Wednesday, 5 March 2008

Ansuddadwy*

"The perfect Democrat." Dyna'r geiriau a ddefnyddiodd fy nhad ar nos Sul i ddisgrifio Hillary Clinton. Roedd sŵn o dderbyniad trist i'w lais. Cefnogwr Hillary yn y bôn yw fe. Rydw i'n meddwl bod ganddo "crush" arni; petai Hillary ymddangos ar garreg drws fy rhieni a mynnu ar ei gael, byddai diwedd priodas 36-mlynedd dod ymhen eiliad.

"I just wish people could see that she's the best candidate" meddai fe. Swniodd fel petai'n agos i grio.

Ond siŵr o fod mae'n dawnsio jig heddiw.

Nid ydw i mor siŵr am bawb eraill. Gellid gweld cyn dydd Mawrth y roedd y cyfryngau eisiau gweld knockout blow ddoe, yn lle na hwyhau i mewn yr anadnabyddus. Ni chofiaf ras megis yr un hon yn fy mywyd. Yn ôl fy nhad ni chofia ras megis yr un hon yn ei fywyd chwaith. Sonnir gan rhai am y 1968 Democratic Convention pan oedd yna gwffio ymhlith y mynychwyr, ond yn ôl fy nhad bu'r canlyniad y convention hwnnw'n weddol sicr cyn fe'i cynhaliwyd.

Nawr mae gennych chi ddau ymgeisydd sy'n -- mwy neu lai -- ochr yn ochr gyda'i gilydd ac ymddengys y bydd pethau'n parhau i fod fel hynny trwy'r primaries a chawcysau.

Thema a welwn ni drosodd a throsodd yn y misoedd dyfod yw hon: dryslydaeth ac anghytundeb ymhlith pleidleiswyr yr Unol Daleithiau. Ar ôl wyth mlynedd o GW, a'r chwerwedd sydd yn datblygu ers etholiad 2004, meddyliaf y roedd rhai pobl yn disgwyl/gobeithio am weld landslide yn yr etholiad hwn -- a clear-cut victory for whoever the Democrats chose.

Ond mae'r broses o ddewis y Democratic nominee yn dangos nad yw pethau mor syml. Mae yna wahaniaethau dwfn yn yr Unol Daleithiau. Mae'n wlad fawr gyda phoblogaeth amrywiol. Pwy bynnag sy'n cario'r faner tros y Democrats ar ôl mis Awst, ni chaiff fe/hi lwybr hawdd i'r arlywyddiaeth.

Cynhelir y Democratic National Convention o 25ain i 28ain Awst yn Denver, Colorado. Ym mis Awst, felly, caiff pethau eu sortio mas, mwy na thebyg. Mae yna ddau ddull o feddwl ar hyn:
1) Mae'n beth da.
2) Mae'n beth drwg.

Am y Democrats ydw i'n sôn, wrth gwrs. Yn nhermau o'r hyn mae'r Republicans yn ei feddwl, maen nhw'n hapus iawn i weld pethau parhau; cymaint o gymhlethdod ac anhrefn a gelyniaeth ymhlith y Democrats ag sy'n bosib yw peth da iddyn nhw.

Ac wrth gwrs, dyna'r ddadl erbyn gweld y ddau ymgeisydd Democrat parhau i ymladd gyda'i gilydd am bum mis rhagor. Prydera'r Democrats y bydd tyndra ymhlith y blaid yn rhoi'r etholiad i'r Republicans. Tra mae'r Democrats yn brwydro i sortio pethau mas, gall y Republicans treulio'r un amser yn casglu eu hunain heb orfod pryder llawer am ddiffinio nhw eu hunain rhag y gystadleuaeth.

Ond efallai taw peth da yw'r tyndra. Gallai ddenu pobl newydd i'r broses. Yn arfer, byddai pethau hyn wedi cael eu penderfynu erbyn hyn ond nawr mae gan daleithiau bach deimlad o bwysigrwydd. Efallai taw'r sefyllfa hon gallai helpu adfywio gwleidyddiaeth yn yr Unol Daleithiau, lle mae yna gynifer o bobl a deimla fel maen nhw wedi cael eu hanwybyddu. Ond, wrth gwrs, gan allai'r ras rhwng Hillary ac Obama ddenu pobl i'r broses, gallai'r convention eu gwrthyrru nhw.

Yno, yn swyddogol, gwna'r delegates 'ma ydych chi'n clywed cymaint amdano bleidleisio o blaid Obama neu Hillary. Mwy na thebyg ni chaiff un neu'r llall digon o delegates i gipio'r nomination ac bydd popeth felly yn y dwylo'r super-delegates (a). Ac yna mae perygl o siomi'r gobaith ac egni. Yn fy marn i, mae gan y super-delegates awra o'r smoke-filled back room diarhebol. Petai Hillary i ennill diolch i'w chysylltiadau, tybiaf y gallai hynny brifo'r Democrats a chreu llwybr haws i'r Tŷ Gwyn ar gyfer John "Mae Iraq yn syniad rhagorol" McCain.

Yn y cyfanswm, yr unig beth y gallaf i ddweud am ganlyniadau ddoe yw bod angen cyntun arnaf i.

* Unsinkable

(a) Pam mae Americanwyr mor hoff o'r gair "super," tybed?

1 comment:

Benjiman said...

Dw i wedi pleisio Obama ond mae Hillary neu Obama yn iawn. Dw i ddim hoffi McCain. Bydden ni'n fod ymladd am byth gyda McCain yn y ty 'wyn.