Y ffaith syml yw, nid oes gennyf ddigon o ddiddordeb yn y pwnc o bapurau dyddiol i wrando arnoch chi. Yn fy marn, mae'n pipedream i Gymru eisiau'r peth erbyn hyn. Efallai bod fi'n anghywir ond mae'n bur annhebyg y gwnewch chi newid fy meddwl. Cymer cysur, felly, nid mi yw'r person sy'n gwneud y penderfyniadau ar y peth. Fel Americanwr, ni allaf gyfrannu o gwbl i sut caiff pethau eu rheoli yma. I am just some drunkard in the corner.

Rydw i'n nodi'r ffaith hon oherwydd rydw i wedi clywed oddi wrth rhai pobl sydd eisiau imi roi fy enw ar ddeiseb sy'n annog y llywodraeth i... yhm... wneud... yhm... rhywbeth am y ffaith nad oes gan Gymru ffased hynafol o gyfryngau. Sori, wnaf i ddim.

Rydw i'n amheugar am effeithioldeb deisebau ar-lein beth bynnag, ac nid ydw i'n siŵr am yr achos (faint o arian ydych chi eisiau'r llywodraeth rhoi i'r Papur Dyddiol Cysegredig hwn? Am faint o amser? Ar ryw bwynt, onid yw fe'n ddianghenraid oherwydd eisoes mae gan Gymru tarddle newyddion sy'n cael ei gyflogi gan y llywodraeth, sef y BBC). Ond nid ydw i'n rhyw fath o right-wing conspiracist fel canlyniad, felly paid â diddymu mi fel ffrind Facebook (ie, mae pobl wedi gwneud hyn imi o'r blaen) neu, yn gyfleus methu â fy ngweld yn y dafarn (ie, maen nhw wedi gwneud hynny, hefyd). Mynegaf fy marn ar fy nghofnodolyn ond ni fynnaf ichi ei derbyn.

Petaech chi eisiau imi roi fy enw ar ddeiseb, dylech sefydlu un sy'n annog merched rhwbio eu bronnau yn fy erbyn.

1 sylw:

Bugail Aberdyfi said...

Dwi'n meddwl bod ti wedi datblygu perthynas Caru-Casau gyda popeth Cymraeg. Felly mae'n swyddogol, ti'n Gymro!

Ond ar pwynt arall, dwi'n meddwl wyt ti cael profiad fel llawer o bobl eraill o fewn y Cymuned Cymraeg. Ti yn cael y bobl ma weithiau sydd yn meddwl 'Os ti ddim yn cefnogi XXX, ergo, ti'n erbyn y Gymraeg'.

Freedom Fries Americans dwi'n meddwl buaset yn galw ar draws y dwr....