Rydw i wedi crybwyll at hyn o'r blaen: pan oeddwn i'n ysgrifennu'r Nofel Annarlledir (fy nghyfenw newydd i The Way Forward, gynt Drinking Stories, sef nofel yr ysgrifennais yn 2005 na fydd neb fyth yn ei darllen) byddwn i'n trywyddu fy nghynnydd ar fy mlog trwy nodi faint o eiriau y bues i wedi ysgrifennu. Nawr, ar ôl hoe fach (saith mis), rydw i wedi dychwelyd ati'n ddifrif i ysgrifennu Cwrw Am Ddim: A rhesymau eraill i ddysgu'r iaith, sef hanes o'm profiadau dysgu Cymraeg, symud i Gymru, ac yn y blaen.
Felly yn yr wythnos hon rydw i wedi llwyddo crafu allan 1,742 gair. Cynnwys "yr wythnos hon" dim ond dydd Mercher i heno (dydd Iau), felly dyna, yn rhannol, reswm am brinder geiriau. Rheswm arall yw'r peth cyntaf i'w wneud yr wythnos hon bu dileu popeth a ysgrifennais yn ôl ym mis Medi ac aildrefnu'r braslun. Ailddechrau, yn blwmp ac yn blaen.
Gobeithio cyflymaf gryn lawer ar ôl yr wythnos nesaf, pryd daw'r olaf o'm harholiadau. Rydw i'n edrych ymlaen at ymgodymu â'r prosiect hwn ac rydw i'n hapus cael blwyddyn arall dan fy melt, fel petai, a ddylai helpu fi cynhyrchu llyfr gwell. Ond o hyd pryderaf am safon fy iaith. Yn enwedig nid ydw i'n siŵr pa fath o safon i'w defnyddio. Er enghraifft, dylwn i fod yn ysgrifennu fel ydw ar fy blog, neu dylai'r iaith fod yn ychydig bach mwy "cyffredin?" Er enghraifft, dylwn i roi'r gorau i "gwelsom," a "gwelsant" ac yn y blaen er mwyn ffurfdroad a welir yng nghyrsiau Wlpan megis "gwelon ni" a "gwelon nhw?"
Rydw i eisiau ysgrifennu'n safonol heb fod yn rhy safonol, ond nid ydw i (dwi ddim?) yn siŵr sut yn union i wneud hynny.
A tra rydw i'n sôn am gwestiynau Cymraeg, roeddwn i'n meddwl y bore 'ma: Sut fyddwn i'n ysgrifennu melltith yn y Gymraeg? Er enghraifft: "May you be shot with greasy bullets." Sut ysgrifennir hwn yn y Gymraeg? Nid ydw i'n siŵr sut cyfieithu "may you." Ai achos ble gallwn ddefnyddio'r ffurf ddibynnol? Caffoch eich saethu gyda bwledi seimllyd?
A hefyd, sut dweud "in which?" Er enghraifft: "The issue in which the question resides."
Teimla weithiau na fyddaf fyth yn hapus gyda'm Cymraeg.
VOCAB
21 hours ago

7 sylw:
Bydded i ti gael dy saethu gan fwledi seimllyd?
Mae'n artiffisial, ond mae'r ffurf "May you be..." yn artiffisial yn Saesneg hefyd.
"The issue in which the question resides"?
"Ymhlyg yn y cwestiwn y mae'r blah-blah-blah"? Eto, mae hwn yn ffurfiol ac yn academaidd iawn. Os wyt ti'n ysgrifennu Cymraeg cyffredin, mae'n haws ceisio cyfleu y cysyniad tu ol i'r frawddeg mewn arall, yn hytrach na cadw yn gaeth ar y ffurf. "Mae'r cwestiwn hwn yn anorfod yn cyffwrdd ar bwnc blah-blah-blah"
24 hour golygydd.
1. Beth am "Boed iti gael dy saethu..." neu yn symlach efallai, "Bwledi i'th ben!". Does dim angen cyfeithu pob dim, siwr iawn.
