27.3.08

Cofnod y rydw i'n debyg i'w ddileu

"Rwy'n ddim. Dwy' ddim wedi cyflawni unrhyw beth. Does gen i ddim i'w wneud ond marw, a wnaiff marw hyd yn oed ddim ond pwysleisio'r ffaith 'mod i'n ddim byd."

Dyfyniad oddi Cadw Dy Ffydd, Brawd gan Owen Martell yw hwnnw, ac rydw i'n ei deimlo'r dyddiau hyn -- yr unigrwydd ynddo.

Os nid ydych wedi darllen y nofel, rhybuddiaf ichi nad oes llawer o bobl yn fy modiwl Rhyddiaith Ddiweddar sy'n ei hoffi. Nofel ddiflas lle nad oes unrhyw beth yn digwydd ynddi yw barn mwyafrif o'm cyd-fyfyrwyr. Byddwn i cytuno ag hynny ar ryw radd. Yn y bôn mae'n stori am ddyn sy'n mynd o Lundain i Ganol-o-Ddim-yn-Unlle, Michigan. Mae'n daith ddi-nod; wedyn mae yna ddiwedd nad yw'n gwneud synnwyr i mi.

Seriously, Owen, what the fuck is up with that ending? Tybiaf y cafodd rhywun ei saethu yn y diwedd. Ond pwy? Gan bwy?

Atgoffa'r diwedd hwnnw imi o stori yr ei ysgrifennais pan roeddwn i'n 12 oed, ar gyfer dosbarth llenyddiaeth. Fel gyda phob un o'm hymdrechion ysgrifennu, rhedodd y peth yn hir a bu angen arna' i ofyn am fwy o amser i'w gwblhau. Daeth yr ail ddyddiad cwblhau ac o hyd doeddwn i ddim wedi gorffen y stori. Felly ysgrifennais: "And then the world blew up."

(Gyda llaw, dwi am wneud hynny eto rhyw ddydd pan rydw i'n awdur enwog)

Ond mae hanes lenyddiaeth yn frith â nofelau gyda diweddion gwan. Rhof i Ernest Hemingway ar bedestal er enghraifft, ond rhaid cyfaddef: dude couldn't write an ending for shit. A wyt ti wedi darllen A Farewell to Arms? Clasur, heb gwestiwn. Ond dyna fi wrth orffen y peth yn bloeddio ar y llyfr: "And?! And?! What happens now?" Ac, a dweud y gwir, nid oedd diwedd fy nofel innau mor dda. Er nid oedd gweddill ohoni mor dda chwaith.

Yn achos Owen Martell, mae'r 180 tudalen eraill ei nofel yn weddol fedrus. Yr hyn fy mod i'n hoffi am y nofel yw sut mae O.M. yn mynd ati i ddarlunio unigrwydd ac iselder, a'r afiechyd meddwl sy'n dod â nhw.

Mae unigrwydd yn afiechyd. Clefyd. Pa bynnag gair eich bod chi eisiau ei ddefnyddio. Mae'n rhywbeth sy'n eich bwyta chi o'r tu mewn. Mae'n llurgunio eich deallusrwydd o'r byd o'ch cwmpas. Mae fe mor anodd, mor greulon. Ond annhebyg i afiechyd megis Alzheimer's neu lupus, neu rywbeth arall sy'n cael ei phortreadu gan ffilmiau cropian a cherddoriaeth deimladwy ar Sport Relief, ni ellir llyncu llond llaw o bils ar ei gyfer.

Wel, gellir. Ond ni chaiff effaith. Boddi'r boen gwna hynny, ond ni â'r boen. Mae'n aros lawr yno, yn eich enaid, ati i'ch creithio -- creithio eich gobaith, dymuniadau, cryfder, hyder. Mae'n ofnadwy o greulon oherwydd daw oddi wrthoch chi eich hunan, a taw chi eich hunan sy'n gwybod yn orau sut i'ch brifo. I know my weaknesses and I use them against me.

Gall dioddefydd unigrwydd afael ar syniad a sefydlogi arno'n ddi-baid. Mae'r syniad fel llyngren, fel firws, fel parasit a chwyrlïa ei hunan trwy'ch pen, yn eich tanseilio. Ac nid oes dim byd gall y dioddefydd wneud am y peth oherwydd mae'r unigrwydd wedi torri ei gysylltiadau â'r byd go iawn. Nid yw'r dioddefydd yn rhan o realiti -- ni theimla ei fod yn rhan o realiti. Nid oes unrhyw beth, unrhyw un, yno i'w dynnu fe yn ôl. It is a very strange thing to have to wake up in the morning and tell yourself that you are actually there.

Ac os ydych chi'n deall yr afiechyd hwn, os ydych chi'n dawnsio i'w dôn ers bron dau ddegawd, gwyddoch nad oes neb sy'n gallu eich helpu ac eithrio chi eich hunan. Weithiau bydd pobl yn cynnig cymorth, ond ni ddeallant yr hyn eu bod nhw'n dweud. Mae gan bobl duedd i feddwl am unigrwydd fel petai fe'n cynnal a chadw car -- fel petai'n rhywbeth y gall gael ei ddelio â fe ymhen diwrnod neu ddau.

"You can call me any time, you know that," medda pobl. Ond nid eu bwriad yw hynny. Petaent nhw'n meddwl am yr hyn eu bod nhw'n cynnig, na fyddent. Fel meddai Dr. Cox ar "Scrubs" unwaith: "I am a miserable person. And misery loves what?"

Yr wythnos diwethaf, roeddwn i'n siarad â ffrind ac roedd y ci du (a) yn brathu ar fy sodlau yn dipyn rhy amlwg. Weithiau gallaf guddio'r boen, ac weithiau -- yn eirwir -- ni theimlaf iddo fe o gwbl (na, gwir; felly petait ti fy ngweld i mewn tafarn ac rydw i'n ymddangos i fod yn hapus, paid â phoeni, nid ydw i'n cogio -- rydw i yn hapus). Ond oherwydd amryw reswm rydw i'n brwydro'r dyddiau hyn. Gallai fy ffrind weld hynny. Dwedodd hi wrthyf y gallwn ei ffonio unrhyw bryd bod angen.

A dweud y gwir mae eisiau arna' i wneud hynny. Ffonio. Ymagor. Dweud popeth sy'n lladd arnaf. Ond rydw i'n nabod yr hen fastard unigrwydd. Gŵn amdano. Gŵn y byddai fe caru'r cyfle blino rhywun newydd. Byddai dihoeni ewyllys da fy ffrind, byddai ei hysmygu hi, byddai ei disbyddu hi. Faint tro yn fy mywyd y mae'r eisiau am ffrind wedi chwalu fy ngobaith am gyfeillgarwch?

Ta beth. Dyma fi. Rydw i yma. Dyna rywbeth.

(a) Fel byddai Winston Churchill ei galw

3 sylw:

om said...

Helo 'na Chris,

"Long-time listener, first-time caller," fel maen nhw'n dweud.
Wedi bod yn mwynhau dy flogs ers sbel - ac fe ddylwn i fod wedi gadael sylw ymhell cyn nawr...

Mae dy gofnod yn ddiddorol iawn - os yw hynny'n beth addas i'w ddweud.
O ran y cwestiynau pwysicaf rwyt ti'n eu codi, afraid dweud nad oes gen i "atebion" i'w cynnig - a hyd yn oed tasai gen i, fyddai hynny ddim yn ymateb addas chwaith. Ond efallai wir bod ysgrifennu am y pethau hyn yn un ateb ymhlith atebion eraill - neu yn ffordd o drin pethau. Trio creu rhywbeth cadarnhaol allan o brofiad anodd a chymhleth. Erm, cadw dy ffydd, Chris? - cadw ffydd, hynny yw, yn y pethau pwysig, y pethau sydd yn
ategu'r ffaith dy fod ti "yma"?

Ac mae hynny, sort of, yn f'arwain i at y cwestiynau y gallaf i'u hateb - ac yn benodol "Seriously, Owen, what the fuck is up with that ending?" (Beautifully put...!)

Y bwriad gwreiddiol gyda'r "bangs" oedd i'w cyhoeddi nhw rhai tudalennau ar ôl i'r nofel orffen fel na fydden nhw'n creu'r effaith rwyt ti wedi'i disgrifio - sef eu bod nhw'n perthyn yn uniongyrchol i'r diwedd a thrwy hynny yn awgrymu marwolaeth. Doeddwn i ddim yn bwriadu hynny o gwbl. Doeddwn i ddim eisiau tynnu hanner cymaint â hynny o sylw atyn nhw. Ond mae'n debyg bod yna reol ymhlith cysodwyr llyfrau nad ydych chi'n cael gadael tudalen dde llyfr yn wag (neu rywbeth), felly fe aeth y bangs mewn ar y dudalen dde nesaf oedd ar gael - reit ar ddiwedd y bennod olaf, fel digwyddodd hi.

Anyway, bid hynny fel y bo - beth o'n i wedi bwriadu oedd cyfeirio'n eironig at yr union beth rwyt ti'n ei godi, sef bod y llyfr yn eitha' diflas ar sawl ystyr. (Plis ymddiheura i dy ddosbarth prifysgol ar fy rhan!) Roedd y chwe bang i fod i adleisio diwedd Goodfellas Martin Scorsese, lle mae cymeriad Joe Pesci yn tanio gwn mewn i'r camera (sydd yn adlais ynddo'i hun o The Great Train Robbery (1903), y ffilm gyntaf i rywun danio gwn "at" y gynulleidfa - peth a achosodd mass panics, mae'n debyg.) O'n i'n meddwl, gan bod y llyfr wedi bod mor ddiflas yn gyffredinol y byddwn i'n taflu ychydig o "random action" mewn reit ar y diwedd, ac hefyd y byddai'r bangs yn gweithio fel rhyw fath o rejoinder eironig i'r rhannau o'r llyfr fel y rhan nes di ddyfynnu - ac yn chwarae ar y clichés diflas ymhellach...

- ond ti'n iawn, mae'r ffordd mae'r peth wedi'i gyflwyno yn eitha' "ill-advised" ac os bydd yna adargraffiad o'r llyfr byth (peth sydd yn eithaf annhebygol), fe fydda i'n eu tynnu nhw allan, yn sicr iawn.

Ond, wedi dweud hynny i gyd, os yw'r diweddglo'n darllen fel diweddglo person ifanc, what are you gonna do, o'n i yn ifanc pan sgrifennes i fe. (Wel, 20, beth
bynnag). Ac odd e i weld yn syniad da ar y pryd. Ti'n tueddu i feddwl bod pawb yn gyfarwydd â'r un pethau â ti, wedi gweld yr un ffilms ac y bydd rhywbeth sydd yn amlwg i ti yr un mor amlwg i bobl eraill... (Do, fe ddysgais i "Wers Bwysig".)

Ond dyna hen ddigon, siŵr o fod, o gyfiawnhau paranoid...!

Fe wnaf i orffen trwy ddymuno pob hwyl i ti - a "vive l'ours qui danse", fel petai.

Cymer ofal,

OM

Chris Cope said...

Owen -- Diolch am ymateb y cwestiwn hwnnw. Yn y cyd-destun hwn, mae'n gwneud mwy o synnwyr imi ac nid ydw i'n siŵr byddwn ei ddileu petai yna ailargraffiad. Efallai byddwn roi mewn yn ei le rhywbeth mwy disynnwyr sy'n cael yr un effaith, er enghraifft, "Bleep Bizoople Bang Bop Bip!"

Ond wrth gwrs, byddai gwneud hynny colli'r pwynt. Rydw i'n swnio fel fy nhad wrth wneud yr awgrym hwnnw. Unwaith, dangosais i'm tad darn o'm nofel annioddefol a dyna fe'n awgrymu pethau a fyddai wedi achosi fy nofel darllen fel Miss Marple. Ar ailfeddwl, shit yw fy awgrym. Paid â gwrando arnaf. Nid fi yw'r awdur llwyddiannus, a ydw i?

Ac onid yw hwnnw'r pwynt? Rwyt ti, fel yr awdur, wedi dweud y stori fel roeddet ti eisiau yn yr adeg benodol yr ysgrifennaist y nofel. Rydw i'n amau nad oeddet ti, wrth ysgrifennu, yn eistedd yno ac yn meddwl: "Nawr, bydd y nofel hon yn rhan o'r canon llenyddiaeth Gymraeg; felly rhaid imi fod yn siŵr y bydd yn gwneud synnwyr i grŵp o fyfyrwyr rhyw 12 blwyddyn ar ôl ysgrifennu'r peth."

A dweud y gwir, wrth ddarllen diwedd y nofel roedd rhywbeth yn dweud wrthyf fod yna gyfeiriad i "Goodfellas" ond oherwydd mae wedi bod cymaint o amser ers imi weld y ffilm doeddwn i ddim yn siŵr.

Cyn cael dy esboniad, roeddwn i mewn penbleth wrth geisio dyfalu pwy gafodd ei saethu:
- Ni allai wedi bod y prif gymeriad yn lladd ei hunan oherwydd mae yna chwe ergyd. Byddai person saethu ei hunan yn ei ben, ac ni all person saethu ei hunan yn ei ben chwe thro.
- Ac ni allai wedi bod yn murder-suicide oherwydd mae yna chwe ergyd yn olynol. Petawn i ysgrifennu murder-suicide, byddwn ysgrifennu:
Bang Bang Bang Bang Bang!
Bang!
Byddai'r paragraff newydd dynodi'r prif gymeriad troi'r gwn arno ei hunan.
- Yn y diwedd penderfynais taw cuddio yn ei thŷ roedd y fenyw a bu hi'r un i wneud y saethu. Ac wrth gwrs nad oes esboniad oherwydd cafodd y stori ei adrodd mewn first person gan y prif gymeriad -- os mae fe wedi marw dyna ddiwedd y stori, onid yw fe? Gwnaeth Hemingway rhywbeth tebyg mewn "Islands in the Stream."

Ta beth, hoffais dy nofel. Achosodd imi feddwl lot arni ac am bethau eraill. Mae ffrind a fi'n cynllunio taith-ffordd un/dau mis ar led yr Unol Daleithiau ar gyfer yr haf 2009 (ti eisiau dod?) ac yn barod rydw i wedi penderfynu mynd i Dowagiac jyst er mwyn... yhm... wel, nid oes pwynt i fynd yno, ond dyna'r effaith dy nofel di.

om said...

Taith ffordd yn swnio'n ffantastic! Dw i ddim wedi bod "draw fan 'na" ers rhai blynyddoedd erbyn hyn a bydden i wrth fy modd yn mynd nôl. Gad wbod sut mae'r cynlluniau'n datblygu!

Fuest ti erioed ar yr Amtrak? Es i o Efrog Newydd i San Francisco (a nôl hefyd - tueddiadau masocistaidd!) ac roedd yn anhygoel. Mae'n debyg bod y daith ar hyd gogledd UDA - trwy Montana etc - yn hollol wefreiddiol. Ac i lawr arfordir y Pacific Northwest wedyn.

Ho-ly!

Owen