28.2.08

You win some, you lose some

Mae Shiona'n mynd.

Hen hen ffrind yw Shiona y rydw i'n ei nabod ers fy nyddiau ym Mhortsmouth, mwy na degawd yn ôl. Roeddwn i'n arfer dweud ar y cofnodolyn hwn y byddwn i gadael y briodferch ifanc er mwyn Shiona. Roeddwn i'n dweud hynny pan oedd yna 5,000 milltir rhyngom ni. Nid yw mor gellweirus imi ddweud y peth bellach, gyda minnau'n byw ym Mhrydain erbyn hyn. Yn enwedig oherwydd tuedd rhai pobl credu taw gwir bur yw popeth ysgrifennaf amdanaf fy hunan.

Gan ffawd glaniwyd y ddau ohonom ni yng Nghaerdydd yn yr un adeg. Tros y flwyddyn a hanner diwethaf, mae Shiona'n byw ¾ milltir i'r lan y ffordd oddi fy nghartref. Ond mae hi'n mynd yn ôl i'r Alban ar ddydd Gwener. Mae hi wedi cael digon o Gymru.

Tra oedd pethau'n mynd yn wael imi'r llynedd roedd hithau'n brwydro dod o hyd ei lle yng Nghymru hefyd. Ni allai hi ddatblygu cyfeillgarwch gyda phobl yma. Daeth hi i Gaerdydd er mwyn ennill gradd uwch yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Fel minnau, ni theimlai hi'n groeso.

Ond roedd ein sefyllfaoedd yn wahanol. Yn gyntaf, daeth Shiona i Gymru gyda dull o feddwl nad yw hi'n hoffi'r Cymry. Rhy deimladwy ydyn nhw, yn ôl Shiona; ni wyddant sut i wneud hwyl am eu pennau eu hunain. Daeth hi yma gyda syniad rhagosod negyddol ac yn y modd o gael ei siomi, ni siomid hi. Ond, wedi dweud hynny, mae'n anodd gweddu mewn unrhyw le newydd, dinasoedd yn benodol. Rhaid cydymdeimlo â hi rhywsut. A hefyd, annhebyg imi, ni chafodd Shiona ei chusanu gan bobl enwog Cymru.

Pan oedd pethau mor anodd imi'r llynedd, nid oedd arnaf i awydd cymdeithasu o gwbl; ni welwn i lawer o'm hen gyfaill felly. O fis Gorffennaf 2006 i fis Gorffennaf 2007, gwelais iddi hi ddim ond pedwar tro. Yn y Gymraeg neu'r Saesneg, nid oedd arnaf i eisiau siarad â neb. Ond yn enwedig -- rhaid imi gyfaddef -- nid oedd arnaf i eisiau siarad â rhywun a fyddai beirniadu Cymru, ac yn yr un modd beirniadu minnau a'm penderfyniad rhoi cymaint o'm hunan i'r lle hwn. Tyfodd pellter rhyngom ni.

Erbyn hyn, diolch i bobl megis Fflur a Llŷr ac, wel, uffern, shitloads o bobl a dweud y gwir, yn araf araf rydw i'n dechrau teimlo'n fwy cysurus yn yr hen Gymru or-deimladwy, di-hiwmor hon. Ac mae Shiona wedi chwerwi'n bellach.

Euthum i ymweld â hi ddoe, er mwyn dweud ffarwél. Wrth siarad â hi, sylweddolais fy mod i wedi gweddu pellach i ddull o feddwl Cymreig oherwydd teimlwn i euogrwydd am ei theimladau tua Chymru.

"O, mae'r bai arna' i am hyn," meddyliwn i.

Roeddwn i'n ymddwyn fel cynifer o Gymry ar ôl darganfuwyd am anhapusrwydd fi yma. Roeddwn i'n teimlo y dylwn i wedi gweithio'n galetach i wella agwedd fy nghyfaill tua Chymru; dylwn i wedi gweithio'n galetach tros Gymru, er mwyn Cymru. Fel petai taw dyletswydd fi yw sicrhau good PR i'r wlad a'i gwerin. Rydw i'n dechrau teimlo synnwyr o berchenogaeth.

Teimlais yn drist wrth adael tŷ Shiona ddoe. Rhois gwtsh (a) iddi a theimlwn i fel petai y byddai hwn y tro diwethaf imi ei gweld hi. Mwy na thebyg, nid yw hynny'n wir. Yr hyn y roeddwn i'n ei deimlo, credaf, oedd y lleddf o ddweud ffarwél wrth ddarn o'm fy hunan. Mae'n anodd ei esbonio.

Ond wrth gerdded adref, calonogais i ychydig hefyd. Bu'r haul yn llachar, gallwn i arogli sglodion yn yr awyr. Edrychais i tua the Dell ac allan pellach tua'r bryniau coedwig Leckwith a meddyliwn wrthyf fy hunan: "Dwi'n dechrau nabod y lle 'ma."

(a) Dyw "cwtsh" ddim yn air yn ôl Cysgeir. Awgrymir ganddo y dylwn i ddefnyddio "cofleidiad." Ond swnia "cofleidiad" fel rhyw fath o weithred lawfeddygol.

0 sylw: