19.4.08

Yr Eglwys y Gymraeg

Ar hyn o bryd rydw i hyd at fy mhen-gliniau mewn y Wyddeleg. Treuliais sawl awr ddoe wrthi'n adolygu. Mae gennyf amryw o ffynonellau ar gyfer adolygu ond ni theimlaf fy mod i'n cael darlun cyflawn o'r iaith er gwaethaf hyn. Un rheswm wrth gwrs yw bod gan Wyddeleg tafodieithoedd -- cyffelyb i'r Gymraeg ond mae'r gwahaniaethau yn fwy amlwg (a). Felly, os oes gennych chi sawl adnodd dysgu, mae gennych chi sawl tafodiaith hefyd. A chymysglyd yw'ch darlun o'r iaith.

Er enghraifft, daw fy nhiwtor Gwyddeleg o Corc, yn ne Iwerddon. Felly caiff yr adnoddau oddi wrtho fe dafodiaith Corc. Ond ar y rhyngrwyd, yr adnodd haws-i'w-ddefnyddio y gallaf ei ffeindio yw Blas, a anelir at siaradwyr tafodiaith Wlster (b). Neu gallaf i ddefnyddio gwefan a sefydlwyd gan Americanwr. Ond mae'n anodd ei ddeall weithiau ac mae gennyf amheuaethau am ddefnyddio gwefan Americanwr ar gyfer dysgu Gwyddeleg. Gobeithio na fyddai neb yn defnyddio fy mlog i'w helpu dysgu Cymraeg.

Mae'n strange twist of fate taw ymlaciol yw ysgrifennu ar y blog hwn erbyn hyn. Cofiaf pan oeddwn i'n casáu ysgrifennu yn y Gymraeg, ond nawr gallaf -- mwy neu lai -- feddwl ynddi. Dyna chi, plant: gellwch chithau ddod i fod yn (weddol) rhugl yn y Gymraeg mewn dim ond wyth blwyddyn byr!

Wrth feddwl am ba mor hir y mae hi wedi cymryd imi gyrraedd y pwynt hwn, ni allaf ddweud ai fyddaf i barhau gyda'r Wyddeleg ar ôl pasia'r cyfnod arholiadau heibio. Mae gennyf arholiad llafar ar 7fed Mai, ac arholiad ysgrifenedig ar 16eg Mai; fel pethau mae, byddaf i'n cerdded o'r arholiadau hynny wrthi'n gweiddi (yn fy mhen): "Gwynt teg i'r ffycin iaith 'na!"

Ond rydw i wedi teimlo'r un peth tua'r Gymraeg mwy nag unwaith, felly mae'n anodd imi broffwydo. Efallai byddaf i ddod yn ôl ati ar ôl ysbaid.

Ond fy mhrif amcan yr haf hwn yw ysgrifennu'r llyfr hwnnw y rydw i'n sôn amdano ers y llynedd. Llyfr am fy mhrofiadau dysgu'r Gymraeg a symud yma, ac yn y blaen. Elfen a gysylltir â'r chwedl honno, wrth gwrs, yw'r anhawster yr ei brofais wrth geisio gweddu yn y byd Cymraeg. O hyd nid ydw i'n gweddu'n dda yma, ond o leiaf y rydw i wedi dod i dderbyn y ffaith honno.

Peth rydw i am ysgrifennu amdano yw'r syniad o'r Gymraeg fel crefydd. Mae yna duedd gan ddysgwyr i weld yr iaith fel petai'n ffydd, ac mae yna duedd gan addysgwyr a hyrwyddwyr (a rhai bychanwyr) yr iaith i'w hybu fel y cyfryw. Hynny yw, mae yna duedd i weld iaith fel petai'n rhywbeth mwy nag y mae hi, rhywbeth mwy cyflawn.

Petaech chi'n penderfynu bod yn Gristnogion, y cam cyntaf wrth gwrs yw derbyn Iesu i'ch calon. Ac mae'n canlyn y bydd Iesu bach eich derbyn chithau. Hapus, hapus. Ond mwy nag hynny, mae yna ddisgwyliad y cewch chithau eich derbyn gan gymuned Iesu, sef cymuned y capel neu'r eglwys. Yn fy rhuthrau cynt i mewn crefydd (roeddwn i arfer bod yn aelod Campus Crusade for Christ yn Nevada) dyna'r elfen a llosgai fi. Roedd arnaf i gymaint o eisiau i berthyn i rywbeth, i "ffitio" rhywle, ond nid oeddwn i'n un ohonynt -- ni chefais fy nerbyn gan gyfeillion Iesu.

Ta beth, wrth ddysgu'r Gymraeg mae yna duedd gan rai credu petaent nhw'n dysgu'r iaith -- "derbyn" yr iaith, fel petai -- cânt nhw eu derbyn i mewn cymuned Gymraeg. Fel petai dysgu'r berfau ac ansoddeiriau a threigladau yn gamau tuag at ennill cariad, serch a hapusrwydd yng Nghymru. Maen nhw'n dysgu'r côd ar gyfer bod yn aelodau'r clwb.

Mae'r agosrwydd Cymraeg â Chymreig yn rheswm am hyn, credaf. Hynny yw, cymysgir yr iaith a'r diwylliant fet petaent yn yr un peth. Ond, wrth gwrs, bullshit yw hyn i gyd. Mae iaith yn iaith. Mae Cymraeg -- fel pob iaith arall -- yn fodd o symud syniad o'm pen i i'ch pen chi. Mae'n fodd o gyfathrebu. Nid yw'n grefydd, ideoleg, ddull o fyw, neu beth bynnag. Mae'n eiriau, a dim byd mwy. Roeddwn i'n hynod o dwp i obeithio y byddai symud yma a pherffeithio fy Nghymraeg yn newid fy mywyd yn ddewinol. Ni enillir ffrindiau dim ond oherwydd siaradwch eu hiaith.

Meddyliaf am hyn i gyd wrth adolygu Gwyddeleg. Beth yw'r pwynt o ddysgu iaith os gŵn i nad yw'n warant o'm bod yn rhan o'r rheiny sy'n ei siarad? Pam ddylwn i arteithio mi fy hunan i gadw'r iaith hon yn fyw?

Ac mae'r unigrwydd yn parhau.

-----

(a) A dyma dystiolaeth bosibl i'm damcaniaeth taw niweidiol i iaith leiafrifol yw gormod o dafodieithoedd

(b) Mae gan Wlster sawl enw yn y Gymraeg, yn ôl Geiriadur yr Academi: Wledd, Wlaidd, Wleth, Ulster ac Wlster. Ni ŵn pa un i'w ddefnyddio.

1 sylw:

neil wyn said...

Pob lwc gyda'r llyfr Chris. Edrychaf ymlaen at ei ddarllen rhywbryd yn y dyfodol. Mae dy daith ieithyddol di wedi bod yn mordaith go iawn, diolch byth bod y llong yn dal i hwylio...