Efallai gwelsoch chi'r newyddion heddiw bod y llywodraeth eisiau newid y broses o ddod i fod yn Brydeiniwr. Fel person sydd eisiau bod yn ddinesydd y Deyrnas Unedig mae'r newyddion hyn yn arbennig o ddiddorol imi.
Pob tro mae yna sôn am fewnfudo, teimlaf tipyn bach yn nerfus oherwydd y natur value-added o'r gair "mewnfudo." Yng ngwleidyddiaeth, yn aml iawn caiff gair math o werth iddo. Er enghraifft: democratiaeth = da. Pob tro mae person yn sôn am ddemocratiaeth, mae yna awgrym an-llafar ei bod hi'n dda. Yn yr un modd, mae mewnfudo'n beth drwg. Pob tro sonia gwleidydd am fewnfudo, defnyddia'r un tôn o lais â byddai wrth sôn am drosedd.
Gellir teimlo weithiau taw ar gyfer pobl yn y llywodraeth mae gair "mewnfudo" yn gôd am "darkies." Oherwydd, pan sonia pobl am fewnfudo, mwy nag arfer soniant am fewnfudo gan bobl o Affrica ac Asia. Ond yn anffodus, mae'r rheolau sy'n cael ei datblygu er mewn delio â'r coloured chaps yn cymhwyso i minnau.
Amheugar ydw i, felly, am newyddion heddiw. Pryderaf y crëir gan y llywodraeth gormod o gylchau imi neidio trwyddynt.
Treuliais dipyn o amser heddiw mynd trwy'r ddogfen The Path to Citizenship: Next Steps in Reforming the Immigration System, sy'n amlinellu yr hyn bod y llywodraeth eisiau ei gwneud. Wel, mae'n ceisio amlinellu; a dweud y gwir mae'n hynod o amwys am rai pethau. Er enghraifft, pan soniant am eisiau mewnfudwr i "demonstrate commitment to the community" am beth yn union a ydyn nhw'n sôn?
Dwedir yn y ddogfen y byddai "active citizenship" cyflymu'r broses o ymgeisio i fod yn ddinesydd. Rydw i'n o blaid y syniad hwnnw. Ond mae'n aneglur ar sut i fod yn "active citizen" ac eithrio gwirfoddoli. Rydw i'n teimlo fy mod i'n "active citizen" yn y gymuned Gymraeg, ac rydw i'n gweithio i fod yn fwy gweithgar. Ond a fyddai hynny'n cyfrif tua'r amcan o fod yn "active citizen"? Rhywsut ni chredaf byddai cyflymu fy ymgais imi ddweud: "Yeah, I go to a lot of Welsh-language events."
(Er, i fod yn deg, sylweddolais y dweda'r ddogfen: "The requirement to speak 'English' is referred to in this document, but please note that demonstrating knowledge of either Welsh or Scots Gaelic also satisfies this requirement.")
Hefyd pryderaf am y ffaith y dweda'r ddogfen nad oes gan fyfyriwr llwybr i ddinasyddiaeth. Felly petawn i barhau yn y brifysgol a cheisio am radd uwch, ni fyddai wneud ddim byd tua fy ngobeithion o fod yn Brydeiniwr. Byddai rhaid imi ddod o hyd ffordd o hawlio fy mod yn "highly skilled worker." Nid oes gennyf siawns o wneud hynny. Awdur ydw i eisiau bod -- nid oes gan awdur unrhyw fath o fedr; dyna pam mae'n awdur.
Yn amlwg, y ffordd haws imi fod yn ddinesydd yw priodi rhywun sy'n ddinesydd eisoes. Dyma pam rydw i am ofyn Catrin Dafydd i'm priodi.
Er, nid ydw i'n siŵr sut teimla'r briodferch ifanc am y cynllun hwn. Neu Catrin Dafydd chwaith.
VOCAB
8 hours ago

3 sylw:
da clywed yn y cyd-destun hwn fod "english" yn cynnwys "welsh" - ni roddwyd digon o bwyslais ar y ffaith hon gan y cyfryngau sa' i'n credu.
Pob tro dwi'n clywed straeon fel hyn ar y newyddion, dwi'n meddwl dawr ddim am y pet ac yn ei weld fel tipyn o jôc, ond i rhywun yn dy sefyllfa di allai weld ei fod yn ddatblygiad a all arwain at wneud rhywbeth sydd eisioes yn anodd yn anoddach fyth.
Dwi ddim yn siwr beth yw fy marn am yr orfodaeth i fod yn rhul yn iaith/ieithoedd Prydain/Cymru, ond yn sicr petawn i'n meddwl am fudo i wlad arall byddwn i'n sicr eisiau bod yn weddol rhugl cyn cyrraedd yno.
Mae'r syniad o orfod gwneud gwaith gwirfoddol/cymunedol yn tipyn o jôc, achos dim ond canran fechan (ond gweihtgar) o boblogaeth gynhenid Prydain sy'n gwneud unrhywbeth gwirfoddol dwi'n siwr.
O ran dangos eich bod yn medru'r iaith, efallai gallai mynnu gwneud y prawf yn Gymraeg fod o fantais i ti. Efallai mi ti fyddai'r cyntaf erioed i'w sefyll yn Gymraeg, a fyddwn i ddim yn ei roi heibio'r awdurdodau Prydeinig i fod a swyddog di-Gymraeg yn dy brofi sy'n dallt dim Cymraeg. Bydda nhw wedyn yn mynd "fuck knows what he just said, but it sounded good, we'd better let him in" - neu rhywbeth tebyg!
Beth ydw i'n gweld fwyaf amwys am y canllawiau newydd ydi'r cyfeiriadau at 'British values' a 'British culture', fel petai'r rheiny yn bethau hunain-esboniadol y mae pawb yn gwybod beth ydyn nhw. Dwi'n dueddol o feddwl mai'r peth difyr am Brydain ydi NAD oes 'na ddiwylliant homogenaidd y mae pawb yn prynnu i mewn iddo.
Post a Comment