2. "The issue, etc..." rhaid imi gyfaddef nad wy'n deall y Saesneg!
3. Ar y cwestiwn iaith - mae'n anodd cael cyd-bwysedd rhwng y 'llafar' a'r 'ffurfiol', mae'n wir, ond rywt ti'n gwneud gwaith canmoladwy. Y peth i'w wneud am wn i yw bod yn ymwybodol o'r cyweiriau ac i beidio â'u cymysgu heb reswm digonol (gw. e.e. (v) isod). Fel mae Ifor ap Glyn yn dweud yn rhywle, 'Dysg[u] i dreiglo / ac yna i beidio'. Ie - dysgu'r treiglo cywir yn gyntaf, cyn dechrau torri'r rheolau gramadegol. Cadwa ati!
Gyda llaw, rhai sylwadau iaith ar y blog diweddaraf:
i) ni chrybwyllir at unrhyw beth, ond just 'crybwyll' heb arddodiad: "Rydw i wedi crybwyll hyn o'r blaen."
ii) os taw'r gwrthrych neu'r goddrych sy'n cael ei flaenu mewn cymal perthynol yna defnyddir y geiryn perthynol 'a'; os caiff elfen arall o'r frawddeg ei blaenu, defnyddir 'y(r)'; felly "nofel a ysgrifennais".
iii) "dychwelyd ati o ddifrif"
iv) "Rheswm arall yw mai'r peth cyntaf... oedd dileu"
v) "Gobeithio y cyflymaf" [mae'r defnydd lled-ffurfiol o'r cymal berfol isradd yn edrych braidd yn od heb y geiryn 'y(r)', dd'wedwn i]
vi) "fy helpu i gynhyrchu..."
vii) "ddylwn i fod yn ysgrifennu... neu ddylai'r iaith...?" [angen treiglad meddal ar gytseiniau ar flaen cymalau holiadol (effaith y geiryn holiadol "a" sy'n cael ei hepgor o iaith anffurfiol)]
viii) "tra ydw" [dim angen 'yr' ar ôl 'tra'; cf. "Tra bo dau"]
ix) "sut i gyfieithu"
'Dw i ddim' yn sicr yn well na ,'nid ydw i' (er, dw i bron yn siwr mai 'nid wyf' ddylai fod ta beth!) :-P
Byddai'n well gan y mwyafrif llethol o ddysgwyr (normal) ddarllen ffurf anffurfiol naturiol na rhywbeth o'r ffurfiol/safonnol yn fy nhyb i.
Diolch am y cymorth, cryts (dylai fod rhagor o eiriau cyfartal â "chap," "bloke," "lad," ayyb). Dwi ddim yn hollol siwr am ddefnyddio "dwi ddim." Gwelaf y pwynt o wneud hynny, ond dwi ddim yn hollol gyfforddus â'i ddefnyddio -- yn enwedig pan defnyddiaf ferfau megis "defnyddiaf" (yn lle na "defnyddia i").
Re: "dwi ddim" etc.
Dylid cofio taw adlewyrchu tafodiaeth fydd iaith ysgrifenedig 'ansafonol' da. O ran hynny, ysgrifennu math o drawsgrifiad o iaith naturiol fyddi. Sgwennu "w i ddim" fydd rhai, "dw i ddim" fydd eraill, a "dwi ddim" eraill fyth. Does dim o'r fath beth ag un ffurf 'gywir', yn union fel na fyddai'n 'gywirach' sgwennu 'wanna' neu 'wonna' (yn lle 'want to') yn Saesneg. Hefyd wrth ddewis rhwng 'nid ydw i' a 'nid wyf' - mater o ffurfioldeb yw'r dewis, nid mater o b'un sy'n 'gywir'. Cofiwn taw iaith yw'r Gymraeg - iaith goeth ac iddi nifer o gyweiriau - nid côd rhesymegol.
Pob lwc gyda'r ysgrifennu--mae'r nofel (Cwrw am Ddim) yn swnio fel syniad da iawn.
beth am "y broblem y mae'r cwestiwn yn byw ynddi".
Post a Comment